Agenda item

Trosolwg a Chraffu - Adborth o Gyfarfodydd

Cofnodion:

Cyflwynodd Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio adroddiad, ei ddiben oedd cyflwyno Aelodau ag adborth o gyfarfod blaenorol y Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 3 i'w drafod, cymeradwyo ac i weithredu arno, ac i roi'r rhain yn nhrefn statws coch, melyn, gwyrdd o ran cwblhau unrhyw weithred ddilynol.

 

PENDERFYNWYD:             Bod y Pwyllgor wedi ystyried yr adborth ynghlwm ac ymatebion Swyddogion fel a ddengys yn Atodiad A yr adroddiad ac wedi neilltuo statws coch, melyn, gwyrdd i'r meysydd gwaith a nodwyd:

 

Nododd Aelodau yn adran 7.5.2.1 yr ymgynghoriad y canran uchel o ddefnyddwyr hamdden cyffredinol sy'n defnyddio meysydd chwarae a/neu bafiliynau'r cyngor.  Mynegodd Aelodau bryderon y gallai clwb sy'n meddiannu cyfleuster ddewis gau'r cyfleuster hwn i ffwrdd, gan wahardd y cyhoedd.  Sut bydd hyn yn gweithio yn y dyfodol os yw mannau agored cyhoeddus yn cael eu cau i ffwrdd - Gwyrdd

 

Dangosodd yr ymgynghoriad ganran uchel o gefnogwyr tuag at feysydd chwarae yn cael eu cynnal a'u cadw gan gynghorau tref a chymuned, ond yn anffodus, nid oedd y cwestiwn yn nodi y gallai hyn arwain at archebiant treth y cyngor lleol yn cynyddu i fynd i'r afael â chostau cynnal a chadw. Felly, nid yw'n glir pa mor ddilys fyddai'r gefnogaeth hon petai'r cwestiwn wedi'i egluro'n fwy manwl - Gwyrdd

 

Roedd cefnogaeth gyffredinol i'r gostyngiad arfaethedig yn amlder torri gwair mannau penodol lle bo'n briodol, ond pwysleisiwyd nad yw gadael rhai ardaloedd heb eu torri yn cymryd lle rheoli llai o dorri i gyfoethogi bioamrywiaeth - Coch

 

Holodd aelod a fyddai meysydd chwarae yn cael eu hailwampio neu eu gwella cyn cael eu trosglwyddo i Gyngor Tref neu Gymuned - Gwyrdd

 

Mynegwyd pryder yngl?n â sut fydd safonau y gwaith cynnal a chadw yn cael eu monitro yn y dyfodol os oes ystod o sefydliadau yn rheoli safleoedd i safonau gwahanol. Mae perygl i'r ased ddirywio'n raddol yn sgil diffyg gwaith cynnal a chadw neu waith cynnal a chadw gwael / anghydlynol ac felly gall y gymuned a chenedlaethau'r dyfodol golli'r cyfleuster. Pa gamau diogelu sydd yn eu lle i atal hyn a sut mae hyn yn mynd i weithio gyda llai o staff ac adnoddau yn BCBC - Gwyrdd

 

Awgrymodd aelodau yr opsiwn o wasanaethau cyfunol yn cael eu prynu'n ôl gan BCBC i gynnal a chadw meysydd chwarae a gellir trafod hyn ar agenda TCC yn y dyfodol.  Nodwyd na fyddai gan TCC y staff cymwys i ymgymryd â'r arolygon rheolaidd a'r gwaith cynnal a chadw - Gwyrdd

 

Nododd aelodau y byddai'r archwiliad blynyddol a'r arolygiad annibynnol sydd angen eu cyflawni ar bob maes chwarae bob 12 mis yn fwy cost effeithlon petaent yn cael eu cydlynu gan BCBC, gan godi'r tâl priodol ar y cyngor tref neu gymuned - Gwyrdd

 

Mynegwyd pryder bod cyfeiriad yr adroddiad yn wynebu cyfarfod y MTFS, lle nad yw hyn yn cydymffurfio mewn gwirionedd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol - Gwyrdd

 

Mynegwyd pryder bod yr adroddiad yn paratoi at gael gwared ar y cymhorthdal sy'n bodoli eisoes ar gyfer defnyddio caeau chwarae, ond nodwyd bod gwasanaethau anstatudol eraill yn gweithredu sydd â lefel cymhorthdal (e.e. Canolfannau Hamdden, Celfyddydau a Diwylliant) ac edrychir ar y rhain yn yr un modd - Coch

 

Gofynnodd aelodau am eglurhad cyfreithiol yngl?n ag a ellid gwahardd c?n, petai Cyngor Tref neu Gymuned yn cymryd rheolaeth o Faes Chwarae Plant. Beth yw'r sefyllfa gyda Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn cael eu gweithredu mewn meysydd chwarae ac ar gaeau chwarae - Coch

 

Gofynnodd aelodau am eglurhad yngl?n â phetai clwb yn methu â meddiannu cyfleuster neu ddim eisiau gwneud hynny, neu ddim yn gallu fforddio'r costau diwygiedig, a fydd y cyfleuster hwnnw yn cau? - Gwyrdd

 

Nododd Aelodau raddfa'r costau yn Atodiad E, ond gofynnwyd am ddadansoddiad fwy manwl o'r costau.  Mae angen dangos costau cynnal a chadw blynyddol ar gyfer caeau chwarae. Yn ogystal, roedd peth dryswch yngl?n â'r hyn sy'n digwydd pan mae mwy nag un clwb yn rhannu cae - a yw'r ddau yn talu'r ffi lawn? Fel yr enghraifft a roddwyd gan y Cyng. D. Lewis, gellid cael bil o oddeutu £40,000 am ddau gae gyda sawl tîm ac mae hynny'n fwy na'r gost cynnal a chadw mewn gwirionedd - Coch

 

Nodwyd hefyd bod y gymhariaeth rhwng Caeau Chwarae (Criced) yn 2019 a 2020 yn dangos cost uned ac yna swm blynyddol, a gofynnwyd am ragor o wybodaeth yngl?n â chostau er mwyn cael cost gymharol o un flwyddyn i'r llall - Gwyrdd

 

Dogfennau ategol: