Agenda item

Gwasanaeth Troseddwyr Ifanc

Gwahoddedegion:

Mark Shephard, Prif Weithredwr

Lindsay Harvey – Cyfarwyddwr CorfforaetholAddysg a Chymorth i Deuluoedd

Cyng Charles Smith – Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

Susan Cooper - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Nicola Echanis – Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar

Mark Lewis - Rheolwr Grwp Gwaith Integredig a Chymorth i Deuluoedd

Cyng Dhanisha Patel - Aelod Cabinet   Lles a Chenedlaethau Dyfodol

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p - Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd grynodeb o brif bwyntiau'r adroddiad a oedd yn dwyn y teitl 'Y Diweddaraf am Gynllun Gwella Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr'.  Amlinellodd gefndir yr adroddiad, gan gynnwys y ddyletswydd statudol i atal troseddu. Aeth hefyd yn ei flaen i esbonio'r penderfyniad i symud gwasanaethau iechyd Pen-y-bont o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Daeth y newid hwnnw i rym ar 1 Ebrill 2019. Yn ôl arolygiad mis Rhagfyr 2018 gan Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi o Wasanaethau Ymyrraeth Cyfiawnder Ieuenctid Bae'r Gorllewin, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2019, daethpwyd i'r farn gyffredinol bod y Gwasanaethau Ymyrraeth yn ddiffygiol. Mae'r gwasanaethau bellach yn cael eu monitro ac mae nifer yn craffu arnynt. 

 

Aeth yn ei flaen i esbonio'r sefyllfa bresennol, sef bod y Cabinet wedi cytuno, ym mis Ebrill 2019, i chwalu'r Gwasanaeth Ymyrraeth. Dan y drefn newydd, byddai Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont yn dod yn rhan o bortffolio Rheolwr Gr?p sy'n perthyn i'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd ar hyn o bryd. I fynd i'r afael ag argymhellion Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi, mae Uwch Reolwyr yn yr Awdurdod Lleol bellach yn cwrdd â chydweithwyr yn y Bwrdd Troseddwyr Ifanc bob pythefnos i fonitro'r cynnydd yn unol â'r blaenoriaethau gwella. Crëwyd Bwrdd Rheoli newydd, ac mae Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a'r Aelod Cabinet dros Gymunedau yn ei gadeirio ar y cyd. Bydd y ddau ohonynt yn goruchwylio'r broses o weithredu ar y 14 argymhelliad sydd i'w cael yn yr Adroddiad Arolygu.

 

Hysbysodd y Rheolwr Gr?p - Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd yr Aelodau y daeth ymgynghoriad i adolygu'r strwythur presennol i ben ddiwedd Awst a bod hysbyseb ar gyfer 2 Ymarferydd Arweiniol, sydd â chymwysterau gwaith cymdeithasol, eisoes wedi'i chyhoeddi. Credwyd yn gryf bod angen cymhwyster ar weithwyr cymdeithasol i wneud cynnydd yn y broses benodi. Er mwyn dechrau gweithredu ar y 14 argymhelliad yn yr Adroddiad Arolygu, ychwanegodd fod Bwrdd Rheoli wedi'i sefydlu sy'n cwrdd bob mis.

 

I grynhoi, dywedodd y Rheolwr Gr?p - Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi chwalu Gwasanaeth Ymyrraeth Cyfiawnder Troseddol Bae'r Gorllewin a chreu Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr. Maent wedi cychwyn ailstrwythuro'r gwasanaeth fel y bydd ganddo drefniadau llywodraethu cadarn. Bydd hefyd yn cwrdd yn rheolaidd â chydweithwyr yn y sector iechyd i sicrhau y gweithredir ar yr argymhellion yn y cynllun gwella.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar fod gan Gwm Taf wasanaeth eisoes sy'n cael ei redeg ar y cyd ag Abertawe a bod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ei wasanaeth ei hun. Gwnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr benderfyniad bryd hynny i sicrhau bod y gwasanaeth mewn sefyllfa gref cyn ystyried unrhyw gydweithredu newydd.

 

Nododd y Cadeirydd fod gan Ben-y-bont wasanaeth da yn y gorffennol. Ymddengys bod problemau wedi codi pan ddaeth yn rhan o Wasanaethau Ymyrraeth Cyfiawnder Troseddol Bae'r Gorllewin. Cydnabu'r Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar y daethpwyd i'r farn bod Gwasanaeth Troseddwyr Ifanc Pen-y-bont yn dda. Cymharer hyn â theuluoedd Gwasanaethau Troseddwyr Ifanc eraill pan gawsant eu mesur. Fodd bynnag, prin yw'r dangosyddion perfformiad allweddol ac un darn o waith sy'n digwydd ar hyn o bryd yw ystyried fframwaith newydd er mwyn integreiddio'r gwasanaeth.

 

Gofynnodd Aelod a fyddai modd inni ddysgu oddi wrth y sgôr 'ragorol' a roddwyd yn rhan o Adroddiad Arolygu Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi.   Esboniodd y Rheolwr Gr?p - Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd fod hyn yn deillio o'r adroddiad ar Wasanaethau Ymyrraeth Cyfiawnder Troseddol Bae'r Gorllewin, a'i fod yn gysylltiedig ag un elfen un unig o'r adroddiad sy'n ymwneud â Gweithio ar y Cyd ac Asesu. Cydnabu'r Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar fod adroddiadau diweddar Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi ar Wasanaethau Troseddwyr Ifanc Wrecsam, y barnwyd ei fod yn 'dda', ynghyd â'r adroddiad ar Wasanaeth Dwyrain Riding, y barnwyd ei fod yn 'rhagorol', yn enghreifftiau y dylid dysgu oddi wrthynt.

 

Cyfeiriodd Aelod at bwynt 4.3 yr adroddiad a gofynnodd sut yr oedd yr ailstrwythuro’n mynd ar hyn o bryd. Dywedodd y Rheolwr Gr?p - Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd fod yr ymgynghoriad yn dal i fynd rhagddo ar adeg ysgrifennu'r adroddiad. Ategodd y Rheolwr Gr?p - Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd fod penderfyniad bellach wedi'i wneud yngl?n â'r strwythur a'i fod yn fwy na pharod i rannu'r strwythur â'r Aelodau.

 

Gofynnodd Aelod faint o bobl ifanc sydd ar hyn o bryd yn cael eu cefnogi gan Wasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid yr Awdurdod. Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar fod y gwasanaeth yn gwybod am oddeutu 100 o blant. Roedd 70 o'r achosion yn ymwneud ag atal troseddu a 30 ohonynt yn rhai statudol. Ychwanegodd fod nifer o'r camau gweithredu yn y Cynllun Gweithredu Ôl-Arolygiad yn rhai lliw glas a dywedodd fod hynny'n brawf o gyfraniad cadarnhaol y Gyfarwyddiaeth i'r gwasanaeth ar hyn o bryd. Dywedodd y Rheolwr Gr?p - Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd fod y rhan fwyaf o'r gyllideb ar gyfer y maes hwn wedi'i gwario ar staff.

 

O fod wedi darllen yr Adroddiad Arolygu, cydnabu Aelod fod llawer o waith wedi'i wneud eisoes a gofynnodd a fyddai modd gwerthuso effaith yr argymhellion hynny rywbryd yn y dyfodol.

 

Dywedodd Aelod fod yr Adroddiad Arolygu yn sôn am y straen ar staff a'r ffaith bod salwch tymor byr a hir wedi effeithio ar lefelau staffio. Gofynnodd sut yr oedd hyn yn cael ei reoli ar hyn o bryd. Atgoffodd y Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar yr Aelodau fod yr arolygiad wedi'i seilio ar ranbarth Bae'r Gorllewin ac mai Pen-y-bont oedd yn rheoli'r gwasanaeth yn ei gyfanrwydd. Fodd bynnag, roedd absenoldebau salwch yn cael eu rheoli'n lleol ac felly nid oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn monitro data Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Yn y dyfodol, bydd lles staff a monitro lefelau salwch yn flaenoriaeth a bydd y bwrdd yn monitro hyn. Ychwanegodd y Rheolwr Gr?p - Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd y cafwyd nifer o sesiynau gr?p a sesiynau un i un gyda'r staff i drafod yr ymgynghoriad. Y nod oedd canolbwyntio ar iechyd a lles y staff ac i gynnal eu diddordeb yn y cyfnod hwnnw.

 

Cydnabu Aelod y dylid arddel disgresiwn lle bo hynny'n bosib mewn achosion unigryw a chyda salwch tymor byr, er bod polisïau a gweithdrefnau wedi'u mabwysiadu. Gofynnodd yr Aelod sawl aelod o'r staff oedd i ffwrdd o'r gwaith oherwydd salwch tymor hir ar hyn o bryd.  Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar nad oedd neb wedi bod i ffwrdd oherwydd salwch tymor hir hyd yma a bod y rhan fwyaf o'r salwch wedi digwydd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nid oedd neb wedi cadarnhau y byddent i ffwrdd yn y tymor hir oherwydd salwch.

 

Er bod yr Adroddiad Arolygu yn canolbwyntio ar ranbarth Bae'r Gorllewin yn ei gyfanrwydd, ac er bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyflwyno ymateb a Chynllun Gweithredu Ôl-Arolygiad da, ategodd Aelod y dylid nodi a chydnabod bod partneriaid statudol eraill hefyd yn rhan o'r broses, megis yr Heddlu a'r Gwasanaeth Iechyd. Mae dyletswydd hefyd arnynt i ddarparu Gwasanaeth Troseddwyr Ifanc a dylid eu dwyn i gyfri am eu perfformiad.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio a'r Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol a Lles i'r Swyddogion am lunio'r adroddiad a theimlent yn hyderus bod systemau yn y eu lle i'r dyfodol.

 

Argymhellion

 

  • Dylai'r Swyddogion rannu'r strwythur staffio gydag Aelodau'r Pwyllgor.

 

  • Dymuniad yr Aelodau yw trafod yr eitem hon unwaith eto cyn i'r gwasanaeth gael ei arolygu eto. Dylai'r Swyddog Craffu ychwanegu dyddiad arfaethedig rywbryd ym mis Chwefror/Mawrth 2020 at y Flaenraglen Waith a dylid gwahodd yr Heddlu a'r Gwasanaeth Iechyd i'r Pwyllgor Craffu.

 

Dogfennau ategol: