Cofnodion:
Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad, er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am Siarter Dur y DU, Cod Ymarfer - Cyflogaeth Foesegol yn y Gadwyn Gyflenwi, Model Economi Sylfaen Llywodraeth Cymru - Gwell Swyddi yn Nes at y Cartref, Gr?p Cyflawni De-ddwyrain Cymru a Pholisi Cyfrif Banc Prosiectau Llywodraeth Cymru a cheisio:-
· Llofnodi Siarter Dur y DU gyda'r nod o weithio tuag at ymrwymiadau cyraeddadwy o fewn y Siarter os yw'n rhesymol gwneud hynny.
· Llofnodi'r Cod Ymarfer - Cyflogaeth Foesegol yn y Gadwyn Gyflenwi gyda'r nod o weithio tuag at ymrwymiadau cyraeddadwy o fewn y cod os yw hynny'n rhesymol.
· Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i weithio tuag at egwyddorion y Model Economi Sylfaen - Gwell Swyddi yn Nes at Adref - Adeiladu Cyfoeth Lleol wrth gaffael nwyddau, gwaith a gwasanaethau.
· Cytuno y dylai'r Cyngor gymryd rhan yng Ngr?p Cyflawni De-ddwyrain Cymru ar gyfer cytundebau fframwaith cydweithredol cyffredin ac ailadroddus, os ydyn nhw’n darparu gwerth am arian i'r Cyngor.
· Mabwysiadu'r egwyddorion ym Mholisi Llywodraeth Cymru ar Gyfrifon Banc Prosiectau a chymhwyso taliadau drwy gyfrifon banc prosiectau ar gontractau lle tybir bod eu cais yn briodol ac yn rhesymol i wneud hynny.
Roedd yr adroddiad yn amlinellu rhywfaint o wybodaeth gefndirol mewn perthynas â Siarter Dur y DU, Cod Ymarfer - Cyflogaeth Foesegol yn y Gadwyn Gyflenwi, Model yr Economi Sylfaen - Gwell Swyddi yn Nes at Adref - Adeiladu Cyfoeth Lleol, Gr?p Cyflawni De-ddwyrain Cymru a Pholisi Cyfrif Banc Prosiectau Llywodraeth Cymru.
O ran Gr?p Cyflenwi De-ddwyrain Cymru, mae'r adroddiad yn nodi ym mharagraff 3.4.4 ar gyfer cyflawni contractau cydweithredol gan Lywodraeth Leol ar ôl 2020, mae'n amlwg bod ffafriaeth i sefydlu trefniadau cyflenwi rhanbarthol, am y 3 rheswm a roddir ar ffurf pwyntiau bwled yn yr adran hon o'r adroddiad.
Yna fe ymhelaethodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol ar sefyllfa bresennol yr adroddiad, gan roi rhesymau pam yr oedd angen i'r Cyngor ystyried cadw at y cynigion a nodir yn y pwyntiau bwled uchod a llofnodi ar eu cyfer.
Yna esboniodd o ran Adran 5 o'r adroddiad, y bydd angen diweddaru’r Rheolau Gweithdrefnau ar gyfer contractau'r Cyngor er mwyn cydymffurfio ag ymrwymiadau Siarter Dur y DU, y Cod Ymarfer - Cyflogaeth Foesegol yn y Gadwyn Gyflenwi a chyfeirio at ofynion perthnasol Polisi Cyfrifon Banc Prosiectau Llywodraeth Cymru.
O ran goblygiadau ariannol yr adroddiad, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol y byddai'r rhain yn fach iawn ar hyn o bryd, ond roedd potensial y byddai goblygiadau cost i'r Cyngor wrth symud ymlaen i’r dyfodol. Fe ychwanegodd y Pennaeth y byddai hi’n paratoi adroddiad i’r Cabinet os byddai’r argymhellion hyn yn dod i rym.
Dywedodd yr Arweinydd fod cryn dipyn o waith wedi'i roi ar baratoi’r adroddiad i'r Aelodau, ac a oedd wedi bod yn destun ystyriaeth gan y Pwyllgor Craffu yn ogystal â chynnal trafodaeth â swyddogion Llywodraeth Cymru. Byddai cynigion yr adroddiad, os cânt eu gweithredu, yn helpu i gefnogi'r economi leol, gan gynnwys busnesau lleol. Roedden nhw hefyd wedi cael eu profi ac wedi profi'n llwyddiannus mewn meysydd eraill, ychwanegodd.
Daeth y Dirprwy Arweinydd i ben â'r drafodaeth ar yr eitem hon, drwy gynghori bod y Cyngor yn caffael nwyddau a gwasanaethau gwerth £160m a bod hyn yn cael effaith sylweddol nid yn unig ar yr economi leol ond ar yr amgylchedd ehangach, ac y byddai argymhellion yr adroddiad, a gefnogai, yn cynyddu hynny ymhellach fyth.
PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn:
Dogfennau ategol: