Agenda item

Y Broses Benodi: Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cymunedau

Cofnodion:

Hysbysodd y Prif Weithredwr y Pwyllgor o'r rhesymeg dros benodi Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, sef bod yr awdurdod wedi gweld newid sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf o ran swyddogion y JNC, a bod y rheoleiddwyr wedi sylwi ar hynny.  Dywedodd mai'r awdurdod hwn sydd â'r uwch dimau rheoli lleiaf o gymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, yn arbennig o gymharu ag awdurdodau cyfagos. 

 

Dywedodd wrth y Pwyllgor fod y Gyfarwyddiaeth Gymunedau yn un gymhleth a chanddi faes amrywiol o wasanaethau, ac mai'r her i'r Cyfarwyddwr fyddai rheoli newid.  Dywedodd na allai'r awdurdod fod yn feinach, a bod angen gwneud apwyntiad i'r rôl hon, ond ei fod yn deall sut allai recriwtio rôl uwch ymddangos i’r cyhoedd.  Roedd llawer o awdurdodau lleol eraill yng Nghymru wedi gwneud nifer o benodiadau i swyddi uwch yn ddiweddar. 

 

Roedd y Pwyllgor yn deall y rhesymeg y tu ôl i wneud penodiad, gan gydnabod bod y Gyfarwyddiaeth wedi datblygu llawer o fodelau partneriaeth a'i bod wedi dioddef yn sgil ei llwyddiant â hynny.  Dywedodd yr Arweinydd wrth y Pwyllgor fod y sefydliad yn parhau i dyfu, gyda'r awdurdod bellach â swyddogaeth Adfywio, sy'n rhan o'r Gyfarwyddiaeth Gymunedau.  Dywedodd aelod o'r Pwyllgor y byddai angen i'r person a benodir i weithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned i drawsnewid gwasanaethau a gwireddu newid.  Soniodd aelod o'r Pwyllgor am yr angen i ystyried gwydnwch yr awdurdod wrth wneud penodiad.  Sicrhawyd y Pwyllgor bod awdurdodau eraill wedi gwneud penodiad i rolau uwch.  Nododd y Pwyllgor hefyd fod problemau â chydnerthedd i’w cael o fewn y Gyfarwyddiaeth ar lefel is na’r Cyfarwyddwyr. 

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr adroddiad ar y broses recriwtio Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau ac ar y cynnig i ymgysylltu â Solace in Business, sydd â phrofiad o recriwtio uwch reolwyr a rolau gweithredol i awdurdodau lleol, i gefnogi'r Cyngor gyda'r penodiad. 

 

Rhoddodd Rheolwr y Gr?p Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol adroddiad ar y broses ddethol sydd i ddilyn, sef y bydd ceisiadau'n cael eu hanfon i Solace in Business er mwyn iddynt asesu a gwerthuso ymgeiswyr yn erbyn y cymwyseddau a bennwyd ac yn rhoi adborth i'r Pwyllgor hwn drwy gydol y broses.  Amlinellodd yr amserlen ar gyfer camau'r broses ddethol, ynghyd â disgrifiad swydd a manyleb person ar gyfer y rôl.  Ar ôl y dyddiad cau, byddai'r Pwyllgor Penodiadau yn cael ei gynnull i dderbyn adborth gan yr arbenigwr recriwtio ac i gytuno ar restr hir o ymgeiswyr i barhau i'r ganolfan asesu.  Dywedodd y bydd y ganolfan asesu yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau dethol a bydd aseswyr yn cynnal cyfweliadau rheolaethol / technegol, profion seicometrig, ac asesiadau rhyngweithiol i brofi cymwyseddau allweddol.  Bydd y Pwyllgor Penodiadau yn cael adborth ar ôl y ganolfan asesu ac yn cytuno ar restr fer derfynol o ymgeiswyr a fydd yn cael eu gwahodd i gyfweliad gan y Pwyllgor.  Y Pwyllgor fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar y penodiad, gan ystyried canlyniad y ganolfan asesu a'r cyfweliad terfynol.  Dywedodd Rheolwr y Gr?p Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol wrth y Pwyllgor y byddai Panel Rhanddeiliaid yn cael ei sefydlu fel rhan o'r broses ddethol ac y gallai aelodau'r Pwyllgor gynnig enwau i’r swyddogion o ran pwy ddylai fod yn rhan o’r Panel hwnnw.  

 

Dywedodd Rheolwr y Gr?p Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol fod gan Solace in Busnes wybodaeth am y farchnad ac y byddent yn adnabod ymgeiswyr.  Dywedodd y Prif Weithredwr wrth y Pwyllgor na fyddai gan yr awdurdod y gallu i ymgymryd â recriwtio o'r fath eu hunain.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr hefyd y byddai angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos hygrededd a brwdfrydedd dros reoli newid.  Credai fod y swydd wedi'i gosod ar y lefel gywir a bod gofynion y Cyngor wedi'u trafod gyda Solace. 

 

Trafododd y Pwyllgor yr angen am feincnod i asesu ymgeiswyr ac roedd o'r farn y dylid pennu hyn ar 50%.        

  

PENDERFYNIAD:            Bod y Pwyllgor Penodiadau yn:

 

(i)            Cymeradwyo'r disgrifiad swydd a'r fanyleb;

(ii)           Cymeradwyo'r broses a amlinellir ym mharagraff 4.3 o'r adroddiad;

(iii)  Ailymgynnull ar 20 Tachwedd 2019 yn dilyn cyfarfod y Cyngor i benderfynu ar y rhestr hir o ymgeiswyr i'w gwahodd i'r ganolfan asesu;

(iv)  Dirprwyo’r penderfyniad o ba ymgeiswyr ddylai symud ymlaen i gam olaf y broses ddethol, sef cyfweliad gan y Pwyllgor Penodiadau, i’r Prif Weithredwr a'r Arweinydd, yn seiliedig ar ganlyniadau'r ganolfan asesu. 

Ailgynnull ar 4 Rhagfyr 2019 i dderbyn adborth gan y ganolfan asesu ac i gynnal cyfweliadau terfynol a gwneud penderfyniad penodi.                              

Dogfennau ategol: