Agenda item

Monitro Cyllideb 2019-20 - Rhagolwg Refeniw Chwarter 2

Pob Cabinet a CMB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid a Dirprwy Swyddog Adran 151 yr adroddiad i'r Aelodau gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol y Cyngor ar 30 Medi 2019. Esboniodd fod y Cyngor wedi cymeradwyo cyllideb refeniw net o £270.809 miliwn ar gyfer 2019-20 ar 20 Chwefror 2019.

 

Cododd yr Aelodau y pryderon canlynol:

 

  • Pam nad oedd Cludiant rhwng y Cartref a'r Ysgol yn cyflawni arbedion?

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd a'r Arweinydd fod y sefyllfa'n gymhleth a bod costau yn cynyddu yn y maes hwn, fodd bynnag, lluniwyd rhestr o ostyngiadau. Fe wnaethant ddweud y byddai'r aelodau'n cael adborth ar adolygiad o Gludiant rhwng y Cartref a'r Ysgol ddechrau'r flwyddyn nesaf. Ailadroddodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor yn dal yn bryderus am y gorwariant yn y maes hwn

 

  • Ceisiwyd eglurhad yngl?n â’r arbedion eraill o £60,000 a oedd yn annhebygol o gael eu cyflawni ym maes llyfrgelloedd a chyfleusterau diwylliannol.

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod hyn oherwydd bod ffioedd rheoli a chyfleusterau llyfrgelloedd teithiol yn parhau i fod yn destun ymgynghoriad

 

  • Holodd yr Aelodau am y tanwariant o ran ffioedd parcio. Roedd posibilrwydd creu incwm sylweddol ac felly dylem ni fod yn buddsoddi i gynilo. Byddai trwyddedau parcio i breswylwyr yn cynyddu'r defnydd o feysydd parcio canol y dref ac yn cadw preswylwyr yn hapus felly dylai hyn fod yn flaenoriaeth. Crybwyllwyd hefyd nad yw'r peiriannau talu ym maes parcio’r Rhiw yn gweithio'n aml ac y dylid blaenoriaethu staff i drwsio’r rhain gan fod incwm sylweddol posibl yn cael ei golli yn y maes hwn bob dydd nad yw'r peiriannau yn gweithio.

Cadarnhaodd yr Arweinydd y byddai'n ystyried y pwynt uchod ac yn archwilio a oes modd mynd i'r afael â'r problemau gyda'r peiriannau talu fel mater o flaenoriaeth.

 

  • A oedd yr incwm o faes parcio Salt Lake yn cael ei ail-fuddsoddi’n uniongyrchol ar gyfer Porthcawl yn gyffredinol gan fod dealltwriaeth mai dyma ddylai fod yn digwydd.

Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd y trefniant hwn yn un ffurfiol ar hyn o bryd ond y gellid ei archwilio. Cytunodd y byddai'n cadarnhau'r trefniadau ac yn adrodd yn ôl i’r Aelodau.

 

  • Beth oedd achos yr oedi cyn cymeradwyo'r cynllun trwyddedu ar gyfer gwaith ffordd?

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr nad oedd yr Awdurdod yn cael bwrw ymlaen â'r cynllun heb ganiatâd Llywodraeth Cymru a bod posibilrwydd o gyflwyno cynllun cenedlaethol felly byddai'n cael ei ohirio nes gwybod canlyniad y cynllun cenedlaethol.

 

  • Sut y mae'r swyddi gwag yng Nghyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr yn effeithio ar berfformiad?

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod 88% o gyllideb y Prif Weithredwr yn cynnwys staff. Ychwanegodd, ar adeg pan fo cymaint o doriadau, fod ofn pe byddai swydd yn cael ei llenwi y gallai'r gyfarwyddiaeth orfod diswyddo ac ysgwyddo costau yn gysylltiedig â hynny ymhen blwyddyn. Ychwanegodd fod hyn yn cael effaith anochel ar gadernid a chapasiti ym mhob agwedd ar waith y Gyfarwyddiaeth.

 

  • Mynegwyd pryderon ynghylch y tanwariant yn y gyllideb gofal cartref a oedd yn bennaf o ganlyniad i swyddi gwag a gofynnwyd sut y byddai hyn yn effeithio ar argyfwng posibl yn y gaeaf.

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod yr awdurdod newydd dderbyn grant ar gyfer pwysau'r gaeaf. Ychwanegodd nad yw'r Gyfarwyddiaeth yn cadw swyddi’n wag yn hirdymor a bod staff newydd fel arfer wedi eu penodi o fewn 2-3 mis a dim ond un swydd wag na lenwyd yn ystod proses ailstrwythuro ddiweddar.

 

  • Pryder am y cynnydd mewn digartrefedd a'r swyddi gwag yn y Gyfarwyddiaeth hon hefyd. Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd yr Awdurdod yn buddsoddi llai o adnoddau'n fwriadol ac y byddai staff newydd yn cael eu penodi i’r adran dai i lenwi bwlch y rhai a oedd wedi gadael yn ystod y misoedd diwethaf. Ychwanegodd fod y strwythur yn cael ei adolygu i sicrhau bod cefnogaeth lawn yn y maes hwn o hyd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant Cenedlaethau'r Dyfodol fod...

 

  • Gofynnodd yr Aelodau sut y gallai'r Awdurdod gefnogi'r cyhoedd i ddeall y pwysau y mae'r Awdurdod yn eu hwynebu a chodi ymwybyddiaeth o'r toriadau yr ydym yn eu hwynebu a deall beth yw eu blaenoriaethau.

Dywedodd y Prif Weithredwr fod angen i'r Awdurdod gyfleu'r neges yn well i'r cyhoedd y byddant yn wynebu dewisiadau anodd gan fod yn rhaid i'r Awdurdod arbed £35 miliwn dros y 4 blynedd nesaf ac y bydd yn rhaid i ni newid ein ffordd o weithio.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod yr Awdurdod wedi gweld cwtogi yn y gyllideb am y 9/10 mlynedd diwethaf a bod cyni ymhell o fod ar ben gyda thoriadau yn y dyfodol, yn hytrach na bod angen gwneud arbedion.

 

  • Mae effaith rheolaeth wael o’r gyllideb o du Llywodraeth Cymru wedi'i throsglwyddo i awdurdodau lleol. Nid oedd arian grant yn hysbys.  Holodd yr Aelodau beth yr oeddem ni fel Awdurdod yn ei wneud i ddweud wrth LlC nad oedd hyn yn dderbyniol

Dywedodd yr Arweinydd, gan ein bod yn y cyfnod Purdah, fod Llywodraeth Cymru wedi ceisio cyngor cyfreithiol ynghylch a allent bennu eu cyllideb yn y cyfnod hwn. Ychwanegodd ein bod ni, fel Awdurdod, yn dwyn i sylw LlC drwy'r amser nad yw'n dderbyniol ac y byddwn yn parhau i gyfleu hyn iddynt gan ei fod yn cael effaith fawr ar yr holl Awdurdodau Lleol sy'n ceisio pennu cyllideb.

 

  • Roedd yr Aelodau'n pryderu ynghylch cyllid grant posibl sy’n dod i’r Awdurdod ac yn aml nad yw'n hysbys neu nad oes gwarant ohono tan y funud olaf, gan olygu ei bod yn amhosibl i'r Awdurdod baratoi ei gyllideb yn briodol. Dywedodd un aelod fod deiseb ar-lein yn ymwneud â chyllid grant felly byddai hyn yn cael ei drafod yn y Senedd yn fuan a bydd CLlLC yn parhau i lobïo er mwyn i ni gael setliadau amserol gan San Steffan.

 

Yn dilyn trafodaethau, daeth yr Aelodau i'r casgliadau canlynol:

 

  • Dylai'r Awdurdod fuddsoddi i arbed a dylai flaenoriaethu'r cynllun parcio i breswylwyr gan y byddai hyn yn sicrhau bod y trigolion yn fodlon ac yn cynyddu'r defnydd o feysydd parcio yng nghanol y dref. Dylai'r Awdurdod hefyd sicrhau bod gan y meysydd hyn ddigon o staff i sicrhau bod modd ymateb ar unwaith pan nad yw peiriannau meysydd parcio yn gweithio'n ddigonol.
  • Dylai'r Awdurdod flaenoriaethu meysydd lle mae swyddi gwag yn cael effaith gynyddol ar y gymuned, yn enwedig mewn meysydd fel tai, ac y dylid rhoi blaenoriaeth i lenwi'r swyddi gwag hyn.
  • Mae'r Aelodau'n sylweddoli bod angen rhagor o doriadau ond dylai'r Awdurdod flaenoriaethu cyfleoedd i gynhyrchu incwm.
  • Gofynnodd yr Aelodau am gael cyflwyno’r Strategaeth Ddigartrefedd i’r Pwyllgor Craffu.

Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth am y cytundeb buddsoddi mewn parcio ym Mhorthcawl.

Dogfennau ategol: