Agenda item

Cynigion ar gyfer Cynllun Datblygu Strategol (CDS) ar gyfer Prifddinas-ranbarth Caerdydd

Cofnodion:

Gofynnodd Rheolwr y Gr?p Datblygu am awdurdod i gychwyn paratoi Cynllun Datblygu Strategol (CDS) yn ffurfiol ar gyfer Prifddinas-ranbarth Caerdydd, gyda Chyngor Bro Morgannwg yn Awdurdod Cyfrifol; i nodi'r ardal cynllunio strategol ar ffurf 10 ardal awdurdod cynllunio oddi mewn i Brifddinas-ranbarth Caerdydd, er mwyn i swyddogion perthnasol ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i ddrafftio Rheoliadau'r Cynllun Datblygu Strategol er mwyn creu trefniadau llywodraethu ar gyfer y CDS a'r Panel Cynllunio Strategol (PCS). i gytuno bod y gost o baratoi'r CDS yn cael ei rhannu ar draws y 10 Awdurdod yn ôl eu cyfran o'r costau ar sail trefniadau pleidleisio'r PCS, a gaiff eu hadolygu'n flynyddol, ac i dalu costau cychwynnol sy'n debygol o godi yn y flwyddyn ariannol hon 2019/20, ac enwebu Aelod etholedig i eistedd ar y Panel Cynllunio Strategol.

 

Adroddodd fod y Cyngor, yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror 2018, wedi awdurdodi'r swyddogion i fynd rhagddynt i baratoi'r CDS ar y cyd â'r 10 Awdurdod Cynllunio Lleol ym Mhrifddinas-ranbarth Caerdydd.  Dywedodd nad yw'r canllawiau na'r rheoliadau ar gyfer y CDS wedi'u llunio eto, a bod y rhanbarth mewn sefyllfa i ddylanwadu ar y modd y gellir rheoli'r broses a sicrhau CDS llwyddiannus.  Nodwyd ffordd ymlaen a ffafrir yn gysylltiedig â Ffin yr Ardal Cynllunio Strategol; Llywodraethu a Chwmpas, Cynnwys a Chyfnod y Cynllun. 

 

Adroddodd Rheolwr y Gr?p Datblygu fod angen cydgynllunio mewn modd strategol ym Mhrifddinas-ranbarth Caerdydd, ac mai'r ffordd orau o wneud hynny oedd drwy greu Cynllun Datblygu Strategol statudol ar gyfer Prifddinas-ranbarth Caerdydd.  Dywedodd fod Cytundeb y Fargen Ddinesig yn creu ymrwymiad i baratoi Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer y rhanbarth, ac i gydweithio ar faterion trafnidiaeth strategol a chynllunio strategol, sy'n adlewyrchu'r argymhelliad yn adroddiad y Comisiwn Twf. Mae CDS statudol yn rhoi sicrwydd i ddatblygwyr, buddsoddwyr a chymunedau fod penderfyniadau strategol ynghylch darparu tai, trafnidiaeth, cyflogaeth a seilwaith yn cael eu gwneud ar lefel ranbarthol briodol, gan sicrhau ar yr un pryd y gellir parhau i wneud penderfyniadau allweddol ynghylch cynigion cynllunio yn lleol drwy ddyraniadau yn y Cynllun Datblygu Lleol a pholisïau, ac wedi hynny mewn penderfyniadau rheoli datblygu. Nododd mai ond Awdurdod Cyfrifol a nodwyd a oedd yn gallu cyflwyno cynnig i Lywodraeth Cymru i symud ymlaen â CDS ar gyfer Prifddinas-ranbarth Caerdydd, ar ôl i'r holl Gynghorau roi cymeradwyaeth ffurfiol. Yn dilyn hyn, gall Llywodraeth Cymru ddechrau paratoi'r rheoliadau angenrheidiol sy'n nodi sut y dylid mynd ati i baratoi'r CDS.

 

Adroddodd Rheolwr y Gr?p Datblygu ar rôl yr awdurdod cyfrifol, nad yw ond yn rôl weinyddol sy'n cefnogi gwaith y 10 awdurdod lleol, ac sy'n gweithredu fel unig bwynt cyswllt rhwng Llywodraeth Cymru a'r 10 o awdurdodau lleol. Byddai'r gwaith cefndirol, gan gynnwys yr holl waith technegol ac ymgynghori, ee, nodi ffin yr ardal cynllunio strategol, yn cael ei gyflawni drwy waith ar y cyd gan swyddogion o bob un o'r 10 Awdurdod Lleol. Rôl yr Awdurdod Cyfrifol fyddai cyflwyno'r cynnig yn ffurfiol ar ran yr holl ranbarth i Lywodraeth Cymru. 

 

Dywedodd wrth y Cyngor fod y 10 awdurdod unedol wedi bod yn ystyried ffin yr Ardal Cynllunio Strategol, ac a ddylid cynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi nodi ei fod yn cytuno â'r ymagwedd hon, ac nad yw'n dymuno bod yn rhan o'r Ardal Cynllunio Strategol, na chael ei gynnwys yn y CDS.

 

Adroddodd Rheolwr y Gr?p Datblygu ar y Panel Llywodraethu a Chynllunio Strategol. Mae'r model llywodraethu yn cynrychioli proses o drosglwyddo pwerau cynllunio strategol o awdurdodau lleol i Banel Cynllunio Strategol.  Nododd y dylid pwysoli pleidleisiau ar y PCS ar sail maint poblogaeth yr awdurdodau cyfansoddol, ac y dylid rhoi sylw i arwynebedd daearyddol yr awdurdod hefyd. Ni fyddai gan Ben-y-bont ar Ogwr ond 1 aelod ar y PCS, ond byddai gan yr unigolyn hwnnw 2 bleidlais. Byddai angen sicrhau cydbwysedd o ran y rhywiau, gan sicrhau nad yw yr un rhyw i gyfrif am fwy na 60% o'r Panel, ac eithrio mewn sefyllfa lle bo gofynion cyfansoddiad yn amhosibl yn sgil y cyfansoddiad awdurdodau cynllunio lleol cyfansoddol.  Tynnodd sylw hefyd at y broses o ymgysylltu â chynghorau cyfansoddol, hy, y ceir camau ymgynghori ffurfiol yn ychwanegol at ymglymiad anffurfiol parhaus drwy gydol y  broses o baratoi'r CDS.  Roedd hi'n debygol y byddai'r broses yn adlewyrchu'r broses ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol.  Dywedodd y byddai rheolau sefydlog yn mynnu cworwm o 70% o aelodau sy'n pleidleisio ar y Panel, ac y byddai angen pleidlais gan fwyafrif o 70% ar gyfer penderfyniadau mewn cyfarfodydd â chworwm.

 

Adroddodd ar gynnig ar gyfer trefniadau llywodraethu dros dro cyn sefydlu'r PCS, ac y byddai pob Cyngor yn enwebu Aelod, yr Aelod Cabinet perthnasol yn ddelfrydol, i'w gynrychioli ar PCS, gydag awdurdod dirprwyol i wneud penderfyniadau cychwynnol ynghylch paratoi'r CDS.  Amlinellodd gwmpas, cynnwys a chyfnod cynllun y CDS, gan nodi mai 2020-2040 fyddai cyfnod y cynllun.  Amlinellodd yr adnoddau y byddai eu hangen o ran swyddfeydd a chyllid, gan amcangyfrif y byddai paratoi CDS gyda thîm dynodedig yn costio £3.14 miliwn dros 5 mlynedd. Byddai paratoi CDLlau unigol ar draws y rhanbarth rhwng £1.4 miliwn a £2.2 miliwn.  Cynigiwyd rhannu'r gost o baratoi'r CDS ar draws y 10 awdurdod, a'r gost flynyddol i'r Cyngor fyddai £54,636, a chyfanswm y gost i'r Cyngor fyddai £273,180.  Er mwyn symud ymlaen, dywedodd fod yn rhaid i bob un o'r 10 Cyngor gytuno i ddechrau i gychwyn paratoi CDS ar gyfer Prifddinas-ranbarth Caerdydd, sy'n cynnwys dechrau gwaith ar y sylfaen dystiolaeth cyn gynted ag sy'n bosibl, cyhoeddi Strategaeth a Ffafrir yn 2022, Cynllun Adneuo yn 2023 ac Archwilio a Mabwysiadu yn 2024/25.

 

Cwestiynodd aelod o'r Cyngor bwysoliad y pleidleisiau a roddwyd i Sir Fynwy, sef 3 pleidlais, gan mai dyma yw un o'r awdurdodau lleiaf amddifadus, ac un o'r awdurdodau llai poblog.  Dywedodd Rheolwr y Gr?p Datblygu wrth y Cyngor fod Sir Fynwy mewn lleoliad strategol, ac y rhagwelir y ceir pwysau i sicrhau twf yn y sir. Cadarnhaodd yr Arweinydd ei bod hi'n debygol y ceir pwysau sylweddol ar Sir Fynwy i ddatblygu, a nododd y byddai pob awdurdod yn cael ei gynrychioli ar y Panel gan un aelod, gyda gweledigaeth gyffredin ac uchelgeisiol ar gyfer y Rhanbarth.        

 

PENDERFYNWYD:            Bod y Cyngor:

 

(1)  Yn cytuno ar gynnwys yr adroddiad a chytuno y dylid awdurdodi'r Awdurdod Cyfrifol i gyflwyno'r Cynnig am Gynllun Datblygu Strategol ar gyfer Prifddinas-ranbarth Caerdydd i'r Gweinidog ar ran y 10 Awdurdod Cynllunio Lleol yn y rhanbarth.

 

(2)  Yn cytuno mai Cyngor Bro Morgannwg a ddylai fod yn Awdurdod Cyfrifol ar gyfer Cynllun Datblygu Strategol Prifddinas-ranbarth Caerdydd.

 

(3)  Yn cytuno y dylai'r Ardal Cynllunio Strategol gynnwys y 10 ardal Awdurdod Cynllunio Lleol ym Mhrifddinas-ranbarth Caerdydd, fel y dangosir ar y map yn Atodiad A yr adroddiad.

 

(4)  Yn cytuno y dylai swyddogion perthnasol ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i ddrafftio Rheoliadau'r Cynllun Datblygu Strategol, er mwyn sicrhau'r trefniadau llywodraethu a ganlyn ar gyfer y CDS a'r Panel Cynllunio Strategol:

 

(i)             Y bydd y Panel Cynllunio Strategol yn cynnwys 10 Aelod, un o bob Awdurdod Lleol cyfansoddol, ac y dylai pwysoliad y pleidleisiau ar gyfer pob Awdurdod Lleol cyfansoddol fod yn seiliedig ar boblogaeth ac arwynebedd daearyddol yr awdurdod hwnnw, fel a ganlyn:

 

Awdurdod Lleol

Nifer yr Aelodau ar y Panel Cynllunio Strategol

Pwysoliad y Bleidlais ar gyfer yr ALl Cyfansoddol

Blaenau Gwent

1

1

Pen-y-bont ar Ogwr

1

2

Caerffili

1

3

Caerdydd

1

5

Merthyr Tudful

1

1

Sir Fynwy

1

3

Casnewydd

1

2

Rhondda Cynon Taf

1

3

Torfaen

1

1

Bro Morgannwg

1

2

Cyfanswm

10

23

Aelodau Panel Enwebedig heb bleidlais

5

Amh.

 

(ii)            Y bydd y Cynghorau cyfansoddol yn cael eu cynnwys drwy broses ymgynghori flaenorol fel y nodir yn Ffigur 1 a bydd y Panel Cynllunio Strategol yn rhoi sylw llawn i sylwadau'r Cynghorau cyfansoddol;

 

(iii)        Y bydd angen cworwm o 70% o Aelodau a chanddynt bleidlais ar y Panel Cynllunio Strategol ar gyfer penderfyniadau a wneir gan y Panel ynghylch y Cynllun Datblygu Strategol, ac y bydd angen pleidlais gan fwyafrif o 70% mewn cyfarfod cworwm ar gyfer penderfyniadau.

 

(5)  Yn cytuno i sefydlu Panel Cynllunio Strategol Dros Dro cyn sefydlu'r Panel Cynllunio Strategol yn ffurfiol ac mai'r Aelod Cabinet Cymunedau a ddylai gael ei enwebu fel Aelod i gynrychioli'r Cyngor ar y Panel Cynllunio Strategol Dros Dro, ac y dylid rhoi awdurdod dirprwyedig iddo wneud penderfyniadau cychwynnol ynghylch paratoi'r CDS (gyda phleidlais wedi'i phwysoli'n unol â'r tabl yn Argymhelliad 6(i)), ac wedi hynny ar y Panel Cynllunio Strategol.

 

6)    Yn cytuno, os na fydd yr Aelod hwnnw yn gallu eistedd ar y Panel Cynllunio Strategol Dros Dro mwyach, y dylid rhoi pwerau dirprwyedig i'r Prif Weithredwr, ar ôl ymgynghori ag Arweinydd y Cyngor, i enwebu Aelod newydd i gynrychioli'r Cyngor ar y Panel Cynllunio Strategol Dros Dro a'r Panel Cynllunio Strategol.

 

(7) Yn cytuno y dylid sefydlu Tîm Swyddogion Cynllun Datblygu Strategol Rhanbarthol i fynd rhagddo i baratoi'r Cynllun Datblygu Strategol i'w benodi, ac y dylai cynrychiolwyr o'r Panel Cynllunio Strategol Dros Dro benodi aelodau i'r Tîm hwnnw, gyda chefnogaeth adnoddau dynol briodol gan yr Awdurdod Cyfrifol.

 

(8) Yn cytuno y dylid rhannu'r gost o baratoi'r Cynllun Datblygu Strategol ar draws y 10 Awdurdod yn ôl cost gyfrannol, ar sail nifer y pleidleisiau cynrychioliadol ar y Panel Cynllunio Strategol, a adolygir yn flynyddol, ac y dylid talu cyfraniad cychwynnol o £50,005 i dalu'r costau cychwynnol sy'n debygol o gael eu hachosi yn y flwyddyn ariannol hon 2019/20, fel y dangosir uchod, oni cheir cyllid o Ffynonellau Llywodraeth Cymru.      

        

Dogfennau ategol: