Agenda item

Adolygiad o Ddarpariaeth Addysg Ôl-16 ar draws Adroddiad Cam 4 Pen-y-bont ar Ogwr

Gwahoddedigion:

 

Lindsay Harvey, Cyfarwyddwr CorfforaetholAddysg a Chymorth i Deuluoedd

Cyng Charles Smith, Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

Nicola Echanis, Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar

Andy Rothwell, Uwch Ymgynghorydd Her, Consortiwm Canolbarth y De

Andrew Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr Cynorthwyol Consortiwm Canolbarth y De

Megan Lambert, Maer Ieuenctid

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Megan Lambert, Maer yr Ieuenctid, i'r cyfarfod.

 

Gwnaeth y Swyddog Arbenigol: Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 gyflwyno adroddiad yn hysbysu'r pwyllgor o'r cynnydd oedd wedi'i wneud ar y cynigion ar gyfer darpariaeth ôl-16 (Cam 4), a gofynnodd iddynt ystyried y papur ymgynghori drafft cyn i'r mater gael ei roi gerbron y Cabinet am benderfyniad. Amlinellodd gefndir yr adolygiad a sut roedd y Cabinet wedi cymeradwyo tri opsiwn o'r chwe chysyniad gwreiddiol i'w dadansoddi ymhellach.  

 

Eglurodd y Swyddog Arbenigol: Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 gryfderau a gwendidau'r opsiynau amrywiol yn fanwl a'r sbardunau allweddol ar gyfer darpariaeth chweched dosbarth effeithiol. Amlinellodd y materion o ran y cynllun datblygu lleol cyfredol a'r cynllun datblygu lleol newydd a fyddai'n ymdrin â'r cyfnod rhwng 2021-2033. 

 

Gwahoddwyd aelodau i ofyn cwestiynau ar yr opsiynau unigol.

 

 

Opsiwn 1

 

Gofynnodd aelod pe bai dwy ysgol yn uno, a fyddai'r disgyblion o'r ysgolion hynny yn cael blaenoriaeth dros ddisgyblion o ysgolion eraill wrth bennu lleoedd chweched dosbarth? Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd nad oedd y trefniadau derbyn wedi'u pennu eto, ond rhagwelwyd y byddent yn rhoi blaenoriaeth i ddysgwyr o'r ysgolion hynny yn gyntaf, ond bod angen iddynt ystyried y ddeddfwriaeth. Ychwanegodd y Swyddog Arbenigol: Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 y byddai'n disgwyl i hyn gael sylw pan fyddai'r meini prawf derbyn yn cael eu hail-ddrafftio.

 

Gofynnodd un aelod sut byddai'r cydbwysedd rhwng arbenigeddau academaidd a galwedigaethol yn cael sylw mewn canolfannau chweched dosbarth. Eglurodd y Swyddog Arbenigol: Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 fod yn rhaid i bump o'r 30 o bynciau lefel 3 fod yn alwedigaethol, ond hoffent weld mwy o gymysgedd a chyffelybiaeth. Roedd pynciau newydd ar gael drwy sesiynau fin nos yng Ngholeg Penybont, a gyda lleoliadau mwy o faint gallent ddarparu mwy o opsiynau. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd y gallai fod cynnydd mewn costau cludiant ysgol a bod ymgynghoriad yn cael ei gynnal ynghylch Trafnidiaeth Ôl-16 ar hyn o bryd a bod gorgyffwrdd rhwng y ddau fater.

 

Gwnaeth un aelod gyfeirio at drafnidiaeth, canlyniad yr Ymgynghoriad Trafnidiaeth Ôl-16 ac amser teithio derbyniol. Cydnabu'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd y byddai rhai grwpiau o ddysgwyr yn ei chael hi'n anodd pe bai trafnidiaeth yn cael ei dynnu ymaith. Ychwanegodd eu bod yn ceisio cyfyngu amserau teithio i lai na 40 munud.

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio y byddai e-ddysgu yn chwarae rhan fawr mewn cynlluniau yn y dyfodol. Nododd aelod ei fod yn croesawu e-ddysgu ac ni allai ddeall pam fyddai teithio'n broblem pe gallai myfyriwr gymryd rhan mewn darlith o'i gartref ei hun. Nododd y Swyddog Arbenigol: Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 fod gwaith eisoes ar droed i gyflwyno prosiect mathemateg ar-lein a bod angen iddynt ystyried modelau a oedd wedi'u mabwysiadu'n llwyddiannus. 

 

Gofynnodd un aelod wrth Faer yr Ieuenctid a oedd yn credu mai dysgu cyfunol oedd y ffordd ymlaen. Atebodd nad oedd modd meithrin y gydberthynas yr oedd ganddi ag athrawon ar-lein ac roedd hyn wedi ei galluogi i wneud yn dda iawn. Roedd hefyd yn dibynnu ar y pwnc ac, ar brydiau, roedd myfyrwyr yn elwa ar drafodaeth a dadlau wyneb yn wyneb.

