Agenda item

Safle Ymgeisiol Cynllun Datblygu Lleol Newydd Pen-y-bont ar Ogwr (CDLl) -Asesiad Cyfnod 1

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Cynllunio Datblygu adroddiad, a'i ddiben oedd rhoi gwybod i Aelodau (Gr?p Llywio'r CDLl) am Asesiad Cam 1 y Safleoedd Ymgeisiol sydd wedi’i gynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad.  Rhoddodd yr adroddiad rywfaint o wybodaeth gefndirol, ac yn dilyn hynny cadarnhaodd y bu ymgynghoriad anffurfiol ar Fethodoleg Asesu'r Safleoedd Ymgeisiol cyn gofyn i dirfeddianwyr, datblygwyr, a'r cyhoedd enwebu 'safleoedd ymgeisiol' i'w hystyried ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd Pen-y-bont ar Ogwr. Cwblhawyd cam cyntaf yr asesiad ac roedd yn cynnwys ystyriaeth o’r darpar safleoedd a gyflwynwyd i benderfynu a oedd ganddynt y potensial i gefnogi'r Strategaeth a Ffafrir gan y CDLl. Byddai’r cam nesaf (Cyfnod 2) yn cynnwys asesiad manwl pellach o'r safleoedd a oedd yn bodloni asesiad Cyfnod 1. Ar ôl cwblhau Cyfnod 2, roedd y Cyngor yn bwriadu ceisio barn nifer gyfyngedig o gyrff ymgynghori penodol mewn perthynas â'r safleoedd hynny a fydd yn cael eu hystyried yn addas ar gyfer datblygu yn y dyfodol, ynghyd â dyraniad posibl yn y CDLl Adneuol. Yn olaf, caiff rhestr o safleoedd eu nodi i'w cynnwys yn y CDLl Adneuol, gan gydnabod casgliadau Cyfnod 2 a'r sylwadau a gafwyd o Gyfnod 3.

 

Roedd Cyfnod 1 yr Asesiad o'r Safleoedd Ymgeisiol yn gwerthuso, yn fras, y safleoedd o ran eu potensial i gefnogi'r Strategaeth a Ffafrir yn ofodol. Er mwyn cyflawni'r Strategaeth a Ffafrir, cydnabyddir y bydd angen cyfeirio twf yn y dyfodol at y lleoliadau mwyaf priodol a chynaliadwy ar raddfa na fydd yn tanseilio'r Strategaeth Adfywio a Thwf Cynaliadwy.

 

Fel y nodwyd yn yr Asesiad o Setliad 2019, dosbarthwyd Pen-y-bont ar Ogwr fel Prif Anheddiad Allweddol, ynghyd â phum Prif Anheddiad ychwanegol, sef Porth y Cymoedd, Porthcawl, Maesteg, Pencoed, ac anheddiad cyfun Pîl, Kenfig Hill, a Gogledd Corneli. Mae gan bob un o'r chwe aneddiad yma swyddogaeth gref o ran cyflogaeth, gyda chrynhoad o fusnesau’n bresennol ynghyd ag amrywiaeth nodedig o wasanaethau siopa a chymunedol. Fodd bynnag, mae Porth y Cymoedd yn benodol wedi gweld twf sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a cheir problemau o ran capasiti bellach o'r gogledd i'r de wrth Gyffordd 36 yr M4. Bydd mater hwn yn rhwystr sylweddol i botensial yr ardal am unrhyw dwf sylweddol nes y bydd yn cael ei ddatrys. O ganlyniad, y pedwar Prif Anheddiad sy'n weddill, yn ogystal â Phrif Anheddiad Allweddol Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n cael eu hystyried ôl Strategaeth a Ffafrir fel yr amgylcheddau mwyaf cynaliadwy i ddarparu ar gyfer twf yn y dyfodol, ac felly byddent yn parhau i fod yn brif ffocws wrth gynllunio datblygiad yn y dyfodol, a bydd angen i’r math o ddatblygiad a’i raddfa fod yn unol â seilweithiau, economïau, cymeriadau, a chyfyngiadau unigol yr amgylcheddau hynny.

 

Yn olaf, cadarnhaodd Arweinydd y Tîm Cynllunio Datblygu iddynt graffu ar y Safleoedd Ymgeisiol ar sail y ddau gwestiwn a fanylir ym mharagraff 4.4 yr adroddiad, a hynny er mwyn asesu pa mor gydnaws ydynt â'r Strategaeth a Ffafrir. Ar ôl ystyried hyn, cafodd pob Safle Ymgeisiol a ystyriwyd fel rhai sy’n bodloni Cyfnod 1 yr asesiad ymlaen i Gyfnod 2. Mae’r Safleoedd a fethodd yng Nghyfnod 1 yr asesiad wedi’u nodi yn yr Adroddiad Asesu Safleoedd Ymgeisiol (h.y. Atodiad 1 i'r adroddiad eglurhaol).

 

 PENDERFYNWYD:              Bod y Pwyllgor, yn rhinwedd ei swydd fel gr?p llywio'r LDP wedi nodi cynnwys Asesiad Cyfnod 1 y Safleoedd Ymgeisiol.

 

Dogfennau ategol: