Agenda item

Grant Cyfleusterau i'r Anabl (DFG) - Ymateb i Argymhellion SAC

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth y newyddion diweddaraf am gynnydd yr argymhellion a wnaed yn adroddiad SAC ar lefelau bodlonrwydd ymgeiswyr Grant Cyfleusterau i'r Anabl ym Mhen-y-bont ar Ogwr. 

 

Hysbysodd y Pwyllgor fod nifer o gamau wedi cael eu gweithredu ers yr adroddiad er mwyn ymateb i argymhellion penodol SAC.  Dangosodd hefyd enghreifftiau o astudiaethau achos a oedd wedi cael eu darparu. Roedd y camau allweddol eraill a gymerwyd yn cynnwys ad-drefnu'r staff; gwaith ymchwil â chysylltu ag awdurdodau lleol eraill er mwyn ymchwilio i fodelau darparu a gweithredol, gan gynnwys Cyngor Dinas Caerdydd a Chyngor Castell-nedd Port Talbot; Adolygiad Syniadaeth Ddarbodus wedi'i gynnal gan Ymgynghorydd Annibynnol er mwyn canfod biwrocratiaeth a rhwystrau diangen; a nifer o newidiadau gweithredol o ddydd i ddydd er mwyn eglurhau a symleiddio prosesau lle bo modd, a mwy o waith monitro ac adolygu.

 

Tynnodd sylw at yr heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth, gydag achosion cymhleth sy'n cymryd mwy o amser i'w cyflawni yn effeithio ar gyfartaleddau cyffredinol, Canlyniad hyn oedd cyfartaledd o 270 diwrnod i ddarparu DFG (mae CBSPO yn yr 20fed safle yng Nghymru); 713 o ddiwrnodiau i ddarparu DFG i blant, sydd yn tueddu i fod yn fwy cymhleth, ac achosion mwy a oedd yn aml yn golygu gosod estyniad ar ystafell wely neu ystafell wlyb. Dywedodd fod angen gwaith dylunio a chynllunio manwl ar gyfer y rhain, a'u bod yn cymryd mwy o amser i'w cyflawni nag achosion llai cymhleth; a 244 o ddiwrnodiau i ddarparu DFG oedolyn.  Hysbysodd y Pwyllgor nad oedd y gwariant llawn yn cael ei gyflawni yn y rhan fwyaf o flynyddoedd, a bod llawer o newidynnau o fewn y model darparu cyfredol, yn fewnol ac yn allanol, a oedd wedi arwain at y sefyllfa hon. Roedd yr adolygiad syniadaeth ddarbodus wedi tynnu sylw at y rhain, ac roeddent yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd. Dywedodd fod hyn, ynghyd â'r wybodaeth a gasglwyd gan awdurdodau lleol eraill wedi amlygu agweddau allweddol i'w hystyried ymhellach.

 

Adroddodd fod y gwasanaeth DFG mewn cyfnod o newid a bod llawer o waith wedi'i gyflawni i ddatblygu opsiynau ar gyfer model darparu'r dyfodol drwy gamau gweithredu i ddatblygu'r gwasanaeth ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor. Gan ystyried canfyddiadau ac argymhellion SAC a safonau gwasanaeth LlC, mae ymchwil yn parhau i nodi'r Model mwyaf effeithiol i ddarparu gwasanaeth amserol o ansawdd i ymgeiswyr;  cyflwyno lefel o reolaeth dros faterion perfformiad a diogelu;  sicrhau lefel briodol o adnoddau a sicrhau bod mân waith yn parhau i gael ei gyflawni'n effeithiol. Dywedodd y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ar fodelau cyflenwi a gwybodaeth cost/budd yn gysylltiedig ag opsiynau. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor pam bod y gwasanaeth yn yr 20fed safle yng Nghymru o ran perfformiad, a pham ei bod hi wedi cymryd mor hir i gyflwyno gwelliannau ym mherfformiad y gwasanaeth, a beth fyddai'r raddfa amser resymol i adolygu'r gwasanaeth a'i leoli yn gyntaf yng Nghymru. Soniodd y Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth y Pwyllgor am yr heriau o flaen y gwasanaeth gan ddweud mai'r amcan oedd gwella ei berfformiad. Dywedodd ei bod hi wedi cymryd cryn amser i sefydlu beth oedd o'i le â'r gwasanaeth a bod angen sefydlu model gwaith newydd. Dywedodd hefyd fod angen anelu'n uchel, a bod perfformiad wedi gwella a'i bod bellach yn cymryd 500 o ddiwrnodiau i gwblhau DFGs plant.  Dywedodd wrth y Pwyllgor eu bod wedi dysgu arfer gorau oddi wrth gynghorau Caerdydd, RhCT a Chastell-nedd Port Talbot.  Dywedodd fod model gwaith newydd wedi cael ei ddatblygu i symud y gwasanaeth yn ei flaen, a bod angen i'r Cabinet / CMB gymeradwyo'r model hwnnw.

 

Gofynnodd y Pwyllgor pa mor aml fyddai'r contractwyr yn codi mwy na'r dyfynbris gwreiddiol. Dywedodd y Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth y byddai'n rhoi'r manylion hynny i'r Pwyllgor. Fodd bynnag, roedd DFGs wedi'u cyfyngu i uchafswm o £36k, er bod cyfleusterau benthyca hefyd ar gael i'r rhai a oedd yn derbyn y gwasanaeth.  Dywedodd fod yr awdurdod wedi bod yn agored a thryloyw ynghylch yr hyn yr oedd yn ei ystyried yn DFGs. 

 

Hysbyswyd y Pwyllgor fod yr Adran Archwilio Mewnol ar hyn o bryd yn adolygu DFGs, ac y byddai adroddiad pellach i'r Pwyllgor yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ar hynny ar ôl ei gwblhau. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd gwiriadau DBS yn cael eu cynnal ar gontractwyr. Hysbysodd y Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth y Pwyllgor mai ychydig iawn o gontractwyr sy'n derbyn gwiriadau DBS, a bydd problemau'n codi pan fydd contractwyr yn dod i gymryd lle contractwr arall. Dywedodd fod angen cyflwyno fframwaith a sicrhau nad oedd gwaith yn cael ei is-gontractio.

 

Mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch faint o amser yr oedd hi'n ei gymryd i weithredu argymhelliad therapydd galwedigaethol, er enghraifft. Hysbysodd y Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth y Pwyllgor bod adolygiad wedi canfod y byddai amseroedd darparu yn gyflymach na 7 mis ar gyfer argymhelliad gan therapydd galwedigaethol. 

 

Mynegodd y Pwyllgor bryder y gallai oedi yn achos DFGs plant roi straen ar deuluoedd.  Dywedodd y byddai ymgysylltu yn digwydd ar y cyfle cyntaf yn achos DFGs plant, ac y byddai disgwyliadau'n realistig.

 

PENDERFYNWYD:   (1) Bod y Pwyllgor wedi nodi'r ymatebion a wnaed i adroddiad SAC;

(2) Y dylid nodi bod yr Adran Archwilio Mewnol yn cynnal adolygiad o DFGs, a bod y Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth yn adrodd yn ôl wrth gyfarfod o'r Pwyllgor Archwilio yn y dyfodol ar welliannau a wnaed ym mherfformiad DFGs.

Dogfennau ategol: