Cofnodion:
Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol adroddiad, a'i ddiben oedd rhoi adborth manwl i'r Cabinet ar yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng 17 Ebrill a 10 Gorffennaf 2019, ar gynigion i sicrhau bod y Cyngor yn darparu caeau chwarae, lleiniau chwaraeon awyr agored a phafiliynau yn fwy cynaliadwy yn ariannol yn y dyfodol.
Yn ogystal, mae'r adroddiad yn cyflwyno argymhellion i gefnogi'r gwaith o ddarparu cyfleusterau'n ariannol gynaliadwy yn y dyfodol ac mae'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd cyfredol Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT).
Ar 18 Medi 2018 fe gymeradwyodd y Cabinet ymgynghoriad ar gynigion i wneud darpariaeth y Cyngor o gaeau chwarae, cyfleusterau chwaraeon awyr agored a phafiliynau yn fwy cynaliadwy yn ariannol.
Cydnabyddir bod darparu'r cyfleusterau hyn yn chwarae rhan bwysig i helpu i sicrhau bywyd iachach a lefelau uwch o les corfforol a meddyliol i drigolion y Fwrdeistref Sirol.
Atodir rhestr o bafiliynau a chaeau chwarae a reolir gan Adran Parciau'r Cyngor yn Atodiad A o'r adroddiad.
Roedd yr adroddiad yn amlinellu bod cynigion strategaeth ariannol tymor canolig ar hyn o bryd yn ymwneud ag arbedion ym meysydd chwarae, cyfleusterau chwaraeon awyr agored a phafiliynau, sef cyfanswm o £69k yn 2019-20 ac arbediad dangosol pellach o £369k yn 2020-21. Roedd hyn yn gyfanswm o arbediad o £438k i gyd.
Roedd paragraffau 4.1 i 4.7 o'r adroddiad wedyn yn rhoi diweddariad cynhwysfawr ynghylch â’r cynnydd mewn perthynas â throsglwyddo asedau cymunedol (CAT) mewn perthynas â'r cyfleusterau uchod. Er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud gyda CAT, nid oedd wedi bod i'r graddau na'r lefel a ragwelwyd yn flaenorol.
Roedd adran nesaf yr adroddiad, h.y. o baragraffau 4.8 i 4.13 yn amlinellu'r rhan yr oedd y Gr?p Gorchwyl a Gorffen CAT wedi'i chwarae yng nghefnogaeth CAT gan gynnwys mewnbwn i'r broses graffu, a oedd wedi darparu cyfeiriad strategol mewn perthynas â rhaglen CAT y Cyngor. Roedd hyn yn cynnwys polisïau, systemau a phrosesau cysylltiedig. Roedd paragraff 4.9 yn rhestru’r prif argymhellion oedd yn deillio o Gr?p Gorchwyl a Gorffen CAT a ddaeth â'u hadolygiad i ben ym mis Chwefror 2019. Mewn perthynas â hyn, roedd y gr?p wedi cyflwyno adroddiad i'r Cabinet ar 23 Gorffennaf 2019, a fyddai'n rhoi blaenoriaeth i fireinio'r asedau ar gyfer CAT er mwyn gallu blaenoriaethu'r arbedion angenrheidiol o dan y MTFS yn unol â hynny.
Ar ôl hynny, cynhaliwyd ymgynghoriad ar y cynigion a oedd yn ofynnol i sicrhau'r arbedion yr oedd angen eu gwneud, er mwyn casglu barn y cyhoedd a defnyddwyr y cyfleusterau am farn ar effaith bosibl y newidiadau y byddai eu hangen wrth symud ymlaen, er mwyn cyflawni hyn. Atodir y ddogfen ymgynghori yn Atodiad B i'r adroddiad ac er bod paragraff 4.17 o'r adroddiad yn amlinellu rhai pwyntiau amlwg a dderbyniwyd ar yr ymgynghoriad, amlygodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol hefyd rai o'r rhain er budd yr Aelodau.
Roedd paragraffau 4.18 i 4.36 o'r adroddiad yn rhoi mwy o wybodaeth am yr adborth a gafwyd i'r ymgynghoriad. Roedd y rhain yn cynnwys:
• Cynigion o ran y ddarpariaeth i’r ardaloedd Chwarae.
• Lleihau’r gwaith cynnal a chadw ar laswelltir agored ac ymylon priffyrdd.
• Lleihau torri gwair mewn parciau, a
• Cynnig i gynyddu taliadau ar gyfer defnyddio caeau chwarae a pafiliynau chwaraeon i arbed costau.
Dywedodd Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol, pe na bai clybiau chwaraeon neu grwpiau cymunedol yn gallu cynnal CAT, byddai'r lefelau ffioedd arfaethedig yn weithredol fel y nodir yn Atodiad E yr adroddiad. Mae'r ffioedd hyn yn adlewyrchu costau cynnal a chadw a rhedeg blynyddol nodweddiadol ar gyfer caeau chwarae a phafiliynau. Fodd bynnag, byddai angen i'r rhain gael eu teilwra gan y defnydd a ragwelir o glybiau a sefydliadau unigol. Fodd bynnag, mae'r ffigurau a'r gweithgareddau'n cynnig canllaw rhesymol i'r gwariant presennol yn erbyn lefelau presennol y cymhorthdal.
Cyn cau ei gyflwyniad, cyfeiriodd wedyn at yr adroddiadau ariannol, a oedd yn ailadrodd bod cyfanswm o £438k mewn arbedion o dan gynllun ariannol tymor canolig y Cyngor wedi'i glustnodi yn y maes hwn dros y ddwy flynedd nesaf.
