Agenda item

Adroddiad Alldro Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2018-19

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid adroddiad, a oedd â’r diben o gydymffurfio â gofynion y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ‘Rheoli’r Trysorlys mewn Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer’ (y cyfeirir ato fel y Cod) i gyflwyno trosolwg o weithgareddau’r trysorlys dros y flwyddyn ariannol flaenorol, gan gynnwys Dangosyddion Darbodus a Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2018-19, ac i amlygu fel yr oedd yn cydymffurfio â pholisïau ac arferion y Cyngor.

 

Dywedodd, fel y mae paragraff 3.2 o’r adroddiad yn datgan, fod gofyn i’r Cyngor weithredu swyddogaeth gyffredinol y trysorlys o safbwynt y Cod a mabwysiadwyd hwn yn ffurfiol gan y Cyngor ym mis Chwefror 2012. Mae hyn yn cynnwys y gofyn i’r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys (TMS) cyn dechrau pob blwyddyn ariannol, gyda’r strategaeth honno’n datgan cyfrifoldebau’r Cyngor a’r Prif Swyddogion Ariannol a’r trefniadau adrodd. Cymeradwyodd y Cyngor y TMS 2018-19 yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror 2018.

 

Eglurai Paragraff 3.2 hefyd fod CIPFA, ar ddiwedd Rhagfyr 2017, wedi cyhoeddi rhifynnau newydd o Rheoli’r Trysorlys mewn Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer a’r Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol. Fodd bynnag, cafodd y TMS 2018-19 a’r adroddiad hwn eu cynhyrchu gan ddefnyddio Codau 2011 oherwydd, gan i Godau 2017 gael eu cyhoeddi’n hwyr, ni chawsant eu gweithredu tan TMS 2019-20.

 

Roedd Paragraff 3.4 o’r adroddiad yn atgoffa’r Cyngor, bod yr Aelodau wedi cymeradwyo polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw diwygiedig ar gyfer 2018-19 ar 19eg Medi 2018, a oedd yn newid y dull o gyfrifo’r swm i’w roi i refeniw i ad-dalu costau cyllido cyfalaf.

 

Byddai’r holl weithgareddau buddsoddi eraill nas cynhwysir dan y Cod, megis buddsoddiadau eiddo, yn ddarostyngedig i gymeradwyaethau arferol gan y Cyngor ac nid oes angen iddynt gydymffurfio â’r Strategaeth Rheoli’r Trysorlys. Roedd gwerth cyfredol yr eiddo buddsoddi hwn yn £4.635 miliwn.

 

Amlinellai Adran 4.1 o’r adroddiad Sefyllfa Buddsoddiadau a Dyledion Allanol y Cyngor ar gyfer 2018-19, gyda chrynodeb yn Nhabl 1. Mae hwn yn dangos bod cyfanswm y benthyciadau allanol ar ddiwedd y flwyddyn yn £96.87 miliwn, gyda chyfradd llog o 4.69% ar gyfartaledd. Rhannwyd hwn rhwng benthyciadau gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus a’r Opsiwn Echwynnwr Opsiwn Benthyciwr (a elwir hefyd yn LOBOs). Ni chymerwyd dim benthyciadau ychwanegol yn ystod 2018-19. Ceir hefyd rwymedigaethau hirdymor eraill gwerth cyfanswm o £17.88 miliwn, gyda’r rhan fwyaf o’r rhain yn ymwneud â chynllun PFI Ysgol Maesteg.

 

O ran buddsoddiadau, y sefyllfa diwedd blwyddyn oedd cyfanswm buddsoddiadau o £27.4 miliwn, gyda chyfradd llog gyfartalog o 0.94%, gyda £21 miliwn ohonynt yn cael eu dal gan awdurdodau lleol eraill. Mae hwn wedi lleihau ers dechrau’r flwyddyn pan oedd yn £30.4 miliwn oherwydd bod mwy o fuddsoddiadau lefel uwch wedi cael eu had-dalu na’u gwneud. Mae hyn yn arwain at gyfanswm dyled net ar ddiwedd y flwyddyn o £87.35 miliwn.

 

Cyfeiriai Paragraff 4.1.6 o’r adroddiad at yr adolygiad o’r swyddogaeth rheoli’r trysorlys drwy archwiliadau mewnol ac allanol yn ystod y flwyddyn, gyda barn gyffredinol gan yr archwilwyr mewnol bod yr amgylchedd rheoli mewnol yn gadarn ac y gellir rhoi sicrhad sylweddol yngl?n â rheoli’r risgiau.

 

Cyfeiriai Paragraff 4.1.7 o’r adroddiad at gynghorwyr Rheoli Trysorlys yr Awdurdod, Arlingclose. Mae’r contract yn rhedeg am bedair blynedd a daw i ben ym mis Medi 2020.

 

Cyfeiriai Adran 4.2 o’r adroddiad at Reoli Risgiau’r Trysorlys 2018-19 a cheir yma fanylion sut mae’r Cyngor wedi lliniaru a lleihau risgiau, yn enwedig oddi wrth natur anrhagweladwy’r marchnadoedd ariannol. Y prif risgiau y mae’r Cyngor yn eu hwynebu yw Risg Credyd, Risg Hylifedd a Risg o’r Farchnad, ac wrth reoli ei fuddsoddiadau mae’r Cyngor yn rhoi blaenoriaeth i sicrwydd a hylifedd ei arian cyn gweld yr elw, neu’r gyfradd enillion gorau.

 

Yna rhoddai Adran 4.3 o’r adroddiad wybodaeth am y cyd-destun allanol yr oeddem yn gweithredu ynddo yn ystod 2018-19. Ar ddechrau’r flwyddyn roedd Cyfradd y Banc yn 0.50% a bu iddi aros felly tan 2 Awst 2018, pan wnaeth Pwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr gynyddu’r gyfradd 0.25% i 0.75%. Safodd Cyfradd y Banc ar 0.75% am weddill blwyddyn ariannol 2018-19.

 

Yn Adran 4.4 o’r adroddiad ceir manylion y Strategaeth Benthyciadau a’r Alldro ar gyfer y flwyddyn, a’r prif amcan yma yw fforddiadwyedd hirdymor. Daw’r rhan fwyaf o fenthyciadau’r Cyngor oddi wrth y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus (PWLB) ar gyfradd llog sefydlog hirdymor, ac fel yr adroddwyd yn flaenorol, ni chymerwyd benthyciadau ychwanegol yn ystod 2018-19. Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn cynnal sefyllfa tan-fenthyca gan ddefnyddio arian wrth gefn yn lle dyledion benthyciadau lle bo hynny’n bosibl dros dro.

 

Roedd y wybodaeth am y Strategaeth Buddsoddiadau ac Alldro i’w gweld yn Adran 4.5 o’r adroddiad, a rheolwyd hon drwy roi ystyriaeth i’r prif risgiau a welwyd, statws credyd cyhoeddedig, a chyngor gan ein cynghorwyr Rheoli’r Trysorlys.  Dangosai Atodiad B i’r adroddiad y tabl cyfwerthedd ar gyfer y statws credyd cyhoeddedig gan esbonio’r gwahanol raddau buddsoddi. Daliwyd y rhan fwyaf o’r buddsoddiadau yn 2018-19 fel buddsoddiadau tymor byr gydag Awdurdodau Lleol y DU, banciau ag ansawdd credyd uchel ac mewn Cronfeydd yn y Farchnad Ariannol, gan roi mynediad ar unwaith i’r arian. Roedd crynodeb o’n proffil buddsoddiadau yn ôl math o bartïon i gontract i’w weld yn Nhabl 2 o’r adroddiad, gyda phroffil aeddfedrwydd y buddsoddiadau yn Nhabl 3. Mae’r rhan fwyaf o fuddsoddiadau CBSP yn aeddfedu mewn 12 mis.

 

Yna amlygai Adran 4.6 o’r adroddiad drefniadau rheoli perfformiad y Cyngor o ran digonolrwydd swyddogaeth y trysorlys. Dangosai hwn fod cyfradd elw gyfartalog y Cyngor ar ei fuddsoddiadau yn uwch na chyfradd elw gyfartalog buddsoddiadau a reolir yn fewnol cleientiaid Awdurdodau Lleol Unedol Cymreig Arlingclose, ar gyfer y rhan fwyaf o’r flwyddyn.

 

Daeth y Dirprwy Bennaeth Cyllid â’i hadroddiad i ben, drwy ddweud bod y trefniadau adrodd wedi’u datgan yn adran 4.8 a bod Dangosyddion Darbodus a Rheoli Trysorlys y Cyngor i’w gweld yn Atodiad A (i’r adroddiad). Adlewyrchai hyn y ffaith bod y Cyngor, yn 2018-19, yn gweithredu o fewn y cyfyngiadau a’r dangosyddion a nodir yn y TMS y cytunwyd arnynt ar gyfer 2018-19, a’i fod hefyd yn cydymffurfio â’i arferion rheoli trysorlys.

 

Ni chafwyd dim cwestiynau gan yr Aelodau ar yr eitem hon ar yr agenda, felly

 

PENDERFYNWYD:      Bod y Cyngor:

 

(1)  Yn Cymeradwyo’r gweithgareddau Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2018-19.

Yn cymeradwyo ymhellach y Dangosyddion Darbodus a Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2018-19, yn erbyn y rheini a gymeradwywyd yn Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2018-19.

Dogfennau ategol: