Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Prosiect Buddsoddi mewn Ynni Cyfalaf a Strategaeth Ynni a Charbon Landlordiaid Corfforaethol

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol adroddiad, a'i ddiben oedd rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am y prosiect Buddsoddi mewn Ynni Cyfalaf a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddefnyddio'r Fframwaith Re:fit ac i anfon gwahoddiad i dendro ar gyfer y gwaith yn ogystal â cheisio cymeradwyaeth ar gyfer y Strategaeth Ynni a Charbon Corfforaethol 2019.

 

Dywedodd, ym mis Chwefror 2018, fel rhan o'r strategaeth ariannol tymor canolig 2018-19 hyd at 2021-22, y dylai'r Cyngor gymeradwyo cyllid cyfalaf o £1.3m i'w alluogi i gyflawni'r prosiect Buddsoddi mewn Ynni Cyfalaf. Byddai hyn yn cael ei ariannu drwy fenthyca darbodus gydag ad-daliadau o arbedion ynni a ennillwyd o ganlyniad i'r buddsoddiad.

 

Roedd Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylai'r Cyngor ystyried cyflwyno mesurau arbed carbon gan ddefnyddio'r rhaglen Re:fit. Mae Re:fit yn fframwaith perfformiad ynni a baratowyd gan bartneriaethau lleol LLP (sy'n fenter ar y cyd sy'n eiddo i Drysorlys EM a'r Gymdeithas Llywodraeth Leol ac a sefydlwyd yn 2009) ac mae'n arbenigo mewn cyflawni prosiectau ôl-ffitio ar gyfer adeiladau i'r sector gyhoeddus. Mae Re:fit wedi cyflawni prosiectau ledled y DU ond hefyd i lawer o awdurdodau lleol yng Nghymru, fel Caerdydd, Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Merthyr Tudful, i enwi ond un neu ddau.

 

Yna, cadarnhaodd yr adroddiad, yn dilyn cynnal adolygiad o nifer o opsiynau, fod swyddogion y Cyngor wedi penderfynu mai defnyddio'r fframwaith Re:fit fyddai'n darparu'r model mwyaf priodol ar gyfer darparu buddsoddiad cyfalaf.

 

Nodwyd bod 22 o adeiladau fel y dangosir yn Atodiad 1 yn cyflawni'r mesurau mwyaf effeithiol mewn perthynas â'r uchod, a dangoswyd y rhain yn Atodiad 1 o'r adroddiad. Mae cysylltu â’r rhanddeiliaid hyn yn cael ei wneud ar hyn o bryd

 

O ran y Strategaeth Ynni a Charbon Corfforaethol 2019, dywedodd Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol, ei bod yn debyg i'r prosiect Buddsoddi Cyfalaf mewn Ynni, fod Swyddogion wedi bod yn gweithio i baratoi hyn fel y gallai helpu i wella'r broses o reoli ynni a'r allyriadau carbon a gynhyrchir gan y Cyngor.

 

Pennwyd amcanion allweddol i'w dilyn yma ac er mwyn bodloni'r rhain, nodwyd cyfres o gamau gweithredu a gweithgareddau. Fe ddangoswyd y rhain mewn 8 maes allweddol a ddangosir ym mharagraff 4.2 o'r adroddiad.

 

Atodwyd copi o'r Strategaeth Ynni a Charbon oedd yn cael ei gynnig ei gymeradwyo gan y Cabinet i'r adroddiad yn Atodiad 2.

 

Daeth y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol â'i gyflwyniad i ben drwy roi crynodeb o oblygiadau ariannol yr adroddiad.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd yn teimlo bod hwn yn adroddiad amserol a chyfeiriodd at y ffaith bod BCBC eisoes wedi cymeradwyo £1.3m o gyllid cyfalaf ar gyfer y prosiect buddsoddi mewn ynni cyfalaf gan ddefnyddio benthyca darbodus, gyda chyfnod ad-dalu o 5 mlynedd. Pe bai hyn yn cael ei wireddu'n llawn, yna byddai'r prosiect yn ariannu ei hun.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Cenedlaethau'r Dyfodol a Lles ei fod yn falch o nodi bod y Prosiect Buddsoddi mewn Ynni Cyfalaf yn cael ei gyflwyno yn rhai o ysgolion yr Awdurdod. Gofynnodd a oedd modd iddyn nhw fod yn rhan o'r gwaith o brosesu'r holl waith drwy gynghorau eco yr ysgolion.

 

Dywedodd Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol y byddai hyn o bosibl ac y byddai'n cysylltu â rhanddeiliaid yngl?n â hyn.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod adran ar ysgolion ecogyfeillgar yn yr  Adroddiad Blynyddol a ystyriwyd yn gynharach yn ystod y cyfarfod, ac roedd yn falch o allu cadarnhau, bod y rhan fwyaf o ysgolion yn y Fwrdeistref Sirol wedi ennill statws Baner Werdd, gyda thua 50% ohonyn nhw wedi cyflawni'r lefel uchaf bosibl sef Gwobr Platinwm.

 

PENDERFYNWYD:    Bod y Cabinet:

 

  • Yn nodi cynnwys yr adroddiad
  • Yn cymeradwyo'r defnydd o Fframwaith Re:fit ac yn estyn gwahoddiad Tendr gan ddefnyddio fframwaith Re:fit I ddewis y darparwr gwasanaeth i weithredu’r prosiect ynni cyfalaf ynghyd â’r mesurau arbed ynni cysylltiol.
  • Yn rhoi awdurdod dirprwyedig i Ddirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau i ddyfarnu gosod y contract i’r ymgeisydd llwyddiannus o dan Gynllun A o’r Cynllun Dirprwyo.
  • Cymeradwyo mabwysiadu a chyflawni'r Strategaeth Ynni Corfforaethol a’r Strategaeth Garbon 2019.
  • Dirprwyo’r awdurdod am gymeradwyo unrhyw newidiadau sydd angen eu gwneud i’r Strategaeth Ynni Corfforaethol a’r Strategaeth Garbon 2019 i Fwrdd Corfforaethol Prosiect y Landlordiaid.

 

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z