Agenda item

Adroddiad Blynyddol 2018-19

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid dros dro a'r swyddog S151 adroddiad ar ran y Prif Weithredwr ar gyfer ystyried Adroddiad Blynyddol 2019-19 (Atodiad A o'r adroddiad) i’w argymell i'r Cyngor ac i'w gymeradwyo.

 

Rhoddodd yr adroddiad rywfaint o wybodaeth gefndirol a gadarnhaodd fod y cynllun yn diffinio 40 o ymrwymiadau i gyflawni'r tri amcan llesiant a nododd 58 o ddangosyddion sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018-19.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn cadarnhau manylion am newyddion da, gan ein bod wedi perfformio'n dda yn gyffredinol yn 2018-19. O'r 40 o ymrwymiadau, cwblhawyd 35 (88%) yn llwyddiannus a'r 5 (12%) arall yn cyflawni'r rhan fwyaf o'r cerrig milltir.

 

Nododd y cynllun corfforaethol 58 o ddangosyddion i fesur mynediad. O'r dangosyddion 56 gyda tharged, roedd 37 (66%) ar y trywydd iawn, 9 (16%) yn llai na 10% a 10 (18%) yn is na'r targed methu'r targed o gyfradd oedd yn fwy na 10%. Cynhwyswyd gwybodaeth fanwl am berfformiad y Cyngor yn erbyn ei ymrwymiadau a'i dargedau yn Atodiad A.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid dros dro a'r Swyddog S151 fod yr Adroddiad Blynyddol yn ddogfen bwysig, gan ei bod yn rhoi gwybodaeth fanwl i ddinasyddion a rhanddeiliaid am berfformiad y Cyngor o ran diwallu amcanion a chanlyniadau llesiant. Roedd hefyd yn cynnwys mesurau cymaradwy Cenedlaethol i gynnig darlun llawn o sut oedd y Cyngor yn perfformio ar draws ystod o wasanaethau gwahanol.

 

Roedd yr Arweinydd o'r farn bod yr adroddiad a'r wybodaeth ategol yn gytbwys iawn ac yn cynnig darlun oedd yn gadarnhaol. Teimlai'r Arweinydd yn arbennig fod cyfeiriad at nifer o astudiaethau achos wedi dod â'r adroddiad yn fyw. Teimlai fod cyrraedd 88% o ymrwymiadau'r Cyngor yn rhoi'r Awdurdod mewn sefyllfa dda i symud ymlaen. Cyfeiriodd hefyd at dudalen 25 o'r adroddiad lle'r oedd hyn yn manylu ar sut yr oedd amcanion llesiant y Cyngor yn cyd-fynd â'n nodau llesiant. Roedd hefyd yn falch nad oedd yr adroddiad yn cuddio agweddau o’n gwaith lle nad oedd y Cyngor yn cymharu mor ffafriol ag awdurdodau eraill.

 

Teimlai ei bod yn werth nodi hefyd ein bod y trydydd isaf yng Nghymru o ran canran y disgyblion a adawodd yr ysgol ym Mlwyddyn 11 nad oedden nhw derbyn addysg bellach, cyflogaeth na hyfforddiant. Roedd hefyd restr o gamau gweithredu yn yr Adroddiad a oedd yn nodi sut yr oedd y Cyngor wedi bodloni ei amcanion.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar at dudalen 28 o’r Adroddiad Blynyddol oedd yn dangos fod y nodau llesiant economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol oedd wedi eu cyflawni ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Cyfeiriodd at y ffaith bod 81,767 sesiynau nofio di-dâl wedi’u cynnal i’r rhai dros 60 oed ar gyfer 5,000 o ddefnyddwyr unigol wedi'u cofnodi yn 2018-19, sef y cyfranogiad uchaf o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru o'r 22.

 

Dywedodd Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol mewn ymateb i gwestiwn ynghylch manylion nifer yr ymwelwyr oedd yn ymweld â chanol tref Porthcawl, fod y rhain yn ymddangos eu bod yn gymharol isel yn yr adroddiad. Ychwanegodd fod y ffigur hwn yn anghywir gan fod un o'r camerâu CCTV ddim yn gweithio o gwmpas yr amser y casglwyd y manylion hyn. Erbyn hyn roedd y camera hwn wedi'i drwsio a'i ailosod i safle gwell, ac yn dilyn hyn yn ystod chwarter cyntaf eleni, roedd nifer yr ymwelwyr â chanol y dref yn llawer mwy ffafriol nag mewn chwarteri tebyg y llynedd.

 

PENDERFYNWYD:   Bod y Cabinet wedi ystyried yr Adroddiad Blynyddol 2018-19 yn Atodiad A o'r adroddiad a'i argymell i'r Cyngor i'w gymeradwyo.

Dogfennau ategol: