Agenda item

Atal a Llesiant gan gynnwys Cyfleoedd Oriau Dydd

Gwahoddedigion:

 

Susan Cooper, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Cynghorydd Phil White - Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Jaqueline Davies, Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion

Mark Wilkinson, Rheolwr Gr?p, Anabledd Dysgu, Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau

Andrew Thomas, Rheolwr Grwp , Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol

Kay Harries, Hwylusydd a Rheolwr Gweithredu Iechyd a Gofal Cymdeithasol - BAVO

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad, er mwyn rhannu â'r Pwyllgor yr ystod o wasanaethau atal a llesiant a chyfleoedd am gymorth yn y gymuned sy'n cael eu datblygu, a'u pwysigrwydd strategol.

 

Atgyfnerthwyd yr adroddiad â dau Atodiad, Atodiad 1 yn cynnwys cyfres o enghreifftiau astudiaethau achos yn ymwneud â gwaith y rhaglen Cydlynu'r Gymuned Leol, gydag Atodiad 2 yn amlinellu rhestr o Rwydweithiau Cefnogi Cydlynu'r Gymuned Leol yng Nghwm Llynfi, Ogwr a Garw.

 

Rhoddodd amlinelliad cryno o'r adroddiad, ac wedyn cafwyd cyflwyniad PowerPoint gan Bennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion.

 

Yna, agorodd y Cadeirydd y ddadl yngl?n â'r adroddiad drwy wahodd cwestiynau gan Aelodau i'r Gwahoddedigion.

 

Holodd Aelod pam bod cynigion yr adroddiad yn canolbwyntio ac yn effeithio ar Gwm Ogwr a chymoedd eraill yn unig, yn hytrach na Phen-y-bont ar Ogwr.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant bod rhaid i waith Cydlynwyr Cymunedol ddechrau yn rhywle, ac yn yr ardaloedd uchod oedd gwaith wedi'i dargedu yn y lle cyntaf ac ar gyfer y dyfodol. Nid oedd lefel y cyllid i'r fenter wedi bod yn ddigon i ehangu'r rhaglen i leoliadau eraill y Fwrdeistref Sirol ar hyn o bryd. Ychwanegodd bod tair swydd Cydlynydd Cymunedol yn cael eu hariannu i gefnogi'r prosiect.

 

Dywedodd Rheolwr y Gr?p - Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol bod y Cydlynwyr Cymunedol yn cael cefnogaeth gan bum swydd Cyfeiriwr sy'n cael eu cyflogi gan BAVO. Cadarnhaodd mai'r bwriad oedd ehangu'r Cyfleoedd Oriau Dydd sydd wedi'u hamlygu yn yr adroddiad i leoliadau eraill fel oedd y prosiect yn ehangu. Roedd yn obeithiol y byddai adnoddau pellach ar ffurf ffrydiau cyllid yn dod ar gael, er mwyn cyflawni hyn yn y dyfodol agos.

 

Dywedodd yr Hwylusydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Rheolwr Gweithredu, BAVO, bod cyfran ddatblygu nesaf y gwasanaethau a fydd yn cael ei chyflwyno yn cael ei chyflwyno i ardaloedd eraill y Fwrdeistref Sirol, fodd bynnag, i ddechrau roedd y prosiect hwn wedi canolbwyntio ar le'r oedd angen hyn o ran blaenoriaeth. Fodd bynnag, roedd y pum Cyfeiriwr a oedd yn cefnogi'r Cydlynwyr Cymunedol drwy wasanaethau lleol ar sail model "Dinasyddiaeth Weithredol," wedi'u lleoli yn ardaloedd ehangach o fewn y cymoedd a thu hwnt iddynt, sef Cwm Calon (Maesteg), Porth y Cymoedd a Phencoed, T? Penybont, Pen-y-bont ar Ogwr a Chanolfan Fywyd y Pîl (i breswylwyr y Pîl a Phorthcawl.)

 

Rhagwelir y bydd y gwasanaeth yn ehangu ymhellach yn y 18 mis nesaf.

 

Roedd Aelod yn bryderus yngl?n â chynaliadwyedd y gwasanaethau sydd ar gael, gan fod cefnogaeth ar gyfer y rhain yn cynnwys y 3ydd sector yn bennaf, yn cynnwys gwirfoddolwyr. Gofynnodd hefyd a oes digon o gyllid ar gael i hyfforddi staff i gefnogi gwaith datblygu'r fenter.

 

Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant drwy nodi bod gweithio mewn partneriaeth wrth i'r gwasanaeth ddatblygu yn bwysig i ddarparu

cynaliadwyedd angenrheidiol i'r prosiect.

 

Ychwanegodd yr Hwylusydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Rheolwr Gweithredu, BAVO, y byddai ffrydiau cyllid yn cael eu ceisio er mwyn i sefydliadau sy'n cefnogi gwaith y prosiect allu adeiladu capasiti o ran recriwtio rhagor o gyflogeion, yn hytrach na dibynnu'n ormodol ar wirfoddolwyr sy'n cefnogi gwasanaethau llesiant ac atal o'r fath. Cyflwynwyd swydd ran amser yn BAVO at ddiben cynorthwyo ehangiad y prosiect.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion at baragraff 4.9 yr adroddiad, lle mae'n cadarnhau bod ymgysylltiad cynyddol ag ysgolion cynradd ac uwchradd, yn cydnabod eu potensial i gyfrannu at Heneiddio'n Dda ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gwaith rhwng cenedlaethau, a datblygu cymunedau cyfeillgar i oedran, gan gynnwys:-

 

a.    Hyfforddiant cyfeillion a hyrwyddwyr Dementia mewn ysgolion uwchradd (Archbishop McGrath School, Ysgol Gyfun Pencoed). Ynghlwm â hyn oedd gweithio mewn partneriaeth gref â BAVO. Bydd buddion y gwaith hwn yn cael eu hadolygu ymhellach i adnabod unrhyw ddysg cyn ehangu graddfa'r rhaglen.

b.    Gweithgareddau rhwng cenedlaethau rhwng ysgolion cynradd ac oedolion h?n (rhaglen Cydlynu Cymunedau Lleol - Cwm Ogwr, ysgolion meithrin yn ymweld â Bryn Y Cae etc.);

c.     Prosiectau cyfleusterau sy'n helpu i ddwyn pobl ynghyd (gardd dementia Bryn Y Cae).

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar bod gan y Cydlynwyr Cymunedol Lleol rôl hynod gyfrifol a gwerth chweil a bod y gwaith a wnaethant yn allweddol o ran yr agenda atal. Ychwanegodd bod bwriad ehangu'r gwasanaethau llesiant a'r cyfleoedd yn y gymuned sy'n cael eu gwneud ar gael i ni ar hyn o bryd yn ein lleoliadau yn y cymoedd i ardaloedd eraill o Ben-y-bont ar Ogwr, ond byddai angen adnoddau ar gael i ehangu'r prosiect. O ystyried hyn, mae angen archwilio ffrydiau o gyllid craidd yn hytrach na chyllid grant er mwyn cyflawni hyn yn llawn.

 

Nododd Aelod o'r adroddiad bod llawer o'r opsiynau sydd ar gael ar gyfer Cyfleoedd Oriau'r Dydd yn ymwneud â chefnogi unigolion sydd â chymhlethdodau isel. Gofynnodd a yw'r ffynonellau cymorth yn ehangu i unigolion sydd â materion/problemau iechyd meddwl.

 

Dywedodd Rheolwr y Gr?p - Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol bod model cyfredol gwasanaethau iechyd meddwl ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn bennaf o ganlyniad i newidiadau cynyddol yn nyluniad y gwasanaeth i ymateb i ddatblygiadau polisi, pwysau lleol a thrawsnewidiadau cyfundrefnol. Ychwanegodd bod cydnabyddiaeth yn lleol yngl?n â'r angen i fod yn fuddsoddiad gwell yn natblygiad ystod ehangach o wasanaethau iechyd meddwl, yn cynnwys ehangu cymorth a chefnogaeth fwy cymunedol, gan gynnwys fel rhan o'r agenda atal a llesiant drwy ymgysylltu â gweithgareddau cymunedol y darperir, yn cynnwys i'r rheiny sydd ag anghenion mwy cymhleth. Ychwanegodd mai un o nodau'r prosiect oedd helpu pobl, lle bynnag sy'n bosibl, i gynnal eu hannibyniaeth ac osgoi trefniant gofalu rheoledig, oni bai bod hyn yn hanfodol er mwyn gwella ansawdd bywyd unrhyw unigolyn.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant mai prif bwyslais yr adroddiad oedd ymdrechu i sefydlu gwasanaethau cefnogi newydd a mwy arloesol o fewn cymunedau, dan nawdd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, gyda golwg i wella bywydau pobl.  I gyd-fynd â hyn, roedd angen i wasanaethau reoli galw uchel, yn cynnwys pobl sydd ag anghenion mwy cymhleth, rhai a oedd yn yr ysbyty neu ofal preswyl ychydig flynyddoedd yn ôl, ond sydd bellach yn byw eu bywyd yn fwy annibynnol yn sgil cyflwyno mwy o wasanaethau cymunedol. Ychwanegodd bod y modelau gofal a ddefnyddiwyd yn y gorffennol yn tynnu pobl at wasanaethau nad oedd eu hangen arnynt, gan arwain atynt yn colli eu hannibyniaeth. Yn sgil cynnydd yn y nifer o bobl sydd angen pecyn gofal, roedd rhaid gwneud newidiadau, yn cynnwys edrych yn agosach nag o'r blaen ar ehangder y cymorth sydd ei angen ar wahanol bobl drwy "ddangosfwrdd" lefel angen. Ychwanegodd bod anghenion pobl yn newid gydag amser o ran lefel cefnogaeth, nid yn unig o ran angen mwy o gefnogaeth nag o'r blaen, ond hefyd llai petai eu hiechyd yn gwella.

 

Aeth yn ei blaen i ddweud bod Gweinidog Iechyd wedi gwneud £100m ar gael dros ddwy flynedd i awdurdodau lleol yng Nghymru, ar ffurf Grant Trawsffurfio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ac roedd angen cyflwyno cynigion i'w ddosrannu. Llwyddodd Pen-y-bont ar Ogwr i sicrhau £6.2m, gyda pheth o'r cyllid hwn yn cyfrannu at yr agenda trawsffurfio a gofal integredig. Fodd bynnag, mae'r cyllid grant hwn wedi'i drefnu ar gyfer y 18 mis i'r ddwy flynedd nesaf. Mae hyn, ynghyd â ffrydiau eraill o gyllid grant, wedi darparu adnodd ar gyfer ymyriadau atal a llesiant. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol bod cydnabyddiaeth i gynhyrchu buddsoddiad yng ngwytnwch a graddfa'r Trydydd Sector, i ddarparu cymorth llesiant i bobl a chymunedau.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant bod Swyddogion ynghyd â rhanddeiliaid allweddol eraill wedi gweithio'n galed i sicrhau nad oedd Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael anfantais gan y trosglwyddiad i Awdurdod Iechyd gwahanol yn ddiweddar. Roedd hi'n cytuno â siaradwr blaenorol hefyd, bod y prosiect gerbron yr Aelodau yn cael ei werthuso ar ôl ei sefydlu, i edrych ar ei lwyddiannau neu fel arall.

 

Ychwanegodd hefyd y byddai Corff Llywodraethu yn goruchwylio'r prosiect i'w fonitro ac archwilio'r gwaith sy'n cyfrannu ato gan yr holl randdeiliaid allweddol, drwy drefniant Fframwaith Perfformiad. Byddai'r Bwrdd hefyd yn gweithredu dan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, er mwyn sicrhau bod ôl atebolrwydd ynghlwm â'r prosiect.

 

Ailadroddodd Aelod y pwynt y dylid ailymweld â 'Chyfleoedd Oriau Dydd' yn y dyfodol a chyn cyflwyno i ardaloedd eraill y tu hwnt i gymunedau'r cymoedd, er mwyn cyfuno data ansoddol a meintiol ynghyd gyda gwerth cymdeithasol y gwaith yr ymgymerwyd ag o, ynghyd ag archwilio canlyniadau a gwariant/cynilion a neilltuwyd/cafwyd o'r fenter.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant bod cyfathrebu'r cynigion â phobl a fyddai ganddynt ddiddordeb yn y prosiect neu sy'n gymwys i gymryd rhan ynddo, yn rhan allweddol o'r Cynllun Heneiddio'n Dda cyffredinol. Gellid olrhain hyn drwy nifer o wahanol ffyrdd a sianelau cyfathrebu, er enghraifft cylchlythyrau'r Trydydd Sector, staff gofal cymdeithasol h.y. Gweithwyr Cymdeithasol (i ddarparwyr), cyfryngau cymdeithasol, Aelodau etholedig a thrwy asesiadau. Felly, gellid cyrraedd cynulleidfa eang drwy'r rhain a sianelau eraill o gysylltiadau cyfathrebu, yn cynnwys Hybiau Cymunedol a Rhwydweithiau Cefnogi Cydlynu Cymunedau (fel y sonnir yn Atodiad 2 yr adroddiad).

 

Ychwanegodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar bod cynigion yr adroddiad hefyd yn cysylltu â Strategaeth Genedlaethol Cymru Iachach.

 

Gofynnodd Aelod a roddwyd ystyriaeth fanwl i gludo pobl i weithgareddau cymunedol o'r fath, gan mae'n bosibl nad oes ganddynt gar etc.

 

Dywedodd Rheolwr y Gr?p - Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol y gellid trefnu mynediad drwy gysylltiadau Trafnidiaeth Gymunedol Pen-y-bont ar Ogwr, Cynllun Beicwyr y dref a gyrwyr gwirfoddol. Fodd bynnag, os yw'r prosiect yn ehangu ac yn tyfu, efallai y bydd rhaid archwilio rhagor o drywyddau at y diben hwn.

 

Cyfeiriodd Aelod at baragraff 4.72 yr adroddiad a chlybiau cefnogi/gofal dydd a gwasanaethau galw heibio lleol. Gofynnodd lle mae'r rhain wedi'u lleoli.

 

Dywedodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion bod lleoliadau'r rhain ar ffurf pwyntiau bwled ym mharagraff 4.33 yr adroddiad ac y cyfeirir atynt ym mharagraff wyth y cofnodion hyn.

 

Gofynnodd yr Aelod gwestiwn ychwanegol, sef a yw gwasanaethau o'r fath ar gael ar benwythnosau yn ogystal â dyddiau'r wythnos.

 

Cadarnhaodd Bennaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion y byddai yn llunio rhestr o'r holl gyfleusterau galw heibio o'r fath sydd ar gael, a'i hanfon at Aelodau yn unol â hynny.

 

Gan fod hyn yn dod â dadl yr eitem hon i ben, diolchodd y Cadeirydd i'r Gwahoddedigion am eu presenoldeb ac fe adawsant y cyfarfod.

 

Cais am Ragor o Wybodaeth:

 

Gofynnodd Aelodau am ragor o wybodaeth yngl?n â'r Hybiau Cymunedol ac am enghraifft o'u hedrychiad, a lle gellir dod o hyd iddynt.  Gofynnod Aelodau a oes hybiau rhithwir.

Gofynnodd Aelodau faint o arian sydd wedi'i arbed o ganlyniad uniongyrchol i'r mentrau atal a llesiant.

 

Casgliadau:

 

Cymeradwyodd Aelodau waith yr Awdurdod yn cefnogi rolau Cydlynwyr y Gymuned Leol yn etholaeth Ogwr ond maent yn bryderus bod y gefnogaeth yn digwydd yn y cymunedau hyn yn unig.  Awgrymodd Aelodau mai o ystyried llwyddiant y cynllun yn yr ardal hon, y dylid blaenoriaethu cyllid er mwyn i'r gefnogaeth gwmpasu Sir gyfan Pen-y-bont ar Ogwr i sicrhau cydraddoldeb drwy'r Fwrdeistref.

Nododd Aelodau bod nifer o fentrau a chyfleoedd rhagorol i oedolion sydd â gwahanol anghenion cefnogi, ond maent yn bryderus o ran sut mae cymunedau yn cael gwybod am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt.   Felly, awgrymodd aelodau y dylid arddangos y cyfleoedd ar wefan y Cyngor yn ogystal â holl adeiladau cyhoeddus a hysbysfyrddau megis llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden i gyrraedd cymaint o bobl â phosibl.

 

Awgrymodd yr Aelodau i'r Pwyllgor ailymweld â'r eitem mewn chwe mis ac y dylai'r adroddiad gynnwys manylion yngl?n â'r canlynol:

 

·         Sawl gwirfoddolwr sy'n cael ei ddefnyddio i ddarparu'r gwasanaeth atal a llesiant

·         Yr arbedion uniongyrchol sydd wedi'u cyflawni yn sgil dulliau gweithredu atal a llesiant

·         Sut gaiff y gwasanaeth ei fonitro a'i werthuso

Gwybodaeth yngl?n ag unrhyw gynllun gweithredu ôl-arolwg yn dilyn yr arolygiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru a gynhaliwyd yn ddiweddar         

Dogfennau ategol: