Agenda item

Rhaglen Datblygu'r Aelodau

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a roddai'r newyddion diweddaraf i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ynghylch darparu Rhaglen Hyfforddi a Datblygu Aelodau'r Cyngor, a gweithgareddau cysylltiedig. Gofynnodd i'r Pwyllgor nodi pynciau i'w cynnwys ar Raglen Datblygu'r Aelodau ac mewn Sesiynau Briffio Cyn Cyfarfod y Cyngor.

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr hyfforddiant datblygu aelodau, Hyfforddiant y Pwyllgor Rheoli Datblygu a'r Sesiynau Briffio cyn Cyfarfodydd Cyngor a oedd wedi cael eu darparu ers 6 Mehefin 2019, ac a oedd wedi'u rhestru yn 4.1, 4.2 a 4.3 yn yr adroddiad.

 

Darparodd amserlen Sesiynau Briffio Cyn Cyfarfod y Cyngor hyd yma, a oedd yn cynnwys:

 

           23 Hydref 2019: Cynllun Datblygu Strategol

           20 Tachwedd 2019: Strategaeth Ynni'r Ardal Leol a Chynllun Ynni Doeth

           18 Rhagfyr 2019: Newidiadau'r Cwricwlwm Newydd 

           11 Mawrth 2020: Deilliannau Addysg

           System Les a Budd-daliadau - i'w gadarnhau

 

Dywedodd fod Ionawr/Chwefror wedi'u gadael yn wag yn fwriadol gan mai dyna'r adeg o'r flwyddyn pan fyddai'r gyllideb yn cael ei hystyried. Esboniodd y bu amwysedd ynghylch hyn ar yr amserlen, felly nad oedd unrhyw sesiynau briffio wedi'u cynllunio am y tro.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd amlinelliad o Sesiynau Hyfforddiant y Pwyllgor Rheoli Datblygu a oedd wedi'u hamserlennu, a nodwyd yn adran 4.5 yr adroddiad.

 

Amlinellodd hefyd sesiynau Hyfforddi'r Aelodau a oedd wedi'u cynnig yn y dyfodol, gan gynnwys:

 

  • 31 Hydref 2019 - Rheoli Galwadau Ffôn Camdriniol ac Ymosodol, Rheoli Gwrthdaro ac Ymwybyddiaeth o Diogelwch Personol
  • Defnyddio Mapiau Pontio
  • Sgiliau Gofyn Cwestiynau Craffu - I'w chadarnhau
  • Sgiliau Cadeirio Craffu - I'w chadarnhau

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai'r hyfforddiant a oedd wedi'i drefnu ar gyfer 31 Hydref yn cael ei ddarparu ddwywaith y diwrnod hwnnw, gydag un sesiwn yn cael ei darparu yn y bore, a'r sesiwn honno'n cael ei hailadrodd yn y prynhawn. Roedd hyn er mwyn sicrhau bod Aelodau a allai fod wedi'i chael hi'n anodd cyrraedd yn y bore yn gallu mynd i sesiwn y prynhawn, ac fel arall.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd wrth y Pwyllgor am y Gwasanaeth E-ddysgu a oedd wedi cael ei ddarparu iddynt drwy'r Learning Pool. Dywedodd fod gwaith wedi cael ei gyflawni drwy Rwydwaith Penaethiaid Gwasanaethau Democrataidd / Swyddogion Cefnogi'r Aelodau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i ddatblygu modiwlau E-ddysgu cenedlaethol i'w darparu drwy Academi Cymru Gyfan.  Roedd manylion pellach wedi'u cynnwys yn adran 4.7 yr adroddiad.

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad ynghylch hyfforddiant arfaethedig y System Les a Budd-daliadau, o ran cynnwys yr hyfforddiant hwnnw a'r hyn y byddai disgwyl i Gynghorwyr ei wneud yn ei sgil.  Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd na fyddai'r hyfforddiant ond yn cael ei ddarparu er gwybodaeth, fel bo modd cyfeirio etholwr i'r gwasanaeth cywir. Pwysleisiodd na fyddai disgwyl i Gynghorwyr roi cyngor ynghylch budd-daliadau, ond dylai fod ganddynt wybodaeth well am y gwasanaethau sydd ar gael er mwyn gallu dweud wrth etholwyr ymhle i gael gwybodaeth bellach.

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ei fod wedi bod mewn cysylltiad â'r Rheolwr Budd-daliadau ac Asesiadau Ariannol a gytunai y byddai'n fuddiol cael taflen ffeithiau a rhestr o asiantaethau, ac y gellid darparu'r rhestr honno ymhen amser.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd:

  1. Yn nodi cynnwys yr adroddiad
  2. Yn cytuno i ddisgwyl am argymhellion y Pwyllgor Rheoli Datblygu ynghylch Briffiau pellach Cyn Cyfarfodydd y Cyngor a Sesiynau Hyfforddiant Datblygu'r Aelodau pellach.
  3. Bod yr aelodau'n cyfeirio unrhyw bynciau ychwanegol ar gyfer briffiau cyn cyfarfodydd Cyngor i sylw'r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd;
  4. Bod yr aelodau'n cyfeirio unrhyw bynciau ychwanegol ar gyfer Datblygu'r Aelodau i'w cynnwys ar Raglen Datblygu'r Aelodau i sylw'r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd;
  5. Bod yr aelodau'n cyfeirio unrhyw bynciau ychwanegol ar gyfer e-ddysgu i'w cynnwys ar Raglen Datblygu'r Aelodau i sylw'r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd;

Bwrw ymlaen â'r Briff Cyn Cyfarfod y Cyngor a gynigiwyd ar y System Les a Budd-daliadau drwy roi taflen ffeithiau i'r Aelodau yn lle hynny ar y mathau o fudd-dal sydd ar gael.  

Dogfennau ategol: