Agenda item

Hebryngwyr Croesfannau Ysgol

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol a oedd yn argymell diwygio’r Gwasanaeth Hebryngwyr Croesfannau Ysgol trwy fabwysiadu Canllawiau Gwasanaeth Hebryngwyr Croesfannau Ysgol Road Safety Great Britain [GB] 2016 (Canllawiau GB 2016).

 

Mewn adroddiad blaenorol gan y Cabinet ar 3 Mawrth 2015, gwelwyd fod 24 o Hebryngwyr Croesfannau Ysgol (HCY) parhaol yn cael eu cyflogi ar hyn o bryd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. O ganlyniad i amrywiadau yn y gwasanaeth a chan fod rhai HCY wedi gadael neu wedi ymddeol, erbyn hyn mae 17 HCY parhaol yn cael eu cyflogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Mae nifer o safleoedd sy'n hanesyddol, ac mae angen rhagor o ymchwil er mwyn pennu eu statws. Er enghraifft, mae rhai safleoedd mewn mannau lle mae croesfannau ffurfiol wedi'u darparu, felly nid oes angen darpariaeth HCY ac nid oes neb wedi’u cyflogi yn y swydd.

 

Eglurodd y dylid arfarnu safleoedd posibl yn wrthrychol ac y dylai’r arfarniad allu gwrthsefyll heriau neu feirniadaeth, fel y nodir yng Nghanllawiau Gwasanaeth Hebryngwyr Croesfannau Ysgol Road Safety Great Britain 2016 Diweddarwyd y canllawiau hyn yn 2016. Y prif wahaniaeth rhwng y canllawiau yw bod un o feini prawf 2012 yn cyfrif plant ac oedolion sy'n croesi'r ffordd, tra bod meini prawf canllaw 2016 yn ystyried mai plant sy'n croesi'r ffordd a fabwysiedir yw’r defnyddwyr cynradd.

 

Nid yw'r dull hwn yn golygu y bydd safleoedd yn cael eu diddymu’n awtomatig os nad ydynt yn bodloni'r meini prawf, gan y byddai deialog yn digwydd gydag ysgolion a chynghorau tref/cymuned pe baent yn mynegi diddordeb cadw'r safle a’i ariannu eu hunain.

 

Yn unol â'r adroddiad blaenorol, caiff safle'n ei asesu os bydd amgylchiadau'n newid h.y. adleoli ysgol, ymddeoliad neu swydd Hebryngwr Croesfan Ysgol wag, neu newidiadau demograffig i ysgol. 

 

Os nad yw'r safle yn bodloni'r meini prawf ond bod y gymuned o’r farn bod y ddarpariaeth HCY yn bwysig iddynt, dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol y dylid ystyried ffyrdd eraill o ariannu'r swydd, megis trwy’r Cyngor Cymunedol / Cyngor y Dref. Byddai'r HCY yn cael ei gyflogi gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr ond yn cael ei ariannu gan y gymuned.

 

Mae'r cynnig hwn yn unol â'r defnydd gorau o adnoddau ac mae'n canolbwyntio ar y safleoedd hynny sydd â’r risg fwyaf yn ôl yr asesiad, yn seiliedig ar Ganllawiau GB 2016.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau nad oedd unrhyw oblygiadau staffio ar hyn o bryd o ganlyniad i gynigion yr adroddiad, a’i fod yn cefnogi’r cynigion.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar mai diogelwch y plant sydd bwysicaf, a bod Hebryngwyr Croesfannau Ysgol yn bwysig iawn i'r perwyl hwn. O ystyried yr anhawster wrth recriwtio staff i hebrwng ar Groesfannau Ysgol, rhoddodd ganmoliaeth i’r cymorth a gafwyd gan Roly Patroly, sef car a ddefnyddir i ganfod cerbydau sy’n parcio mewn ardaloedd cyfyngedig heb awdurdod, gan gynnwys ger ysgolion.

 

Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol fod Roly Patroly wedi llwyddo i reoli parcio anawdurdodedig, ac atgoffodd y rhai oedd yn bresennol y byddai mwy o ffeithiau a manylion am faterion yn ymwneud â'r adroddiad hwn yn cael eu rhannu gyda Throsolwg a Chraffu Pwnc 3 pan fydd pwnc Gorfodi ar yr agenda yng nghyfarfod y mis nesaf.

 

Nododd yr Aelod Cabinet – Cenedlaethau'r Dyfodol a Llesiant y gallai presenoldeb Hebryngwyr Croesfannau Ysgol y tu allan neu gerllaw unrhyw ysgol annog disgyblion i gerdded i ysgolion yn hytrach na chael eu gyrru yno. Hefyd, os nad oedd croesfan ysgol yn bodloni'r safonau neu'r meini prawf gofynnol, ac o ganlyniad ddim â Swyddog Hebryngwyr Croesfannau Ysgol, yna a allai'r ysgol dan sylw gynorthwyo yma mewn unrhyw ffordd?

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod rhai ysgolion yn goruchwylio cynlluniau rheoli traffig a allai fod o gymorth i'r diben hwn. Hefyd, roedd lle i Gyngor Tref/Cymuned neu Gr?p Ysgol i ariannu unrhyw reolaethau pe baent yn mynegi diddordeb i wneud hynny. Fodd bynnag, byddai angen i CBS Pen-y-bont ar Ogwr gyflogi unrhyw Hebryngwr Croesfannau Ysgol a gaiff ei recriwtio i reoli croesfannau ysgol.

 

PENDERFYNWYD:                            Fod y Cabinet yn cymeradwyo mabwysiadu Canllawiau GB 2016 ar gyfer asesu safleoedd Hebryngwyr Croesfannau Ysgol gwag neu arfaethedig yn y dyfodol.

Dogfennau ategol: