Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Cynllun Gweithredu Ôl-arolwg Ysgol Gynradd Plasnewydd

Gwahoddedigion:

 

Lindsay Harvey, Cyfarwyddwr CorfforaetholAddysg a Chymorth i Deuluoedd

Cyng Charles Smith, Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

Nicola Echanis, Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar

Michelle Hatcher, Rheolwr Grwp Cynhwysiant a Gwella Ysgolion

Andy Rothwell, Uwch Ymgynghorydd Her, Consortiwm Canolbarth y De

Simon Phillips, Ymgynghorydd Her, Consortiwm Canolbarth y De

Andrew Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr Cynorthwyol Consortiwm Canolbarth y De

Eleanor Williams, Prifathro

Andy Harding, Cadeirydd y Llywodraethwyr

Cofnodion:

Gwnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd gyflwyno adroddiad yn hysbysu Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 1 o'r cynnydd sydd wedi'i wneud gan Ysgol Gynradd Plasnewydd o ran yr amcanion yng nghynllun gweithredu ôl-arolwg yr ysgol (PIAP). Croesawodd Eleanor Williams (Pennaeth), Andy Harding (Cadeirydd y Llywodraethwyr) ac Andrew Williams (Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro), Andy Rothwell (Uwch Ymgynghorydd Her) a Simon Phillips (Ymgynghorydd Her) o Gonsortiwm Canolbarth y De.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod Ysgol Gynradd Plasnewydd wedi'i harolygu gan Estyn ym mis Ionawr 2018. O ganlyniad i'r arolygiad, credai Estyn bod angen mesurau arbennig ar yr ysgol. Lluniwyd PIAP a oedd yn dangos sut byddai'n mynd i'r afael â'r chwe argymhelliad a nodwyd. Gwnaeth yr awdurdod, gyda chefnogaeth Consortiwm Canolbarth y De, gwblhau datganiad o gamau gweithredu ar sut byddai'n cefnogi'r ysgol. Ers mis Medi 2018, roedd Plasnewydd wedi cael cefnogaeth ddwys gan yr awdurdod lleol a Chonsortiwm Canolbarth y De ac roedd ysgolion eraill wedi derbyn cyllid i weithio gyda Plasnewydd i'w chefnogi gyda'r argymhellion. Byddai'r awdurdod lleol a Chonsortiwm Canolbarth y De yn parhau i gefnogi Ysgol Gynradd Plasnewydd fel yr oeddent wedi gwneud drwy gydol y broses ôl-arolygu, hyd nes y penderfynir nad oes angen mesurau arbennig ar yr ysgol mwyach. 

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod Ysgol Gynradd Plasnewydd wedi'i monitro gan Estyn yn ddiweddar ym mis Mehefin 2019. Yn gyffredinol, credai Estyn bod angen mesurau arbennig ar yr ysgol er eu bod wedi gweld cynnydd mewn rhai meysydd. Esboniodd y byddai'n anghyffredin i ysgol ddod allan o fesurau arbennig ar ôl blwyddyn, ond y byddai pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau bod yr ysgol allan o fesurau arbennig mor gynnar â phosibl.     

 

Gofynnodd aelod a oeddent yn fodlon ar y cynnydd a oedd yn cael ei wneud ar wella ansawdd yr addysgu a'r asesu yng nghyfnod allweddol 2. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod angen iddynt gyflymu'r daith. Roedd yr ysgol wedi cael llawer o gymorth a nawr roedd angen iddi ymwreiddio'r camau gweithredu hynny. Cytunodd Ymgynghorydd Her Consortiwm Canolbarth y De fod angen cyflymu a mynd ati i weithredu mewn modd cyson.

 

Eglurodd y pennaeth fod lefelau isel iawn o lythrennedd yn y cohort presennol, gyda rhai disgyblion prin yn cyrraedd y safon efydd, a byddai angen i o leiaf hanner y rhain gael ymyrraeth llythrennedd. Roedd cynnydd da wedi'i wneud o'r cyfnod meithrin hyd at ddiwedd y cyfnod sylfaen ac roedd angen i'r cynnydd hwn barhau ar draws cyfnod allweddol 2. Eglurodd fod rhieni'n rhoi'r gorau i ddarllen gyda'u plant cyn gynted ag yr oedd y plant yn symud o CA1 i CA2, am nad oeddent yn credu bod angen gwneud hyn mwyach. Gwnaethant fynd ati'n benodol i dargedu'r cohort blwyddyn 2 o 35 o blant, a dim ond saith rhiant a ymgysylltodd â'r ysgol. Nododd y Pwyllgor sylwadau'r pennaeth am yr anawsterau yr oedd yr ysgol yn eu cael wrth geisio ymgysylltu â theuluoedd a'r rhwystrau yr oedd rhieni'n eu hwynebu i ddod i mewn i'r ysgol. Roedd disgyblion o ardal eang yn cael eu derbyn gan yr ysgol, ac roedd hyn yn arwain at ddiffyg cydlyniant cymunedol yn yr ysgol. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod Ysgol Gynradd Pencoed wedi'i chymeradwyo'n ddiweddar am ei chydlyniant cymunedol, a byddai'r pennaeth yn gwneud cyflwyniad i'r holl benaethiaid ar ymgysylltu â’r gymuned. Estynnodd wahoddiad i holl aelodau'r pwyllgor fynychu digwyddiad a fydd yn cael ei gynnal yn Hi-Tide, lle byddai Pennaeth Ysgol Gynradd Pencoed yn cyflwyno'r hyfforddiant hwn.

 

Mynegodd aelod bryder ynghylch y ffaith nad oeddent, ar ôl yr arolwg cychwynnol ym mis Ionawr 2018, yn ei "gymryd o ddifrif". Ychydig iawn o gynnydd oedd wedi'i wneud ar dri argymhelliad ac nid oedd ymdeimlad o frys. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod yr ysgol, yr awdurdod lleol a Chonsortiwm Canolbarth y De yn ei gymryd o ddifrif a'u bod yn rhannu ei phryderon ynghylch y cynnydd cyfyngedig. O ran yr hyn oedd wedi'i wneud, roeddent wedi defnyddio'u pwerau statudol ac wedi cyflwyno rhybudd ffurfiol ac wedi cysylltu â'r gweinidog i gyflawni hyn. Os na fyddent yn gweld gwelliannau yn y deilliannau, byddent yn ysgrifennu at y gweinidog i chwalu'r llywodraethwyr ac yn sefydlu bwrdd interim. Ychwanegodd y pennaeth ei bod wedi cwrdd â'r adran Adnoddau Dynol i drafod y broses fedrusrwydd, ac roedd yr athrawon a oedd angen help yn cael eu cefnogi gan athrawon eraill.

 

Gofynnodd aelod a oedd unrhyw broblemau o ran llywodraethwyr ysgol a benodwyd gan yr awdurdod lleol yn mynychu cyfarfodydd heb wneud fawr o gyfraniad os o gwbl. Awgrymodd y pennaeth y dylent edrych ar gofnod hyfforddi unigolyn, ac nid presenoldeb yn unig, wrth benodi llywodraethwr. Adroddodd y pennaeth fod y corff llywodraethu wedi gweld newidiadau sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a bod Cadeirydd Llywodraethwyr newydd wedi'i benodi ym mis Hydref 2018. Ychwanegodd ei fod yn parhau i fod yn anodd cael rhieni i gymryd rhan ac i lenwi swyddi gwag. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd eu bod yn edrych ar bolisïau a gweithdrefnau a oedd yn ymwneud â dethol llywodraethwyr ac y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor mewn amser ar yr adolygiad. Eglurodd yr Uwch Ymgynghorydd Her fod cymorth ychwanegol wedi'i ddarparu ar ben yr hyfforddiant gorfodol, a bod ymgynghorydd wedi'i benodi i weithio gyda'r corff llywodraethu. Roedd modiwlau e-ddysgu hefyd i lywodraethwyr a oedd yn cael eu sianelu drwy'r ysgolion. Nododd y Pwyllgor y byddai'r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn darparu gweithdy ar gyfer Cymdeithas Llywodraethwyr Pen-y-bont ar Ogwr ar yr adolygiad yr oedd yn ei gynnal.  Byddai hyfforddiant lleol ar gael i lywodraethwyr, a gofynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd i lywodraethwyr fanteisio ar y cyfle hwn.  

 

Gofynnodd aelod a oedd y pennaeth yn gweld problemau o ran medrusrwydd yn y tîm nad oedd modd eu datrys, ac a fyddai cymorth ac adnoddau'n eu helpu i fynd i'r afael â'r rhain. Dywedwyd wrtho fod yr awdurdod yn ymdrin â medrusrwydd yn yr un modd â phob awdurdod arall, a bod gan yr adran Adnoddau Dynol bolisi cyffredinol. Roedd hyn yn rhoi'r cyfle i unigolyn lwyddo, a byddai'n rhaid iddo ddangos bod digon o gymorth wedi'i ddarparu i staff i'w galluogi i symud ymlaen. Ar hyn o bryd, nid oedd 20% o'r staff yn yr ysgol, roedd un wedi gorffen ac un arall yn cael ei gefnogi i ddychwelyd yn raddol. Gofynnodd aelod a oedd athrawon yn cael eu hamddiffyn er anfantais i'r plant, ac ychwanegodd fod plant dim ond yn yr ysgol am gyfnod byr ac ni fyddent yn cael yr amser hwnnw yn ôl. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd eu bod yn blaenoriaethu plant, a bod Estyn wedi nodi'n ddiweddar fod yr awdurdod yn gwneud gwaith da o ran canolbwyntio ar y plentyn. Ddwy flynedd yn ôl, roeddent wedi bod yn siarad ag undebau llafur a oedd yn gefnogol iawn ac eisiau'r un canlyniad. 

 

Gofynnodd aelod faint o gymorth oedd ar gael i athrawon yn gyffredinol. Atebodd Uwch Ymgynghorydd Her Consortiwm Canolbarth y De fod pecyn helaeth o gymorth ar gael i ysgolion o fewn cyfyngiadau cyllidebol. Roedd oddeutu 300 o raglenni ar gael i'w cyflwyno gan yr ysgolion, cymorth wedi'i deilwra gan Gonsortiwm Canolbarth y De a chyllid ar gael i athrawon ymweld ag ysgolion lle roedd pethau'n gweithio'n dda. Ychwanegodd Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro Consortiwm Canolbarth y De mai pecyn Plasnewydd oedd yr un fwyaf yr oeddent wedi'i roi ar waith i ddiwallu anghenion penodol yr ysgol. Roedd rhywfaint o gymorth neu hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar bob lefel.

 

Gofynnodd un aelod pa gyfleoedd oedd i blant ddarllen yn ystod diwrnod ysgol. Atebodd y pennaeth fod darllen dan arweiniad ac roedd disgyblion hefyd yn darllen gyda myfyrwyr, llywodraethwyr a chynorthwywyr addysgu. Ychwanegodd fod pob dosbarth, ac eithrio blwyddyn 5, wedi gwella, a rhai wedi gwella'n sylweddol.

 

Gofynnodd aelod sut roedd y dystiolaeth yn yr adroddiad yn nodi mai ychydig iawn o gynnydd oedd wedi'i wneud serch y mesurau oedd wedi'u cymryd, a gofynnodd pam nad oedd argymhelliad 2 a 4 wedi'u harolygu yn ystod yr ymweliad diweddar. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod hyn yn arferol ar gyfer y math hwn o adolygiad, ac nid oeddent yn gwybod ar beth y byddent yn edrych tan iddynt gyrraedd.

 

Amlinellodd Cadeirydd y Llywodraethwyr rai o'r rhwystrau i wella. Roedd yr ysgol yn fach a llawer o bobl newydd wedi'u penodi. Roedd yn rhaid iddynt uwchsgilio er mwyn darparu her feirniadol ac ennyn persbectif a dealltwriaeth. Roeddent wedi cynnal archwiliad sgiliau er mwyn pennu'r cryfderau a'r gwendidau ac wedi cwrdd ag Estyn ynghylch tanberfformiad yr athrawon.        

 

Gofynnodd aelod a oedd perygl y gallai'r newidiadau i'r cwricwlwm a'r gwaith o ddiwygio anghenion dysgu ychwanegol/anghenion addysgol arbennig arafu'r cynnydd a'r cyfeiriad. Atebodd y pennaeth eu bod yn ceisio diwallu anghenion y dysgwyr newydd er mwyn sicrhau eu bod yn defnyddio'r gyllideb yn ddoeth. Roedd ganddi ddealltwriaeth dda o'r hyn yr oedd wedi'i roi ar waith ac roedd yn hyderus na fyddai effaith ar gyflymder y cynnydd.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r pennaeth beth mwy y gellid ei wneud i sicrhau bod yr ysgol yn gwneud cynnydd boddhaol neu dda o fewn amser rhesymol. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod yr awdurdod lleol wedi ymrwymo i gefnogi'r ysgol 100%. Roedd hyfforddiant wedi'i deilwra ar gael i ddiwallu eu hanghenion a'u cefnogi i roi sylw i bob argymhelliad. Eglurodd y pennaeth fod angen cyfle arnynt i ymwreiddio'r gefnogaeth a oedd eisoes wedi'i rhoi. Roedd angen i staff gael gwybod pan oedd rhywun yn craffu arnynt a beth fyddai'n digwydd. Cytunodd yr Uwch Ymgynghorydd Her â hyn ac ychwanegodd fod gwaith craffu'n chwarae ei ran mewn proses gadarn.

 

Trafododd yr aelodau yr effaith yr oedd cyllidebau a oedd yn lleihau yn ei chael ar yr hyfforddiant a gynigiwyd gan CBAC. Gwnaethant drafod gofyn i'r Aelod Cabinet ysgrifennu at y gweinidog i edrych ar effeithiau cyni cyllidol ar allu athro i gael hyfforddiant er mwyn sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus. Cytunodd y Pwyllgor i gais gael ei wneud i'r Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i ystyried effeithiau cyllidebau sy'n lleihau a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar y cyllid a'r ddarpariaeth ar gyfer hyfforddiant datblygiad proffesiynol parhaus i athrawon a oedd yn cael ei ddarparu drwy CBAC.    

 

Gofynnodd y Pwyllgorau i gofnodion y cyfarfod hwn gael eu hanfon i'r Gr?p Gwella Ysgolion a Phennaeth Ysgol Gynradd Plasnewydd. 

 

Diolchodd y Pwyllgor i'r Pennaeth a Chadeirydd y Llywodraethwyr am eu cyfraniad tuag at y cyfarfod. Gwnaethant hefyd ofyn i ganlyniadau arolwg nesaf Estyn gael eu hadrodd yn ôl i'r Pwyllgor cyn gynted ag y bydd yn ymarferol i wneud hynny.

   

Nododd y Pwyllgor y gwahoddiad a gyflwynwyd gan Bennaeth Ysgol Gynradd Plasnewydd i aelodau o'r Pwyllgor ymweld â'r ysgol, a phe bai aelodau am wneud hynny, dylent gysylltu â hi i wneud y trefniadau hynny.

 

Casgliadau

 

Bod cofnodion y cyfarfod hwn yn cael eu hanfon i'r Gr?p Gwella Ysgolion a Phennaeth Ysgol Gynradd Plasnewydd. 

 

Nododd y Pwyllgor fod yr awdurdod lleol a Chonsortiwm Canolbarth y De yn parhau i gefnogi Ysgol Gynradd Plasnewydd fel y maent wedi'i wneud drwy gydol y broses ôl-arolygu, hyd nes y penderfynir nad oes angen mesurau arbennig ar yr ysgol mwyach. 

 

Nododd y Pwyllgor sylwadau'r pennaeth ar yr anawsterau y mae'r ysgol yn eu hwynebu wrth geisio ymgysylltu â theuluoedd a'r rhwystrau i rieni ddod i mewn i'r ysgol gan fod disgyblion o ardal eang yn cael eu derbyn gan yr ysgol, a bod hyn yn arwain at ddiffyg cydlyniant cymunedol o fewn yr ysgol. Nododd y Pwyllgor y gwahoddiad a estynnwyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd y bydd pob aelod o'r Pwyllgor yn cael ei wahodd i fynychu digwyddiad a fydd yn cael ei gynnal yn Hi-Tide, lle bydd Pennaeth Ysgol Gynradd Pencoed yn cyflwyno hyfforddiant ar ymgysylltu â’r gymuned a rhieni. 

 

Nododd y Pwyllgor y gwahoddiad a gyflwynwyd gan Bennaeth Ysgol Gynradd Plasnewydd i aelodau o'r Pwyllgor ymweld â'r ysgol, a phe bai aelodau am wneud hynny, dylent gysylltu â'r Pennaeth i wneud y trefniadau hynny. 

 

Gwnaeth y Pwyllgor ofyn i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd roi gwybod iddynt am ganlyniadau ymweliad monitro nesaf Estyn, a fydd yn cael ei gynnal ar 31 Hydref 2019, cyn gynted ag y bydd yn ymarferol ac yn gyfreithiol i wneud hynny.   

 

Nododd y Pwyllgor fod y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd wrthi'n adolygu polisïau a gweithdrefnau ar gyfer dethol llywodraethwyr ac y byddai adroddiad ar yr adolygiad yn cael ei ystyried gan y pwyllgor Craffu.  Drwy wneud hyn, credai'r Pwyllgor y byddai'r bobl gywir yn cael eu penodi i eistedd a chymryd rhan ar gyrff llywodraethu'r ysgol fel y gallent roi'r cymorth priodol sydd ei angen ar yr ysgol, oherwydd nodwyd nad yw nifer o'r llywodraethwyr yn cyfrannu'n weithredol at fywyd yr ysgol ac nid ydynt chwaith yn eistedd ar is-bwyllgorau.  Nododd y Pwyllgor y bydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn darparu gweithdy ar gyfer Cymdeithas Llywodraethwyr Pen-y-bont ar Ogwr ar yr adolygiad yr oedd yn ei gynnal.  Nododd y Pwyllgor bod hyfforddiant lleol ar gael i lywodraethwyr, a gofynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd i lywodraethwyr fanteisio ar y cyfleoedd hyfforddi a ddarperir.  Mynegwyd pryder gan y Pwyllgor ynghylch y meini prawf a oedd yn cael eu gosod wrth benodi llywodraethwyr awdurdod lleol. 

 

Bydd cais yn cael ei wneud i'r Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i ystyried effeithiau cyllidebau sy'n lleihau a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar y cyllid a'r ddarpariaeth ar gyfer hyfforddiant datblygiad proffesiynol parhaus i athrawon a oedd yn cael ei ddarparu drwy CBAC.    

 

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z