Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

(iv) Swyddog Monitro

Cofnodion:

Y Maer

 

Cyhoeddodd y Maer ei fod yn rhoi pleser mawr iddo gyhoeddi mai’r Maer Ieuenctid ar gyfer y flwyddyn nesaf fydd Megan Lambert a’r Dirprwy Faer Ieuenctid yw Todd Murray. 

 

Cynhaliwyd dawns Elusennol y Maer Ieuenctid ar 6ed Medi yn yr Hi Tide ym Mhorthcawl, er budd yr elusen Prostate Cymru, elusen a ddewiswyd gan y bobl ifanc yn y Cyngor Ieuenctid.  Cafwyd oddeutu 30 o wobrau gan fusnesau lleol.

 

Roedd holl aelodau presennol ac aelodau newydd y cyngor ieuenctid wedi cael eu gwahodd i’r Ddawns, gan gynnwys nifer o bobl ddethol gan gynnwys ef ei hun, yr Arweinydd, y Cyng Patel, y Prif Weithredwr a Lyndsay Harvey.

 

Dywedodd fod y Ddawns yn ffordd hwyliog o ddiweddu tymor Lewis fel Maer Ieuenctid ac y’i defnyddiwyd fel y seremoni swyddogol i drosglwyddo’r awenau i Megan a Todd. 

Bu’n noson lwyddiannus dros ben a chodwyd oddeutu £400, ac roedd hefyd yn braf gweld gwleidyddion ein dyfodol mor frwd ac am i’w lleisiau gael gwrandawiad.

 

Ar y nos Wener mynychodd ei Gymhares ac yntau, Wobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr a noddwyd gan Gymdeithas Dai Cymoedd i’r Arfordir ac a gynhaliwyd yng Ngwesty Coed-y-Mwstwr. Mae’r gwobrau mawreddog hyn yn cydnabod ac yn gwobrwyo rhagoriaeth ar draws busnesau o bob maint a sector yn y fwrdeistref sirol.

 

Cafwyd amrywiol gategorïau o enillwyr, ond yr enillydd terfynol oedd Rockwool Uk Ltd a gipiodd y teitl blaenllaw, sef ‘Busnes y Flwyddyn Pen-y-bont ar Ogwr 2019’. 

 

Amlygodd y gwobrau’r llu doniau busnes sydd i’w cael yn y fwrdeistref sirol a dros yr wythnosau nesaf byddai’n ymweld â’r busnesau’n bersonol i’w llongyfarch ac i weld â’i lygaid ei hun y gwasanaethau a ddarparant.  Fe wnaeth y noswaith hefyd godi dros £800.00 tuag at ei elusen ar gyfer eleni sef Pride Cymru.

 

Roedd yn bleser mawr gan y Maer hefyd hysbysu’r Aelodau bod Gorsaf Dân Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu coroni yn bencampwyr byd am y 4edd flwyddyn yn olynol ym Mhencampwriaethau Achub y Byd. Cynhaliwyd y rowndiau terfynol yn ddiweddar yn Ffrainc gyda Phen-y-bont ar Ogwr yn cynrychioli Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a’r DU.  Dyma’r 7fed flwyddyn iddynt ennill y teitl ac roedd yn sicr yr hoffai’r aelodau a’r swyddogion ymuno ag ef i gynnig eu llongyfarchiadau cywiraf, y byddai’n gofyn i’n cynrychiolwyr y Cyng David White a’r Cyng Rod Shaw eu datgan wrth y Gwasanaeth.

 

Dywedodd y Maer iddo gael y pleser o fynychu agoriad swyddogol cynllun tai fforddiadwy Wales and West Hafod Housing yng Nghoety ar 28ain Awst.  Roedd wedi gweld y tu mewn i un cartref penodol a oedd wedi’i addasu â thaclau codi ac a oedd yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Yn olaf, fe wnaeth hefyd fynychu agoriad amddiffynfeydd llifogydd traeth Tref Porthcawl yr wythnos diwethaf ag aelodau’r Cabinet a Lesley Griffiths, AC.  Roedd yn braf iawn gweld bod y prosiect hwn a gyflawnwyd yn llwyddiannus iawn bellach yn amddiffyn dros 260 o eiddo wrth ymyl y môr.

 

Dirprwy Arweinydd

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod ymgynghoriad y Cyngor ar y gyllideb flynyddol yn mynd rhagddo, a diolchodd i bawb a fynychodd y cyfarfod briffio cyn y Cyngor. Os oedd unrhyw Aelodau heb fynychu, cynghorodd yn gryf eu bod yn aros ar gyfer yr ail sesiwn ar ddiwedd y Cyngor, fel bod yr Aelodau’n gallu sicrhau bod yr holl wybodaeth y mae arnynt ei hangen i gynghori eu hetholwyr ganddynt.

 

Gyda fersiynau safonol, ieuenctid, print bras a hawdd eu darllen o’r ymgynghoriad ar gael, mae cynllun cyfathrebu llawn wedi’i sefydlu i annog pobl i gyfranogi. Mae hyn yn cynnwys offer a deunyddiau megis fideo eglurhaol, hysbysebion radio, posteri, pamffledi, cardiau busnes, codau QR, arwyddion digidol, postiadau cyfryngau cymdeithasol, datganiadau i’r wasg a mwy.

 

Cynhelir dadl fyw ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Mawrth 2 Hydref fel rhan o hyn, ac unwaith eto roedd yn gobeithio y byddai’r Aelodau yn dangos eu cefnogaeth i hyn.

 

Mae ein tîm ar gyfer yr ymgynghoriad yn cynnal digwyddiadau ymwybyddiaeth ac yn ymweld â grwpiau cydraddoldeb, ysgolion, cynghorau tref a chymuned a mwy.

 

Trefnwyd pum Panel Dinasyddion, a bydd ein partneriaid yn BAVO yn cynnal dau ddigwyddiad eu hunain i ategu hyn.

 

Roedd hefyd yn gobeithio y byddai’r Aelodau yn annog pobl i gyfranogi yn yr ymgynghoriad gan ein bod yn dadansoddi’r adborth hwn ac yn ei ddefnyddio i hysbysu ein penderfyniadau terfynol.

 

Byddai o ddiddordeb i’r Aelodau glywed o bosibl ein bod wedi ymuno â Chyngor Tref Porthcawl, Surfers Against Sewage, Cadw Porthcawl yn Daclus a grwpiau gwirfoddolwyr eraill sy’n pryderu am yr amgylchedd lleol er mwyn ceisio cael Porthcawl i fod y gyntaf i fod yn dref dim plastig yn y fwrdeistref sirol.

 

Ffurfiwyd gr?p cymunedol o’r enw Plastic Free Porthcawl, ac mae dwsin o fusnesau eisoes wedi cytuno i roi’r gorau i ddefnyddio o leiaf dair eitem blastig.

 

Mae gwellt plastig, poteli, topiau, cyllyll a ffyrc, cydau, cwpanau yfed, caeadau, bagiau a phecynnau parod eraill ymysg y sbwriel sy’n cael eu taflu fwyaf, ac mae gormod ohonynt yn difrodi’r blaned.

 

Fel rhan o’r cynllun, rydym yn trefnu gweithdai ar gyfer busnesau Porthcawl lle gallant ganfod mwy am bwysigrwydd a manteision defnyddio llai o bolystyren a phlastigau.

 

Mae CBSP hefyd eisiau rhagor o fusnesau i gofrestru ar yr ap ‘Refill’ sy’n dangos lle gall pobl lenwi eu poteli ailddefnydd â d?r tap am ddim.

 

Os yw’r cynllun yn llwyddiant, gellid ei ddatblygu ymhellach, ac roedd yn edrych ymlaen at ddod â mwy o newyddion am hyn i’r Aelodau.

 

Aelod Cabinet – Cenedlaethau’r Dyfodol a Llesiant

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet - Cenedlaethau’r Dyfodol a Llesiant, ddiweddariad i’r Aelodau ar yr ymateb lleol cadarn i’r arlwy gofal plant gan Lywodraeth Cymru.  Mae oddeutu 450 o geisiadau wedi dod i law’r Cyngor ers cyflwyno’r cynllun ym mis Mai.

 

Mae’r cynllun yn rhoi i rieni plant 3 a 4 oed hyd at 30 awr o ofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar am ddim am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

 

Mae’r ceisiadau’n awr ar agor ar gyfer plant a aned rhwng 1 Medi 2015 a 31 Awst 2016.

 

Roedd yn sicr y byddai’r Aelodau’n dymuno helpu i hyrwyddo hwn yn eu wardiau, gan atgoffa rhieni sy’n gweithio y gallent fod yn gymwys i gael gofal plant am ddim.

 

Aelod Cabinet – Cymunedau

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet – Cymunedau y bydd siop ailddefnydd newydd yn agor yn yr hydref yn y ganolfan ailgylchu gymunedol ym Maesteg.

 

Gall pobl roddi eitemau cartref nad oes arnynt eu heisiau mwyach ac sydd mewn cyflwr da yng nghanolfan Ystâd Ddiwydiannol Heol T? Gwyn.

 

Bydd y siop yng ngofal menter gymdeithasol Waste Savers mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Kier, a’r enw arni fydd ‘The Siding’ i gydnabod gorffennol pyllau glo Maesteg.

 

Caiff unrhyw elw o werthu’r eitemau y gellir eu hail-ddefnyddio yn The Siding ei ail-fuddsoddi mewn rhaglenni cymdeithasol.

 

Mae Waste Savers eisoes yn rhedeg siopau tebyg mewn canolfannau ailgylchu yn Llantrisant, Casnewydd a Threherbert. Maen nhw’n boblogaidd dros ben, felly bydd unrhyw un sy’n chwilio am fargen wrth ei fodd, ychwanegodd.

 

Ar nodyn arall, bydd y Prif Weithredwr ac yntau, yn mynychu digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd a gynhelir gan Dasglu’r Cymoedd yn Nhondu ar 30ain Medi 2019.

 

Mae’r digwyddiad hwn, a drefnwyd ar y cyd â Thrafnidiaeth Cymru ac a gynhelir yng Ngholeg Cymunedol y Dderwen, yn canolbwyntio ar gysylltiadau rheilffyrdd lleol a mabwysiadu cledrau’r cymoedd.

 

Ceir yno stondinau gwybodaeth gan nifer o wahanol sefydliadau, a chyflwynir y digwyddiad fel sesiynau galw i mewn anffurfiol rhwng 4.00pm a 7.00pm; bydd hefyd yn cynnwys sesiwn Hawl i Holi a fydd yn dechrau am 5.30pm.

 

Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr Aelodau yn cefnogi’r digwyddiad hwn, ac yn helpu i ennyn cyhoeddusrwydd iddo yn eu wardiau.

 

Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio, fod yr Aelodau’n cofio o bosibl fel y mae’r fenter Parc Rhanbarthol y Cymoedd neu ‘VRP’ yn ceisio datblygu rhwydwaith amlwg iawn sy’n cynnwys ucheldir, coetiroedd, gwarchodfeydd natur, parciau gwledig, afonydd, cronfeydd d?r, camlesi, safleoedd treftadaeth ac atyniadau, oll wedi’u cyplysu â threfi a phentrefi ledled y Cymoedd.

 

Cawsom newyddion da iawn yn ddiweddar gyda’r cyhoeddiad bod cyllid VRP wedi cael ei gymeradwyo i helpu i gefnogi hyn ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Bydd Parc Gwledig Bryngarw yn cael £500,000, a dyrannwyd £400,000 i Barc Slip. Mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen ac Ymddiriedolaeth Natur, De a Gorllewin Cymru, byddwn yn gwneud nifer fawr o welliannau i wella profiad ymwelwyr drwyddo draw.

 

Fel rhan o’r gwaith hwn byddwn yn gwella cynefinoedd a mynediad, yn gosod paneli solar, goleuadau ynni-effeithlon, yn darparu cyfleoedd chwarae newydd i blant, llochesi beics ‘to gwyrdd’ a llawer mwy.

 

Caiff mannau gwefru beics a cheir trydan eu cyflwyno ym Mharc Slip, a bydd Bryngarw yn cael adeilad addysg newydd ar gyfer ysgolion.

 

Mae’n bosibl y bydd yr Aelodau wedi gweld bod eu cydweithwyr yn Sir Gaerfyrddin yn ddiweddar wedi cytuno i nodi trychineb Aberfan gyda munud o dawelwch yn yr ysgolion lleol.

 

Mae Hydref 21ain 1966 yn un o’r dyddiadau prin hynny lle gallwch chi gofio’n union lle’r oeddech chi a beth oeddech yn ei wneud pan dorrodd y newyddion trasig.

 

Yn fuan ar ôl i’r ysgol gynradd orffen eu gwasanaeth boreol, a dechrau gwers gyntaf y dydd, lladdwyd cant a phedwar-deg pedwar o bobl yn y trychineb, gyda 116 ohonynt yn blant.

 

Cymeradwyodd Sir Gaerfyrddin am hyn, a theimlai ei bod ond yn iawn ac yn addas inni wahodd ein hysgolion lleol ein hunain i nodi’r trychineb eleni mewn modd priodol a sensitif, gyda disgyblion o oedran priodol.

 

Os cytunai’r Aelodau, gellid hefyd ei wneud yn wasanaeth coffa parhaol mewn blynyddoedd, nid o anghenraid drwy gynnig gerbron y Cyngor fel ein ffrindiau yn Sir Gaerfyrddin, ond o bosibl dim ond drwy gytundeb cyffredinol ac yna drwy gylchlythyr gan y gwasanaeth addysg.

 

Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod ein gwaith â Gofalwyr Ifanc wedi cyrraedd carreg filltir yn ddiweddar pan gyflwynwyd y 300fed cerdyn adnabod gofalwyr ifanc i berson ifanc lleol.

 

Datblygwyd y cerdyn bedair blynedd yn ôl i helpu plant a phobl ifanc sy’n gorfod gofalu am rywun, a’r nod yw eu helpu ym myd addysg a’i gwneud yn haws iddynt pan fônt yn gorfod esbonio eu hamgylchiadau.

 

Yr oll mae’r Gofalwyr Ifanc yn gorfod ei wneud yw dangos y cerdyn i’w hathro neu i oedolyn arall i roi gwybod iddynt am y cyfrifoldebau ychwanegol sydd ganddynt gartref.

 

Os yw plentyn neu berson ifanc mewn sefyllfa lle mae’n cymryd cyfrifoldeb dros rywun sy’n wael, yn anabl, yn hen, yn dioddef salwch meddwl neu rywun y mae camddefnyddio sylweddau yn effeithio arnynt, yna maent, yn ôl y diffiniad, yn Ofalwr Ifanc.

 

Os ydynt yn gyfrifol am ofalu am frawd neu chwaer, mae hyn hefyd yn eu gwneud yn Ofalwr Ifanc.

 

Mae’r Cyngor wrthi’n brysur yn adnabod pobl y gallent fod yn ofalwyr ifanc, ac yn cynnig iddynt gefnogaeth a gwybodaeth.

 

Tynnwyd sylw Llywodraeth Cymru at y cynllun, ac roedd yn falch o ddweud ei bod yn ystyried cyflwyno fersiwn genedlaethol a fydd yn targedu Gofalwyr Ifanc ar draws Cymru.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn cynnal Arolygiad Cenedlaethol yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ystod y mis. Cadarnhaodd mai diben yr arolygiad, oedd gweld i ba raddau y mae awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol yn hybu annibyniaeth ac yn atal anghenion cynyddol i oedolion h?n. Byddai’r arolygiad yn nodi’r ffactorau hynny sy’n sicrhau canlyniadau da i bobl, yn ogystal â’r pethau sy’n rhwystro cynnydd.

 

Prif Weithredwr

 

Cyhoeddodd y Prif Weithredwr y cynhelir sesiwn friffio bwysig i’r Aelodau ar Gynlluniau Brexit ddydd Gwener 4 Hydref 2019 am 9.30am yn Siambr y Cyngor.

 

Roedd yn gobeithio y gallai cynifer â phosibl o’r Aelodau fynychu’r sesiwn hon.

 

Swyddog Monitro

 

Cyhoeddodd y Swyddog Monitro dri newid dyddiad i’r Pwyllgorau canlynol:-

 

1.       Newid y Pwyllgor Archwilio dyddiedig 23ain Ionawr 2020 i 30ain Ionawr 2020. Gwnaed cyhoeddiad i’r perwyl hwn yn y Pwyllgor Archwilio diwethaf dyddiedig 8 Awst 2019.

 

         2.        Roedd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Testunau 1 a oedd i fod i gael ei gynnal ar 9 Medi 2019 wedi cael ei symud i 30 Hydref. Hysbyswyd Aelodau’r Pwyllgor o’r newid eisoes mewn e-bost.

 

          3.            Newid Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Testunau 3 dyddiedig 4 Tachwedd 2019 i 14 Tachwedd 2019. Gwnaed cyhoeddiad i’r perwyl hwn yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Testunau 3 diwethaf ar 5 Medi 2019.