Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Galw i Mewn Penderfyniad y Cabinet: Caeau Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau Parciau

Cofnodion:

Dechreuodd y Swyddog Monitro'r trafodaethau gan amlinellu'r weithdrefn i'w dilyn yng nghyfarfod heddiw, ac eglurodd yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol a alwodd penderfyniad blaenorol y Cabinet i mewn a wnaed yn ei gyfarfod ar 22 Hydref 2019 (a alwyd i mewn gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar 4 Tachwedd 2019), mewn perthynas â phenderfyniad a wnaeth o ran y Caeau Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau Parciau, y byddai'r Aelod a ysgogodd yr alwad i mewn, y Cynghorydd T Thomas, yn cyflwyno'r adroddiad.

 

Byddai'r Cabinet yna'n cael y cyfle i ystyried sylwadau ac argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ac unrhyw eglurhad gan y Cynghorydd Thomas, y byddai wedi hynny naill ai'n cadarnhau neu'n adolygu'r penderfyniad a wnaeth yn ei gyfarfod ar 22 Hydref 2019.

 

Cynghorodd y Cynghorydd Thomas fod saith Aelod o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol uchod, yn unol â darpariaeth yng Nghyfansoddiad y Cyngor, wedi galw i mewn penderfyniad blaenorol y Cabinet (Rhif Cofnod: 423), am resymau a nodir ym mharagraff 4.3 i 4.8 yr adroddiad.

 

Yna amlinellodd y Cynghorydd Thomas y rhesymau hyn er budd y rhai hynny a oedd yn bresennol.

 

Roedd yn teimlo bod y cynnydd arfaethedig yn y ffioedd hurio ar gyfer defnydd o'r caeau chwarae a'r pafiliynau wedi bod yn benderfyniad emosiynol iawn a bod hyn wedi cael ei ategu gan y ffaith, nad oedd dim llai na 20 o siaradwyr cyhoeddus a gafodd y cyfle i leisio eu pryderon wedi darparu rhesymau pam na ddylid cymryd y penderfyniad hwn, yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol. Roedd y rhan fwyaf o'r siaradwyr yn gynrychiolwyr Clybiau a Chymdeithasau Chwaraeon wedi eu lleoli o fewn y Fwrdeistref Sirol, gan gynrychioli rygbi, pêl-droed, criced a bowls.

 

Penderfynodd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, yn dilyn cryn dipyn o ddadlau, gyfeirio'r mater yn ôl i'r Cabinet fel y gallai'r Gyfarwyddiaeth ailystyried ei phenderfyniad blaenorol.

 

Roedd y Cynghorydd Thomas yn gwerthfawrogi bod Clybiau wedi cael eu hannog i fanteisio ar gyllid parhaus gan y Cyngor drwy'r rhaglen Drosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT), fodd bynnag, roedd ef a sawl un o arall o'i gyd-aelodau, yn teimlo bod y broses CAT yn gymhleth iawn ac yn brin o adnoddau, ynghyd â'r ffaith bod llawer o Glybiau a Chymdeithasau yn cael eu harwain gan wirfoddolwyr.

 

Gofynnodd yr Arweinydd, yn dilyn cyflwyniad y Cynghorydd Thomas, i Aelodau'r Cabinet a oedd ganddynt unrhyw gwestiynau i'w cyflwyno i'r Cynghorydd Thomas mewn perthynas â phenderfyniad y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol i alw i mewn penderfyniad cynharach y Cabinet.

 

Gwnaeth yr Aelod Cabinet dros Gymunedau gydnabod bod Aelodau wedi codi rhai pryderon yngl?n â CAT, ond roedd yn meddwl tybed a oedd hyn mewn perthynas â'r broses CAT ddiwygiedig, a adolygwyd ym mis Gorffennaf 2019 a oedd yn fwy syml a haws i'w deall, neu'r hen broses.  Gofynnodd y Cynghorydd Young a oedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol wedi cydnabod hyn, cyn argymell bod y Cabinet yn ailystyried ei benderfyniad blaenorol.

 

Atebodd y Cynghorydd Thomas yn ôl ei atgof, nad oedd hyn wedi cael ei drafod yn y cyfarfod Galw i Mewn uchod. Gwnaeth y pwynt, fodd bynnag, cyn belled ag yr oedd yn ymwybodol, mai dim ond un cais CAT llwyddiannus oedd wedi cael ei gwblhau hyd yn hyn. Er gwaethaf hyn, roedd yn teimlo bod CAT yn brin o adnoddau o safbwynt Swyddog, gan mai dim ond un Swyddog yn yr Awdurdod sy'n cefnogi'r broses CAT ar hyn o bryd, sydd ddim yn ddigon i ddelio â'r cynnydd posibl o geisiadau CAT yn y dyfodol.

 

Cynghorodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau y byddai'n fodlon cwrdd ag unrhyw Aelodau ynghylch y newidiadau a wnaed i'r broses CAT, er mwyn eu gwneud yn fwy cyfarwydd â'r broses ddiwygiedig a'r newidiadau a wnaed. Ychwanegodd fod Aelodau wedi gwneud rhai ymrwymiadau, yng nghyfarfod y Cabinet lle gwnaed y penderfyniad mewn perthynas ag adran cyfleusterau o'r adroddiad, o ran y byddai cronfa yn cael ei sefydlu i gefnogi timau babanod, plant a phobl ifanc a thimau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol. Gwnaeth yr Aelodau Cabinet/Swyddogion gydnabod hefyd y byddai rhai sefydliadau yn cael trafferth â'r broses ac felly, byddai'r rhain yn cael eu lliniaru i'r graddau sy'n ymarferol bosibl. Ychwanegodd fod y Cyngor hefyd yn awyddus i weithio â Chynghorau Tref/Cymuned o ran cymryd drosodd rhai asedau ac y gallent gynyddu eu praesept er mwyn cynorthwyo gyda hyn.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau fod ganddo gyfarfod ag Undeb Rygbi Cymru (WRU) yfory, lle byddai gweithredu'r asedau y cyfeirir atynt yn yr adroddiad i'r dyfodol yn cael ei drafod ymhellach.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Thomas gadarnhau y byddai'n fodlon trafod y newid ym mharamedrau CAT. Roedd yn dymuno cael eglurhad llawn o'r broses newydd, ac roedd yn sicr y byddai Aelodau eraill yn elwa o hynny hefyd.

 

Cynghorodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Help Cynnar fod y Cabinet yn rhannu rhai o'r pryderon a godwyd gan yr Aelodau a alwodd y penderfyniad i mewn. Y broblem oedd, fodd bynnag, fod rhaid i'r Awdurdod fel eraill, sicrhau cyllideb gytbwys. Roedd angen i CBS Pen-y-bont ar Ogwr sicrhau arbedion o £36m dros y 4 blynedd nesaf, ac roedd hwn yn swm sylweddol yn ychwanegol i'r lefel o arbedion sydd eisoes wedi eu gwneud ers y caledi.  Pwysleisiodd y pwynt, y gallai unrhyw Aelod gysylltu â'r Cabinet i drafod elfennau o Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) y Cyngor. Nododd nad oedd yna awgrym arall wedi cael ei wneud gan Aelodau yng nghyfarfod galw i mewn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, lle gallai'r arbedion wedi eu clustnodi ar gyfer Caeau Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau Parciau ddod o unrhyw le arall. Fodd bynnag, roedd angen sicrhau'r lefel hon o arbedion, felly croesawodd awgrymiadau eraill gan Aelodau lle gellid gwneud hynny. Roedd pwysau parhaus wedi bod ar y gyllideb ers i'r dirwasgiad ddigwydd, ym meysydd Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant ac Oedolion ac roedd y rhain yn feysydd lle'r oedd gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb statudol i bobl h?n a'r ifanc fel meysydd risg. Pan oedd mwy o adnoddau na ddisgwyliwyd yn ofynnol i gynnal y lefelau priodol o gymorth yn y meysydd hyn, daeth yr arian i wneud hyn, yn anochel, o'r gwasanaethau anstatudol, gan fod y rhain yn llai gwrth risg. Roedd y Cyngor hefyd yn rhwym oherwydd rhesymau diogelwch, i sicrhau bod y Rhwydwaith Priffyrdd yn cael ei ariannu'n ddigonol h.y. drwy lenwi tyllau yn y ffordd, etc.  Nid oedd yn ddyletswydd ar awdurdodau lleol, fodd bynnag, i roi cymhorthdal i Glybiau a Chymdeithasau Chwaraeon i helpu gyda chostau hurio Pafiliynau Chwaraeon a Chaeau Chwarae, etc. ac er mai dyna'r arfer yn y gorffennol, nid oedd digon o arian ar gael i barhau i wneud hynny yn y dyfodol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Thomas ganmol cyd-aelod o Ward Bracla am y cynigion amgen yr oedd wedi eu cyflwyno i'r Awdurdod o ran cynnal a chadw a hurio'r cyfleusterau uchod yn y dyfodol, ac er na ellid ystyried ei gynigion yng nghyfarfod heddiw, roedd yn teimlo y gallai'r Cabinet archwilio'r rhain yn y dyfodol agos fel rhan o gynigion cyllideb ehangach.

 

Gofynnodd yr Arweinydd i'r Prif Weithredwr a oedd wedi derbyn unrhyw gynigion gan Aelodau, lle gellid gwneud y lefel o arbedion sy'n ofynnol ym maes Caeau Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau Parciau yn rhywle arall. Atebodd y Prif Weithredwr gan ddweud nad oedd wedi derbyn cynigion. Ychwanegodd yr Arweinydd fod arbedion yn y maes gwasanaeth hwn wedi cael eu cytuno gan Aelodau yng nghyfarfod y Cyngor, lle cymeradwywyd y gyllideb a geir yn Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019-20 i 2022-23 ym mis Chwefror 2019.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio i'r Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol, a yw'r rhan fwyaf o'r Clybiau a'r Cymdeithasau Chwaraeon o fewn y Fwrdeistref Sirol wedi ymgysylltu ag ef mewn perthynas â'r posibilrwydd o gymryd drosodd y cyfleusterau drwy'r broses CAT newydd, erbyn hyn.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol mai dim ond un ased - Caeau Chwarae Criced Blaengarw nad oedd wedi ymgysylltu yngl?n â CAT.   

 

Cynghorodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio, yn achos pob £100 yr arferai'r Cyngor wario, fod toriadau rheolaidd i'w gyllideb wedi arwain at y ffigwr hwn yn lleihau i £65. Cwblhawyd mentrau llwyddiannus yn y gorffennol yn Nh? Carnegie, Pen-y-bont ar Ogwr ac yn yr Hen Orsaf Heddlu ym Mhorthcawl. Roedd y bobl hynny a oedd yn rhan o'r prosiectau hyn cyn iddynt gael eu cwblhau, wedi bod yn ddrwgdybus ac yn amheus o ran a fyddai'r rhain yn cael eu cymryd drosodd yn llwyddiannus ai peidio. Yn y diwedd, bu'r rhain yn llwyddiannus ac roedd yn sicr y byddai'r un canlyniad yn digwydd o ran cyfleusterau eraill.  Roedd prosiect tebyg yn cael ei ddatblygu gan Gyngor Cymuned Trelales mewn perthynas â CAT, o ran Canolfan Gymunedol Bryntirion a Threlales a Chaeau Chwarae Bryntirion ychwanegodd.

 

Roedd y Cynghorydd Thomas yn teimlo bod rhaid mynd ar drywydd pob llwybr drwy CAT, lle na fyddai Clybiau yn wynebu'r 'taliadau uchaf' wrth gymryd drosodd unrhyw asedau o'r fath. Roedd wedi bod mewn trafodaethau â Chlwb Pêl-droed Tondu Robins a oedd wedi rhoi gwybod iddo y byddent yn mynd i'r wal pe bai'n rhaid iddynt ariannu'r asedau hynny y maent wedi bod yn eu defnyddio am flynyddoedd lawer, ym Mharc Pandy, Abercynffig, eu hunain.   

 

Roedd yn teimlo bod angen rhannu mwy o wybodaeth â Chlybiau Chwaraeon o ran materion indemniad/costau a diogelwch a chynnal a chadw cyfleusterau.

 

Cynghorodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio y gellid trafod materion fel y rhain, a'u datrys wedi hynny, drwy Glybiau a Chymdeithasau Chwaraeon a Chynghorau Tref/Cymuned yn ymgysylltu â CBS Pen-y-bont ar Ogwr.  Pe baent yn gallu yn mynd yn rhan o drefniadau partneriaeth, er enghraifft, yn nhermau defnyddio Caeau Chwarae a Phafiliynau Chwaraeon ar y cyd, yna ni fyddai elfennau o gost.  Ychwanegodd fod angen iddynt fanteisio yn llawn ar y cyfleoedd a gyflwynai CAT.

 

Cynghorodd y Dirprwy Arweinydd fod y Cyngor wedi bod yn llwyddiannus yn hanesyddol drwy drefniadau partneriaeth. Ymhlith enghreifftiau o hyn oedd V2C a'r stoc dai, Menter Halo gyda'i Chyfleusterau Chwaraeon ac Ymddiriedolaeth Awen drwy ei llyfrgelloedd.  Roedd gan y Cyngor oddeutu 900 o asedau, gydag ôl-groniad o ran cynnal a chadw, gwerth oddeutu £50m ac felly nid oedd ganddo fawr o ddewis ond gwneud newidiadau sylweddol wrth symud ymlaen er mwyn parhau i fodloni ei amcanion corfforaethol a llesiant. Ei ddymuniad oedd parhau i gynorthwyo Clybiau Chwaraeon wrth barhau i ddarparu cyfleoedd chwaraeon o fewn y Fwrdeistref Sirol i bawb ymwneud â nhw, ynghyd â chyfleusterau o safon dda i gefnogi eu cyfranogiad ynddynt, i'r hen a'r ifanc, ac i'r ddau ryw. Roedd rhai Pafiliynau Chwaraeon wedi cau ac nid oedd yn dymuno gweld y duedd hon yn parhau. Roedd rhaid gwneud newidiadau, fodd bynnag, er mwyn atal hyn rhag digwydd.  Roedd hefyd ffynonellau o gyllid grant y gellid eu defnyddio gan gyrff a sefydliadau allanol, nad oedd ar gael i CBS Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd Clwb Rygbi Bryncethin wedi adeiladu cyfleuster o'r radd flaenaf ac wedi cael £500k o gyllid grant er mwyn cyflawni hyn.  Cyflwynwyd y broses CAT am y tro cyntaf yn 2010, ac ers hynny mae'r broses wedi esblygu'n sylweddol, yn benodol ers iddi gael ei hadolygu a'i symleiddio yn ddiweddar. Roedd hefyd yn ansicr a oedd y feirniadaeth a dderbyniwyd gan rai Clybiau mewn perthynas â'r broses CAT flaenorol, neu'r model modern newydd. Nododd y Cynghorydd Williams fod y broses CAT newydd yn cynyddu hyblygrwydd i Glybiau Chwaraeon yn nhermau'r ffordd y gallent gymryd drosodd a rheoli cyfleusterau, gan gynnwys drwy Gytundeb Trwydded.  Cytunwyd y broses newydd ar gyfer CAT fis Gorffennaf diwethaf, ac roedd hon yn broses fwy syml na'r fersiwn flaenorol, er y byddai'n cymryd amser i'w gwreiddio. Byddai'r broses newydd hefyd yn cefnogi darpariaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn yr ystyr y byddai'n caniatáu mwy o hyblygrwydd i fynd i mewn i'r Trefniadau angenrheidiol er mwyn cymryd drosodd a rheoli asedau, gan sicrhau eu cynaliadwyedd hirdymor.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Help Cynnar fod cyfanswm o 60 o Glybiau Chwaraeon sy'n cynrychioli chwaraeon gwahanol, yn defnyddio caeau chwaraeon a chyfleusterau chwaraeon ar hyn o bryd drwy'r Fwrdeistref Sirol, cyfanswm o 293 o dimau cysylltiedig.  Gwnaeth gydnabod y ffaith bod nifer sylweddol o'r timau hyn yn cael eu cefnogi gan wirfoddolwyr di-dâl a bod y cymorth hwn yn werthfawr.  Cydnabuwyd hefyd fod nifer o chwaraeon eraill yn cael eu chwarae o fewn y Fwrdeistref Sirol, er enghraifft, Taekwondo, Judo a dosbarthiadau cadw'n heini, a oedd yn weithgareddau/chwaraeon mwy dan do nag awyr agored. Yn nhermau'r cymorth ariannol yr oedd yr Awdurdod wedi ei ymrwymo i Gaeau Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau Parciau, roedd wedi rhoi cymhorthdal i dalu am oddeutu 80% o'r costau cynnal a chadw, a phwysleisiodd fod gan y Cyngor y lefel o adnoddau ar gael i barhau i ddarparu'r lefel hon o gymhorthdal.  Er hynny, ychwanegodd nad oedd y Gyfarwyddiaeth eisiau gorfodi taliadau newydd ar Glybiau a Chymdeithasau Chwaraeon, ond yn hytrach roedd am iddynt gymryd mantais o CAT.

 

Dymunodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau nodi bod cafeat wedi ei osod ar gynigion y Cyngor o ran y caeau chwarae a'r cyfleusterau cysylltiedig yng Nghaeau Newbridge, Pen-y-bont ar Ogwr.  Roedd hyn yn fater mwy cymhleth o ganlyniad i'r ffaith bod, nifer o Glybiau Chwaraeon gwahanol yn defnyddio'r caeau chwarae h.y. timau pêl-droed, rygbi a chriced.  Byddai'r broses CAT, o ganlyniad, yn anodd ei gweithredu, er roedd yn teimlo y byddai Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn dymuno cael rhan fwy ffurfiol yn y trefniadau yn y dyfodol ar gyfer y safle. 

 

Ychwanegodd hefyd, y byddai'r Cyngor yn bod mor hyblyg ag y gallai o ran sefydliadau sy'n cefnogi'r cyfleusterau hyn wrth symud ymlaen, gyda phob cais CAT yn cael ei ystyried yn ôl ei haeddiant ei hun.  Roedd saith Pafiliwn Parc/Chwaraeon o fewn y Fwrdeistref Sirol eisoes wedi cau, gan nad oeddent yn cwrdd â'r gofynion Iechyd a Diogelwch, a byddai mwy yn dilyn os na fyddai'r rhain yn cael eu cynnal a chadw i'r safon sy'n ofynnol.  Pwysleisiodd y ffaith na fyddai sefydliadau, pe baent yn ymrwymo i'r broses CAT, yn wynebu taliadau uwch nag y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Gwnaeth ategu y gallai'r Cynghorau Tref/Cymuned gynnig cymorth drwy gynyddu eu praesept ac ymgymryd â throsglwyddiadau fel y gellid cadw'r asedau hyn o fewn y llywodraeth leol.

 

Roedd yr Arweinydd yn teimlo y dylid rhannu'r Polisi CAT newydd y mae'r Cyngor wedi ei fabwysiadu, â'r holl Gynghorwyr fel rhan o sesiwn friffio ar Ddatblygiad Aelodau. Roedd hefyd yn teimlo bod angen rhannu'r Polisi â'r holl Glybiau a Chymdeithasau Chwaraeon a sefydliadau perthnasol eraill.  Gofynnodd a oedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol fel rhan o'i benderfyniad i alw'r penderfyniad yn ôl i'r Cabinet ei ystyried ymhellach, wedi edrych ar awdurdodau eraill a oedd wedi lleihau eu cymhorthdal neu fygwth cau cyfleusterau, er mwyn mesur llwyddiant ai peidio polisïau o'r fath.

 

Atebodd y Cynghorydd Thomas gan ddweud nad oedd yn cofio'r Pwyllgor yn gwneud cymariaethau ag awdurdodau eraill mewn perthynas â'r mater hwn, fodd bynnag, roedd Aelodau yn ymwybodol bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi buddsoddi £2m yn y gwaith o weithredu'r cyfleusterau chwaraeon ar gyfer y dyfodol, a oedd yn cynnwys caeau 4G.

 

Cynghorodd yr Arweinydd fod CBS Castell-nedd Port Talbot a CBS Bro Morgannwg wedi cael eu gorfodi i wneud penderfyniadau tebyg, yr oedd CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn eu cynnig yngl?n â'u cyfleusterau Chwaraeon.

 

Yna gofynnodd yr Arweinydd i'r Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol egluro'r broses CAT a sut y gwnaeth y newidiadau a gyflwynwyd fis Gorffennaf diwethaf effeithio ar hyn.

 

Eglurodd y Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol, mai dim ond un CAT a oedd wedi ei gwblhau'n llawn hyd yn hyn, a bod hyn mewn perthynas â'r cyfleusterau yng Nghaeau Chwarae Bryncethin.  Cynghorodd fod Clwb Rygbi Bryncethin wedi bod yn uchelgeisiol drwy gydol y broses ac wedi llwyddo yn y pen draw i sicrhau cyllid allanol o £550k i drawsnewid y pafiliwn yn ganolfan gymunedol.  Eglurodd mai'r angen i sicrhau cyllid oedd y prif reswm dros oedi'r prosiect a chwblhau'r brydles, ond y gellid dysgu gwersi a gwella prosesau.  O ystyried hyn, sefydlwyd Gr?p Gorchwyl a Gorffen, yn cynnwys aelodau o'r Cabinet a Swyddogion allweddol, gyda'r nod o wella a symleiddio'r broses. Roedd hyn yn cynnwys cynnal ymarfer meincnodi gydag awdurdodau lleol cyfagos. Yn gyntaf, ceisiwyd Mynegiannau o Ddiddordeb Anffurfiol gan sefydliadau a oedd â diddordeb yn y broses CAT, lle'r oedd y Swyddog CAT yn ymweld â Chlybiau Chwaraeon a grwpiau cymunedol eraill (gan gynnwys Cynghorau Tref/Cymuned) i drafod argaeledd yr ased ac amlinellu'r broses CAT. Profodd y dull hwn yn llwyddiannus gan sefydlu trefniadau ymgysylltu llawn bron â Chlybiau Chwaraeon.   Ail ran y broses oedd cyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb Ffurfiol ysgrifenedig, a fyddai'n cael ei ystyried gan Gr?p Llywio CAT, er mwyn pennu a oedd yr ased yn gymwys i'w drosglwyddo, h.y. drwy brydles hirdymor, tenantiaeth tymor byr neu Drwydded. Byddai'r Cyngor hefyd yn edrych ar gymorth y mae grwpiau cymunedol ei angen i weithredu trosglwyddiad, a byddai Cynghorydd Busnes, yn cael ei benodi gan ein partneriaid, Canolfan Cydweithredol Cymru neu Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo - dan gontract Cymorth Busnes CAT.  Byddai hyn hefyd yn cynnwys asesiad diagnostig busnes [diwydrwydd dyladwy] i sicrhau bod gan y gr?p cymunedol perthnasol y galluoedd a'r capasiti gofynnol i reoli a chynnal yr ased i gael ei drosglwyddo.

 

Pwysleisiodd y Swyddog Trosglwyddo Asedau y byddai unrhyw sefydliadau yn cymryd drosodd asedau yn cael cymorth gan yr Awdurdod i ddod yn endid cyfreithiol gydag atebolrwydd cyfyngedig megis Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO) neu Gwmni Cyfyngedig drwy Warant gyda chostau cysylltiedig yn cael eu hariannu o dan gontract Cymorth Busnes CAT.  Byddai yna hefyd gyfleoedd hyfforddi i sicrhau bod grwpiau cymunedol yn ymwybodol o'u priod ddyletswyddau a chyfrifoldebau fel cyfarwyddwyr / ymddiriedolwyr.

 

Eglurodd fod proses Llwybr Carlam wedi ei chyflwyno o dan y polisi CAT diwygiedig, a oedd yn sicrhau na fyddai'r rhan fwyaf o'r grwpiau cymunedol angen cyflwyno cynllun busnes manwl mwyach, ond yn hytrach, rhagolwg ariannol 5 mlynedd, gyda mwy o bwyslais ar ddiwydrwydd dyladwy o dan yr asesiad diagnostig busnes. Byddai'r Cyngor yn rhoi gwybod i grwpiau cymunedol am rwymedigaethau parhaus drwy ddarparu copïau o arolygon cyflwr annibynnol, arolwg ailwampio asbestos a dadansoddiad o gostau cyfleustodau cyfredol. Ychwanegodd y byddai'r Cyngor a'i Gynghorydd Busnes yn darparu cymorth, er mwyn gwneud y sefydliad yn llwyr ymwybodol o safbwynt rheoli'r asedau a ddaeth yn gyfrifol amdanynt. Byddai'r Gr?p Llywio CAT hefyd yn chwarae ei ran drwy archwilio cynaliadwyedd y Clybiau/Cymdeithasau Chwaraeon a ddaeth yn rhan o'r broses hon, fesul achos.  Roedd dulliau gwahanol o ran sut y gellid rhyddhau asedau, y cyfeiriwyd atynt yn gynharach yn y trafodaethau, a fyddai'n cael eu hamlinellu ym Mhenawdau'r Telerau cyn cytuno ar y brydles, tenantiaeth neu drwydded. Cadarnhaodd y Swyddog CAT fod prydlesi ar gyfer 8 CAT yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd.

 

Sefydlwyd Cronfa CAT gwerth £1 miliwn gan y Cyngor i ariannu atgyweiriadau i adeiladau yn dilyn cwblhau trosglwyddiadau gyda cheisiadau am hyd at £50k o gyllid yn cael eu cymeradwyo gan Gr?p Llywio CAT, gydag unrhyw ymrwymiadau ariannol uwch gan yr Awdurdod yn cael eu cymeradwyo gan y Cabinet.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol fod y broses CAT wreiddiol yn fwy cymhleth, ond bod hyn wedi cael ei gyflwyno gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr ar sail canllawiau ar yr arferion gorau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â diogelu unrhyw asedau a oedd yn cael eu cymryd drosodd gan yr awdurdod lleol.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Help Cynnar, fod 3 Chlwb yn ardal Maesteg, un o'r rheiny oedd Clwb Rygbi Maesteg Harlequins, a oedd yn rhan o CAT drwy drefniant prydles. Gofynnodd faint o amser oedd hi'n cymryd i gwblhau trosglwyddiad asedau drwy'r math hwn o drefniant.

 

Cynghorodd y Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol, fod y Clybiau y cyfeiriodd yr Aelod atynt, yng nghamau olaf y broses ac y byddai'r Prydlesi Telerau Penawdau math sylfaenol yn cael eu cyflwyno ar gyfer hyn, ar ffurf dogfen sylfaenol. Byddai'r rhain yn cael eu hystyried gan Gr?p Llywio CAT. Dyma'r dull a ddefnyddiwyd gan Glwb Rygbi Bryncethin a Chlwb Pêl-droed Caerau i gymryd asedau drosodd. Roedd yn teimlo y byddai'r prosesau ar gyfer cwblhau prosiectau CAT, yn dod yn fwy cyson, wrth i fwy gael eu cwblhau.

 

Holodd yr Arweinydd am y cynnydd sy'n cael ei wneud i ddatblygu strategaeth ar wahân ar gyfer Caeau Newbridge.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol, ei fod yn bwriadu cwrdd â chynrychiolwyr o Ganolfan Cydweithredol Cymru ac Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo i edrych ar ymgysylltu ag ymgynghorwyr i ymgymryd â phroses arfarnu opsiynau i bennu'r ffordd orau ymlaen yng Nghaeau Newbridge, o ystyried y timau amryfal sy'n defnyddio'r cyfleusterau hyn. Byddai arfarniad tebyg yn cael ei gynnal mewn perthynas â Pharc Lles Maesteg ac Aberfields yng Nghwm Ogwr ("y Planka"), dau leoliad sydd â threfniant tebyg iawn i Gaeau Newbridge. O'r broses Arfarnu Opsiynau hon byddai'r Cyngor ar y cyd â'i gynghorwyr yn cwrdd â defnyddwyr yr ardaloedd hyn a rhanddeiliaid eraill, megis Cynghorau Tref a Chymuned a chyrff llywodraethu Chwaraeon, er mwyn sefydlu sut y gellir rheoli'r asedau hyn yn fwy effeithiol yn y dyfodol.

 

Gofynnodd yr Arweinydd am eglurhad, os byddai unrhyw Glwb Chwaraeon neu gr?p cymunedol yn ymrwymo i'r broses CAT a byddai oedi, a fyddai hyn yn arwain at gynnydd mewn taliadau o ganlyniad i dynnu cymhorthdal y Cyngor yn ôl? Os mai dyma'r achos, dylid rhoi gwybod iddynt am hyn hefyd, yn ysgrifenedig.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor wedi cytuno, y bydd ffioedd hurio cyfredol, unrhyw sefydliad sydd wedi ymrwymo'n llawn i fwrw ati â Throsglwyddo Ased Cymunedol ac yn methu â chwblhau prydles neu drwydded ar gyfer caeau chwarae a phafiliynau chwaraeon erbyn y dyddiad cau, mis Medi 2020, heb ddim bai arnynt hwy, yn rhewi ar y lefelau presennol, ac eithrio'r addasiad rheolaidd ar gyfer chwyddiant, hyd nes y datrysir unrhyw faterion.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol, Aelodau at baragraffau 4.6 a 4.7 o'r adroddiad, lle nododd fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol a alwodd penderfyniad y Cabinet i mewn, wedi mynegi rhai pryderon fod gwybodaeth annigonol o fewn adrodd y Cabinet ar Barciau, Pafiliynau Chwaraeon a Meysydd Chwarae etc., yngl?n â nifer y clybiau chwaraeon, sydd wedi eu heffeithio gan y newidiadau i gynnydd mewn ffioedd hurio a faint o gemau a chwaraeir ar y caeau amrywiol. Roedd pryderon wedi cael eu mynegi hefyd fod gwybodaeth annigonol wedi ei darparu yn yr adroddiad o ran taliadau, h.y. fod tâl blynyddol wedi ei restru, ond nid unrhyw ddadansoddiad o ran ffi fesul tro.

 

Gwnaeth atgoffa Aelodau o ddiben adroddiad y Cabinet, sef darparu adborth manwl i'r Cabinet ar yr ymgynghoriad cyhoeddus, a gynhaliwyd rhwng 17 Ebrill a 10 Gorffennaf 2019, ar gynigion i wneud darpariaeth y Cyngor o gaeau chwarae, cyfleusterau chwaraeon awyr agored a phafiliynau parciau yn fwy cynaliadwy wrth symud ymlaen. Yn ogystal, mae'r adroddiad yn cyflwyno argymhellion i gefnogi darpariaeth gynaliadwy yn ariannol i'r dyfodol o gyfleusterau ac mae'n rhoi diweddariad yngl?n â chynnydd cyfredol Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT).

 

Cadarnhaodd mai prif bwyslais yr adroddiad, oedd rhoi gwybod i'r cyhoedd nad oedd y Cyngor yn gallu yn ariannol, parhau i ddarparu'r lefel o gymhorthdal y mae'n ei ddarparu ar hyn o bryd ac wedi ei ddarparu yn y gorffennol, i Glybiau a Sefydliadau eraill, ar gyfer gweithredu'r cyfleusterau hyn yn y dyfodol. Roedd hyn o ganlyniad i galedi a'r ffaith bod y Cyngor, ers hynny, wedi wynebu toriadau sylweddol i'r gyllideb, flwyddyn ar ôl blwyddyn.

 

Roedd rhaid gwneud arbedion yn y maes hwn o dan Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) y Cyngor, o £435k dros y 2 flynedd nesaf, ac yn syml, ni allai'r Cyngor barhau i ddarparu'r lefel o gymhorthdal yr oedd wedi ei ddarparu yn y gorffennol.

 

Roedd awdurdodau lleol cyfagos eraill wedi cyflwyno polisïau tebyg i hyrwyddo trosglwyddo asedau drwy gynyddu ffioedd hurio a'u meincnodi â'r hyn yr oedd CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn ei gynnig. Roedd y newidiadau wedi cael eu cyflawni'n llwyddiannus yn CBS Castell-nedd Port Talbot er enghraifft, lle'r oedd timau chwaraeon yn dal yn bodoli ac yn cefnogi'r asedau a amlinellir yn yr adroddiad, heb gymorth ariannol gan yr awdurdod lleol hwnnw.

 

Strategaeth y Cyngor oedd na fyddai'r un clwb yn talu'r costau uwch, ond yn hytrach, byddai Clybiau Chwaraeon yn cael eu cyfeirio at CAT, ac yn cael eu cefnogi mewn ffordd hyblyg i gyflawni'r gwaith o drosglwyddo cyfrifoldeb. Roedd y costau a geir yn Atodiad E yn adroddiad blaenorol y Cabinet at ddibenion darluniadol yn unig, ac yn ganllaw i ffioedd blynyddol posibl yn y dyfodol, ond dim ond i unrhyw glwb sy'n amharod neu'n analluog i ymrwymo i CAT fyddai'r rhain yn berthnasol.

 

Cynghorodd y Prif Weithredwr y byddai cronfa flynyddol yn cael ei neilltuo, oddeutu £75k y flwyddyn, dros gyfnod cychwynnol o 2 flynedd, ac y gallai Clybiau Chwaraeon wneud cais, gyda phroses ymgeisio syml, tebyg i sut y gwneir ceisiadau gan Gynghorau Tref/Cymuned i'r Cynllun Grant Cyfalaf Cynghorau Tref a Chymuned. Byddai'r gronfa ar gael i gynorthwyo timau babanod, plant a phobl ifanc gyda chostau megis kit/teithio. Byddai hyn yn debygol o fod ar ffurf cronfa bontio, a byddai manylion yn cael eu cadarnhau yn fuan gydag adroddiad yn y dyfodol i'r Cabinet.

 

Gofynnodd yr Arweinydd am gadarnhad pellach gan Swyddogion, nad oedd awdurdodau cyfagos sydd wedi cael gwared ar y cymhorthdal neu wedi cyhoeddi trefniadau cau i symud trefniadau CAT yn eu blaen, wedi cael effaith negyddol ar Glybiau a Chymdeithasau Chwaraeon a'u defnydd o gyfleusterau chwaraeon lle maent yn chwarae'n gystadleuol.

 

Cynghorodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol, er bod CBS Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo'n ariannol i gefnogi Clybiau a Chymdeithasau Chwaraeon yn y dyfodol wrth barhau i ddefnyddio cyfleusterau o'r fath, roedd nifer eraill wedi, neu ar fin gwneud yr un peth â CBS Castell-nedd Port Talbot, lle'r oeddent naill ai'n codi ffioedd a thaliadau hurio uwch / yn cau cyfleusterau neu'n mabwysiadu CAT. Nid oedd yr un o'r mesurau hyn wedi gweld lleihad yn y nifer o Glybiau Chwaraeon neu gyfleusterau, hyd y gwyddai.

 

Ychwanegodd y Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol fod Caerfyrddin wedi cyhoeddi cau'r holl gyfleusterau chwaraeon gydag 80% o'r holl asedau yn cael eu trosglwyddo i Gynghorau Tref a Chymuned, gyda defnyddwyr presennol yn parhau i hurio cyfleusterau ganddynt.  Bydd yr 20% o asedau sy'n weddill yn cael eu trosglwyddo'n uniongyrchol i Glybiau Chwaraeon.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Help Cynnar, i'r Prif Weithredwr a allai'r gronfa bontio 2 flynedd, gefnogi grwpiau eraill heblaw am bobl ifanc sy'n dymuno parhau i gymryd rhan mewn chwarae a gweithgareddau hamdden.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y gellid ymestyn y gronfa hon i gefnogi grwpiau lleiafrifol eraill megis y genhedlaeth h?n a byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet, yn y dyfodol agos, yn nodi'r mân-fanylion ynlg?n â hyn ac er mwyn i'r Cabinet wneud penderfyniad ar ddiben penodol y gronfa.

 

Ychwanegodd y Swyddog Trosglwyddo Asedau fod ffynonellau eraill o gyllid allanol ar gael i sefydliadau allanol, ond nid i'r awdurdod lleol. Roedd gan y Cyngor y Cynllun Grant Cyfalaf Cynghorau Tref a Chymuned hefyd, a oedd yn blaenoriaethu prosiectau CAT, gyda £50k yn cael ei ddarparu bob blwyddyn.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd, fod cyllid Cyfalaf y gellid ei sicrhau ar gyfer unrhyw waith atgyweirio sylweddol i gyfleusterau, a all fod yn ofynnol mewn perthynas â chais trosglwyddo CAT.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod y Gronfa CAT ar gael, gwerth cyfanswm o £1m, y mae oddeutu £245k wedi cael ei ddyfarnu hyd yn hyn.

 

Fe'i bwriadwyd ar gyfer prosiectau CAT i wella adeiladau ar gyfer eu cynaliadwyedd hirdymor. Byddai'r gronfa hon yn cael ei hail-lenwi yn ôl i £1m, os oes angen, pan a phryd fydd galw am brosiectau CAT ei angen, ychwanegodd y Prif Weithredwr.

 

Roedd yr Arweinydd yn ymwybodol bod Mynegiannau o Ddiddordeb wedi eu derbyn gan Glybiau a Chymdeithasau hyd yn hyn, mewn perthynas â 48 o asedau sy'n gysylltiedig â chwaraeon y Cyngor.

 

Cynghorodd y Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol mai dyma oedd yr achos, a gwnaeth grynhoi, er budd y rhai hynny oedd yn bresennol, enwau'r Clybiau a'r Sefydliadau hyn.

 

Ategodd mai dim ond un Clwb o fewn y Fwrdeistref Sirol, nad oedd wedi cysylltu â'r Cyngor yngl?n â'r uchod, sef Clwb Criced Blaengarw.

 

Yna gofynnodd yr Arweinydd i'r Aelodau a oedd ganddynt unrhyw sylwadau i gloi.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau fod penderfyniad y Cabinet mewn perthynas â'r mater hwn yn ei gyfarfod ar 22 Hydref 2019 wedi bod yn un anodd iawn i'w wneud. Roedd y Gyfarwyddiaeth Cymunedau wedi wynebu rhai toriadau sylweddol i'w gwasanaethau anstatudol, dros sawl blwyddyn bellach. Roedd rhaid i'r Cyngor fodd bynnag, osod cyllideb gytbwys. Roedd y Cabinet wedi ystyried yr ymatebion i'r broses ymgynghori a gynhaliwyd yngl?n â dyfodol asedau y cyfeirir atynt yn yr adroddiad. Ychwanegodd nad oedd y Cyngor yn troi ei gefn ar gynorthwyo Clybiau a Chymdeithasau wrth weithredu cyfleusterau yn y dyfodol. Ac nid oedd y Cyngor ychwaith yn dymuno cau Cyfleusterau Chwaraeon a Phafiliynau Parciau etc. Roedd, fodd bynnag, yn dymuno gweithredu Strategaeth a fyddai'n sicrhau cefnogi cyfleusterau o'r fath yn y dyfodol drwy wneud yn si?r eu bod yn parhau i ateb y diben ac ar agor. Daeth i'r casgliad y gallai'r Cyngor fod wedi cyfathrebu'n well ac mewn ffordd fwy rhagweithiol nag y gwnaeth, yngl?n â'i gynigion a strategaeth ar gyfer y dyfodol, gyda sefydliadau allanol a Chlybiau Chwaraeon etc. Wedi dweud hynny, gwnaeth ganmol gwaith y Swyddogion a oedd wedi cyfrannu at broses well yn nhermau CAT, yn benodol y Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol. Nid oedd fawr o ddewis oni bai am yr hyn a gynigwyd, er mwyn sicrhau'r lefel o arbedion sy'n ofynnol yn y maes gwasanaeth hwn. Er, roedd yn ymwybodol bod un Aelod o'r Cyngor erbyn hyn yn dymuno trafod cynnig arall eg ef, a sicrhaodd aelodau y byddai'r Cabinet a'r prif Swyddogion yn edrych ar hyn ar ôl cael y manylion, ond byddai'r cynigion angen gwneud yr un lefel o arbedion yn y Gyfarwyddiaeth a darparu datrysiad cynaliadwy hirdymor. Roedd y Cabinet wedi ymrwymo o hyd i sicrhau bod chwaraeon yn ffynnu yn y dyfodol drwy'r Fwrdeistref Sirol, ychwanegodd.

 

Tynnodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio sylw at y ffaith bod y broses CAT wedi esblygu a'i bod erbyn hyn yn fwy syml nag yr oedd yn y gorffennol. Roedd gan y Cyngor hanes blaenorol o drosglwyddo ei asedau i sefydliadau eraill, gan fod y rhain wedi llwyddo. Roedd y cynigion a gytunwyd gan y Cabinet yn flaenorol, yn caniatáu'r cyfle ar gyfer partneriaethau a chydweithio, er mwyn cadw asedau ar agor, yn ogystal â chynnig y cyfle i wella eu cyflwr.  Fodd bynnag, byddai'r Cabinet angen ystyried adroddiad arall o ran gweithrediad asedau yn y dyfodol yng Nghaeau Newbridge a rhannau eraill o'r Fwrdeistref Sirol y cyfeiriwyd atynt yn gynharach.

 

Gwnaeth yr Arweinydd atgoffa'r rhai hynny a oedd yn bresennol, fod rhaid i'r Cyngor sicrhau arbedion o £35m dros y 4 blynedd nesaf, a fyddai'n cynnwys colli swyddi, gan gynnwys swyddi proffesiynol megis staff addysgu. Roedd caledi parhaus yn ei gwneud hi'n gynyddol anodd iddynt gydbwyso cyllideb y Cyngor. Felly, roedd penderfyniadau anodd wedi cael eu gwneud hyd yn hyn, a byddai'n rhaid parhau i wneud rhai yn y dyfodol, nes iddo ddod i ben.

 

Gwnaeth gloi drwy ddweud bod y toriadau i'r gyllideb a aliniwyd i'r maes gwasanaeth sydd dan sylw yn yr adroddiad, wedi cael eu hadrodd i'r Aelodau o'r blaen a'u bod wedi cytuno arnynt, pan osododd y Cyngor llawn y gyllideb a chyn hynny, pan fe'u trafodwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol a'r Panel Ymchwil a Gwerthuso Cyllideb.

 

O ganlyniad, cytunodd yr Aelodau yn unfrydol ar y canlynol:

 

PENDERFYNWYD:                          Bod y Cabinet yn cadarnhau ei benderfyniad blaenorol a wnaed yn y cyfarfod wedi ei ddyddio 22 Hydref 2019, mewn perthynas â'r eitem uchod. (Rhif Cofnod: 423)            

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z