Agenda item

Derbyn y Cwestiwn canlynol gan:

Cynghorydd T Thomas i’r Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio 

 

Mae gan awdurdodau lleol cyfagos megis Bro Morgannwg nodweddion a heriau tebyg o ran yr iaith Gymraeg.  A fyddai'r Aelod Cabinet yn cytuno y dylai darpariaeth ysgolion cyfrwng Cymraeg yn yr awdurdod hwn gynnig o leiaf yr un ddarpariaeth â Bro Morgannwg?

 

 

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Tim Thomas i’r Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio

 

Mae gan awdurdodau lleol cyfagos fel Bro Morgannwg nodweddion a heriau tebyg o ran y Gymraeg. A fyddai’r Aelod Cabinet yn cytuno y dylai’r ddarpariaeth ysgolion cyfrwng Cymraeg yn yr awdurdod hwn, o leiaf, fod cystal â’r ddarpariaeth ym Mro Morgannwg.

 

Ymateb

 

1.        Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn awyddus i hyrwyddo’r Gymraeg ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i weithio â Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’r Aelodau etholedig a’r swyddogion oll yn gwbl gefnogol i’r Gymraeg a’r hyn y mae’n ei olygu i Ben-y-bont ar Ogwr ac i ddyfodol ein cenedl.Mae’r awdurdod lleol yn barod i hybu manteision dwyieithrwydd ar bob cyfle ac mae’n rhoi pwyslais mawr ar bwysigrwydd y Gymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg.

 

2.          Ychydig o werth sydd i gymharu’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’r ddarpariaeth ym Mro Morgannwg. Mae methodoleg arfaethedig Llywodraeth Cymru (gweler yr ymgynghoriad diweddar ar y Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 a’r Canllawiau) yn rhoi ystyriaeth i ystod y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru drwy gyflwyno system grwpiau. Dyma’r ffactorau a ystyrir wrth grwpio awdurdodau lleol: canran y dysgwyr a addysgir yn Gymraeg, y modelau darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg a fabwysiadwyd gan yr awdurdod lleol a natur ieithyddol awdurdod lleol.

 

3.          Mae’r canllawiau arfaethedig yn adnabod awdurdodau lleol ‘Gr?p 3’ fel rhai sydd â rhwng 13% a 19% o blant Blwyddyn 1 sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg (yn 2017-2018). Mae’n bosibl mai addysg gymunedol cyfrwng Cymraeg sy’n arferol mewn un/nifer fechan iawn o ardaloedd, ond yr eithriad nid y rheol yw hyn. Ceir fel arfer ddewis rhwng addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg cyfrwng Saesneg. Caiff awdurdodau lleol ‘Gr?p 4’ eu hadnabod fel rhai sydd â 12% neu lai o blant Blwyddyn 1 sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg (yn 2017-2018). Ceir dewis rhwng addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg cyfrwng Saesneg yn yr awdurdodau lleol hyn. Ar y sail hon, caiff Pen-y-bont ar Ogwr ei adnabod fel awdurdod lleol Gr?p 4 tra bo Bro Morgannwg yn syrthio i Gr?p 3.

 

4.          Fel awdurdod lleol, rydym yn cyfrif ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) fel y ddogfen strategol allweddol sy’n amlinellu ein strategaeth i gefnogi’r gwaith o gyflenwi a thyfu addysg cyfrwng Cymraeg.   Gallaf gadarnhau bod WESP Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Daeth yr ymgynghoriad ar y Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 a’r Canllawiau i ben yn ddiweddar (ar 13 Medi 2019) ac, felly, rydyn ni’n aros am ganlyniad yr ymgynghoriad hwn. Bydd yr awdurdod lleol yn ymateb yn unol â hynny i’r rheoliadau newydd os cânt eu cymeradwyo fel y’u drafftiwyd.

 

5.          Fodd bynnag, fel y nodir yn arolygiad diweddar yr awdurdod lleol, mae angen inni gryfhau rôl y Fforwm Strategol Addysg Gymraeg i gyflawni’r blaenoriaethau a nodir yn ein WESP. Bydd y flaenoriaeth hon yn ffurfio rhan allweddol o’n cynllun gweithredu ôl-arolygiad a gaiff ei rannu gan y Fforwm Strategol Addysg Gymraeg a’i fonitro ganddo.

 

6.          Mae’n bwysig sylwi bod 13.9% o leoedd gwag o hyd ym mhedair ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yr awdurdod lleol ac 20.9% o leoedd gwag yn yr ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg, a rhaid rhoi ystyriaeth i hynny. Mae Swyddogion wedi cyfarfod â swyddogion o Lywodraeth Cymru yn ddiweddar i drafod sut gall yr awdurdod lleol hyrwyddo’n well yr iaith Gymraeg, a manteision addysg cyfrwng Cymraeg, gyda’r nod o lenwi’r lleoedd sydd ar gael yn ein hysgolion cyfrwng Cymraeg. Byddwn yn gweithio’n agos â swyddogion Llywodraeth Cymru dros y misoedd nesaf i roi sylw i’r mater hwn.

 

7.          Mae cynlluniau moderneiddio ysgolion yr awdurdod lleol, a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru yn ddiweddar, wedi nodi’r ardaloedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd fwyaf angen darpariaeth cyfrwng Cymraeg ychwanegol, i fodloni’r galw a’r galw disgwyliedig yn sgil prosiectau tai newydd. Cyfyngwyd ar y gallu i ledaenu’r manylion sy’n gysylltiedig â’r cynigion hyn gan y broses y mae angen gweithio drwyddi sy’n cael ei rheoli gan fframwaith deddfwriaethol caeth. 

 

8.          Yr argymhelliad cyfredol gan Fwrdd Moderneiddio Ysgolion yr awdurdod lleol, yw cynyddu’r ddarpariaeth yng ngogledd-ddwyrain a gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr. Mae Tabl A isod yn nodi’r hyn y bydd y Bwrdd Moderneiddio Ysgolion yn ei gynnig i’r Cabinet dros y misoedd nesaf i sicrhau bod nifer y lleoedd cyfrwng Cymraeg yn cynyddu i fodloni ein hawydd a’n dyletswydd fel awdurdod lleol sy’n rhan o Fand B.

 

Tabl A            Lleoedd mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr (ffigurau cyfredol ac amcanestynedig)

 

Lleoliad

Lleoedd mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd

Lleoedd mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a fwriedir ar gyfer Band B (2019-2024)

Gogledd-ddwyrain Pen-y-bont ar Ogwr 

378

525

Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr 

231

420

Cwm Ogwr a Chwm Garw 

210

210

Cwm Llynfi 

315

315

 

Cyfanswm

 

1134

1470

 

9.          Erbyn diwedd Band B, er mwyn cefnogi’r WESP a’r cynllun Cymraeg 2050, ceir cynnydd arfaethedig o 30% yn nifer y lleoedd mewn ysgolion cynradd ym Mhen-y-bont ar Ogwr i helpu plant sy’n dechrau mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae hyn yn amlwg yn sylweddol.

 

10.        Bu’r awdurdod lleol wrthi’n brysur yn ceisio ac yn sicrhau cyllid ychwanegol sylweddol ar gyfer y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y fwrdeistref sirol. Er enghraifft, bydd y gweithgaredd cyfredol ac amcanestynedig yn arwain at fuddsoddi bron £3m yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws Pen-y-bont ar Ogwr.  Bydd yr awdurdod lleol yn defnyddio’r cyllid hwn i helpu i ddatblygu pedwar lleoliad gofal plant cyfrwng Cymraeg ar draws Pen-y-bont ar Ogwr. Bwriedir i’r lleoliadau gofal plant cyfrwng Cymraeg arfaethedig gynnig gofal drwy’r dydd, gofal nos a bore, gofal gwyliau a darpariaeth sesiynol Cylch Meithrin. Mae’r awdurdod lleol hefyd wedi defnyddio’r cyllid hwn i hwyluso’r gwaith o ddarparu cyfleuster pob tywydd newydd ar gyfer Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd.

 

11.        Yr ardaloedd a enwyd ar gyfer y datblygiadau gofal plant cyfrwng Cymraeg newydd yw Betws, Cwm Ogwr, ardal canol Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl. Y bwriad yw cynyddu nifer y plant a fydd yn dechrau mewn gofal plant cyfrwng Cymraeg ac a fydd wedyn yn symud ymlaen i addysg cyfrwng Cymraeg. Bydd y darpariaethau oll yn ysgolion bwydo effeithiol ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg Pen-y-bont ar Ogwr ac fe fyddant, o’r herwydd, gyda lwc yn rhoi sylw i’r problemau a geir â lleoedd gwag ar hyn o bryd yn yr ysgolion hyn. Ochr yn ochr â hyn, mae’r awdurdod lleol yn ddiweddar wedi datblygu llyfryn gwybodaeth i hyrwyddo manteision darpariaeth cyfrwng Cymraeg i blant a’u teuluoedd.

 

12.        Roedd Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd a gwblhawyd yn ddiweddar yn ffurfio rhan o gynllun De Cwm Garw.  Fel rhan o’r cynllun, cafodd Ysgol Gynradd Gymraeg bresennol Cwm Garw ei disodli a’i hail-leoli a disodlwyd Ysgol Gynradd Betws, i safle Ysgol Gynradd bresennol Betws.  Buddsoddwyd cyfanswm o £11.2m ar gyfer y cynllun a oedd yn cynnwys dwy ysgol newydd.

  

13.        Mae cydleoli darpariaeth cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg ar un safle yn hwyluso’r trefniadau ar gyfer rhannu ymarfer da a sicrhau darpariaeth gyfartal, ynghyd â mwy o gyfleoedd addysgol.  Mae’r ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn darparu mannau dysgu addas a digonol gyda’r nod o sicrhau gwelliannau dilynol mewn safonau addysg. Mae’n galonogol gweld y bu cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n mynychu Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd ers iddi agor yn ei lleoliad newydd.

 

14.        Fel rhan o gyllid grant cyfalaf Cymraeg 2050, darperir adeilad gofal plant cyfrwng Cymraeg newydd yn y Betws i wasanaethu Cwm Garw.  Nod y ddarpariaeth hon yw hybu’r Gymraeg a chynyddu nifer y disgyblion yn Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd.  Bydd ail-leoli Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd i leoliad mwy canolog yn helpu i roi sylw i leoedd gwag a bodloni’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg.

 

15.        O ran y safonau, mae ein pum ysgol cyfrwng Cymraeg bresennol, ar hyn o bryd, naill ai yn y categori cymorth ‘gwyrdd’ neu ‘felyn’. Dywedodd Estyn, yn ei arolygiad diweddar o wasanaethau addysg llywodraeth leol Pen-y-bont ar Ogwr, fod cyrhaeddiad disgyblion yng Nghymru yn cymharu’n ffafriol â chyrhaeddiad disgyblion mewn awdurdodau lleol eraill. Rydyn ni’n credu bod gennym benaethiaid effeithiol yn ein hysgolion cyfrwng Cymraeg ac rydym yn falch o weld eu bod yn gweithio’n dda â’u cydweithwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg eraill ar draws y rhanbarth.

 

16.        I gloi, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dal yr un mor ymroddedig i hybu’r Gymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg. Yn unol â’n hymrwymiadau yn WESP, byddwn yn gweithio’n agos â’n partneriaid megis Llywodraeth Cymru a Fforwm Strategol Addysg Gymraeg i sicrhau bod yr addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn darparu’r cyfleoedd gorau posibl i ddysgwyr.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Thomas

 

Mae gan Fro Morgannwg ddemograffeg debyg i Ben-y-bont ar Ogwr o ran ysgolion cyfrwng Cymraeg, fodd bynnag, mae ganddynt 6 ysgol gynradd sy’n ymarfer drwy gyfrwng y Gymraeg ond nid oes gan CBSP ond 4. Mae unrhyw ysgolion ychwanegol yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr sydd wedi’u clustnodi fel rhai ychwanegol at hyn, yn cael eu cynllunio drwy brosiectau Adfywio mawr nad ydynt wedi’u cyflawni eto. Gofynnodd pa sgyrsiau’r oedd yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth Teulu yn eu cael â’u cydweithwyr yn yr adran Gynllunio i gael ysgolion ychwanegol i ymarfer drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Ymateb

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio ei fod ef a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth Teulu wrthi’n brysur yn cynyddu proffil llythrennedd yn y Gymraeg a’r Saesneg mewn ysgolion ar draws y Fwrdeistref Sirol. Mae hefyd wedi bod yn brysur yn annog trafodaethau rhwng Addysg a Chynllunio yn CBSP am y ddarpariaeth ysgolion yn y Cynllun Datblygu Lleol, gan archwilio safleoedd newydd sydd wedi’u neilltuo ar gyfer tai ac, o ganlyniad i hyn, yn ystyried a oedd angen codi ysgolion newydd i gefnogi hyn. Ategodd ei bod yn anodd cymharu CBSP â Chyngor Bro Morgannwg ar y mater o addysgu plant drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ysgolion, am y rhesymau y cyfeirir atynt yn yr ymateb i’r cwestiwn cyntaf. Er mwyn cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer nifer benodol o siaradwyr Cymraeg, mae’n bwysig peidio â dim ond dibynnu ar ysgolion cyfrwng Cymraeg, mae gofyn gwneud nifer o newidiadau ar draws y system addysg, ennyn diddordeb yn yr holl ieithoedd rhyngwladol modern, gan gynnwys Cymraeg, a mynd y tu hwnt i ond dysgu iaith i ennyn diddordeb mewn ieithoedd a diwylliannau yn gyffredinol. Dylem edrych ar dechnegau trochi cost-effeithiol ar gyfer dysgu iaith yn gyflym, a hefyd ymgysylltu â gwasanaethau addysg Dysgu Gydol Oes ac Addysg Oedolion, yn ogystal ag annog ymwybyddiaeth aml-iaith ac aml-ddiwylliant yn y cyfryngau. Roeddem yn gobeithio y byddai’r Fforwm WESP newydd yn cynnwys dull gweithredu eang a fyddai’n sicrhau diddordeb yn y Gymraeg a’r diwylliant Cymreig mewn cyd-destun Ewropeaidd a rhyngwladol eangfrydig.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod £11.2m wedi cael ei fuddsoddi yn y ddwy ysgol newydd a welir ym mhwynt 12, o’r ymateb cychwynnol, yn ardaloedd Betws a Blaengarw yn y cymoedd a oedd yn adlewyrchu ymrwymiad CBSP i addysgu myfyrwyr yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan barhau â’r gwaith ardderchog a wnaed hyd yma dan Raglen Moderneiddio Ysgolion y Cyngor, gan gynnwys y rheini a gyflwynwyd fel rhan o’r prosiectau a gynhwysir yn Rhaglen Gyfalaf y Cyngor. Rhan yn unig yw hwn o’r buddsoddiad o £65m a ymrwymwyd i’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion a oedd hefyd yn targedu disgyblion cynradd yn ogystal â disgyblion lefel uwchradd. Roedd darpariaeth ychwanegol i’r perwyl hwn hefyd wedi cael ei hymestyn i ysgolion eraill yn ardaloedd Cwm Ogwr, Porthcawl a Phen-y-bont ar Ogwr. Ychwanegodd nad oedd yr Awdurdod wedi stopio yno, a’i fod hefyd yn edrych am fuddsoddiad ychwanegol ar gyfer ysgolion drwy ffynonellau cyllid eraill megis Llywodraeth Cymru.     

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth Teulu hefyd y bu twf sylweddol yn y defnydd o’r cyfrwng Cymraeg ym Mand B, gydag ysgolion wedi darparu 300 o lefydd yn ychwanegol ar gyfer disgyblion yn ein hysgolion cyfrwng Cymraeg.

 

Ail gwestiwn atodol gan y Cynghorydd Gareth Howells

 

A allech rannu â’r Aelodau yr amcanion a geir yng Nghynllun Strategol Addysg Gymraeg (WESP) y Cyngor?

 

Ymateb

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth Teulu mai nod WESP Pen-y-bont ar Ogwr oedd:

 

       Mwy o blant saith oed yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

       Mwy o ddysgwyr yn dal i wella eu sgiliau iaith pan maent yn symud o’r ysgol gynradd i’r uwchradd

       Mwy o fyfyrwyr 14-16 oed yn astudio ar gyfer cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg

       Mwy o fyfyrwyr 14-19 oed yn astudio pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg, mewn ysgolion, colegau a dysgu seiliedig ar waith

       Mwy o fyfyrwyr sy’n meddu ar sgiliau uwch yn y Gymraeg

       Mwy o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer pob dysgwr ag AAA

       Cynllunio’r gweithlu a datblygu proffesiynol parhaus

 

Cafodd Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer 2017 – 2020 ei ddatblygu â rhanddeiliaid a’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2018. Mae hyn yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn ystyried bod ein gweledigaeth, ein hamcanion a’n canlyniadau o safbwynt addysg Gymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn briodol.

 

Trydydd cwestiwn atodol a godwyd gan y Cynghorydd Nicole Burnett

 

Mewn canrannau, faint yn fwy o ddisgyblion a fydd wedi cael eu haddysgu mewn ysgolion drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn diwedd Band B (hy 2024)?

 

Ymateb

 

Oddeutu 30%.