Agenda item

Rheoli'r Trysorlys - Adroddiad Hanner Blwyddyn 2019-20

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151 adroddiad. Pwrpas yr adroddiad oedd cydymffurfio â gofyniad Rheoli Trysorlys mewn Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer (y Cod) y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth, sef rhoi trosolwg o weithgareddau trysorlys yn rhan o adolygiad canol blwyddyn. adrodd ar y Dangosyddion Rheoli Trysorlys a ragamcanwyd ar gyfer 2010-20 a gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer gweithgareddau Rheoli Trysorlys yn y cyfnod 1 Ebrill 2019 hyd 30 Medi 2019.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro mai Rheoli Trysorlys yw'r rheolaeth ar lifoedd arian, benthyciadau a buddsoddiadau'r Cyngor, a'r risgiau cysylltiedig.  Mae'r Cyngor yn agored i risgiau ariannol, gan gynnwys colli arian a fuddsoddwyd ac effaith cyfraddau llog newidiol ar refeniw.  Cyflawnir gwaith rheoli risg Trysorlys y Cyngor oddi mewn i fframwaith Rheoli Trysorlys mewn Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer 2017 y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (Cod CIPFA). Yn ôl y Cod mae'n ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Rheoli Trysorlys (SRhT) cyn dechrau pob blwyddyn ariannol.  Mae Arlingclose yn cynghori'r Cyngor ynghylch rheoli trysorlys.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro fod y farn ynghylch cyfraddau llog a gafwyd yn SRhT y Cyngor ar gyfer 2019-20 yn seiliedig ar farn swyddogion, ar sail rhagolygon gan Arlingclose. Pan luniwyd SRhT 2019-20 ym mis Ionawr 2019, oherwydd y cyfnod byr a ragwelwyd i ddod i gytundeb ymadael yn gysylltiedig â Brexit, a'r posibilrwydd o gyfnod estynedig o ansicrwydd yn sgil hynny, senario achos canolog Arlingclose oedd rhagweld 0.25% o gynnydd yng Nghyfradd y Banc yn ystod 2019-20 a fyddai'n codi cyfraddau llog swyddogol y DU i 1.00% erbyn mis Rhagfyr 2019.  Dechreuodd Cyfradd y Banc y flwyddyn ariannol ar 0.75%, ac yn ôl y rhagolygon cyfredol bydd yn parhau ar y lefel hon ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro grynodeb o'r sefyllfa o ran buddsoddiadau a dyledion allanol ar 30 Medi 2019, sef bod y Cyngor yn dal £96.87m o fenthyciadau hirdymor allanol a £43.75m o fuddsoddiadau. Tynnodd sylw at y strategaeth fenthyca a'r alldro a ragfynegai y byddai angen i'r Cyngor fenthyca £16m yn 2019-20.  Ni fyddai angen unrhyw fenthyciadau hirdymor yn 2019-20, gan fod grantiau ychwanegol wedi'u derbyn yn chwarter olaf 2018-19, ac yn sgil newid i'r rhaglen gyfalaf ar gyfer 2019-20.  Rhoddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro grynodeb o'r strategaeth a'r alldro fuddsoddi gan esbonio mai'r prif amcanion yn ystod 2019-20 oedd cadw cyfalaf yn ddiogel; cynnal hylifedd cyllid fel bo modd cael gafael ar gyllid ar gyfer gwariant angenrheidiol, ac er mwyn sicrhau'r enillion ar fuddsoddiadau sy'n gymesur â lefelau diogelwch a hylifedd priodol.  Balans buddsoddiadau ar 30 Medi 2019 oedd £43.75m  Rhoddodd grynodeb o'r proffil buddsoddi o 1 Ebrill hyd 30 Medi 2019; y dangosydd Rheoli Trysorlys ar gyfer Prif Symiau a fuddsoddwyd am gyfnodau hwy na blwyddyn, a sefyllfa buddsoddiadau hirdymor.

 

Gofynnodd aelod o'r Cyngor a roddwyd ystyriaeth i fodelau buddsoddi amgen a ffafrir gan awdurdodau lleol eraill. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro fod nifer o fentrau buddsoddi ar gael, ac mai ystyriaeth gyntaf y Cyngor bob tro fydd diogelu arian cyn sicrhau enillion, ond mae'r Cyngor yn archwilio gwahanol fentrau a modelau.

 

Cwestiynai aelod o'r Cyngor y strategaeth o fenthyca arian i awdurdodau lleol eraill. Dywedodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro fod benthyciadau rhwng awdurdodau lleol yn cael eu cydnabod fel dull diogel o fuddsoddi.

 

PENDERFYNWYD:                  Bod y Cyngor:-

 

(1) Yn cymeradwyo gweithgareddau rheoli'r trysorlys ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2019 hyd 30 Medi 2019;

(2)         Yn nodi'r Dangosyddion Darbodus a Rheoli Trysorlys ar gyfer 2019-20 yn erbyn y rhai a gymeradwywyd yn Strategaeth Rheoli Trysorlys 2019-20.

Dogfennau ategol: