Agenda item

Gwyro oddi ar y Cynllun Datblygu Cais Cynllunio P/19/140/FUL – Datblygu Canolfan Dysgu Heddlu, Gymnasiwm, Ailraddio’r Safle, Mynediad, Maes Parcio a Gwaith Cysylltiedig

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaethau Datblygu a Chynllunio adroddiad ar y cais cynllunio uchod a ystyriwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor Rheoli Datblygu.

 

Dywedodd wrth yr Aelodau y byddent yn gyfarwydd ag ef yn mynychu’r Cyngor i roi diweddariadau ar y CDLl a materion cynllunio eraill, lle’r oedd fel arfer yn pwysleisio pwysigrwydd cyflawni a chydymffurfio â’r Cynllun Datblygu. Ambell dro, fodd bynnag, roedd gofyn cyfeirio adroddiadau at y Cyngor, gydag unrhyw ddatblygiadau nad ydynt yn unol â’r cynllun datblygu lle bo’n rhaid i’r Pwyllgor Rheoli Datblygu wneud penderfyniad yngl?n â chymeradwyo.  Mae’r Pwyllgor hwn yn methu â gwneud y math hwn o benderfyniad a rhaid cyfeirio’r mater wedyn at y Cyngor i gael penderfyniad.

 

Mae’r cais presennol gerbron yr Aelodau yn ceisio caniatâd i ailddatblygu ardal ogledd-orllewinol safle Pencadlys Heddlu De Cymru. Cynigir datblygu Adeilad Adnoddau Dynol (PLC) a Chanolfan Ddysgu pedwar llawr ar gyfer yr Heddlu, gymnasiwm deulawr, trefniant mynediad newydd, darpariaeth parcio a gwaith tirlunio caled a meddal cysylltiedig. Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys ailgyfeirio un o’r prif garthffosydd. Amlinellwyd y manylion llawn a’r asesiad yn yr adroddiad.

 

Mae safle’r cais yn ffurfio rhan o ddyraniad preswyl yn Ardal Twf Adfywio Strategol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer oddeutu 138 o unedau dan Bolisi COM1 (5) o’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) (2013). Mae Heddlu De Cymru (HDC) wedi cynnal rhaglen ad-drefnu ar raddfa fawr ar eu cyfleusterau a’u hasedau presennol ac, mae eu cynigion gwreiddiol ar gyfer ad-drefnu, a oedd yn cynnwys rhyddhau rhan ogleddol o gyfleusterau presennol eu Pencadlys yn gyfan gwbl ar gyfer datblygiad amgen, wedi cael eu disodli. Mae ganddynt yn awr fodd bynnag strategaeth amgen sy’n golygu bwrw ymlaen â’u rhaglen o waith gwella ac adnewyddu a chadw safle presennol y Pencadlys yn Heol y Bont-faen yn gyfan gwbl.

 

Ar sail y ffaith bod strategaeth ad-drefnu HDC wedi esblygu ers mabwysiadu’r CDLl yn 2013, y buddsoddiad yn safle’r Pencadlys a’r ffaith bod eu cynllun asedau i’r dyfodol yn awr yn crynhoi eu gweithgareddau a’u cyfleusterau ar eu safle presennol yn Heol y Bont-faen, nid oes posibilrwydd realistig yn awr y gellir cyflenwi dim tai dan Bolisi COM1(5) ar y safle hwn ac nid yw’r niferoedd tai mwyach yn cyfrif tuag at gyflenwad tir y Cyngor. Mae’n bosibl y bydd yr Aelodau’n cofio i’r Cyngor gymeradwyo adeilad caffi newydd ar y safle yn 2017, hefyd fel cais gwyro.  Mae’r caffi’n awr wedi cael ei gwblhau ac mae’n weithredol.

 

Bydd y cyfleuster dan sylw yn darparu i’r Heddlu eu canolfan hyfforddiant, datblygu proffesiynol parhaus, adnoddau dynol a recriwtio mewnol, ar eu safle eu hunain.  Bydd y PLC yn darparu 22 o ystafelloedd dosbarth ar gyfer hyfforddiant gyda mannau ymneilltuo cysylltiedig, canolfan recriwtio adnoddau dynol yn ogystal â gofod swyddfa ar gyfer adrannau mewnol ar draws yr heddlu. Bydd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer uned asesiadau a safonau, uned hyfforddiant gweithrediadau, cyfleusterau hyfforddiant ymchwiliol a ‘phlismona drwy dechnoleg’.  Bydd yr adeilad hefyd yn darparu lle i swyddfa ar gyfer y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

 

Bydd yr adeilad PLC newydd yn cael ei ddefnyddio’n fras yn y gymhareb 75% ar gyfer hyfforddiant a 25% ar gyfer adnoddau dynol.

 

Lleolir y brif fynedfa drwy’r ystâd ddiwydiannol i’r gogledd gyda chyfleusterau gwell i gerddwyr o Heol y Bont-faen, cafodd asesiad trafnidiaeth manwl ei gyflwyno ac mae’r swyddogion priffyrdd wedi cytuno arno.

Mae’r gyfraith cynllunio’n mynnu bod yn rhaid penderfynu ar geisiadau cynllunio yn unol â’r cynllun datblygu oni bai bod amgylchiadau sylweddol yn mynnu fel arall.

 

Yn yr achos hwn, heb ystyried colli’r dyraniad tai, mae’n glir na all y datblygiad preswyl fwrw ymlaen bellach oherwydd y strategaeth ystadau ddiwygiedig a’r datblygiad blaenorol. At hynny, mae’r buddsoddiad yn y safle a’r ailddatblygu cynhwysfawr i’w groesawu gan fod HDC wedi gwneud ymrwymiad cadarn i gyfnerthu a chynnal ei weithrediadau yn y Fwrdeistref Sirol. Bydd y strategaeth yn sicrhau y caiff cyfleuster Pencadlys pwysig ei gadw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan greu a chynnal felly gyfleoedd cyflogaeth sgiliau uwch yn ogystal â darparu gwasanaeth cymunedol a chymdeithasol gwerthfawr i breswylwyr a chymunedau Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Clôdd Rheolwr y Gr?p – Gwasanaethau Datblygu a Chynllunio ei adroddiad, drwy gadarnhau y caiff dyraniadau tai amgen eu hystyried fel rhan o’r adolygiad o’r CDLl ac y bydd yr ymgynghoriad ar y strategaeth a ffafrir yn dechrau ddiwedd y mis.

 

Ni chafwyd dim cwestiynau gan yr Aelodau am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:         Y dylai’r Cyngor fod o blaid peidio â gwrthod y datblygiad ar ôl i’r Cytundeb Cyfreithiol Adran 106 rhwng Heddlu De Cymru a’r Cyngor gael ei lofnodi, y dylid rhoi pwerau dirprwyedig i’r Rheolwr Gr?p – Gwasanaethau Datblygu a Chynllunio (fel rhan o’r Gyfarwyddiaeth Cymunedau) i gyflwyno hysbysiad o benderfyniad yngl?n â’r cynnig hwn, gan gynnwys y cyfyngiad amser 5 mlynedd safonol i’w weithredu a’r Amodau sydd ynghlwm wrth yr argymhelliad.

Dogfennau ategol: