Agenda item

Galw i Mewn Penderfyniad y Cabinet: Meysydd Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau Parciau

Gwahoddwyr:

 

Mark Shephard – PrifWeithredwr

Huw David – Arweinydd

Hywel Williams – DirprwyArweinydd

Richard Young – Aelod Cabinet – Cymunedau

Zak Shell – Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol

Guy Smith – Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Kevin Mulcahy – Rheolwr Gr?p - Priffyrdd a Mannau Gwyrdd

Cofnodion:

 

Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod a chroesawu pawb a oedd yn bresennol. Diolchodd i'r holl siaradwyr cyhoeddus am fod yn bresennol ac am geisio cyfrannu at y drafodaeth ar yr eitem bwysig hon.

 

Dywedodd y cafwyd rhywfaint o feirniadaeth gan fod y cyfarfod yn cael ei gynnal mor gynnar yn y dydd, yn hytrach nag yn y prynhawn, hy tua 5.00pm neu ar ôl hynny wedi i bobl orffen gwaith. Fodd bynnag, dywedodd fod hynny'n anodd gan fod y Cyngor yn cau ei swyddfeydd am 6.30pm.

 

Yn olaf, cadarnhaodd y byddai'r siaradwyr cyhoeddus yn camu i lawr o'r ddarllenfa ond yn aros yn y cyfarfod ar ôl rhoi eu cyflwyniadau, er mwyn gallu arsylwi'r drafodaeth. Bryd hynny, ni fyddent yn cael gofyn cwestiynau i'r Gwahoddedigion nac ymyrryd yn y drafodaeth honno. 

 

Dywedodd y Swyddog Cyfreithiol fod nifer o Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi llofnodi ffurflen briodol er mwyn galw'r penderfyniad a wnaed gan y Cabinet yn ei gyfarfod diwethaf i mewn. Roedd a wnelo'r penderfyniad hwnnw â chymorth yn y dyfodol ar gyfer Caeau Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau mewn Parciau. Yn nhermau hyn, ailbwysleisiodd fod angen i'r Aelodau hynny fod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw gyda meddwl agored, ac mai hwy oedd piau penderfynu a oedd maint y buddiant yr oeddent wedi'i ddangos yn yr eitem hon yn golygu eu bod wedi penderfynu ymlaen llaw ynghylch y mater ai peidio.

 

Os oeddent wedi penderfynu ymlaen llaw ynghylch y mater, dylent ddatgan buddiant sy'n rhagfarnu a gadael y cyfarfod. Ar y llaw arall, os oeddent yn teimlo nad oeddent wedi dod i benderfyniad ymlaen llaw, gallent datgan buddiant personol (os oeddent yn dymuno, gan mai'r Aelodau a oedd i fod i benderfynu'n derfynol ynghylch hyn), ac aros yn y cyfarfod a chymryd rhan yn y drafodaeth gyffredinol, gan gynnwys gofyn cwestiynau i'r Gwahoddedigion.

 

Dywedodd yr Aelod a oedd wedi sbarduno'r cais i alw'r penderfyniad i mewn fod ganddo feddwl agored ynghylch cynigion y Cabinet a'r adroddiad a gyflwynwyd gerbron yr Aelodau, er ei fod wedi mabwysiadu agwedd wrthrychol ynghylch penderfyniad y Cabinet. Sicrhaodd y rhai a oedd yn bresennol, fodd bynnag, nad oedd wedi penderfynu ymlaen llaw ynghylch y mater hwn er gwaethaf yr hyn a ddywedwyd yn y cyfryngau cymdeithasol, hy, ei fod yn gwrthwynebu cynigion y Cabinet.

 

Wedyn gofynnodd y Cadeirydd i'r siaradwyr cyhoeddus annerch y Pwyllgor yn eu tro, drwy ofyn am eu sylwadau, eu safbwyntiau a'u rhesymau dros wrthwynebu penderfyniad y Cabinet (a wnaed yn ei gyfarfod ar 22 Hydref 2019).

 

Roedd rhai safbwyntiau a rhesymau dros wrthwynebu'r penderfyniad hefyd wedi dod i law mewn ysgrifen, a darllenodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y rhain yn uchel ar ôl i'r siaradwyr cyhoeddus roi eu cyflwyniadau.

 

Dyma restr y siaradwyr cyhoeddus ynghyd â'r rhai a gyflwynodd safbwyntiau/gwrthwynebiad mewn ysgrifen:-

 

            Enw                                         Clwb

 

 

1.         Terry Boast                       Clwb Rygbi a Phêl Droed Nantyffyllon

 

2.         Richard Edwards              Clwb Pêl Droed Tref Pen-y-bont

 

3.         John Sawyer                     Clwb Rygbi a Phêl Droed Chwaraeon Pen-y-bont

 

4.         Jamie Wallis                     Anhysbys

 

5.         Richard Walters                Cynghrair Pêl Droed Rhanbarth Pen-y-bont ar Ogwr

 

6          Stephen Davies                  Cadeirydd, Clwb Rygbi a Phêl Droed Pencoed

                          

7.         Graham Thomas                Clwb Rygbi a Phêl Droed Tondu

 

8.         Rhys Jones                         Clwb Rygbi a Phêl Droed Pen-y-bont Athletig

 

9.         Alun Bunston                      Clwb Criced Tref Pen-y-bont

 

10.       Darren Ward                      Clwb Pêl Droed Iau Bracla

 

11.       Dr. Richard Lewis              Clwb Rygbi a Phêl Droed Maesteg Harlequins

 

12.       Paul White                         Cadeirydd, Clwb Bowlio Wyndham

 

13.       Michelle Mitchell               Clwb Pêl Droed Tref Porthcawl

 

14.       Ian Brunt                           Clwb Pêl Droed H?n Bracla

 

15.       Keely Svikeris                   Anhysbys

 

16.      Cadeirydd                          Clwb Rygbi a Phêl Droed Plant Bach/Iau Bryn Cynffig

    

17.       Andrew Jones                   Clwb Pêl Droed Parc Maesteg

 

18.      Matthew Symonds             Clwb Rygbi a Phêl Droed Heol Y Cyw

 

19.       Y Cyng. Keith Edwards          Cynghorydd Bwrdeistref Sirol

 

20.       Y Cyng. Amanda Williams      Cynghorydd Bwrdeistref Sirol

 

21.       Y Cyng. Tim Thomas              Cynghorydd Bwrdeistref Sirol

 

22.       Y Cyng. Carolyn Webster       Cynghorydd Bwrdeistref Sirol

 

23.       Y Cyng. Ross Penhale-Thomas   Cynghorydd Bwrdeistref Sirol

 

24.       Y Cyng. Alex Williams             Cynghorydd Bwrdeistref Sirol

 

Roedd y sylwadau, y gwrthwynebiadau a'r safbwyntiau a fynegwyd yn trafod y themâu a'r materion a ganlyn:-

 

·         Bydd y gostyngiad mewn cymorthdaliadau yn costio £900k i'n Clwb, ac ni fyddwn yn gallu parhau.

·         Mae hyn yn golygu trosglwyddo 'Cwpan Gofidiau' i'r Clybiau.

·         Bydd costau cynnal y cyfleusterau yn rhy uchel i'w hariannu gan Glybiau/Cymdeithasau, ac mae rhai o'r cyfleusterau hynny eisoes mewn cyflwr gwael.

·         Bydd y cynigion yn creu problemau o ran Yswiriant ac Atebolrwydd Cyhoeddus

·         Yn y pen draw bydd rhai Clybiau yn chwarae gemau i ffwrdd yn unig gan na fydd ganddynt gyfleusterau i chwarae gartref

·         Bydd y gostyngiad mewn cymhorthdal gan y Cyngor yn golygu bod costau'n cynyddu hyd at uchafswm o 500%, o gymharu a'r costau y mae'n rhaid i Glybiau/Cymdeithasau eu hysgwyddo ar hyn o bryd. I un Clwb, byddai hyn yn golygu cynnydd o £2,600 i £15,000 fesul tymor.

·         Byddai'n rhaid dibynnu ar ewyllys da a charedigrwydd eraill fel busnesau lleol er mwyn helpu i dalu'r cynnydd hwnnw mewn costau.

·         Mae CBS Rhondda Cynon Taf wedi parhau i gefnogi Clybiau a Chymdeithasau drwy roi cymhorthdal ar gyfer ffioedd llogi Caeau Chwaraeon, Pafiliynau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau mewn Parciau. Pam na all CBSPO wneud hynny hefyd?

·         Mae'r cynigion yn cynrychioli'r dewis anghywir, ac mae hyn wedi'i adlewyrchu yn lefel y gwrthwynebiad iddynt o du'r cyhoedd

·         Os bydd y cymhorthdal yn cael ei golli, ni fydd llawer o Glybiau yn gallu gweithredu mwyach.

·         Ceir digon o gymariaethau lle caiff y cynigion eu 'meincnodi' yn erbyn yr hyn y mae awdurdodau eraill yn ei wneud.

·         Os oes bwriad i ostwng y cymhorthdal, dylid gwneud hynny'n fwy graddol ac fesul cam dros amryw o flynyddoedd, yn hytrach na'i ostwng yn syth.

·         Nid yw'r costau'n gysylltiedig â llogi cyfleusterau yn unig. Mae'n rhaid i glybiau hefyd dalu am ddyfarnwyr, peli ar gyfer gemau, cit i'r tîm ac ati. O'r 27 o dimau pêl droed a geir ym Mhen-y-bont ar Ogwr, dim ond ambell un fydd yn goroesi os bydd y cymhorthdal yn cael ei ostwng i'r lefel a gynigir.

·         Mae'r cynigion yn groes i flaenoriaethau craidd Llywodraeth Cymru. 'Cymryd rhan mewn chwaraeon ac mewn gweithgareddau hamdden a diwylliannol' a'i rhaglen Pwysau Iach: Cymru Iach'.

·         Mae 1,000oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn y Fwrdeistref Sirol, ond bydd y cynigion yn gostwng hyn i ychydig gannoedd.

·         Bydd y gostyngiad mewn cymhorthdal yn groes i un o ymrwymiadau craidd y Cyngor, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

·         Mae angen mwy o ymgysylltu rhwng swyddogion y Cyngor a chynrychiolwyr yr holl Glybiau a Chymdeithasau y bydd y newid yn effeithio arnynt.

·         Drwy golli chwaraeon bydd y genhedlaeth iau yn colli'r cyfle i gael cychwyn da i'w bywyd.

·         Bydd y cynigion yn gwrthannog y cynnydd a wnaed hyd yma o ran cael merched i gymryd rhan mewn chwaraeon, er enghraifft, pêl droed, rygbi a chriced.

·         Dros dymor, sef cyfnod o 8 mis, ceir cynnydd o £30k i'r gost o ddyrannu 3 chae yr wythnos ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy'n llawer rhy uchel.

·         Mae annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a hamdden yn annog iechyd meddwl da, yn trechu gordewdra, yn lleihau trosedd ac achosion o atal o'r ysgol a chamddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon.

·         Bydd cynigion yn peryglu'r boblogaeth, y gymuned a'r manteision ariannol hirdymor y mae CBSPO yn ceisio eu sicrhau.

·         Mae'r broses ar gyfer Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn ymddangos yn ddiffygiol, ac er bod £1 miliwn wedi'i neilltuo i helpu Clybiau fel cymorth ariannol ar gyfer asedau, mae hyn yn llawer llai na'r £3.5 miliwn sydd ei angen ar gyfer hynny. Mae'r gronfa hon hefyd wedi targedu arian at gynnal adeiladau, ond beth am gynnal caeau chwarae hefyd?

·         Bydd y gostyngiad mewn chwaraeon yn groes i'r twf ym mhoblogaeth BSPO, a welir yn y nifer sylweddol o dai newydd sy'n cael eu datblygu, ac sydd wedi cael eu datblygu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, nad oes seilwaith digonol i'w cefnogi.

·         Bydd unrhyw drosiant ariannol gan y Clybiau, ee drwy godi tâl wrth y giât a thrwy enillion y bar ymhell o fod yn ddigon i dalu'r costau y mae'n rhaid i'r Clybiau eu talu er mwyn cynnal cyfleusterau chwaraeon.

·         Nid yw codi tâl llawn o fis Medi 2020 yn rhoi llawer o amser i Glybiau a Chymdeithasau gynhyrchu incwm a gallu fforddio cymryd drosodd gweithrediad a gwaith cynnal a chadw asedau'r Cyngor.

·         Bydd chwaraeon yn dod â chymunedau lleol ynghyd

·         Dylai'r Cyngor a'i bartneriaid ailedrych ar ei holl Strategaeth ar gyfer Chwaraeon a Hamdden.

·         Mae cynigion y Cabinet yn groes i ddamcaniaeth Maslow ynghylch pum haen anghenion dynol, sef anghenion ffisiolegol, anghenion diogelwch, anghenion cariad a pherthyn, anghenion hunan-barch ac anghenion hunanwireddu.

·         Mae chwaraeon yn helpu unigolion nad ydynt yn academaidd, gan hyrwyddo'r ymdeimlad eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

·         Wrth greu cyfeillgarwch drwy chwaraeon yn helpu pobl sy'n teimlo wedi'u hynysu, yn gwneud iddynt deimlo'n ddisgybledig ac yn meithrin ysbryd cymunedol.

·         Cyfrannwyd £3 miliwn o Gronfeydd y Cyngor i adfywio harbwr Porthcawl er mwyn gwella cyfleusterau hwylio. Pam na ellir neilltuo swm tebyg er mwyn parhau i ddarparu cymhorthdal ar gyfer cyfleusterau Chwaraeon.

·         Mae fy 3 phlentyn yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Byddai cael gwared â'r cymhorthdal yn golygu y byddaf y wynebu cynnydd blynyddol o £750 i £3,750. Mae cynnydd o'r fath yn afresymol, ac nid yw'n fforddiadwy

·         Byddai'r cynnydd arfaethedig yn ormod i deuluoedd ar incwm isel a byddai eu plant felly o dan anfantais ac yn methu cymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden cystadleuol, o gymharu â'u teuluoedd mwy cyfoethog.

·         Faint fydd wedi'i neilltuo yn y Gronfa Ymddiriedaeth a gynigiwyd i gefnogi Clybiau i blant bach ayyb, a gefnogir i raddau helaeth gan wirfoddolwyr, ac a yw hyn yn cynnwys cymorth i'r henoed a grwpiau dan anfantais hefyd?

·         A allai rhai o'r cyrff Llywodraethu Chwaraeon roi cymorth ariannol i'r Cyngor, er enghraifft Undeb Rygbi Cymru a'r Gymdeithas Pêl Droed er mwyn lleihau'r effaith ariannol ar Glybiau/Cymdeithasau.

·         Dylid rhannu rhai opsiynau eraill â'r holl Aelodau (hy, drwy'r Cyngor) cyn i'r Cabinet wneud unrhyw benderfyniadau pellach neu derfynol.

 

Agorodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau y drafodaeth ar ôl i'r Pwyllgor glywed yr holl siaradwyr cyhoeddus, a dechreuodd drwy ddweud ei fod yn cydymdeimlo'n arw â rhai o'r materion a rannwyd â'r Aelodau/Gwahoddedigion yng nghyfarfod heddiw.

 

Yr oedd yn cydnabod gwerth chwaraeon yn llwyr, a'r budd yr oedd hynny'n ei greu yn y Fwrdeistref Sirol, yn enwedig i'r genhedlaeth iau fel gweithgaredd pleserus a chwa o awyr iach o gymharu ag astudio yn yr ysgol neu'r coleg. Roedd un yn teimlo bod meithrin tîm o gymorth iddo mewn agweddau eraill ar ei fywyd.

 

Nid oedd yn anghytuno â rhai o'r pwyntiau a godwyd gan y siaradwyr heddiw, ond atgoffodd y rhai a oedd yn bresennol fod yr awdurdod lleol wedi dioddef 10 mlynedd o galedi a oedd wedi arwain at doriadau cyllidebol nas gwelwyd mo'u tebyg o'r blaen. Yn anochel roedd hynny'n golygu ei fod yn gorfod cwtogi lefel y gwasanaethau yr oedd yn eu darparu'n flaenorol, oherwydd prinder adnoddau. 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau fod CBSPO wedi arbed £36 miliwn yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, a bod angen iddo sicrhau £34 miliwn pellach yn y 4 blynedd nesaf. Roedd angen iddo sicrhau'r lefel hon o arbedion er mwyn sicrhau bod ei gyllideb yn gytbwys o'r naill flwyddyn i'r nesaf, a hynny yn ystod y dirwasgiad.

 

Roedd y toriadau wedi effeithio ar bob rhan o'r Cyngor, gan gynnwys gwasanaethau statudol a oedd yn cael eu darparu yn gysylltiedig â Gwasanaethau Cymdeithasol Plant ac Oedolion. Roedd y meysydd gwasanaeth hyn yn arbennig o bwysig, am eu bod yn wasanaethau a oedd yn cefnogi'r rhai sy'n fwyaf agored i niwed, hy, cadw'r gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc a'r henoed yn unol â'r lefelau gofynnol, oherwydd y gallai'r unigolion hynny fod mewn perygl o beidio gwneud hynny. Ychwanegodd ei bod hi'n ddyletswydd ar awdurdodau lleol warchod yr elfennau hyn mewn cymdeithas.

 

Gan hynny, er mwyn peidio amharu ar lefelau'r cymorth ar gyfer y gwasanaethau allweddol uchod, roedd y Gyfarwyddiaeth Cymunedau, a oedd yn darparu gwasanaethau anstatudol yn bennaf, hefyd wedi wynebu toriadau sylweddol i'w chyllideb, ac yr oedd yn cydnabod bod y toriadau hynny'n doriadau nas gwelwyd mo'u tebyg o'r blaen.

 

Yn wyneb toriadau parhaus, roedd y Cyngor hefyd yn gorfod gwneud penderfyniadau mwyfwy anodd, a hynny ar lefel a oed dyn dechrau cael effaith ar etholwyr. Yr oedd am sicrhau pawb, er hynny, nad oedd y Cyngor yn dymuno gwneud rhai o'r penderfyniadau hyn, ond mai'r ffaith oedd nad oedd ganddo ddewis arall, oherwydd ni allai ddarparu'r gwasanaethau ar lefel yr oedd wedi'u darparu o'r blaen wrth i setliadau ostwng yn barhaus o'r naill flwyddyn i'r nesaf.

 

O ran cynnal asedau fel y Pafiliynau Chwaraeon Awyr Agored, Pafiliynau mewn Parciau a Chaeau Chwarae yn y dyfodol, roedd yn rhaid i'r Cyngor geisio cydweithio â rhanddeiliaid fel Clybiau a Sefydliadau fel defnyddwyr neu Gynghorau Tref/Cymuned, oherwydd byddai methiant i wneud hynny'n golygu y byddai'r cyfleusterau hyn yn cau gan na fyddai rhyw lawer o fuddsoddiad, os o gwbl, wedi'i ymrwymo iddynt i'w cynnal hyd at y safon sy'n ofynnol i'w defnyddio o dan reoliadau iechyd a diogelwch.

 

Cododd yr Aelod Cabinet - Cymunedau hefyd y pwynt bod y Cyngor wedi sefydlu ei Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC) ym mis Chwefror eleni, ac mai rhan o'r strategaeth honno oedd cwtogi'r cymhorthdal a roddwyd yn flaenorol i Glybiau a Chymdeithasu i gefnogi eu defnydd o'r cyfleusterau a drafodir yn yr adroddiad.

 

Er gwaethaf hyn, dymunai bwysleisio fod y Cyngor yn awyddus i gydweithio â hwy i sicrhau bod modd iddynt fynd ar drywydd cymorth ariannol drwy TAC.

 

Roedd Aelod yn cydnabod maint yr arbedion ariannol yr oedd angen eu sicrhau o ran rhoi cymorth ariannol i Gyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored, Pafiliynau a Chaeau Chwarae. Gofynnodd a ellid cyflwyno Strategaeth a fyddai o gymorth i Glybiau a Chymdeithasau o safbwynt ariannol, fel eu bod yn gallu parhau i fodoli a chymryd rhan mewn chwaraeon yn y lleoliadau hyn.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr wrth y rhai a oedd yn bresennol fod awdurdodau lleol wedi gorfod wynebu gwirioneddau anodd yn sgil y llymder ariannol, ac nad oedd CBSPO wedi'i eithrio o hynny. Esboniodd nad oedd y Modiwl Gweithredu a oedd yn cefnogi sefydliadau sy'n cynnal gweithgareddau Chwaraeon Awyr Agored ac, yn enwedig, yr ymrwymiad ariannol a roddwyd yn flaenorol gan y Cyngor, yn gynaliadwy mwyach. Ni allai'r Cyngor roi cymorth ariannol i gynnal a chadw cyfleusterau ac nid oedd rhai o'r adeiladau hyn mewn cyflwr da, a byddent yn dirywio ymhellach ac yn gorfod cau yn y pen draw, fel y gwelwyd yn achos 4 neu 5 o Bafiliynau Chwaraeon hyd yma. Yn ddelfrydol, roedd yn rhaid i unrhyw ymrwymiad ariannol hefyd fod ar gyfer y tymor hwy, yn hytrach na threfniant 'ateb cyflym', er mwyn cefnogi darpariaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Yr oedd yn cydnabod bod TAC yn heriol, ond mai dyma oedd y ffordd ymlaen. Roedd Cynghorau eraill, fel Castell-nedd Port Talbot, Bro Morgannwg a Chaerfyrddin wedi llwyddo wrth fabwysiadu'r hyn yr oedd CBSPO yn mynd ar ei drywydd, hy y broses TAC, er bod CBS Rhondda Cynon Taf wedi buddsoddi ymhellach yn ei asedau. O dan TAC, byddai Clybiau'n ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb dros Bafiliynau a Chaeau Chwarae, er y byddai CBSPO yn dal i'w cefnogi, fel bo'n briodol. Teimlai ei bod hi'n bwysig pwysleisio na fyddai'r Cyngor yn cynyddu taliadau'r flwyddyn nesaf ar gyfer unrhyw un o'r sefydliadau hynny a fyddai'n ymrwymo'n llawn i TAC, ac y byddai'r gronfa honno o arian yn cael ei chefnogi ymhellach drwy Gronfa Gyfalaf yr Awdurdod. Ychwanegodd y byddai cronfa arall yn cael ei neilltuo ar gyfer clybiau a thimau iau, a oedd yn cael eu harwain yn amlach gan wirfoddolwyr, ac nad oedd ganddynt gymaint o incwm â'r Clybiau H?n. Ychwanegodd y byddai Cynghorau Tref/Cymuned hefyd yn cael eu holi oherwydd gallent hwythau helpu i liniaru'r pwysau ariannol. Gallai'r Prif Weithredwr ddeall bod Clybiau a Sefydliadau yn amheus ynghylch cynyddu eu cyfrifoldeb dros yr asedau uchod, ond pwysleisiodd eto y byddai peidio gwneud hynny yn arwain at gau mwy o adeiladau am eu bod yn parhau i ddirywio.

 

Teimlai Aelod y gallai cynigion y Cyngor amharu ar gyfranogiad merched mewn chwaraeon awyr agored. Teimlai hefyd y dylid cael mwy o ryngweithio rhwng y Cyngor a'r holl Glybiau a Sefydliadau sy'n defnyddio'r sefydliadau hynny, er mwyn iddynt allu bod yn fwy ymwybodol o'r broses TAC, a oedd braidd yn gymhleth. Nid oedd un Swyddog TAC ychwaith, ac ni fyddai'r unigolyn hwnnw ar ei ben ei hun yn gallu cyflawni'r gwaith a fyddai'n cael ei greu yn sgil y newidiadau a awgrymir.

 

Roedd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol yn cydnabod nad oedd y broses TAC yn syml, ac nad oedd yn rhywbeth y gellid ei ddechrau a'i orffen yn gyflym. Er bod proses ddiwygiedig a gyflwynwyd gan y Gr?p Gorchwyl a Gorffen TAC wedi symleiddio hyn i ryw raddau. Roedd hi'n debygol y byddai sefyllfa yn codi yn y dyfodol agos, lle byddai nifer sylweddol o TACau yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor i'w cwblhau o fewn cyfnod cymharol fyr o amser, a gallai hynny olygu bod angen mwy o gymorth gweinyddol er mwyn ymdrin â'r pwysau gwaith ychwanegol hwn, erbyn y dyddiad terfyn ym mis Medi 2020. Pe bai clybiau'n cymryd asedau drosodd drwy drefniant Trwydded, gellid cyflawni hynny'n weddol gyflym, ond pe baent yn cymryd drosodd yr asedau drwy brydles, byddai hynny'n cymryd mwy o amser i'w gwblhau.

 

Ailbwysleisiodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau fod materion i'w hystyried yng Nghaeau Newbridge ar wahân i ardaloedd eraill. Roedd hynny'n golygu ei bod hi'n bosibl na fyddai angen i Glybiau a oedd yn defnyddio'r cyfleusterau yno ymrwymo i unrhyw drefniant TAC, ac na fyddai unrhyw gynnydd mewn ffioedd yn berthnasol i'r Clybiau hynny i ddechrau. Pwysleisiodd hefyd na fyddai unrhyw Glwb na Sefydliad a oedd wedi cyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb yn y Cynllun TAC, hyd yn oed pe bai'r mynegiant hwnnw'n dod i law ar ôl y dyddiad cau, yn ddarostyngedig i unrhyw gynigion cymhorthdal ychwanegol.

 

Teimlai un o'r Aelodau, yn hytrach na bod Clybiau/Sefydliadau a Chynghorau Tref neu Gymuned yn wynebu cynnydd mewn ffioedd yr oeddent cyn hynny'n derbyn cymhorthdal gan yr awdurdod lleol ar eu cyfer, y gallent chwilio am gymorth o ffynonellau eraill, fel rhai o sefydliadau'r 3ydd sector.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau, pe na bai toriadau'n cael eu cyflwyno yn y meysydd uchod, y byddai'n rhaid cyflwyno'r toriadau mewn meysydd eraill, neu y byddai'n debygol y byddai etholwyr yn wynebu cynnydd o oddeutu 8.5% i'r Dreth Gyngor (y flwyddyn nesaf).

 

Dywedodd un o'r Aelodau ei fod ef, fel yr holl Aelodau eraill, yn llwyr werthfawrogi'r pwysau ariannol ar y Cyngor yn y gorffennol ac yn y dyfodol. Yr oedd yn cydnabod bod y pwysau hyn yn ddigynsail a bod angen gwneud penderfyniadau anodd iawn er mwyn cyflawni'r toriadau'n llawn. Yr oedd yn pryderu, fodd bynnag, am yr effaith ar chwaraeon o fewn yr ardal pe bai'n rhaid i Glybiau ysgwyddo costau'n gysylltiedig â'r cymhorthdal gostyngol y byddai'r Awdurdod yn ei dynnu'n ôl. Byddai hyn, fel yr oedd rhai o'r siaradwyr cyhoeddus wedi mynegi, yn cael effaith negyddol ar iechyd meddwl a iechyd corfforol trigolion yn y Fwrdeistref Sirol, ymhlith plant a phobl ifanc a'r henoed fel ei gilydd. Teimlai y byddai hefyd yn arwain at gynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu. Ychwanegodd y byddai cynnydd yn nhaliadau Clybiau hefyd yn wrthgynhyrchiol i raddau, gan y byddai llai ohonynt yn gallu cynhyrchu timau o'r naill wythnos i'r llall, a fyddai ymhen amser yn golygu bod Pafiliynau Chwaraeon yn gorfod cau p'run bynnag gan nad oeddent yn cael eu defnyddio.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr mai'r syniad wrth wraidd TAC oedd na fyddai angen i unrhyw Glwb na Chymdeithas wynebu cynnydd mewn cymhorthdal, ac na fyddai angen iddynt wneud hynny pe baent yn cymryd drosodd yr asedau drwy'r broses hon, neu drwy Gytundeb Prydlesu neu Drwydded. Dyma oedd y ffordd ymlaen er mwyn sicrhau bod chwaraeon awyr agored yn gynaliadwy ym mhob cymuned. Byddai hyn ymhen amser o gymorth i sicrhau iechyd a lles unigolion a oedd yn cymryd rhan yn y chwaraeon hynny drwy'r Fwrdeistref Sirol. Dyma oedd yr unig ddatrysiad posibl ar gyfer y tymor hir. Byddai'r Strategaeth sy'n cefnogi TAC yn ffordd o sicrhau parhad chwaraeon yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau wrth y Cabinet fod y Cabinet, ynghyd â'r Swyddogion, yn llwyr ymwybodol bod cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd o fudd i iechyd pobl, a bod hynny'n trechu problemau iechyd fel gordewdra, pwysedd gwaed uchel ac achosion o ddiabetes ac ati. Dyna oedd y rheswm pam bod y Cyngor yn ystyried rhoi cymorth ariannol i Glybiau allu cymryd cyfleusterau drosodd. Byddai'r Cyngor yn cwrdd â'r clybiau ac yn cydweithio â hwy er mwyn sicrhau budd i'r naill ochr a'r llall, ac er mwyn parhau i ddarparu chwaraeon awyr agored yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn y gorffennol wedi gorfod tynnu'r cymhorthdal yr oeddent yn ei dalu i'r Clybiau a'r Cymdeithasau yn eu hardal yn ôl oherwydd pwysau ar gyllidebau, a'i fod wedyn wedi cyflwyno TAC. Ers hynny roedd Cyfleusterau Chwaraeon a Chaeau Chwarae wedi parhau i gael eu defnyddio gan dimau a oedd yn cystadlu mewn amrywiaeth o wahanol chwaraeon.

 

Cwestiynodd y Cadeirydd rai o'r costau a amlinellwyd yn adroddiad y Cabinet (paragraff 3.6) dyddiedig 22 Hydref 2019 o ran yr arbedion yr oedd eu hangen yn gysylltiedig â Phafiliynau Chwaraeon a Chaeau Chwarae ac ati, gan nad oeddent yn cyfateb yn union (o'u croesgyfeirio) â'r rhai a nodwyd yn Atodiad E yr adroddiad, lle'r oedd taliadau amrywiol wedi'u rhestru fesul eitem ar gyfer gwahanol ddefnyddwyr chwaraeon.

 

Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol fod y taliadau llogi arfaethedig wedi'u cynnwys fel canllaw yn unig i adlewyrchu lefel y cynnydd.

 

Ychwanegodd y Cadeirydd ei bod wedi cyfrifo y byddai cynnydd cyfartalog o tua £36 i £199 i'r gost o logi cae, felly roedd angen i'r Aelodau a'r cyhoedd a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon awyr agored gael gwybod a oedd unrhyw amrywiant i'r gost hon, wrth gymharu faint o gemau fyddai'n cael eu chwarae mewn unrhyw ardal Chwaraeon/gae chwarae.

 

Nododd un o'r Aelodau fod llawer o siaradwyr cyhoeddus yn bresennol yng nghyfarfod heddiw, yn cynrychioli gwahanol Glybiau a Chymdeithasau chwaraeon, a gofynnodd faint o'r rhain oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon mewn cyfleusterau a oedd yn eiddo i'r Cyngor, a beth oedd cyfanswm y timau o'r holl wahanol ardaloedd yn y Fwrdeistref Sirol a oedd yn defnyddio'r cyfleusterau hyn. Gofynnodd hefyd pam bod y Cyngor yn codi tâl ar dimau fesul gêm yn hytrach na thymor fel yr oedd CBS Rhondda Cynon Taf yn ei wneud.

 

Esboniodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol fod CBSPO yn codi tâl blynyddol am logi ei gyfleusterau, ond bod y tâl hwnnw'n cael ei rannu ymhellach i greu ffioedd fesul gêm.

 

Aeth yr Aelod yn ei flaen i holi, er enghraifft, pe bai Clwb yn gorfod talu £199 am logi cae ar gyfer gêm gartref, a'i fod yn chwarae 30 o gemau cartref, ai cyfanswm y gost ar gyfer hyn wrth gyfrifo'r cymhorthdal fyddai £5,970?

 

Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol fod caeau chwaraeon ac ati yn cael eu defnyddio i ddibenion eraill yn ogystal â gemau. Gan hynny, nid oedd y dull o gyfrifo costau o reidrwydd mor syml â'r uchod, gan fod cyfanswm y gost ar draws y tymor yn ddibynnol ar yr holl ddefnydd, hy gemau cynghrair a sesiynau hyfforddi. Ychwanegodd y gellid rhannu hyn ymhellach pe bai gwahanol dimau ac/neu Glybiau yn rhannu cyfleusterau chwaraeon. Yn gyffredinol, roedd y gost yn cael ei chyfrifo ar sail ffi fesul defnydd ar bob achlysur unigol y byddai'r cyfleuster yn cael ei logi, a'i luosogi ar sail y nifer o weithiau y byddai'n cael ei ddefnyddio dros y tymor.

 

Teimlai'r Aelod y dylai'r dull o gyfrifo'r costau, hy, naill ai fesul sesiwn logi neu ar gyfer y tymor cyfan, fod wedi cael ei esbonio'n symlach yn Atodiad E yr adroddiad, oherwydd nid oedd yn hawdd darllen yr eglurhad ar gyfer y taliadau hynny, ac roedd y dull wedi'i gymhwyso mewn modd anghyson i'r gwahanol chwaraeon.

 

Roedd y cyfeiriad yn yr Atodiad hwn at y ffaith y byddai caeau chwaraeon ar gyfer Bowlio yn costio £23k o 1 Ebrill 2020 yn enghraifft o hyn. Gofynnodd a oedd y gost hon fesul cyfleuster; fesul Clwb neu fesul grin.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p - Priffyrdd a Mannau Gwyrdd fod y costau hyn wedi'u seilio ar y costau y byddai'n rhaid i'r Cyngor fod wedi'u hysgwyddo pe bai'n dal i ddarparu cymhorthdal, yn seiliedig ar gost gyfartalog. Dyna'r gost gyfartalog fesul pafiliwn/fesul Clwb (dros dymor).

 

Dywedodd Aelod ei bod wedi ymwneud rhywfaint â'r broses TAC yn ardal ei Ward. Cydnabu fod y Cyngor wedi gwneud penderfyniad wrth bennu ei Gyllideb (hy, y SATC) i arbed arian yn gysylltiedig â Chaeau Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau mewn Parciau, drwy leihau'r cymhorthdal yr oedd yn ei ddarparu i'r Clybiau a'r Cymdeithasau sy'n eu defnyddio. Pe na bai'r arbedion a glustnodwyd yn y maes gwasanaeth hwn yn cael eu gwireddu, byddai'n rhaid eu sicrhau yn rhannau eraill o'r Gyfarwyddiaeth Cymunedau, neu mewn gwasanaethau statudol, hy Gofal Cymdeithasol i Oedolion neu Wasanaethau Plant ac Addysg. Teimlai nad oedd ateb rhwydd i hyn. Ychwanegodd ei bod yn pryderu ynghylch effaith y cynigion ar gyfleoedd i ferched gymryd rhan mewn chwaraeon, oherwydd ceir prinder cyfleusterau ar eu cyfer ar hyn o  bryd, hy ystafelloedd newid a chawodydd ac ati cyn/ac ar ôl gemau.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod y Cyngor bellach yn dechrau teimlo maint y cyni ariannol, a'r setliadau oddi wrth y Llywodraeth Ganolog a Llywodraeth Cymru a oedd yn parhau i ostwng. Yn flynyddol, byddai CBSPO yn dilyn proses gaeth cyn pennu ei Gyllideb. Roedd hyn yn cynnwys ymgynghori â'r cyhoedd er mwyn cael eu mewnbwn ynghylch lle fyddai orau i gyflwyno'r toriadau angenrheidiol. Roedd y cynigion a oedd wedi'u halinio â'r gyllideb hefyd yn cael eu monitro'n rheolaidd yn ystod y flwyddyn hyd at bennu'r SATC, gan Banel y Cyngor ar gyfer Ymchwil a Gwerthuso'r Gyllideb, a hefyd drwy'r broses Trosolwg a Chraffu. Ychwanegodd fod yr holl argymhellion a'r cynigion a gafwyd yn ystod y prosesau hyn a ddilynwyd wedi cael eu hystyried a'u trafod, cyn i'r Cyngor bennu cyllideb gytbwys ar ddechrau'r flwyddyn ariannol. Roedd yn rhaid ystyried materion yn ystod y broses, fel atebolrwydd, incwm a lefel y Dreth Gyngor y byddai'r awdurdod lleol yn ei chodi, gan mai dyma oedd ei brif ffynhonnell incwm. Ar ôl dilyn y prosesau uchod, byddai'r Cabinet wedyn yn ystyried yr holl gynigion a wnaed drwy ymgynghoriad o fewn y Cyngor rhwng Aelodau/Prif Swyddogion ac yn allanol drwy ymgysylltu â'r cyhoedd, ac ar ôl hynny, byddai'r Cyngor yn pennu ei Gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

O ran y cyfleusterau a oedd yn destun yr adroddiad a oedd wedi cael ei alw i mewn, roedd y Cyngor eisoes wedi gorfod cau 6 Phafiliwn Chwaraeon am resymau'n ymwneud â iechyd a diogelwch, a byddai mwy yn dilyn, pe na bai Clybiau a Chymdeithasau'n ymgysylltu â'r Cyngor i gadw'r rhain yn weithredol drwy brosesau fel TAC (yr oedd yr Awdurdod wedi sefydlu Cronfa ar ei chyfer) neu drwy gymryd drosodd y cyfleusterau hynny drwy Gytundeb Prydles neu Drwydded ac ati. Roedd Clwb Rygbi a Phêl Droed Bryncethin wedi ymgysylltu â'r Cyngor ynghylch TAC, ac wedi derbyn rhywfaint o gymorth ariannol drwy'r Gronfa TAC. Yn sgil hyn a ffrydiau cyllido eraill, yr oedd wedi gallu darparu cyfleuster o'r radd flaenaf, ac ychwanegodd y gallai Clybiau eraill ddilyn esiampl y clwb ac uwchraddio a gwella'r cyfleusterau yr oeddent hwy yn eu defnyddio hefyd.

 

Roedd nifer o Glybiau Chwaraeon o fewn y Fwrdeistref Sirol yn eu cynnal eu hunain, ac yn ariannol gydnerth, a dymuniad y Cyngor oedd gweithio gyda'r holl randdeiliaid allweddol er mwyn cyflawni hyn. Esboniodd y Dirprwy Arweinydd y byddai cydweithio fel hyn wrth symud ymlaen o gymorth i gadw cyfleusterau ar agor a sicrhau eu bod yn parhau i gael eu defnyddio, yn hytrach na'u gweld yn gorfod cau gan nad oeddent yn cael eu cynnal.

 

Ar wahân i'r Gronfa TAC, ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd y byddai cronfa ar wahân yn cael ei sefydlu ar gyfer timau ifanc ac iau nad oes ganddynt ryw lawer o gyllid eu hunain, os o gwbl, ac sy'n fwy dibynnol ar wirfoddolwyr i'w helpu i gymryd rhan mewn chwaraeon, fel y crybwyllwyd yn gynharach yn y drafodaeth.

 

Yr oedd cymhlethdodau yng Nghaeau Newbridge, ac mewn un neu ddwy o ardaloedd Chwaraeon eraill o fewn y Fwrdeistref Sirol lle'r oedd amryw o wahanol dimau'n gwneud defnydd o'r cyfleusterau ayyb,  byddai angen i'r Cyngor fabwysiadu proses wahanol i'r hyn a gynigiwyd i'r holl ardaloedd eraill ar gyfer y rhain, ond nid oedd penderfyniad llawn ynghylch y broses honno hyd yma.

 

Gwnaeth y pwynt bod oddeutu £429k o arbedion wedi'u clustnodi yn y gyllideb a bennwyd y llynedd mewn perthynas â Chaeau Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau mewn Parciau. Roedd y swm hwn yn sylweddol, a phe na bai'r lefel honno o arbedion yn cael ei sicrhau drwy'r cynnig hwn, byddai angen cael hyd i'r arbedion yn rhywle arall, ac nid oedd unrhyw gynigion eraill wedi cael eu cyflwyno lle gellid sicrhau'r lefel honno o arbedion. Yr oedd hefyd am dynnu sylw at dystiolaeth ar wefan y Cyngor o'r graddau yr oedd cynigion y Cyngor yn gyson â'i SATC, ar ffurf adroddiadau a chofnodion o Bwyllgorau fel y Cabinet, Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu (yn enwedig y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol) a'r Cyngor llawn.

 

Roedd y Cyngor yn gwbl agored a thryloyw ynghylch ei fwriadau yn gysylltiedig â'i Gyllideb a chyfanswm yr arbedion yr oedd angen eu sicrhau, a hefyd yr arbedion fesul Cyfarwyddiaeth.

 

Roedd gan Bwyllgorau fel yr uchod hefyd adroddiadau Perfformiad a Rheoli'r Trysorlys a oedd yn amlinellu'r pwysau ar y gyllideb drwy gydol y flwyddyn, gan nodi'r arbedion a oedd wedi'u cynnig mewn meysydd gwasanaeth fesul eitem.

 

Byddai'r Cyngor hefyd yn chwilio am ffynonellau cymorth i helpu Clybiau a Chymdeithasau, drwy'r Gymdeithas Pêl Droed, Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Criced Cymru. Gellid cysylltu â Llywodraeth Cymru hefyd.

 

Dywedodd hefyd y gallai Clybiau a Chymdeithasau eu hunain ennill cyllid grant o ffynonellau nad oedd y Cyngor yn gallu cael mynediad atynt. Gallai'r cymorth ariannol hwn hefyd eu helpu i gymryd asedau drosodd oddi wrth yr awdurdod lleol.

 

Cydnabu fod angen gwella'r ymgynghori rhwng y Cyngor a'r Clybiau a'r Cymdeithasau o hyn allan, ond bod angen i'r ddwy ochr wneud ymdrech. O ganlyn a chyflawni hyn yn llwyddiannus, yr oedd yn hyderus y gellid gwneud cynnydd o ran cymryd asedau drosodd yn y dyfodol, heb leihau cyfranogiad Clybiau ledled y Fwrdeistref Sirol mewn chwaraeon.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau, pe bai Clybiau a Sefydliadau'n gweithio gyda'r Cyngor, ni fyddai angen iddynt dalu'r gost lawn i ddefnyddio a chynnal yr asedau, oherwydd y byddent yn derbyn cymorth ariannol drwy TAC yn lle hynny. Byddai dilyn y broses hon yn golygu llai o gost wrth iddynt gymryd drosodd cyfleusterau, a allai fod yn ddull mwy cynaliadwy o weithredu dros y tymor hwy.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor yn croesawu Mynegiannau o Ddiddordeb am gyllid TAC gan yr holl Glybiau ac ati. Byddai angen cyflwyno Achos Busnes i gefnogi hynny wedyn. Roedd yn rhaid cyrchu arian o'r gronfa TAC cyn y dyddiad cau, ond pe bai clwb yn mynegi diddordeb mewn manteisio ar gyfleoedd ariannol y gronfa, ond yn methu'r dyddiad cau, ni fyddai'n colli cyfle oherwydd hynny.

 

Dywedodd y Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol wrth yr holl Glybiau, Cymdeithasau a Sefydliadau i gysylltu ag ef, ac wedyn byddai'n ymweld â hwy i drafod TAC, er mwyn iddynt gael dealltwriaeth well o'r broses.

 

Dywedodd Aelod fod llawer o drigolion a rhanddeiliaid ledled Bwrdeistref y Sir yn elwa ar Gyfleusterau Chwaraeon a Chlybiau Iechyd ac ati, yn ogystal â chadw'n heini drwy gerdded mewn caeau chwarae ac ar lwybrau cyhoeddus. Yng ngoleuni'r cyfyngiadau ariannol yr oedd y Cyngor yn eu hwynebu a olygai bod yn rhaid iddo ystyried tynnu'r cymhorthdal yr oedd wedi'i roi yn y gorffennol i Glybiau ar gyfer llogi caeau a phafiliynau chwaraeon ac ati, teimlai y dylai CBSPO gysylltu â sefydliadau eraill fel yr Awdurdod Iechyd er mwyn pontio'r bwlch ariannu, i gael cymorth i ariannu asedau Chwaraeon.

 

Nododd Aelod y gwaith a oedd wedi'i gyflawni yng Nghlwb Rygbi a Phêl Droed Bryncethin ar adeilad y clwb ac ati, a gofynnodd sut yr oedd y clwb wedi sicrhau cyllid er mwyn creu  cyfleuster mor ardderchog.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr ei bod hi wedi cymryd dros 3 blynedd o negodi rhwng y Clwb a'r awdurdod lleol cyn y bu modd cwblhau'r gwaith ar yr uchod. Dros y cyfnod hwnnw roedd y Clwb wedi sicrhau cyllid TAC a chyllid o ffynonellau ariannu eraill, gan gynnwys cyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru. Roedd rhanddeiliaid Clwb Rygbi a Phêl Droed Bryncethin wedi bod yn amyneddgar dros y cyfnod hwn; wedi cael cymorth gan lawer o wirfoddolwyr ac wedi dangos brwdfrydedd mewn gweithio gyda'r Cyngor drwy gydol y broses. Canlyniad yr holl waith caled hwn ymhen amser oedd cyfleuster o'r safon uchaf.

 

Roedd hyn yn cloi'r drafodaeth ar alw penderfyniad y Cabinet i mewn yn gysylltiedig â Chaeau Chwaraeon, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau mewn Parciau, a wnaed yn ei gyfarfod ar 22 Hydref 2019, felly cynhaliodd yr Aelodau bleidlais drwy ddangos dwylo, er mwyn canfod a ddylid cyfeirio'r penderfyniad yn ôl i sylw'r Cabinet er ystyriaeth bellach ai peidio.

 

Canlyniad y bleidlais, ar sail penderfyniad y mwyafrif, oedd cyfeirio'r eitem yn ôl i'r Cabinet ar sail y canlynol:-

 

Casgliadau:

 

Mynegodd y Pwyllgor bryderon ynghylch y broses TAC. Er bod y Pwyllgor yn cydnabod y gwaith rhagorol a gyflawnwyd gan y Swyddog TAC, teimlai'r adnoddau nad oedd digon o adnoddau ar gyfer y broses, a'i bod yn dal yn rhy gymhleth i lawer o glybiau ei hystyried, er ei bod wedi cael ei symleiddio yn ddiweddar. Oherwydd y cynnydd posibl mewn TACau hyd at ddyddiad cau mis Medi 2020, mae'r Pwyllgor yn argymell y dylid adolygu'r broses TAC a'r broses er mwyn i glybiau ymrwymo i Gytundebau Trwyddedu.

 

Mynegodd y Pwyllgor bryderon hefyd ynghylch pa mor hir yr oedd hi'n cymryd i gwblhau proses TAC ar hyn o bryd, a chodi pryderon pellach ynghylch nifer y trosglwyddiadau a oedd yn cael eu cwblhau. Fodd bynnag, roedd y TAC a gwblhawyd yn ddiweddar gan Glwb Rygbi Bryncethin yn gyfle i ddangos i glybiau chwaraeon/grwpiau cymunedol eraill sut y gellir cyflawni'r broses, ac mae'r Pwyllgor felly'n argymell y dylid llunio Astudiaeth Achos o Glwb Rygbi Bryncethin i'w rhannu er gwybodaeth â chlybiau chwaraeon/grwpiau cymunedol eraill.

 

Mynegwyd pryderon pellach gan y Pwyllgor ynghylch y broses TAC ar gyfer Caeau Newbridge. Cydnabu'r aelodau y gallai Caeau Newbridge fod yn broses ansafonol, ond roeddent yn teimlo nad oedd digon o wybodaeth yn adroddiad y Cabinet ar 22 Hydref 2019 i ddeall y materion yn gysylltiedig â CAT Caeau Newbridge. Argymhellwyd felly bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno er eglurder.

 

Mynegodd y Pwyllgor bryder nad oes digon o wybodaeth yn adroddiad y Cabinet ar 22 Hydref 2019 ynghylch nifer y clybiau a thimau chwaraeon yr effeithir arnynt yn sgil newidiadau i gynnydd mewn ffioedd llogi a faint o gemau fydd yn cael eu chwarae ar y caeau. Mae'r Pwyllgor felly yn argymell y dylid darparu mwy o fanylion er mwyn sicrhau eglurder.

 

Mynegwyd pryderon hefyd gan y Pwyllgor nad oedd digon o wybodaeth wedi'i darparu yn adroddiad y Cabinet ar 22 Hydref 2019 yn gysylltiedig â'r taliadau. Nodwyd bod y ffigurau a ddarparwyd yn dangos y tal blynyddol, ond heb ddadansoddi hynny ar sail ffi fesul defnydd. Ar ben hynny, nodwyd nad yw'r wybodaeth ariannol yn eglur, a'i bod yn gamarweiniol o ystyried yr enghreifftiau yn Atodiad E yr adroddiad. Tynnodd yr Aelodau hefyd sylw at y ffaith ei bod hi'n ymddangos fel pe bai'r incwm a gynhyrchir yn fwy na'r arbedion i'w sicrhau. Mae'r Pwyllgor felly'n argymell, er eglurder, y dylid rhoi mwy o fanylion ynghylch faint y bydd y cynigion yn ei gostio i glybiau fesul tymor, ac y dylid diwygio Atodiad E yn adroddiad y Cabinet yn unol â hynny.

 

Nododd yr aelodau Gofnod Penderfyniad y Cabinet o ran yr Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb. Yn benodol lle cyfeirir at yr effaith neilltuol ar aelodau h?n ac iau o gymdeithas, a nodwyd y dylid 'neilltuo cronfa ar gyfer y categori hwn o ddefnyddwyr er mwyn parhau i'w cynorthwyo i gael mynediad at gyfleusterau'.   Nodwyd y byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno gerbron y Cabinet ar y cyfle cyntaf.  Mae'r Pwyllgor felly'n argymell y dylai'r Cabinet gyflwyno'r adroddiad hwn ar y cyfle cyntaf, a sicrhau eglurder ynghylch y gronfa.

 

  

 

</AI2>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 12:40

 

Dogfennau ategol: