Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu adroddiad a oedd yn gofyn i Is-bwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 ystyried cais am drwydded safle ar gyfer y safle uchod. Cynghorodd fod y drwydded safle yn drwydded safle a oedd yn awdurdodi'r amrywiol weithgareddau trwyddedig ar y safle. Mae amseroedd gofynnol fel a ganlyn:Cyflenwi Alcohol: Dydd Llun i ddydd Sadwrn: 18:00 - 23:00 awr Dywedodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu fod gwrthwynebiad i'r cais hwn gan breswylydd. Nid oedd y gwrthwynebiad wedi'i dynnu'n ôl gan yr ymgeisydd; fodd bynnag, nid oedd y gwrthwynebydd yn bresennol. Roedd yr ymgeisydd, Mark Owen yn bresennol gyda'i gynrychiolydd cyfreithiol, Stuart Richards. Gofynnodd Y rheolwr Tîm - Trwyddedu i Mr Richards ddarparu manylion pellach i gefnogi cais Mr Owen. Eglurodd Mr Richards fod Mr Owen yn aelod o dîm p?l ac yn chwaraewr yng Nghynghrair P?l Pen-y-bont ar Ogwr a'r Cylch. Dywedodd fod tua 15 o dimau yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg. Ychwanegodd fod Mr Owen fel arfer yn chwarae ar ddydd Llun a dydd Iau a'i fod yn bwriadu cynnal y digwyddiadau hyn yn ei ystafell gemau yn ei d?. Eglurodd Mr Richards mai'r ystafell gemau fyddai'r unig ystafell yn y t? a oedd â thrwydded i werthu alcohol ac felly ni fyddai gwesteion yn cael cludo'r alcohol a dalwyd amdano oddi ar y safle. Ychwanegodd Mr Richards fod Mr Owen eisoes wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau ar ei safle ac wedi gwerthu alcohol drwy drwyddedau Digwyddiadau Dros Dro ac yn honni ei fod wedi cael tua 14. Esboniodd nad oedd wedi derbyn unrhyw gwynion gan y cyhoedd, trigolion na'r heddlu yn ystod y digwyddiadau hyn. Ychwanegodd Mr Richards mai'r rheswm yr oedd Mr Owen am wneud cais am drwydded barhaol oedd oherwydd ei fod yn rhatach ac yn fwy cyfleus na gwneud cais am drwydded Digwyddiad Dros Dro bob mis. Esboniodd Mr Richards fod Mr Owen yn deall pryderon y preswylydd o wrthwynebu'r cais hwn yn llawn. Roedd Mr Owen wrth gwrs wedi ystyried y maes chwarae i blant sydd y tu cefn i'w safle wrth ystyried y drwydded i werthu alcohol, a dyna pam fod y cais ar gyfer gwerthu dan do yn unig. Fodd bynnag, roedd Mr Richards yn ansicr pam fod Mr Owen wedi derbyn cwyn am y cais hwn ac nid am unrhyw geisiadau blaenorol, ac wedi cwestiynu dilysrwydd honiadau Mr Moore gan y sylwyd mai anaml yr oedd Mr Moore gartref, a honnodd mai dim ond ei fab oedd yn byw yn y cyfeiriad yn barhaol. Gofynnodd un aelod i Mr Richards sut y byddai hyn yn cael ei reoli, er enghraifft, pe bai gwestai eisiau mynd allan i ysmygu. Atebodd Mr Owen gan ddweud bod ganddo drwydded diogelwch personol a'i fod am wylio'r drws ei hun i sicrhau nad oedd gwesteion yn gadael gydag alcohol. Eglurodd fod bin ar gyfer sigaréts y tu allan i'w safle hefyd er mwyn sicrhau bod y gwesteion yn cael gwared â sigaréts yn briodol. Eglurodd Mr Richards fod digon o lefydd parcio ar gael i'r nifer o westeion y byddai Mr Owen yn eu gwahodd ar unrhyw adeg benodol. Dywedodd fod lle i 3 char ar y dreif a 5 car ar waelod y dramwyfa, a oedd yn gyfanswm o 8 car. Fodd bynnag, nid oedd angen cymaint o geir â hynny erioed oherwydd bod nifer o'i westeion yn rhannu ceir gyda'i gilydd. Ychwanegodd fod y stryd yn stryd heb fodd mynd trwyddi, felly gall fod yn anodd i geir fynd i mewn ac allan o'r stryd, ond nid yw parcio erioed wedi bod yn broblem. Gofynnodd Aelod ai dim ond digwyddiadau p?l yr oedd Mr Owen yn eu cynnal. Cadarnhaodd Mr Owen mai dim ond digwyddiadau p?l oedd yn cael eu cynnal. Gofynnodd Aelod am ba hyd y bu Mr Owen yn cynnal digwyddiadau o dan Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro. Dywedodd Mr Owen ei fod wedi bod yn cynnal tua un digwyddiad y mis am ychydig dros flwyddyn. Ychwanegodd nad oedd wedi derbyn cwyn o'r blaen yn ystod y digwyddiadau blaenorol. Gofynnodd un aelod sut y bu i Mr Owen hysbysebu'r digwyddiadau hyn i'r preswylwyr, gan gynnwys y ceisiadau. Cadarnhaodd Mr Owen ei fod yn hysbysebu'r digwyddiadau ymlaen llaw drwy osod hysbysiadau o amgylch ei stryd. Ni chafwyd unrhyw gwestiynau pellach gan yr Aelodau, a gofynnwyd i Mr Owen a Mr Richards adael fel y gallai'r Pwyllgor wneud penderfyniad. Ar ôl ailgynnull: PENDERFYNWYD: Mae'r penderfyniad fel a ganlyn:"Mae'r Pwyllgor wedi ystyried eich cais a'r sylwadau a wnaethoch i gefnogi'ch cais. Mae'r Pwyllgor wedi clywed eich bod wedi cael 14 hysbysiad digwyddiad dros dro ac ni chafwyd unrhyw gwynion o ganlyniad i'r digwyddiadau hyn. Mae'r Pwyllgor wedi cymryd i ystyriaeth nad oes unrhyw wrthwynebiadau na chynrychiolwyr gan yr heddlu na diogelwch y cyhoedd, a dim ond un gwrthwynebiad sydd i'r cais hwn. Nid yw'r Pwyllgor wedi priodoli unrhyw bwysau mawr i'r gwrthwynebiad hwn gan nad oes cyfeiriad ar yr e-bost ac nid yw'r gwrthwynebydd wedi ymddangos gerbron y Pwyllgor heddiw i gyflwyno gwybodaeth bellach. Nid oes gan y Pwyllgor unrhyw dystiolaeth y bydd y cais hwn yn tanseilio'r amcanion trwyddedu ac wedi penderfynu caniatáu'r cais. "
Dogfennau ategol: