Agenda item

Y Diweddaraf am y Rhaglen Gyfalaf - Chwarter 2 2019-20

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog 151 Dros Dro adroddiad i gydymffurfio â gofyniad Cod Cyllid Cyfalaf Darbodus 2018 y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth; rhoddodd y newyddion diweddaraf am Raglen Gyfalaf 2019-20 ar 30 Medi 2019; gofynnodd am gymeradwyaeth ar gyfer rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer *** yfer 2019-20 hyd 2028-29, ac i'r Cyngor nodi'r Dangosyddion Darbodus a'r Dangosyddion Eraill a ragamcanwyd ar gyfer 2019-20.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog 151 Dros Dro fod Rheoliadau Awdurdod Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003, fel y cawsant eu diwygio, yn cynnwys darpariaethau manwl ar gyfer rheolaethau cyllid cyfalaf a chyfrifyddu, gan gynnwys y rheolau ar ddefnyddio derbyniadau cyfalaf, a'r hyn y dylid ei drin fel gwariant cyfalaf.  Yn ogystal â hynny, mae'r Cyngor yn rheoli ei weithgareddau Rheoli Trysorlys a Chyfalaf yn unol â chanllawiau cysylltiedig.  Yn ôl y Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol mae'n ofynnol i Awdurdodau Lleol sefydlu Strategaeth Gyfalaf sy'n dangos bod yr awdurdod yn gwneud penderfyniadau ynghylch gwario a buddsoddi cyfalaf yn unol ag amcanion gwasanaethau, a'i fod yn rhoi ystyriaeth briodol i stiwardiaeth, sicrhau gwerth am arian, darbodusrwydd, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro fod y Cyngor, ar 20 Chwefror 2019, wedi cymeradwyo rhaglen gyfalaf, a gafodd ei diweddaru ar 24 Gorffennaf 2019.  Dywedodd fod y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2019-20 yn cynnwys cyfanswm o £38.133m. Defnyddir adnoddau'r Cyngor i dalu £18.504m o'r swm hwn, ac adnoddau allanol i dalu'r £19,629 sy'n weddill.  Rhoddodd grynodeb o'r sefyllfa fesul Cyfarwyddiaeth, a'r rhagdybiaethau cyllido cyfredol ar gyfer rhaglen gyfalaf 2019-20.  Rhoddodd fanylion am y gwariant a ragamcanwyd ar gynlluniau unigol o fewn y rhaglen, o gymharu â'r gyllideb a oedd ar gael.  Roedd nifer o gynlluniau wedi'u nodi'n gynlluniau yr oedd angen arian llithriant ar eu cyfer yn y blynyddoedd nesaf. Yn chwarter 2, cyfanswm yr arian llithriant a geisiwyd oedd £18,858 miliwn, yn gysylltiedig â'r canlynol:

 

·       Rhesymoli Depo (£7.802m)

·       Rhaglen Amnewid Fflyd (£1.672m)

·       Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif (£0.543m)

·       Adleoli Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref (£ 1.292m)

·       Cryfhau Pont Briffordd / Ail-wynebu Cerbytffordd (£3.583m)

·       Cronfa Rheoli Asedau Cyfalaf (£0.8m)

·       Strategaeth Arbedion Ynni Landlordiaid Corfforaethol (£0.585m)

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro fod nifer o gynlluniau newydd wedi'u hariannu'n allanol wedi cael eu cymeradwyo, a bod y rheiny wedi'u hymgorffori yn y rhaglen gyfalaf:

 

·       Canolfan Gymunedol - Ysgol Gyfun Brynteg

·       Parc Rhanbarthol y Cymoedd - Bryncarw a Pharc Slip

·       Rhwydwaith Gwres Caerau

·       Grant Ysgogi Economaidd

 

Rydym yn disgwyl cadarnhad ynghylch cyllid allanol ar gyfer nifer o gynlluniau o fewn y rhaglen gyfalaf, ac ar ôl cael gwybod am y cyllid sydd wedi'i gymeradwyo, mae'n bosibl y bydd angen ailbroffilio rhai o'r cynlluniau. 

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro hefyd ar waith monitro Dangosyddion Darbodus a Dangosyddion Eraill ar gyfer 2019-20.  Bwriedir i'r Strategaeth Cyfalaf a gymeradwywyd ym mis Chwefror 2019 roi trosolwg o'r modd y mae gwariant cyfalaf, cyllid cyfalaf a gweithgarwch rheoli trysorlys yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau, a rhoi trosolwg o'r modd y rheolir risg gysylltiedig â'r goblygiadau o ran cynaliadwyedd i'r dyfodol. Cafodd nifer o ddangosyddion darbodus eu cynnwys a'u cymeradwyo gan y Cyngor yn unol â gofynion y Cod Darbodus. Mae'n ofynnol i'r Prif Swyddog Cyllid sefydlu gweithdrefnau i fonitro perfformiad yn erbyn yr holl ddangosyddion darbodus sy'n edrych i'r dyfodol, a'r gofyniad a bennwyd.  Manylodd ar y dangosyddion gwirioneddol ar gyfer 2018-19, y dangosyddion a amcangyfrifwyd ar gyfer 2019-20 a nodwyd yn Strategaeth Cyfalaf y Cyngor, a'r dangosyddion a ragamcanwyd ar gyfer 2019-20 ar sail y Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig, sy'n dangos bod y Cyngor yn gweithredu'n unol â'r terfynau cymeradwy.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro fod y Strategaeth Cyfalaf hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i fonitro buddsoddiadau rheoli nad ydynt yn gysylltiedig â'r trysorlys a rhwymedigaethau eraill hirdymor.  Dywedodd fod gan y Cyngor bortffolio presennol o fuddsoddiadau sydd wedi'i seilio'n llwyr yn y Fwrdeistref Sirol, a hynny'n bennaf yn y sectorau swyddfa a diwydiannol. Caiff ffrydiau incwm eu gwasgaru rhwng buddsoddiadau swyddfa sengl ac aml-osod ym Mharc Gwyddoniaeth Pen-y-bont ar Ogwr, y stadau diwydiannol aml-osod a'r buddsoddiadau rhent tir rhydd-ddaliadol. Cyfanswm gwerth yr Eiddo Buddsoddi oedd £4.635 miliwn ar 31 Mawrth 2019.  Hysbysodd y Cyngor ei fod wedi cymeradwyo £1 miliwn yn flaenorol o fewn y rhaglen gyfalaf i brynu asedau buddsoddi, ac wedi gwario £520,000 i brynu adeilad swyddfa sy'n cynhyrchu incwm rhent o £56,000 y flwyddyn, neu ychydig dros 9% o enillion ar y buddsoddiad.  Mae £480,000 arall ar gael o fewn y rhaglen gyfalaf, ond hyd yma nid ydym wedi canfod unrhyw opsiynau addas yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr a fyddai'n creu enillion rhesymol ar lefel dderbyniol o risg. Dywedodd ei bod hi'n bosibl y byddai'r Cyngor yn dymuno ehangu ei bortffolio o eiddo buddsoddi yn dyfodol, ac os hynny byddai angen iddo adolygu'r meini prawf a'r strategaeth buddsoddi, ond byddai hynny'n cael ei wneud ar sail risg. Hysbysodd y Cyngor fod ganddo nifer o Rwymedigaethau Hirdymor eraill, wedi'u cynnwys yn y Strategaeth Gyfalaf, sef y Fenter Cyllid Preifat; Benthyciad Cwm Llynfi a Benthyciad Salix.

 

Gofynnodd aelod o'r Cyngor pam nad oedd arian yn cael ei wario ar Drosglwyddo Parciau/Pafiliynau/Canolfannau Cymuned fel Asedau Cymunedol. Dywedodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro y byddai'n rhoi gwybodaeth i esbonio am y diffyg gwariant ar Drosglwyddo Parciau/Pafiliynau/Canolfannau Cymuned fel Asedau Cymunedol yn 2019/20

 

Gofynnodd aelod o'r Cyngor pam y bu llithriant yng nghynllun Estyn Mynwent Porthcawl. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai'n rhoi gwybodaeth i esbonio'r llithriant yng nghynllun Estyn Mynwent Porthcawl.

 

Gofynnodd aelod o'r Cyngor a fyddai cyllid ar gyfer Rhwydwaith Gwres Caerau yn cael ei golli yn sgil ymadawiad y DU â'r UE. Dywedodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro fod llythyr cynnig wedi'i dderbyn ac y byddai'r cyllid ar gyfer y cynllun yn cael ei anrhydeddu.

 

PENDERFYNWYD:            Bod y Cyngor:

 

·       yn nodi Rhaglen Gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2019-20 ar gyfer y cyfnod hyd 30 Medi 2019;

·       yn cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig;

yn nodi'r Dangosyddion Darbodus a'r Dangosyddion Eraill ar gyfer 2019-20.

Dogfennau ategol: