Pori drwy gyfarfodydd

Cydbwyllgor Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir

Mae'r tudalen hon yn rhestri cyfarfodydd Cydbwyllgor Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir.

Gwybodaeth ynghylch Cydbwyllgor Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir

Nad oes cyfarfodydd rhannu rheoleiddio gwasanaethau cyd-bwyllgor ar gael ar gyfer pori ar y safle hwn, dilynwch y cysylltiadau isod am manylion cwrdd â gwybodaeth.

 

Gwybodaeth ynglyn a Chydbwyllgor Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir

 

Mae’r Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir yn bartneriaeth rhwng Cyngor Pen-y-bont, Cyngor Caerdydd, a Chyngor Bro Morgannwg.  Caiff y bartneriaeth ei llywodraethu gan Gydbwyllgor, a gynrychiolir yn gyfartal gan Aelodau Cabinet a Chadeiryddion Pwyllgor Amddiffyn y Cyhoedd o bob Cyngor.  Nod y bartneriaeth yw darparu gwasanaethau mwy effeithlon, cost effeithiol, gan gynyddu gwydnwch Safonau Masnach, Iechyd yr Amgylchedd a Thrwyddedu ar draws y rhanbarth.

 

Mae Safonau Masnach yn hyrwyddo, cynnal a sicrhau amgylchedd masnachu teg tra’n amddiffyn lles defnyddwyr a busnesau lleol.

Mae Iechyd yr Amgylchedd yn hyrwyddo ac yn amddiffyn iechyd, diogelwch a lles y cyhoedd trwy gynnig cyngor, rheoleiddio a gorfodi yn unol â pholisïau cenedlaethol a lleol.

Mae’r Gwasanaeth Trwyddedu yn gyfrifol am drwyddedu amrywiaeth eang o weithgareddau, digwyddiadau a gwasanaethau, ac rydyn ni’n dod ar draws y mwyafrif ohonynt yn ein bywydau bob dydd.  Mae trwyddedu yn cynnal safon uchel i amddiffyn y cyhoedd drwy sicrhau bod deiliaid trwyddedau yn unigolion addas a phriodol i gyflawni’r gweithgaredd trwyddedu a thrwy osod a chynnal safonau y disgwylir gan ddeiliaid trwyddedau.

 

Caiff y Cydbwyllgor Rheoleiddio a Rennir ei weinyddu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg.  Fodd bynnag gellir gweld yr Agenda a’r Cofnodion.