Cadarnhaodd y Dirprwy Arweinydd fod yr adroddiad hwn yn heriol ac nad oedd y Cyngor am fod yn y sefyllfa i wneud rhai o'r cynigion a oedd yn cael eu gwneud yn yr adroddiad. Fodd bynnag, roedd lefel yr arbedion a oedd angen eu gwneud yn sylweddol a phe na bai'r rhain yn cael eu gwneud yn y maes hwn, yna byddai'n rhaid eu gwneud mewn maes arall o fewn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau.
Ychwanegodd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod y Cyngor ar hyn o bryd yn rheoli 34 o bafiliynau/caeau chwarae chwaraeon ac wedi gwneud hynny ers amser hir iawn. Fodd bynnag, yn yr hinsawdd sydd ohoni, ni fyddai modd cynnal y costau cynnal a chadw sy'n gysylltiedig â hyn yn ariannol mwyach. Felly, roedd angen edrych ar ffyrdd amgen o wneud hyn, gan gynnwys cynigion hunanreoli drwy'r broses CAT a/neu gan glybiau a chymdeithasau a chynghorau tref/cymuned yn ysgwyddo'r asedau hyn o ran costau rhedeg a chynnal a chadw.
Roedd yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio o'r farn y gellid rhoi trefniant methodoleg Ymddiriedolaeth Datblygu ar waith er mwyn helpu pobl i feddiannu'r meysydd posibl eraill fel y rhai a nodir uchod ac yn yr adroddiad.
Anogodd gynghorau tref/cymuned i gynorthwyo yma drwy gynyddu eu praesept a chymryd drosodd cyfleusterau o'r fath drwy’r ddulliau a awgrymwyd.
Ychwanegodd fod gan rai clybiau arian, er enghraifft, drwy godi tâl ar y cyhoedd am gael gweld gemau a rhai ar y bar a allai helpu i helpu i brynu eu cae/pafiliwn chwaraeon lleol. Ychwanegodd hefyd y gallai cefnogaeth ariannol gael ei chyflawni gan sefydliadau cenedlaethol, er enghraifft y Gymdeithas Bêl-droed ac Undeb Rygbi Cymru. Teimlai ei bod yn arbennig o bwysig darparu cymorth parhaus i'r defnydd o'r cyfleusterau hyn gan yr henoed a grwpiau lleiafrifol ac felly awgrymodd y dylai'r Cabinet dderbyn adroddiad pellach ar hyn yn y dyfodol.
Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai'r cyfleusterau uchod yn wynebu cael eu cau pe na bai cymorth yn cael ei ddarparu gan rai fel clybiau a chymdeithasau neu efallai gynghorau tref/cymuned, gan na allai'r Cyngor ddarparu'r lefel o gynhaliaeth a oedd yn y gorffennol oherwydd lefel yr arbedion yr oedd yn rhaid eu gweithredu o dan MTFS. Ychwanegodd fod yr ymatebion i holl elfennau'r ymgynghoriad wedi bod ychydig yn gymysg, ond roedd llawer o glybiau/cymdeithasau wedi bod yn gefnogol i gynigion y Cyngor.
Dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor eto wedi gorfod dod o hyd i £36m o arbedion ar draws ei holl gyfarwyddiaethau dros y 4 blynedd nesaf a bod hyn yn ychwanegol at yr arbedion helaeth a wnaed ganddo hyd yma ers y dirwasgiad a’r cyfnod o lymder. Hyd yn oed pe bai'r Awdurdod yn derbyn cynnydd yn ei grant cynnal refeniw, byddai’r gwasgu’n parhau o ran cyflawni gofynion statudol ei gyfrifoldebau yn y cyfarwyddiaethau addysg a gwasanaethau cymdeithasol lle'r oedd, fel yn y blynyddoedd blaenorol, heriau parhaus sy’n rhaid eu cyflawni. Roedd cryn gostau hefyd o ran chwyddiant cyflogau.
Roedd lefel y cymhorthdal a ddarparwyd yn hanesyddol ar gyfer y cyfleusterau a oedd yn destun yr adroddiad hwn yn 80%, ac yn syml iawn, ni allai'r Cyngor gynnal y lefel hon yn y dyfodol. Ychwanegodd nad oedd llawer o wasanaethau eraill yn cael cymhorthdal i'r graddau yma. Roedd llawer o glybiau a chymdeithasau wedi cysylltu â'r Cyngor mewn ffordd gadarnhaol yn ystod y broses ymgynghori. Roedd nifer o ffyrdd o'u cynorthwyo i ariannu pafiliynau chwaraeon a chaeau chwarae fel drwy'r broses CAT lle bydden nhw’n cael rhywfaint o gymorth ariannol o ran cyllid. Roedd y cyfleuster newydd yng Nghlwb Rygbi Bryncethin yn enghraifft dda o hyn.
Ychwanegodd y byddai'r Cyngor yn ystyried sefydlu cronfa ar wahân i gefnogi clybiau iau a chlybiau mini, h.y. o dan 18 oed, gan eu bod mewn sefyllfa lai ffafriol nag uwch dimau i hunan-ariannu eu hunain. Byddai'r Cyngor hefyd yn ceisio cefnogi'r henoed hefyd mewn modd tebyg, er mwyn eu hannog i barhau i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, er budd eu hiechyd a'u lles yn y dyfodol.
Daeth yr Aelod Cabinet - Cenedlaethau'r Dyfodol a Lles a’r drafodaeth ar yr eitem bwysig hon i ben, drwy ddweud y gallai grwpiau dan anfantais, gobeithio, gael cymorth ariannol drwy unrhyw gronfa a sefydlir at y diben hwn.
PENDERFYNWYD: Cymeradwywyd y canlynol gan y Cabinet:-
Dogfennau ategol: