Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a roddai'r newyddion diweddaraf i'r pwyllgor am drefniadau ynghylch gwe-ddarlledu cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a Phwyllgorau, a gofynnodd am sylwadau'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ynghylch pa gyfarfodydd y dylid eu gwe-ddarlledu.
Hysbysodd y Pwyllgor ynghylch y trefniadau gwe-ddarlledu cyfredol a nodir yn adran 4.2 yr adroddiad.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd wrth yr Aelodau y byddai Swyddogion, yn ystod cyfnod y contract nesaf, yn ystyried dichonoldeb datrysiadau eraill ar gyfer gwe-ddarlledu, sef drwy Skype a YouTube. Roedd swyddogion o'r Gwasanaethau Democrataidd a'r Adran TGCh wedi ymweld â Chyngor Sir Fynwy i weld sut yr oeddent yn gwe-ddarlledu cyfarfodydd. Dywedodd fod yr opsiwn hwn yn cael ei ystyried ac y byddai'n golygu arbed costau.
Darparodd ystadegau cyfarfodydd a we-ddarlledwyd yn 2018/19. Mae'r rhain wedi'u rhestru isod:
Dyddiad |
Enw'r Cyfarfod |
Gwylio Byw |
Gwylio Ar Alw |
Cyfanswm y Gwylio |
|
1 |
30-Awst-18 |
Pwyllgor Rheoli Datblygu |
38 |
51 |
99 |
2 |
17-Medi-18 |
Pwyllgor Trosolwg a Craffu Pwnc 3 |
11 |
131 |
142 |
3 |
16-Hydref-18 |
Pwyllgor Trosolwg a Craffu Pwnc 1 |
0 |
42 |
42 |
4 |
18-Hydref-18 |
Pwyllgor Trosolwg a Craffu Pwnc 2 |
22 |
47 |
69 |
5 |
18-Rhag-18 |
Cabinet |
27 |
31 |
58 |
6 |
03-Ion-19 |
Pwyllgor Rheoli Datblygu |
10 |
28 |
38 |
7 |
14-Chwef-19 |
Pwyllgor Rheoli Datblygu |
70 |
72 |
142 |
8 |
25-Chwef-19 |
Pwyllgor Trosolwg a Craffu Pwnc 3 |
6 |
10 |
16 |
9 |
18-Mawrth-19 |
Pwyllgor Trosolwg a Craffu Pwnc 3 |
10 |
32 |
42 |
10 |
19-Mawrth-19 |
Pwyllgor Rheoli Datblygu |
55 |
120 |
175 |
Gwylio Cyfartalog |
25 |
56 |
82 |
||
Cyfanswm y Gwylio |
249 |
564 |
823 |
Rhestrodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y cyfarfodydd canlynol a oedd wedi cael eu gwe-ddarlledu ar gyfer y flwyddyn 2019/20 hyd yma, gan gynnwys dadansoddiad o'r gwylio:
Dyddiad |
Enw'r Cyfarfod |
Gwylio Byw |
Gwylio Ar Alw |
Cyfanswm y Gwylio |
|
1 |
29-Ebrill-19 |
Pwyllgor Trosolwg a Craffu Pwnc 1 |
3 |
49 |
52 |
2 |
09-Mai-19 |
Pwyllgor Rheoli Datblygu |
6 |
29 |
35 |
3 |
04-Mehefin-19 |
Pwyllgor Trosolwg a Craffu Pwnc 1 |
42 |
64 |
106 |
4 |
03-Gorff-19 |
Pwyllgor Trosolwg a Craffu Pwnc 2 |
4 |
31 |
35 |
5 |
05-Medi-19 |
Pwyllgor Trosolwg a Craffu Pwnc 3 |
15 |
52 |
62 |
Gwylio Cyfartalog |
14 |
45 |
57 |
||
Cyfanswm y Gwylio |
74 |
225 |
309 |
Hysbysodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y pwyllgor fod y cyfarfodydd canlynol wedi'u cynnig i'w gwe-ddarlledu hyd fis Mawrth 2020:
• Pwyllgor Rheoli Datblygu - 5 Rhagfyr 2019
• Y Cabinet - 17 Rhagfyr 2019
• Pwyllgor Trosolwg a Craffu Corfforaethol i'w gadarnhau - (Y Gyllideb)
Dywedodd fod cyfarfodydd mis Hydref 2019 a mis Tachwedd 2019 wedi'u hepgor yn fwriadol oherwydd bod trefniant i osod camerâu HD newydd yn fuan ym mis Tachwedd i gymryd lle'r camerâu presennol sydd wedi'u gosod yn Siambr y Cyngor.
Gofynnodd Aelod pwy sy'n penderfynu ar ba gyfarfodydd i'w gwe-ddarlledu. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd mai'r Tîm Gwasanaethau Democrataidd sy'n dewis cyfarfodydd yn bennaf, ar y sail y gallai'r eitem neu'r eitemau ar agenda'r cyfarfod hwnnw fod o ddiddordeb i'r cyhoedd.
Esboniodd fod croeso o hyd i Aelodau fynegi sylwadau wrth y Tîm Gwasanaethau Democrataidd ynghylch pa gyfarfodydd y maent am iddynt gael eu gwe-ddarlledu, a rhoddir ystyriaeth i'r sylwadau hynny.
Dywedodd Aelod y gallai newid y term a ddefnyddir i ddisgrifio gwe-ddarlledu ei gwneud hi'n haws i aelodau'r cyhoedd ganfod y ddolen ar y wefan ar gyfer cyfarfodydd sydd wedi'u recordio. Esboniodd nad yw 'gwe-ddarlledu' mewn gwirionedd yn esbonio'r hyn yr ydym yn ei wneud mewn gwirionedd, neu ei bod hi'n bosibl na fydd cynulleidfa h?n yn deall y term. Ychwanegodd y gallai newid yr enw i 'gweld cyfarfod y Cyngor' neu rywbeth tebyg helpu'r cyhoedd i ddeall yn well. Cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i fynd ar drywydd hyn.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd:
Yn gofyn i'r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ystyried datrysiadau eraill ar gyfer gwe-ddarlledu cyfarfodydd, er mwyn sicrhau’r datrysiad mwyaf cost-effeithiol, ac i'w gwneud yn fwy hygyrch i'r cyhoedd.
Dogfennau ategol: