Cofnodion:
Cyflwynodd Ginette Beal o Grant Thornton adolygiad dilynol o Wasanaethau Iechyd yr Amgylchedd. SAC a oedd wedi comisiynu Grant Thornton i gynnal yr adolygiad. Hysbysodd y Pwyllgor fod SAC wedi cyflawni'r darn hwn o waith fel dilyniant i adroddiad cenedlaethol a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2014 o dan y teitl 'Cyflawni â llai - yr effaith ar wasanaethau iechyd yr amgylchedd a dinasyddion'. Roedd yr adolygiad lleol yn 2019 yn asesu a gafwyd unrhyw newidiadau o ran cyllideb neu staff o fewn gwasanaethau iechyd yr amgylchedd y Cyngor, a'r graddau yr oedd y Cyngor wedi mynd i'r afael â'r argymhellion yn ei hadroddiad cenedlaethol yn 2014. Yn yr adolygiad diweddar canolbwyntiwyd ar gynnydd y Cyngor tuag at ymdrin ag argymhellion 2, 3, 4 a 5, sef:
A2 Rhoi’r sgiliau a’r cymorth sydd eu hangen ar gadeiryddion ac aelodau pwyllgorau craffu i graffu ar berfformiad gwasanaethau, cynlluniau arbed ac effaith gostyngiadau cyllidebol a’u herio’n effeithiol.
A3 Ymgysylltu’n well â thrigolion lleol ynghylch cynlluniau i dorri cyllidebau a newid gwasanaethau drwy:
• ymgynghori â thrigolion ar newidiadau arfaethedig mewn gwasanaethau a
defnyddio’r canfyddiadau i lywio penderfyniadau;
• amlinellu pa wasanaethau a gaiff eu torri a sut y bydd y toriadau hyn yn
effeithio ar drigolion; a
• nodi cynlluniau i gynyddu taliadau neu newid safonau
gwasanaeth.
A4 Gwella effeithlonrwydd a gwerth am arian drwy:
• Nodi dyletswyddau statudol ac anstatudol gwasanaethau iechyd yr amgylchedd cynghorau;
• Cytuno ar flaenoriaethau iechyd yr amgylchedd ar gyfer y dyfodol a rôl cynghorau wrth gyflawni’r rhain;
• Pennu ‘safon dderbyniol o berfformiad’ ar gyfer gwasanaethau iechyd yr amgylchedd (uchaf ac isaf) a rhoi cyhoeddusrwydd iddynt ymhlith dinasyddion;
• Gwella effeithlonrwydd a chynnal perfformiad ar y lefel y cytunwyd arni drwy wneud y canlynol:
? cydweithio a/neu integreiddio ag eraill er mwyn lleihau costau a/neu wella ansawdd;
? gosod gwasanaethau ar gontractau allanol lle y gellir eu darparu mewn ffordd fwy cost-effeithiol yn unol â’r safonau y cytunwyd arnynt;
? cyflwyno a/neu gynyddu taliadau a chanolbwyntio ar weithgarwch sy’n cynhyrchu incwm;
? defnyddio grantiau mewn ffordd strategol er mwyn sicrhau’r effaith a’r elw mwyaf; a
? lleihau gweithgareddau er mwyn canolbwyntio ar flaenoriaethau statudol a strategol craidd.
A5 Gwella gwaith cynllunio strategol drwy:
• nodi, casglu a dadansoddi data ariannol, data ar berfformiad a data ar alw/angen mewn perthynas â gwasanaethau iechyd yr amgylchedd;
• dadansoddi data a gasglwyd er mwyn llywio a deall y gydberthynas rhwng ‘cost: budd: effaith’ a defnyddio’r wybodaeth hon fel sail i benderfyniadau ar wasanaethau iechyd yr amgylchedd cynghorau yn y dyfodol; a
• chytuno sut y gellir defnyddio gwybodaeth ddigidol i gynllunio a datblygu gwasanaethau iechyd yr amgylchedd yn y dyfodol.
Hysbysodd y Pwyllgor fod SAC, ar y cyfan, wedi canfod bod model y Cydwasanaethau Rheoleiddio yn galluogi'r Cyngor i barhau i gyflenwi ei wasanaethau iechyd yr amgylchedd yng nghyd-destun adnoddau sy'n prinhau a'r cyfrifoldebau ychwanegol a osodir arno yn sgil newidiadau parhaus mewn deddfwriaeth. Yr oedd hefyd yn teimlo bod lle i'r Cyngor gryfhau ei drefniadau trosolwg a chraffu ar gyfer gwasanaethau iechyd yr amgylchedd a'i waith gyda'r Cydwasanaethau Rheoleiddio a darparwyr eraill er mwyn archwilio cyfleoedd i wella yn y dyfodol.
Hysbysodd Rheolwr Gweithredol y Cydwasanaethau Rheoleiddio y Pwyllgor bod yr adroddiad yn rhoi darlun cadarnhaol. Dywedodd fod y trefniadau rheoli wedi cael eu symleiddio, ond y byddai heriau cynyddol o'n blaen. Mae'r Cydwasanaethau Rheoleiddio wedi ymrwymo i gynnal adolygiad 4 blynedd o'r gwasanaetha gan ymgynghori â'u Bwrdd, eu staff a'r Undebau Llafur. Yr oedd yn ymwybodol y gallai cyfleoedd godi i bob un o'r tri Chyngor graffu ar y gwasanaeth. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol wedi cynnwys eitem ar ei raglen waith i Graffu ar y Cydwasanaethau Rheoleiddio.
Gofynnodd y Pwyllgor a oedd y Cydwasanaethau Rheoleiddio yn gallu cystadlu â darparwyr gwasanaethau rheoli pla allanol. Hysbysodd y Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth y Pwyllgor fod y Cyngor yn cynnal ymgynghoriad er mwyn penderfynu a ddylid parhau i ddarparu gwasanaeth rheoli pla di-dâl. Hysbysodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro y Pwyllgor fod y Panel Ymchwil a Gwerthuso Cyllidebau wedi edrych ar hyn yn rhan o broses y gyllideb, ac wedi cyflwyno argymhellion. Roedd y cynnig ar hyn o bryd yn rhan o'r broses ymgynghori'r gyllideb.
Hysbysodd y Rheolwr Gweithredol y Pwyllgor fod Pennaeth y Cydwasanaethau Rheoleiddio yn ystyried darparu cyfleoedd i hyfforddi'r Aelodau. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio fod cyfleoedd craffu dan ystyriaeth.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor wedi nodi Adroddiad Dilynol SAC ar Wasanaethau Iechyd yr Amgylchedd.
Dogfennau ategol: