Mae
Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (BDPRC) yn
Gyd-Bwyllgor o bob un o ddeg Awdurdod Lleol De Ddwyrain Cymru ac
fe'i sefydlwyd er mwyn goruchwylio a chydlynu cyflawni
rhwymedigaethau'r Cynghorau mewn perthynas â'r Fargen
Ddinesig. Mae'r Cydbwyllgor Craffu yn cynnwys un Aelod anweithredol
o bob Awdurdod Penodi.
Mae'r
Cydbwyllgor Craffu yn cyfarfod i fonitro cynnydd prosiect (BDPRC)
yn erbyn ei gynllun Rhaglen a gwneud adroddiadau ac argymhellion
i'r Cabinet Rhanbarthol a / neu i unrhyw un o'r Awdurdodau Penodi
ac i unrhyw un o'u gweithredwyr mewn perthynas ag unrhyw
swyddogaeth sydd wedi'i dirprwyo i'r Cabinet Rhanbarthol yn unol
â'r Cytundeb Cydweithio. Mae'r Cyd-bwyllgor yn cyfarfod hyd
at 4 gwaith y flwyddyn.