Cofnodion:
Gofynnodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd a ellid ystyried yr eitem hon olaf, gyda chaniatâd y Cadeirydd, gan fod angen i'r Swyddog Monitro fynd i gyfarfod arall, ond y byddai'n ceisio bod yn bresennol. Cytunodd y Cadeirydd i ystyried yr eitem olaf.
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a amlinellai ganfyddiadau Gweithgor y Cyfansoddiad, fu'n adolygu elfennau o'r Cyfansoddiad.
Esboniodd fod y Swyddog Monitro wedi cael cais oddi wrth Aelod Etholedig i adolygu'r Cyfansoddiad. Yn unol ag Erthygl 15 y cyfansoddiad, bydd y Swyddog Monitro yn monitro ac yn adolygu gweithrediad y Cyfansoddiad, er mwyn sicrhau bod nodau ac egwyddorion y Cyfansoddiad yn cael eu gweithredu'n llawn. Bydd angen cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer unrhyw newidiadau ar sail argymhellion y Swyddog Monitro.
Wrth adolygu'r Cyfansoddiad, gofynnwyd yn benodol am gael ystyried y canlynol:
1) Ailsefydlu'r cyfnod o 5 niwrnod ar gyfer cwestiynau a chynigion, gan fod adnoddau addas bellach ar gael i gyfieithu'n brydlon i'r Gymraeg;
2) Yn dilyn cyflwyniadau a chyhoeddiadau aelodau'r Cabinet, yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr, fod yr Aelodau'n cael cyfle am 15 munud i ofyn cwestiynau nas cyflwynwyd ymlaen llaw;
3) Rhoi tri munud (wedi'i gymryd o reol 3 munud y Pwyllgor Rheoli Datblygu) i'r tair gwrthblaid gael gwneud cyhoeddiadau neu gyflwyniadau gerbron y Cyngor;
4) Amseriad cyfarfodydd y Cyngor
Trafodwyd y pynciau a ganlyn yng nghyfarfodydd Gweithgor y Cyfansoddiad:
Ystyriodd y Pwyllgor yr argymhellion canlynol a wnaed gan Weithgor y Cyfansoddiad.
Cadw at yr un cyfnod o amser ar gyfer cyflwyno cwestiynau a chynigion, sef 10 diwrnod gwaith clir. O ran cyhoeddiadau a wneir yn y Cyngor, argymhelliad y dylid diwygio'r Cyfansoddiad i newid y teitl 'Adroddiad yr Arweinydd' i 'Cyhoeddiadau'r Arweinydd', ac y dylid byrhau'r cyhoeddiadau a wneir gan y Cabinet ar hyn o bryd. Bod holl Aelodau'r Cyngor yn derbyn ymateb i cwestiynau ysgrifenedig 24 awr cyn cyfarfod y Cyngor lle bo'n ymarferol. Y bydd yr ateb wedi'i gofnodi yng nghofnodion y cyfarfod hwnnw o'r Cyngor. Y gallai cyhoeddiadau gan Arweinwyr Gwrthbleidiau arwain at ddatganiadau gwleidyddol, ac nid oedd dymuniad i fynd ar drywydd cyhoeddiadau gan Arweinwyr y 3 Gwrthblaid fwyaf. Gan fod y bleidlais electronig a gynhaliwyd ar ddiwedd cyfarfod y Cyngor ar 24 Gorffennaf 2019 wedi'i cholli, na ddylid ystyried cynnal cyfarfodydd gyda'r nos ymhellach, nes cychwyn y weinyddiaeth nesaf. Dylid ymestyn y cyfnod o rybudd a'r ôl cyhoeddi penderfyniad o'r 3 diwrnod gwaith clir cyfredol i 5 diwrnod gwaith clir cyfredol, er mwyn creu mwy o dryloywder, ac i roi mwy o gyfle i Aelodau'r fainc ôl gael galw penderfyniad i mewn. Cadw'r cyfnod o amser ar gyfer cynnal Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr un peth, sef o fewn 5 diwrnod gwaith clir. Bod unrhyw Aelod, gan gynnwys Cadeirydd, sy'n galw penderfyniad i mewn, wedi'i eithrio o'r broses benderfynu yng nghyfarfod y Pwyllgor hwnnw, ond ei fod yn cael gwahoddiad i roi tystiolaeth gerbron y Pwyllgor i gefnogi'r cais i alw penderfyniad i mewn.
Ystyriai Aelod o'r Pwyllgor fod cwestiynau atodol yn aml yn faith ac nad oeddent weithiau'n gysylltiedig â'r cwestiwn gwreiddiol. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, os oedd cwestiwn wedi'i dybio'n amhriodol neu nad oedd yn ymwneud â'r cwestiwn gwreiddiol, y byddai'r Swyddog Monitro a'r Maer yn barnu ei fod yn annerbyniol.
Gofynnodd Aelod a ellid pwysleisio'r uchod ymhlith yr Aelodau er mwyn sicrhau bod cwestiynau a chwestiynau atodol yn fyr a chryno, ac yn ymwneud â'r mater dan sylw. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai'n adrodd hyn yn ôl i'r Swyddog Monitro.
Gofynnodd y Pwyllgor, mewn perthynas â pharagraff 4.7.2 yn yr adroddiad, am gael gofyn i'r Cyngor a ellid cynnal cyfarfodydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 4pm yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD: 1. Nodi'r ymchwil a'r gwaith a gyflawnwyd gan y Gweithgor a diolch i'r Swyddog Monitro, y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd a'r Prentis Busnes am eu gwaith wrth gynnal ymchwil ac wrth gefnogi Gweithgor y Cyfansoddiad;
2. Nodi argymhellion y Gweithgor;
3. Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo argymhellion Gweithgor y Cyfansoddiad i'w hargymell i'r Cyngor, gan ychwanegu'r canlynol:
(i) mewn perthynas â pharagraff 4.3.9 yr adroddiad, ychwanegu y dylid plismona'r cwestiynau atodol yn gliriach er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol i'r cwestiwn gwreiddiol a'u bod yn fyr a chryno;
mewn perthynas â pharagraff 4.7.2 yr adroddiad, gofyn am gael cynnal cyfarfodydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 4pm yn y dyfodol.
Dogfennau ategol: