Agenda item

Atal Rheolau Gweithdrefnau Contract y Cyngor a Dyfarnu Contractau ar gyfer Gwasanaethau Cam-drin Domestig

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Partneriaeth a Pherfformiad adroddiad ar ran y Prif Weithredwr i geisio cymeradwyaeth ar gyfer:

 

·       Parhau i ddarparu’r gwasanaethau cam-drin domestig presennol, a galluogi archwilio opsiynau comisiynu rhanbarthol yn llawn.

·       Atal rhannau perthnasol o Reolau Gweithdrefn Contractau'r Cyngor o ran y gofyniad i ail-dendro'r contractau a drafodir yn yr adroddiad hwn.

·       Awdurdodi'r Prif Swyddog Gweithredol i ymrwymo i ddau gontract gyda'r darparwr presennol, Calan DVS, tan 30 Ebrill 2021.

 

Fel gwybodaeth gefndirol, dywedodd fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn comisiynu amrywiaeth o wasanaethau cam-drin domestig ar hyn o bryd, yn unol â dau gontract ar wahân.

 

Roedd un o'r rhain ar gyfer Gwasanaethau Cam-drin Domestig Integredig ac roedd ail gontract ar gyfer y Rhaglen Tramgwyddwyr, fel y manylir ym mharagraffau 3.2 a 3.6 yr adroddiad.

 

Yn dilyn yr ymarfer tendro yn 2015, ymrwymodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont â’r Ogwr i gontract gyda Calan DVS. Comisiynwyd y contract am gyfnod o dair blynedd, gyda'r dewis i'w ymestyn am gyfnod pellach o hyd at 24 mis. Mae'r ddarpariaeth yn cynnwys:

 

·            Lloches i ferched

·            Llety camu ymlaen

·            Darpariaeth galw heibio fel rhan o ‘gasgliad Assia’ CBS Pen-y-bont ar Ogwr

·            Cymorth fel y bo’r angen

·             Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc — Mae'r elfen hon o'r gwasanaeth yn opsiwn blynyddol. Erbyn mis Rhagfyr bob blwyddyn gwneir penderfyniad o ran parhau â’r ddarpariaeth yn y flwyddyn ariannol ganlynol neu ddim.

 

O ran y Rhaglen Tramgwyddwyr, ar 30 Ionawr 2018 awdurdododd y Cabinet i Reolau Gweithdrefn Contractau'r Cyngor o ran gofynion tendro gwasanaeth gael eu hatal, a rhoddwyd awdurdod i ymrwymo i gontract gyda Calan DVS ar gyfer darparu Rhaglen Tramgwyddwyr.

 

Roedd adroddiad cynnydd o Dachwedd 2018 yn dangos bod 26 o ddynion wedi'u hatgyfeirio i'r cynllun, a bod 11 o'r rhain wedi mynychu 14 sesiwn, a bod 11 o fenywod (goroeswyr) wedi derbyn 58 sesiwn 1-wrth-1. Dywedodd 100% o ddynion a 100% o'r goroeswyr y byddent yn argymell y rhaglen i eraill.

 

Aeth y Pennaeth Gwasanaethau Partneriaeth a Pherfformiad ati i ddatgan bod Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, yn anelu at wella ymateb y sector cyhoeddus i gam-drin a thrais ledled Cymru.

 

Mae'r canllawiau comisiynu a gyhoeddwyd yn 2019 yn ei gwneud yn ofynnol i bartneriaethau comisiynu rhanbarthol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (“VAWDASV”) gynnal asesiad o'r angen er mwyn llywio strategaethau comisiynu VAWDASV. Mae'r canllawiau'n pwysleisio pwysigrwydd cael Gwasanaethau VAWDASV sy’n cael ei arwain gan angen, sy’n seiliedig ar gryfderau, ac sy’n atebol.

 

Fel rhan o broses ddiwygio ranbarthol Llywodraeth Cymru, mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn gweithio ar y cyd â CBS Merthyr Tudful a CBS Rhondda Cynon Taf i greu Gr?p Llywio VAWDASV yng Nghwm Taf.

 

Yn ogystal, yn sgil newid ffiniau gofal iechyd Pen-y-bont ar Ogwr i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, a oedd yn weithredol o 1 Ebrill 2019, ymunodd CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn ffurfiol â Phwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Cwm Taf, o ran y Grant Cefnogi Pobl, gan alluogi rhagor o gydweithio â phartneriaid trwy Gwm Taf.

 

Yn 2019, comisiynodd CBS Pen-y-bont ar Ogwr ymgynghorydd annibynnol i gynnal asesiad o anghenion y boblogaeth VAWDASV i lywio'r gwaith comisiynu.

Tynnodd yr adroddiad sylw at nifer o fylchau yn y ddarpariaeth, gan gynnwys gwasanaethau i oroeswyr trais rhywiol, darpariaeth rhyw benodol, a gwasanaethau i bobl ag anghenion ychwanegol, gan gynnwys y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl a phroblemau camddefnyddio sylweddau. Cafodd rhai rai bylchau cyffredin yn narpariaeth ardaloedd Merthyr a Rhondda Cynon Taf eu hamlygu gan asesiad o anghenion y boblogaeth.

 

Mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr wedi comisiynu ymgynghorydd annibynnol i edrych ar gryfderau a gwendidau'r gwasanaethau presennol. Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Bydd CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i gydweithio fel rhan o Gr?p Llywio VAWDASV Cwm Taf i ystyried opsiynau ar gyfer gweithgarwch comisiynu rhanbarthol.

 

Daeth y Pennaeth Gwasanaethau Partneriaeth a Pherfformiad â'i gyflwyniad i ben drwy gadarnhau bod angen i'r Cabinet fod yn ymwybodol bod y Cyngor, wrth ddyfarnu'r contractau hyn i Calan DVS, yn agored i gael eu herio gan eraill sy’n darparu gwasanaethau o’r fath. Mae Rheolau Gweithdrefn Contractau'r Cyngor yn sicrhau bod ymarferion caffael yn gyfreithlon ac yn cael eu cyflawni yn unol â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, sy’n bodloni egwyddorion Cytuniad yr UE o ran tryloywder, peidio â gwahaniaethu, a thriniaeth gyfartal.

 

Roedd yr Aelod Cabinet – Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn cydnabod fod newidiadau parhaus o ran symud o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Cwm Taf, a nododd pa mor bwysig mynediad ar y gwasanaethau hyn i’r rhai mwy agored i niwed yn y gymdeithas. Dywedodd y byddai'r gwasanaethau hyn, ar ôl i'r cynigion comisiynu rhanbarthol gael eu cwblhau, yn gliriach ac yn fwy cadarn a buddiol i gleientiaid fel y rhain.

 

PENDERFYNWYD:                      Fod y Cabinet yn:

 

(1)  Cymeradwyo parhad y gwaith o ddarparu'r Gwasanaethau Cam-drin Domestig Integredig presennol a'r Rhaglen Tramgwyddwyr er mwyn ystyried opsiynau comisiynu rhanbarthol yn llawn.

(2)  Atal rhannau perthnasol o Reolau Gweithdrefn Contractau’r Cyngor sy’n ymwneud â'r gofyniad i ail-dendro’r contractau arfaethedig.

Awdurdodi'r Prif Weithredwr i ymrwymo i ddau gontract ar wahân gyda Calan DVS, un ar gyfer darparu Gwasanaethau Cam-drin Domestig Integredig ac un ar gyfer darparu'r Rhaglen Tramgwyddwyr tan 30 Ebrill 2021.

Dogfennau ategol: