Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Derbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Mewn pleidlais o ffydd nodedig yn economi Pen-y-bont ar Ogwr a Chymru mewn adeg ansicr ac anodd iawn, cyhoeddodd Ineos Automotive heddiw y bydd yn codi safle gweithgynhyrchu a chyd-osod at y pwrpas, newydd 250,000 troedfedd sgwâr ym Mharc Busnes Brocastell er mwyn cynhyrchu eu cerbyd Grenadier 4x4 newydd.

 

Gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU bydd y cyfleuster yn creu 200 o swyddi i ddechrau, a hyd at 500 yn y tymor hir gyda lwc. I gartrefu’r cyfleuster newydd hwn, mae’r cwmni yn prynu 14 erw o dir gan Lywodraeth Cymru am bris y farchnad a gyda’r gwaith o ddatblygu seilwaith y safle eisoes yn mynd rhagddo, disgwylir i’r gwaith o gynhyrchu’r cerbyd newydd ddechrau mor gynnar â 2021.

 

Mae INEOS Automotive wedi llofnodi’r Contract Economaidd, sydd â’r nod o symbylu twf ac ymddygiad busnes cyfrifol ymysg cwmnïau. Mae iechyd a lles gweithwyr yn rhan bwysig o ethos INEOS.

 

Mae INEOS Automotive eisoes yn trafod â dau gwmni cyflenwi cydrannau yng Nghymru i ategu eu gwaith, a gallai hynny roi hwb pellach i economi Cymru.

 

Bydd gan y datblygiad hwn le ar gyfer 500,000 troedfedd sgwâr pellach a’r potensial i greu llawer o swyddi ar gyfer cwmnïau sy’n ehangu a denu buddsoddwyr newydd eraill. Mae’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth Ken Skates AC wedi cadarnhau heddiw nad dyma yw pendraw’r gwaith i helpu Pen-y-bont ar Ogwr yn dilyn cynlluniau Ford, a chadarnhaodd y bydd Llywodraeth Cymru yn dal i wneud popeth yn ei gallu i ddenu cyfleoedd busnes newydd, i gynorthwyo gweithwyr Ford a sicrhau buddsoddiadau pellach yn nyfodol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Edrychwn ymlaen at gyhoeddiadau pellach.

 

Mae CBSP hefyd yn falch dros ben bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyfraniad hollbwysig o £3.5m o gyllid drwy’r Undeb Ewropeaidd tuag at y gwaith y bwriedir ei wneud i ymestyn ac ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg.

 

Gyda buddsoddiad ychwanegol wedi’i roi gan y cyngor hwn, Awen, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, Cyngor Tref Maesteg ac Ymddiriedolaeth Davies, gall y gwaith ar y prosiect £6m ddechrau’n fuan, gan atgyweirio’r adeilad nodedig sy’n 138 mlwydd oed a’i adnewyddu â chyfleusterau celf a diwylliant modern.

 

Ymysg y gwelliannau caiff llyfrgell fodern ei chreu, ynghyd â chanolfan dreftadaeth a gwirfoddol, caffi, mannau gweithio newydd, toiledau a chyfleusterau ‘man newid’ cwbl hygyrch. Caiff canolfan celfyddydau perfformio aml-swyddogaeth ei chreu ar y llawr cyntaf,a bydd yn cynnwys prif neuadd, llwyfan wedi’i adnewyddu, ystafelloedd newid gwell, bar ac am y tro cyntaf sinema gymunedol a theatr stiwdio fechan, fwy cartrefol. Bydd y mannau eistedd ar y balconi yn cael eu hadnewyddu, a bydd y lloriau uchaf ac isaf yn cael eu cysylltu ag atriwm gwydrog modern a chyntedd, felbod yr adeilad drwyddo draw yn hygyrch.

 

Bydd cais am arian ychwanegol yn cael ei gyflwyno’n gynnar yn 2020 isicrhau bod y dodrefn a’r ffitiadau diweddaraf yn cael eu gosod yn yr adeiladcyn iddo ailagor. Rydyn ni wrth ein bodd ein bod, diolch i’n hymdrechion ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, wedi gallu diogelu’r dyfodol, a hwnnw’n ddyfodol llewyrchus i’r adeilad hanesyddol hwn yng nghanol y dref, ar gyfer cenedlaethau lawer.

 

Bydd cannoedd o swyddi gwag ar gael yn ein ffair swyddi yn y Ganolfan Byd Gwaith yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr yfory. Cofiwch annog eich etholwyr sy’n chwilio am gyfleoedd i gael gwaith, hyfforddiant a gwaith gwirfoddol i fynd i’r Neuadd Fowlio yfory rhwng 10.00am a 1.00pm i gael cymorth a chyngor. Mae croeso i’r trigolion sy’n methu â chyrraedd yfory gysylltu â’r tîm cyflogadwyedd neu eu cyfarfod wyneb yn wyneb yn y sesiynau galw i mewn wythnosol ti4e a gynhelir ar draws y Fwrdeistref Sirol.

 

Yn olaf, estynnodd yr Arweinydd ei ddiolch personol i’r Cyng M James a oedd wedi ildio ei swydd fel Arweinydd gr?p Plaid Cymru. Roedd ef ac Arweinyddion Grwpiau eraill wedi gweithio’n effeithiol ac yn agos iawn â’i gilydd yn drawsbleidiol. Estynnodd ei longyfarchiadau i’r Cyng T Thomas fel Arweinydd newydd y gr?p hwn, g?r a oedd yn sicr am weithio mor adeiladol ag y gwnaeth y Cyng James yn ystod ei amser fel Arweinydd gr?p.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z