Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Newidiadau Arfaethedig i Strwythur Rheoli'r JNC

Cofnodion:

Gofynnodd y Prif Weithredwr am gymeradwyaeth i ddiwygio strwythur yr uwch reolwyr ac i gychwyn ymgynghoriad ffurfiol â swyddogion perthnasol y JNC ynghylch y strwythur a gynigir.

 

Hysbysodd y Cyngor fod strwythur cyflogau a graddfeydd newydd wedi cael ei gymeradwyo ym mis Tachwedd 2017, lle ychwanegwyd haenau ychwanegol at y raddfa gyflogau bresennol, i greu mwy o hyblygrwydd o fewn y strwythur. Gwnaed hyn er mwyn ymateb i heriau'r dyfodol, ac fel bod y Cyngor yn gallu ymateb yn well i rymoedd y farchnad a gwella cyfraddau recriwtio a chadw. Ym mis Chwefror 2018, cymeradwyodd y Cyngor sawl newid i strwythur uwch reoli'r JNC. Roedd hyn yn cynnwys dileu'r Pennaeth Adnoddau Dynol a Datblygu Trefniadol, cael gwared â swydd Pennaeth Gwasanaeth yn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau a dileu swydd flaenorol y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn y Gyfarwyddiaeth Weithredol a Phartneriaethau. Canlyniad y newidiadau oedd diwygio'r strwythur rheoli yn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau a chreu Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr y cafwyd newidiadau pellach i'r uwch dîm rheoli, gydag ymadawiad y Prif Weithredwr blaenorol ym mis Rhagfyr 2018, a phenodiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau blaenorol i swydd y Prif Weithredwr ym mis Ionawr 2019, dros dro i ddechrau ac wedyn yn barhaol ym mis Mai 2019.  Dywedodd fod hyn wedi golygu mai dros dro yn bennaf oedd y trefniadau a gafwyd yn ystod y cyfnod hwn er mwyn rheoli'r Gyfarwyddiaeth Cymunedau ac ar gyfer y Pennaeth Cyllid a Pherfformiad (a Swyddog Adran 151). Drwy'r trefniadau dros dro llwyddwyd i sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i gael eu cynnal yn foddhaol dros y cyfnod hwn, ond roedd hi'n glir nad oedd y trefniadau hynny'n gynaliadwy dros y tymor hir, a bod angen trefniadau parhaol i sicrhau bod gan y Cyngor y capasiti a'r gwytnwch i ymateb i'r heriau niferus o'i flaen yn y dyfodol. Roedd yr heriau hyn yn cynnwys gostyngiadau mawr i'r gyllideb ac agenda o newid sylweddol er mwyn helpu i sicrhau bod modd cynnal gwasanaethau cyhoeddus a'u bod yn addas i'r diben.  Er mwyn sicrhau sefydlogrwydd yn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau, dywedodd wrth y Cyngor y byddai proses yn cael ei chynnal yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 (fel y'u diwygiwyd) i benodi i swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol.

 

Adroddodd am gynnig y dylid ailddynodi swydd gyfredol y Pennaeth Cyllid a Pherfformiad (a swyddog adran 151), sydd yn wag ar hyn o bryd, yn Brif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid.  Byddai deilydd y swydd yn dal i adrodd yn uniongyrchol wrth y Prif Weithredwr yn rhan o Gyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr ac yn ysgwyddo cyfrifoldeb ychwanegol i alinio adnoddau ariannol y Cyngor a'i rhaglen newid corfforaethol. Dywedodd ei bod hi'n ymrwymiad statudol i'r Cyngor enwebu Swyddog Adran 151, a'i bod yn hanfodol penodi unigolyn i'r swydd.  Hysbysodd y Cyngor am y cynnig y dylid defnyddio'r ystod cyflog £91,121 i £97,469 ar gyfer rôl y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid.  Byddai'r rôl yn cynnwys cyfrifoldeb dros y Pennaeth Partneriaethau cyfredol, sy'n cynnwys TG, trawsnewid digidol, rheoli rhaglenni a gwasanaethau cwsmer.

 

Yn dilyn adolygiad o Adnoddau Dynol a Datblygu Trefniadol, adroddodd hefyd am gynnig y dylai'r gwasanaeth hwnnw adrodd wrth y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, ac y dylai'r swydd honno gael ei hailddynodi'n Brif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio. Nid oedd unrhyw newid i raddfa'r swydd hon, a byddai'n parhau i adrodd yn uniongyrchol wrth y Prif Weithredwr yn rhan o Gyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr. Yn unol ag adran 143A o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, mae'n ofynnol i Gynghorau ofyn barn Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ynghylch newidiadau i gyflogau prif swyddogion.  Bydd y Panel hwnnw yn ystyried y cynigion yn ei gyfarfod nesaf ar 25 Hydref 2019.

 

PENDERFYNWYD:           Bod y Cyngor:

 

1)     Yn cymeradwyo'r cynnig i ailddynodi'r Pennaeth Cyllid a Pherfformiad presennol yn Brif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid;

2)     Awdurdodi'r Prif Weithredwr i gychwyn ymgynghoriad ffurfiol â swyddogion JNC perthnasol yng Nghyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr;

Awdurdodi'r Prif Weithredwr i bennu'r strwythur terfynol ac i benodi unigolion i'r strwythur hwnnw yn unol â gweithdrefnau'r Cyngor ar gyfer recriwtio Swyddogion JNC.    

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z