 

Cyfeiriodd aelod at y system TG a dywedodd nad oedd o safon ddigonol mewn llawer o ysgolion ar gyfer dysgu cyfunol. Gwnaeth y Swyddog Arbenigol: Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 gydnabod hyn a dywedodd fod myfyrwyr â mynediad i'r deunyddiau a'r adnoddau 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos yn ennill gradd gyfan yn uwch na'u cyd-fyfyrwyr. Eglurodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod angen cymaint o gydweithio â phosibl i gynnwys amserlennu cyffredin, buddsoddi mewn technoleg, staff a dulliau addysgu newydd.

 

Gofynnodd aelod a fyddai myfyrwyr yn parhau i gael cyfle i gynrychioli eu canolfan chweched dosbarth neu ysgol mewn chwaraeon. Gofynnodd hefyd a oedd angen ystyried goblygiadau'r 7000 o gartrefi newydd yn Rhondda Cynon Taf.  Eglurodd y Swyddog Arbenigol: Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 fod diffyg chwaraeon wedi'i nodi fel problem, a disgwyliwyd i hyn gael sylw mewn unrhyw fodelau yn y dyfodol. Eglurodd wedyn nad oedd yr hyn a nodwyd yn y Cynllun Datblygu Lleol bob amser yn trosglwyddo i mewn i dai. Roedd hwn yn fater cymhleth ac roeddent yn gweithio'n agos gyda'r awdurdodau cynllunio a'r awdurdodau cyfagos i fynd i'r afael â'r pryderon hyn.  

 

Gwnaeth aelod herio cywirdeb y data. Dywedodd ei fod wedi trafod y mater gyda'r pennaeth a bod ychydig o ddryswch ynghylch y data. Eglurodd y Swyddog Arbenigol: Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 eu bod yn defnyddio fformiwlâu penodol i greu'r data sy'n seiliedig ar yr wybodaeth fwyaf diweddar sydd ar gael.

 

Gofynnodd aelod sut byddai symud y chweched dosbarth allan o Ysgol Gyfun Bryntirion yn lleihau'r problemau ac ychwanegodd ei fod yn credu mai dalgylchoedd oedd rhan o'r broblem. Eglurodd y Swyddog Arbenigol: Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 mai'r broblem oedd gor-gapasiti, gyda datblygiadau newydd yn gwneud y broblem yn waeth. Roedd yn rhaid iddynt allu sicrhau niferoedd digonol cyn adeiladu ysgol newydd. Drwy gymryd y chweched dosbarth ymaith, gallent ryddhau'r capasiti ar gyfer disgyblion rhwng 11 ac 16 oed yn yr ysgol.

 

Opsiwn 2

 

Gofynnodd aelod i Faer yr Ieuenctid beth oedd ei barn hi ar y cynnig ar gyfer canol y dref. Atebodd y gallai fod yn fuddiol cael cysylltiadau trafnidiaeth gwell, ond gallai'r gwrthdaro rhwng myfyrwyr o wahanol gefndiroedd effeithio ar y canlyniadau.

 

Trafododd aelodau ganlyniad posibl yr ymgynghoriad trafnidiaeth, y posibilrwydd o gael gwared ar y disgownt ac opsiynau eraill, gan gynnwys darparu tocyn trafnidiaeth. Roedd aelod yn poeni mai'r neges a oedd yn cael ei chyfleu i ddarpar fyfyrwyr yn y cymoedd oedd ei fod yn cymryd pedwar bws i gyrraedd y dref, felly peidiwch â ffwdanu. Atebodd y Swyddog Arbenigol: Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 fod trafodaethau dwys wedi'u cynnal â rhieni a bod parodrwydd i deithio. Nid oedd mwy na 50% o blant 16 oed yn aros yn yr ysgol ac roedd llawer yn teithio i Goleg Penybont gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Roedd yn bwysig lleihau nifer y cysylltiadau lle bynnag y bo'n bosibl. Atebodd yr aelod fod Coleg Penybont yng nghanol y dref ac yn haws ei gyrraedd na Phencoed.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd eu bod yn ystyried nifer o opsiynau ar gyfer Maesteg a'u bod yn awyddus i gael barn dinasyddion ar y modelau amrywiol cyn bwydo'n ôl i'r Cabinet.       

 

Ychwanegodd aelod y gallai llawer o fyfyrwyr chweched dosbarth yrru a bod ganddyn nhw fynediad at geir, a dylid ystyried hyn, yn enwedig wrth edrych ar safleoedd yng nghanol y dref. 

 

Opsiwn 3

 

Esboniodd Maer yr Ieuenctid fod yn rhaid ystyried pwysigrwydd cael eich addysgu yn eich ysgol eich hun ochr yn ochr â dewis ehangach o bynciau. Roedd gwybodaeth am yr ysgol, yr ardal, yr athrawon a'r diwylliant yn gwella profiad disgyblion chweched dosbarth. Darparai’r parth fin nos fwy o opsiynau a'r cyfle i weithio gyda’r nos, a oedd yn fwy addas i rai myfyrwyr. Hwn oedd ei hoff opsiwn.

 

Cododd aelod y mater o adnoddau'n cael eu rhannu mewn modd teg yn hytrach na modd mwy ynysig. Eglurodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio ei fod yn agored iawn i gydweithredu ac yn agored i awgrymiadau ynghylch gwahanol opsiynau hyfforddi. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd at yr ?yl Ddysgu a oedd yn hwyluso mwy na 1500 o brofiadau i athrawon a disgyblion am lai na £10,000. Byddai digwyddiad tebyg y flwyddyn hon a'r flwyddyn nesaf.

 

Gofynnodd aelod a oedd cynllun ar waith i leihau'r risgiau gydag unrhyw un o'r opsiynau hyn. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd mai'r prif bryder oedd perfformiad. Yn dilyn arolwg diweddar Estyn, roedd cynllun wedi'i ddatblygu a deilliannau ôl-16 oedd un o'r argymhellion.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd eu bod wedi siarad â phenaethiaid a rhanddeiliaid amrywiol a'r teimlad cyffredinol oedd y byddai'r sefyllfa bresennol, drwy ei datblygu ymhellach i wella'r gwaith o gyflwyno'r opsiwn hwn, yn rhoi'r cyfle i bob ysgol gadw rhywbeth o ryw fath. Byddai'n dibynnu ar fuddsoddiad enfawr mewn technoleg ac addysgu er mwyn cyflawni dysgu cyfunol, a byddai'n croesawu unrhyw adborth.

 

Casgliadau

Opsiwn 1

  • Argymhellodd aelodau pe bai'r opsiwn hwn yn cael ei ddatblygu, dylid adolygu a hyrwyddo hyfforddiant galwedigaethol er mwyn cael gwared â'r stigma ynghylch y llwybr hwn
  • Argymhellodd yr aelodau fod astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei chynnal ar drafnidiaeth cyn i'r adroddiad fynd yn ôl i'r Cabinet, gydag argymhellion yn y Gwanwyn i ddeall effaith lawn costau'r opsiwn hwn ar y dysgwr
  • Argymhellodd yr aelodau pe bai'r opsiwn hwn yn cael ei ddatblygu, y dylid edrych ar y defnydd o E-ddysgu a dysgu cyfunol rhyngweithiol i weld a allai hwn fod yn opsiwn posibl i gefnogi dysgwyr yn ogystal â'u cael i fynychu sesiynau dysgu yn yr ystafell ddosbarth
  • Dylid cynnal adolygiad o'r dalgylchoedd lle mae datblygiadau tai newydd er mwyn lleihau'r pwysau ar ysgolion sydd eisoes yn llawn

Opsiwn 2

  • Roedd aelodau'n pryderu ynghylch y trefniadau trafnidiaeth ar gyfer cludo myfyrwyr yn ôl ac ymlaen o ganolfannau gwahanol
  • Mynegodd aelodau bryder y byddai trefniadau AB Canol y Dref yn mynd â chyfleoedd addysg oddi ar ardaloedd y cymoedd ac yn ei gwneud hi'n anodd i ddysgwyr o'r ardaloedd hyn fynychu canol y dref ar gyfer eu dosbarthiadau.  Roedd aelodau'n poeni y byddai dysgwyr o'r ardaloedd hyn yn cael eu rhwystro rhag mynychu addysg ôl-16 pe bai nhw'n cael eu crynhoi yn yr ardaloedd hyn, oherwydd mae'n bosibl y byddai'n rhaid iddynt ddal nifer o fysiau, yn gynnar yn y bore ac am gost uchel.
  • Argymhellodd aelodau pe bai'r opsiwn hwn yn cael ei ddatblygu y byddai angen edrych ar y seilwaith trafnidiaeth o amgylch canol y dref, oherwydd bod posibilrwydd y byddai cynnydd mawr mewn bysiau a cheir yn crynhoi yn yr ardaloedd hynny, a phroblemau parcio posibl hefyd

Opsiwn 3

  • Argymhellodd aelodau o'r SOSC1 mai hwn oedd eu hoff opsiwn, oherwydd gellid adolygu'r trefniadau a gellid bwrw ymlaen â ffordd o weithio fwy cyfunol.
  • Awgrymodd aelodau y byddai'r opsiwn hwn yn galluogi adnoddau i gael eu defnyddio'n fwy cyfunol hefyd, a phe bai ysgolion a chanolfannau AB yn gweithio gyda'i gilydd i gynllunio diwrnodau hyfforddiant mewn swydd ar yr un diwrnodau, gellid hyfforddi a datblygu athrawon mewn dull cyfunol hefyd.
  • Argymhellodd aelodau pe bai'r opsiwn hwn yn cael ei ddatblygu, byddai'n well ganddynt weld cyfuniad o leoliadau galwedigaethol ac academaidd fel bod gan ddysgwyr mwy o ddewis a'u bod yn cael eu trin fel unigolion. 

Pan fyddai'r ymgynghoriad yn cael ei gynnal, argymhellodd yr aelodau hefyd y dylid anfon yr ymgynghoriad i BOB ysgol gynradd gymryd rhan ynddo.

Dogfennau ategol: