Agenda item

Gorfodaeth

Gwahoddwyr:

 

Mark Shephard, Prif Weithredwr

Kelly Watson, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol

Cyng Richard Young, Aelod Cabinet – Cymunedau

Zak Shell, Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth

Kevin Mulcahy, Rheolwr Grwp Gwasanaethau Priffyrdd

Sian Hooper, Rheolwr Gwasanaethau Gwastraff

Rachel Jones, Rheolwr Caffael Corfforaethol

Jason Evans, 3gs Rheolwr Rhanbarthol

Phillip Angel, Arweinydd Tîm Rheoli Traffig a Pharcio

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau - Cymunedau adroddiad a'i ddiben oedd cyflwyno i'r Pwyllgor ymatebion i sawl cwestiwn a godwyd gan y Pwyllgor ar wahanol bynciau yn ymwneud â Gorfodaeth.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gweithrediadau - Cymunedau amlinelliad o'r adroddiad, ac yn dilyn hynny gwahoddwyd cwestiynau gan Aelodau.

 

Roedd un Aelod yn siomedig bod y rhan fwyaf o Hysbysiadau Cosb Benodedig rhwng Ebrill a Medi 2019, yn ymddangos yn ymwneud â thaflu sigarennau yn hytrach na thipio anghyfreithlon, taflu cyffredinol/bwyd neu beidio â chlirio baw ci a holodd a oedd yr orfodaeth yn niwtral o ran cost. Cadarnhaodd y Pennaeth Gweithrediadau - Cymunedau bod y cytundeb ar sail ffurf niwtral o ran cost ac efallai na fydd y trothwy pan gaiff Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (BCBC) y datganiad tan flwyddyn nesaf. Cadarnhaodd bod gorfodaeth clirio baw ci wedi dechrau a bydd hyn yn cael ei amlygu mewn diweddariadau ar orfodaeth yn y dyfodol.  Nododd yr her o oruchwylio taflu sbwriel ac eglurodd bod gennym bresenoldeb nawr, ac er bod swyddogion yn gorfodi taflu sigarennau yn bennaf, mae eu presenoldeb yn ataliad i daflu sbwriel arall.  Eglurodd er y byddai'n hoffi gweld mwy o amrywiaeth o orfodaeth, agwedd negyddol y model hunan-ariannu yw na allwch dreulio gormod o amser yn ceisio dal rhywun. Cadarnhaodd bod tipio anghyfreithlon yn dal i fod yn gyfrifoldeb i swyddogion BCBC.

 

Nododd yr Aelod ymateb mewn perthynas â'r fformat niwtral o ran cost, a holodd a oedd hyn yn ymdrin â chost yr adran gyfreithiol.  Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau - Cymunedau bod hwn yn faich cost i'r awdurdod a chydnabu yr her mae hyn yn ei chodi o ran adnoddau. Nododd y gweddill posibl y mae 3GS yn ei gronni y tu hwnt i'w gostau gweithredu gyda rhaniad o 90:10 o blaid y cyngor.

 

Gofynnodd Aelod sut mae Swyddogion Gorfodi wedi'u gwisgo. Cadarnhaodd y Rheolwr Strydoedd Glanach a Chytundebau Gwastraff bod gan y swyddogion logos a'u bod yn gwisgo camerâu.

 

Gofynnodd Aelod pam bod 2 Swyddog Gorfodi wedi'u disodli ym mis Medi, o ystyried yr arian a roddir i hyfforddi swyddogion. Cynghorodd y Rheolwr Strydoedd Glanach a Chytundebau Gwastraff bod hwn yn benderfyniad a wnaed gan 3GS a oedd yn ymwneud ag un rheswm personol ac un oherwydd diffyg perfformio.

 

Cydnabu Aelod y ganran uchel o Hysbysiadau Cosb Benodedig mewn perthynas â thaflu sigarennau, a nododd effaith taflu bonau sigarennau ar yr amgylchedd a'r cemegion gwenwynig sy'n achosi llygredd pridd a d?r yn eu tro a phwysleisiodd agweddau cadarnhaol ar leihau taflu sigarennau.

 

Cyfeiriodd Aelod at y wybodaeth yngl?n â lleoliadau'r Hysbysiadau Cosb Benodedig a roddwyd rhwng Ebill - Medi 2019, ar dudalen 19 yr adroddiad, a nododd ei fod yn dangos lleoliadau prin yn unig, e.e. ymddengys na roddwyd Hysbysiadau Cosb Benodedig ym Maesteg neu'r Cymoedd?  Eglurodd y Rheolwr Strydoedd Glanach a Chytundebau Gwastraff ei bod hi'n ddyddiau cynnar a bod hon yn broses barhaus ond eu bod wedi targedu digwyddiadau penodol, e.e. G?yl Elvis Porthcawl. Cadarnhaodd ei bod yn hapus i aelodau adnabod unrhyw boeth-fannau.

 

Gofynnodd Aelod i'r Pennaeth Gweithrediadau - Cymunedau a fyddai'n barod cyhoeddi'r ystadegau ar y wefan yn dangos yr ardaloedd. Cytunodd y Pennaeth Gweithrediadau - Cymunedau y gellid gwneud hyn.

 

Gofynnodd Aelod sut mae 3GS yn mynd i'r afael ag achosion lle nad yw aelod o'r cyhoedd yn rhoi ei enw ar ôl i 3GS fynd ato am daflu sbwriel? Eglurodd y Rheolwr Strydoedd Glanach a Chytundebau Gwastraff bod gwrthod rhoi manylion i Swyddogion Gorfodi yn drosedd, ond pwysleisiodd bod Swyddogion Gorfodi wedi defnyddio sgwrs gydag aelodau o'r cyhoedd fel man cychwyn. Eglurodd na ellid cael y wybodaeth hon drwy fanylion car/DVLA. Ailadroddodd y Pennaeth Gweithrediadau - Cymunedau y byddai Swyddogion Gorfodi yn dweud wrth yr aelod o'r cyhoedd ei bod yn drosedd peidio â darparu enw a chyfeiriad. Awgrymodd bod llwybraueraill yn agored i ni a phwysleisiodd enghraifft o awdurdod arall yn cyhoeddi lluniau o bobl a gofyn am eu manylion. Cydnabu er bod hwn yn opsiwn, nid oes angen i ni ddilyn y trywydd hwn ar y cam hwn.  Yna gofynnodd Aelod o ran sbwriel yn cael ei daflu drwy ffenestr car.  Eglurodd y Rheolwr Strydoedd Glanach a Chytundebau Gwastraff y gellid cysylltu â'r DVLA am fanylion yn yr achos hwn.

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad o ran oriau gwaith Swyddogion Gorfodi.  Dywedodd y Rheolwr Strydoedd Glanach a Chytundebau Gwastraff eu bod yn dechrau unrhyw bryd o 7am, ond byddant yn cau oddeutu 5pm - 6/6.30pm. Maent yn gweithio ar benwythnosau pan fo angen, e.e. G?yl Elvis. Gallant ddechrau'r gwaith yn gynt os oes angen, e.e. pobl sy'n cerdded eu c?n yn gynnar.

 

Nododd Aelod bod y wybodaeth mewn perthynas â statws Hysbysiadau Cosb Benodedig ar dudalen 20 yr adroddiad a gofynnodd am eglurhad o'r Hysbysiadau Cosb Benodedig a roddwyd mewn camgymeriad. Eglurodd y Rheolwr Strydoedd Glanach a Chytundebau Gwastraff bod hyn yn rhan o'r broses apelio. Pwysleisiodd enghraifft lle'r aethpwyd at unigolyn a oedd yn sâl iawn ac a fyddai wedi apelio gan y teimlwyd nad oedd mewn cyflwr meddyliol iach - yn yr achos hwn ni roddir dirwy.  Awgrymodd Aelodau efallai nad oedd y categoreiddiad a ddefnyddiwyd y geiriau cywir.

 

Cyfeiriodd Aelod at baragraff 5.5. yr adroddiad a nododd nad yw'r cerbyd patrolio gorfodi ynghlwm â rota penodol a gofynnodd sut mae hyn yn gweithio yn ogystal â beth mae'r cerbyd yn ei wneud yn ystod gwyliau ysgol.  Eglurodd Arweinydd y Tîm Rheoli Traffig a Pharcio bod rota gyda'r cerbyd gorfodi sy'n patrolio o leiaf un waith y mis ym mhob ysgol, er nododd mai'r cyfartaledd oedd dwy waith y mis. Yng ngwyliau'r ysgol, canolbwyntiodd y cerbyd gorfodi ar ardaloedd y gellir gweithredu ynddynt, e.e. mannau igam-ogam, dim aros, dim llwytho a gorsafoedd bysiau. 

 

Nododd Aelod rota ymweld ag ysgolion yn ôl y gofyn y cerbyd gorfodi, ond awgrymodd y byddai dull gweithredu bob wythnos yn lledaenu'r neges i rieni/neiniau a theidiau/y rheiny sy'n mynd â phlant i'r ysgol. Gall hyn arwain at barcio yn ddiogel i ffwrdd oddi wrth yr ysgol yn dod yn gyffredin.

 

Cydnabu Aelod y Cabinet dros Gymunedau natur ar hap y cerbyd gorfodi a nododd sylwadau'r Aelodau o ran lledaenu'r neges yn ymwneud â Hysbysiadau Tâl Parcio. Os oes poeth-fan adnabyddus, yna gellir ei dargedu. Gofynnodd i Aelodau roi gwybod i Swyddogion lle mae'r poeth-fannau hyn a rhoi rheswm pam.  Gobeithiodd y byddai'r neges yn cael ei lledaenu.

 

Trafododd yr Aelodau rôl Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu mewn perthynas â Hysbysiadau Penodedig a pharth Heddlu De Cymru. Mae angen eglurhad yngl?n â phwy sydd â grym a phwy sy'n defnyddio'r grym.

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad yngl?n ag ai cerbyd trydan a/neu hybrid yw'r cerbyd gorfodi. Cadarnhaodd Arweinydd y Tîm Rheoli Traffig a Pharcio nad yw'n yr un o'r ddau.

 

Holodd Aelod a edrychir ar barcio preswylwyr.  Cadarnhaodd Arweinydd y Tîm Rheoli Traffig a Pharcio y gellir ei raglennu i adnabod os nad oes trwydded ond nid yw'n rhoi Hysbysiad Tâl Cosb am y drosedd hon.

 

Holodd Aelod a oes ysgolion penodol sydd â nifer uwch o droseddau nag eraill.  Nododd Arweinydd y Tîm Rheoli Traffig a Pharcio nad oes ganddo'r data hwnnw i law ond gellid ei ddarparu, yna gallai fod ar gael i'w rannu ag ysgolion.


Ceisiodd Aelod eglurhad yngl?n â rôl y cerbyd gorfodi wrth iddo symud oddi wrth ysgolion. Eglurodd Arweinydd y Tîm Rheoli Traffig a Pharcio bod y cerbyd yn cofnodi'n awtomatig lle bynnag mae'n cyrraedd ardal y caiff weithredu ynddi sydd wedi'i rhaglennu ymlaen llaw.  Cadarnhaodd nad yw'r data yn fyw, ond bydd yn cael ei dadansoddi yn ddiweddarach.

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad yngl?n â sawl ysgol yr ymwelir â hi mewn gwirionedd. Eglurodd Arweinydd y Tîm Rheoli Traffig a Pharcio bod y cerbyd yn mynd lle bynnag mae materion gorfodi y gellir ymdrin â nhw ond nododd nad oedd gan un ysgol fan igam ogam ac roedd dwy yn ddiwedd ffyrdd nad oedd y cerbyd yn gallu mynd yno.

 

Holodd Aelod am y broses lle nad yw cosb benodedig yn cael ei thalu.  Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio bod y ffeil achos gan 3GS yn cael ei darparu i'r Adran Gyfreithiol i asesu'r dystiolaeth i benderfynu a ellir parhau â'r erlyniad.  Dywedodd wrth yr Aelodau bod yr 11 erlyniad cyntaf yn ddyledus ar y 29ain Tachwedd.

 

Holodd Aelod a oes unrhyw gymhelliant i dalu'n gynt. Pwysleisiodd y Pennaeth Gweithrediadau - Cymunedau bod gwaith i ymdrin â hyn gyda Pholisi Gorfodi rhoi Hysbysiadau Cosb Benodedig am droseddau amgylcheddol a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ddiwedd Tachwedd.

 

Gofynnodd Aelod am yr incwm a gynhyrchwyd mewn perthynas â Hysbysiadau Tâl Cosb rhwng 1 Ebrill 2018 - 31 Mawrth 2019 a beth yw cost y gwasanaeth.  Dywedodd Arweinydd y Tîm Rheoli Traffig a Pharcio bod y ffigwr yn agos at £43,000 yn y cyfnod hwnnw gan fod y rhan fwyaf o docynnau yn cael eu talu o fewn y cyfnod gostyngol ac mae rhai yn dal heb eu talu. Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau - Cymunedau mai ar sail y ffigwr £43,000 bod cost net fechan i'r awdurdod.

 

Nododd Aelod proses yr Hysbysiad Tâl Cosb ar dudalen 14 yr adroddiad ac yn benodol gwarant y weithred a gofynnodd pa mor aml mae hyn yn digwydd?  Dywedodd Arweinydd y Tîm Rheoli Traffig a Pharcio bod ar gyfartaledd 100 gwarant i Ben-y-bont ar Ogwr bob dau fis (ar gyfer yr holl droseddau Hysbysiadau Tâl Cosb) ond nid yw hyn yn ddelfrydol.  Nododd bod pobl sydd â 40 o Hysbysiadau Tâl Cosb yn ddyledus ac nad yw 20 yn anarferol. Yn anffodus mewn rhai achosion nid yw'r neges yn ddigon clir.  Yn ogystal, nododd na ellir olrhain rhai pobl ac felly caiff y refeniw ei ddileu.  Caewyd achosion hefyd lle nad oedd gan bobl ddigon o gyllid neu bobl fregus.   Dywedodd Arweinydd y Tîm Rheoli Traffig a Pharcio wrth yr aelodau, ceir achosion yn aml o unigolion yn cysylltu â'r awdurdod a byddwn yn eu cyfeirio nhw at Cyngor ar Bopeth yr ydym yn gweithio'n agos â nhw, ac os yw amgylchiadau'r unigolyn o'r fath yna caiff y tocyn ei ddileu.

 

Amlygodd Aelod gyrsiau Ymwybyddiaeth Gyrwyr o ran goryrru a gofynnodd a ellid cael rhywbeth tebyg ar y wefan yn egluro pam nad yw gorfodi yn fater dibwys a pham y dylid ei orfodi?  Cydnabu'r Pennaeth Gweithrediadau - Cymunedau y gellid ystyried hyn ac y gellir ymgymryd ag ymgyrch targedig.

 

Holodd Aelod am dipio anghyfreithlon yn y Fwrdeistref a gofynnodd sawl dirwy sydd wedi'u lefelu yn erbyn tipwyr anghyfreithlon yn y flwyddyn ddiwethaf. Dywedodd y Rheolwr Strydoedd Glanach a Chytundebau Gwastraff bod 2000 o achosion o dipio anghyfreithlon wedi bod. Roedd 1700 o'r rhain ym mannau cyhoeddus. Rhoddwyd 75 o Hysbysiadau Cosb Benodedig a chafodd 11 eu talu.  Cydnabu ymhellach y newidiadau i'r polisi gyda mwy o sgwrs ymlaen llaw.

 

Diolchodd y cadeirydd i'r Swyddogion am fynychu'r cyfarfod ac fe adawsant.

 

Argymhellion:

 

Awgrymodd Aelodau ysgrifennu at y Pennaeth Addysg a'r Blynyddoedd Cynnar yn gofyn iddo anfon llythyr at yr holl benaethiaid yn y fwrdeistref yn gofyn iddynt ysgrifennu at rieni yn eu hatgoffa am wella parcio gwael.  Awgrymodd Aelodau bod y Pennaeth Addysg a'r Blynyddoedd Cynnar yn cynnwys hyn yn ei adroddiad i Lywodraethwyr ac y dylai Cyrff Llywodraethu dderbyn adroddiad blynyddol yngl?n â Gorfodi Parcio y tu allan i'w hysgolion. 

 

Awgrymodd Aelodau ymgyrch gyhoeddusrwydd dargedig mewn perthynas â Gorfodi gan gynnwys mwy o addysg a chyhoeddusrwydd drwy wefan BCBC, gwybodaeth yngl?n â llygredd aer, a chysylltu fwy gydag ysgolion.

 

Mewn perthynas â statws yr Hysbysiadau Cosb Benodedig a roddwyd rhwng Ebrill - Medi 2019, awgrymodd Aelodau ail eirio'r categori mewn perthynas â 'Rhoddwyd mewn camgymeriad' yn adroddiadau'r dyfodol, i ddangos 'Apeliadau' er eglurdeb.

 

Gofynnodd Aelodau am ragor o ddata mewn perthynas â nifer o droseddau fesul ysgol yn y Fwrdeistref.  Argymhellwyd gan Aelodau y dylid rhannu'r data hwn ag ysgolion.

 

Awgrymodd aelodau gael adroddiad pellach ar yr ystod lawn o ddyletswyddau Gorfodi gan gynnwys tipio anghyfreithlon, bagiau duon, etc., yn Ebrill/Mai 2020.

 

Gwybodaeth Ychwanegol Ofynnol:

 

Mynegodd Aelodau bryder yngl?n ag ysgolion na ellir eu cyrraedd gan y cerbyd gorfodi a gofynnodd am eglurhad yngl?n â pha ddewisiadau eraill sydd i'r ysgolion hynny.

 

Gofynnodd Aelodau am ragor o wybodaeth o ran costau - mae angen dadansoddiad yn dangos gwariant yn erbyn incwm i weld a yw'r gwasanaethau yn ymdrin â'u costau gweithredu. Hynny yw, cytundeb y 3GS a'r gwasanaeth Roly Patroly mewnol. 

 

Ceisiodd Aelodau eglurdeb yngl?n â rolau a chyfrifoldebau BCBC a Heddlu De Cymru o ran gorfodi a pham nad yw Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gallu ymgymryd â'r un grym gorfodi â Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn rhannau eraill o ardal Heddlu De Cymru.

 

Dogfennau ategol: