Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gweithredol a'r Swyddog Gwasanaethau Arbenigol, o'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, adroddiad ar y cyd i geisio cymeradwyaeth ar gyfer Adroddiad Blynyddol ar Gynnydd (APR) Rheoli Ansawdd Aer Lleol (LAQM) Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 2019, sy’n seiliedig ar setiau data ansawdd aer a gafwyd yn 2018. Roedd angen i’r Cabinet gymeradwyo’r adroddiad cyn cyflwyno’r fersiwn derfynol i Lywodraeth Cymru (LlC) cyn 30 Medi 2019.
Cynghorwyd y Cabinet, o dan Adran 82 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995, bod gan bob awdurdod lleol rwymedigaeth i adolygu ac asesu ansawdd aer yn eu hardaloedd yn rheolaidd, ac i benderfynu a yw amcanion ansawdd aer i ddiogelu iechyd yn debygol o gael eu cyflawni. Pan fo adolygiadau ansawdd aer yn nodi nad yw'r amcanion ansawdd aer yn cael eu cyflawni, neu nad ydyn nhw'n debygol o gael eu cyflawni, mae adran 83 o Ddeddf 1995 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddynodi Ardal Rheoli Ansawdd Aer ('AQMA'). Mae Adran 84 o'r Ddeddf yn sicrhau bod rhaid gweithredu wedyn ar lefel leol, a amlinellwyd mewn Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer (AQAP) penodol, i sicrhau bod ansawdd aer yn yr ardal a nodwyd yn gwella.
Roedd yr Adroddiad Cynnydd Blynyddol yn rhoi manylion am y data a gadarnhawyd o’r gwaith monitro ansawdd aer a wnaed yn 2018 o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Ar 20 Tachwedd 2018 cymeradwyodd Cabinet CBS Pen-y-bont ar Ogwr yr argymhelliad i weithredu Ardal Rheoli Ansawdd Aer (AQMA) ar Stryd y Parc yn seiliedig ar dystiolaeth a ddarparwyd gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (SRS) sy'n Rheoli Ansawdd Aer Lleol ar ran CBS Pen-y-bont ar Ogwr. Cymeradwyodd y Cabinet fanylion y Gorchymyn AQMA arfaethedig hefyd.
Cafodd Gorchymyn AQMA Stryd y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr ei weithredu'n swyddogol ar 1 Ionawr 2019. Cafodd yr ardal a ddynodwyd yn Orchymyn Rhif 1 Ardal Rheoli Ansawdd Aer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Park Street ei amlinellu yn Ffigur 1 yr adroddiad.
Mae Adroddiad Cynnydd Blynyddol 2019 yn cadarnhau bod ansawdd aer cyffredinol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i fodloni'r amcanion ansawdd aer perthnasol, fel y rhagnodir yn Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000 a Rheoliadau Ansawdd Aer (Diwygio) (Cymru) 2002.
Fodd bynnag, roedd yn nodedig bod ansawdd aer yn bryder cyffredin ar hyd Stryd y Parc yn 2018, sy'n cyd-fynd â ffin y Gorchymyn AQMA a weithredwyd ar 1 Ionawr 2019. Fe nodwyd hefyd fod lefelau blynyddol NO2 uwch ger Stryd y Parc a'r ffyrdd cyfagos.
Nodwyd bod y gwaith monitro a wnaed ar y safle newydd ar gyfer 2018 (OBC-110), sydd wedi'i leoli ar Stryd Parc, yn dangos lefelau cyfartalog blynyddol sy’n uwch na'r amcan ansawdd aer blynyddol cyfartalog a osodwyd, sef (40?g/m3) ar gyfer NO2, a bod lefelau a fesurwyd yno hefyd yn agosáu at dorri’r amcan 1-awr; sef na ddylai ragori 200?g/m3 > 18 gwaith y flwyddyn. Cofnododd OBC-110 ffigur cyfartalog blynyddol o 58.7. ?g/m3.
Roedd hefyd yn hanfodol bod y safleoedd monitro a amlygwyd yn cael eu harchwilio'n ofalus a bod camau addas yn cael eu cymryd gan y Swyddogion. Gall camau o'r fath olygu diwygio'r Gorchymyn AQMA, gan gynnwys diwygio'r ffin ddaearyddol er mwyn cynnwys ardal ehangach, a'r rhesymau dros ddatgan.
Fel rhan o ddyletswyddau statudol LAQM, o ddyddiad y Gorchymyn AQMA (sef 1 Ionawr 2019 yn yr achos hwn) mae gan SRS a CBS Pen-y-bont ar Ogwr 18 mis i baratoi cynllun gweithredu drafft i wella ansawdd aer yn yr ardal, ac unwaith y cytunir arno, rhaid i'r cynllun hwn gael ei fabwysiadu'n ffurfiol cyn pen dwy flynedd.
Mae SRS/CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio ar hyn o bryd yn unol â chanllawiau polisi Llywodraeth Cymru i gynhyrchu Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer (AQAP).
Wrth baratoi dogfen o'r fath, mae SRS wedi sefydlu Gr?p Llywio Gwaith i sicrhau bod yr AQAP yn ystyried pob agwedd, gan gynnwys trafnidiaeth, cynllunio, strategaeth a pholisi, iechyd y cyhoedd, a chyfathrebu. Mae'r Gr?p Llywio Gwaith yn cynnwys cynrychiolwyr o wahanol adrannau CBS Pen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â chynrychiolwyr o'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus lleol (BGC). Mae'r cyfarfodydd a gynhaliwyd hyd yma wedi caniatáu integreiddio ar draws yr adrannau, yn ogystal â datblygiad mesurau lliniaru realistig i leddfu pryderon ansawdd aer.
Hyd yma, mae'r SRS wedi datblygu rhestr ragarweiniol o fesurau lliniaru arfaethedig i fynd i'r afael â'r pryderon ansawdd aer a'u lliniaru yn Stryd Parc, AQMA Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r rhestr ragarweiniol hon o fesurau yn ystyried y prif gategorïau a ddangosir ym mharagraff 4.13 o'r adroddiad.
Bydd SRS/CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn ymgysylltu â’r cyhoedd drwy sesiynau 'galw heibio' er mwyn ateb unrhyw gwestiynau sydd gan drigolion a busnesau o ran datblygu Cynllun Gweithredu AQMA Stryd y Parc. Bydd y sesiynau galw heibio yn cynnig dealltwriaeth amlinellol o fesurau lliniaru arfaethedig y cyngor, a bydd yn caniatáu i bobl wneud sylwadau neu ofyn am ragor o wybodaeth am y cynnig.
Ar ôl i'r Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer Drafft gael ei gwblhau, bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal er mwyn caniatáu i breswylwyr a busnesau wneud unrhyw sylwadau angenrheidiol.
Fel rhan o oblygiadau ariannol yr adroddiad, ac er mwyn cefnogi'r gwaith o ddatblygu Cynllun Gweithredu AQMA Stryd y Parc, cynghorodd Swyddogion y bydd angen modelu ansawdd aer a chludiant yn fanwl i gefnogi unrhyw benderfyniadau i gyflwyno mesurau lliniaru i wella lefelau NO2 ar hyd Stryd y Parc. Er mwyn cefnogi'r penderfyniad ynghylch pa fesurau a gaiff eu rhoi ar waith, cynhelir asesiadau modelu manwl pellach. Yn gyntaf, bydd pob mesur yn cael ei asesu yn nhermau cost a budd, gan ganiatáu i'r Cabinet wneud penderfyniad gwybodus o ran pa fesur/mesurau y maent am eu dilyn ar gyfer craffu ac archwilio pellach.
Bydd adroddiad arall yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet er mwyn hwyluso'r broses hon.
Bydd angen cymorth ariannol i wneud unrhyw asesiadau manwl pellach, gan olygu, yn ddibynnol ar y swm, y bydd angen trafod sut y gellir gwneud hynny gyda’r Swyddog Adran 151.
Roedd yr Aelod Cabinet – Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn cydnabod yr adroddiad, ynghyd â'r ffaith bod Swyddogion y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (RSR) yn ystyried mater Stryd y Parc fel un difrifol. Roedd yn falch o nodi nad oedd unrhyw bryderon gwirioneddol eraill gyda dirywiad sylweddol o ran ansawdd aer mewn lleoliadau eraill yn y Fwrdeistref Sirol.
Cadarnhaodd y Dirprwy Arweinydd fod CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu dim llai na 800 o wasanaethau allweddol gwahanol, a'i bod yn hanfodol fod yr aer a anadlir ym Mhen-y-bont ar Ogwr a'r ardaloedd cyfagos o ansawdd digonol fel nad yw’n andwyol i iechyd unrhyw un. Gofynnodd i’r Swyddogion a oedd ansawdd yr aer yn ardal Mynydd y Gaer ger safle Rockwool, Wern Tarw, yn ddiogel i breswylwyr ac i’r da byw ac sy’n pori’r tir comin yno.
Cynghorodd y Swyddog Gwasanaethau Arbenigol fod profion wedi'u gwneud yn y lleoliad hwn ac ar y cyfan nid oedd ansawdd yr aer yn peri unrhyw bryder, er bod prosesau monitro yn cael eu cyflawni yno o bryd i'w gilydd i sicrhau na fyddai'r sefyllfa hon yn newid.
Nododd yr Arweinydd fod lefelau uwch o allyriadau aer ar Tondu Road a oedd yn gymharol agos i'r lefelau ansawdd aer isel yn Park Street. Gofynnodd a ellid lliniaru’r rhain mewn rhyw ffordd, gyda chynigion i reoli traffig rhwng y ddau leoliad yma er enghraifft, gyda’r bwriad o leihau lefelau carbon monocsid o gerbydau.
Cadarnhaodd y Swyddog Gwasanaethau Arbenigol fod hyn yn rhywbeth a fyddai'n cael ei archwilio fel rhan o'r dadansoddiad cyffredinol o set ddata astudiaeth 2019 o Reolaethau Ansawdd Aer Lleol. Pe bydd y lefelau hyn yn uchel, yna byddai mesurau lliniaru yn cael eu cyflwyno, rhai tebyg i'r rhai sydd wedi'u cynnwys ym mharagraff 8.3 yr adroddiad ymysg eraill.
PENDERFYNWYD: Fod y Cabinet yn:
(1) Nodi a derbyn y canlyniadau monitro a gasglwyd yn 2018.
(2) Nodi'r cynnydd a wnaed wrth ddatblygu'r Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer i gyd-fynd ag AQMA Stryd y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr.
Argymell y dylid cwblhau'r Adroddiad Blynyddol ar Gynydd 2019 (sydd wedi’i gynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad) i'w gyflwyno fel fersiwn terfynol i Lywodraeth Cymru cyn 30 Medi 2019.
Dogfennau ategol: