Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Adroddiad Dilynol Cynllunio Arbedion Swyddfa Archwilio Cymru

Cofnodion:

Cyflwynodd Samantha Spruce adolygiad Cynllunio Arbedion yn dilyn ymlaen o waith a gyflawnwyd yn flaenorol, mewn adroddiad a gyflwynwyd i'r Cyngor ym mis Mawrth 2017, gyda'r cynigion a ganlyn ar gyfer gwella er mwyn cryfhau trefniadau cynllunio ariannol:

 

·         sicrhau bod cynigion arbed wedi'u datblygu'n llawn a'u bod yn cynnwys graddfeydd amser realistig i'w cyflawni cyn eu cynnwys yn y gyllideb flynyddol; a

·         nodi cynigion arbed dangosol dros gyfnod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig.

 

Hysbysodd y Pwyllgor fod SAC wedi cyflawni gwaith ym mis Mai a mis Mehefin 2019 i asesu cynnydd y Cyngor wrth fynd i'r afael â'r cynigion hyn ar gyfer gwella, ac i ystyried effeithiolrwydd trefniadau'r Cyngor i gyflawni ei gynigion arbed. Ar y cyfan, nododd fod SAC wedi canfod bod gan y Cyngor drefniadau cryfach i ddatblygu a chyflawni cynlluniau arbed, ond bod angen gwneud gwaith pellach i ddatblygu strategaeth ariannol tymor canolig gyflawnadwy, yn enwedig ar gyfer 2020-21 a thu hwnt. Er bod y Cyngor wedi cyflawni'r rhan fwyaf o'i gynlluniau arbed yn 2018-19, roedd angen iddo sicrhau bod y trefniadau cryf newydd yn fodd i barhau â hynny, ac roedd angen i'r graddfeydd amser ar gyfer cyflawni fod mor gywir ag sy'n bosibl.  Nid oedd unrhyw gynigion pellach ar gyfer gwella wedi'u nodi yn yr adolygiad dilynol. Canfu SAC:

 

·         fod y broses ar gyfer datblygu cynigion arbed y gyllideb bellach yn dechrau ynghynt, gan roi mwy o gyfle i swyddogion ac aelodau gael datblygu ac ymgysylltu ar gynigion, gan gyfeirio'n benodol at rôl Panel Ymchwil a Gwerthuso'r Gyllideb (PYGG);

·         bod swyddogion cyllid yn chwarae mwy o ran yn natblygiad cynigion ac yn herio cywirdeb a chyflawnadwyedd amserlenni cyflawni;

·         lle'r oedd arbedion yn cael eu bodloni'n rhannol roedd hynny'n aml oherwydd nad oedd digon o amser wedi'i ganiatáu i ymgynghori â'r cyhoedd neu negodi contractau â phartneriaid.

·         nad oes achosion busnes â chostau llawn a chynlluniau cyflawni i gefnogi'r holl gynigion arbed.

 

Dywedodd y bydd swyddogion yn ystyried y sylwadau manwl a amlinellwyd yn yr adroddiad, ac yn gweithio i gryfhau'r prosesau sydd wedi'u sefydlu.  Bydd SAC yn adolygu cynaliadwyedd ariannol holl Gynghorau Cymru yn rhan o'i waith archwilio perfformiad. Bydd hyn yn cynnwys strategaethau ariannol tymor canolig a thymor hwy, rheoli cyllidebau, rheoli pwysau o ran costau, effeithlonrwydd a chynlluniau arbed, a lefelau'r cronfeydd a'r defnydd ohonynt. Yn ddiweddar, dywedodd fod y Cyngor wedi cwblhau a chyflwyno hunanasesiad fel rhan annatod o'r prosiect hwn.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro wrth y Pwyllgor fod swyddogion yn gweithio'n galed i gyflawni'r arbedion sy'n ofynnol yn y SATC, a chanmol rôl PYGG yn hyn o beth. Dywedodd yr hoffai weld SATC 4 blynedd yn datblygu, ond nid oedd y setliad yn hysbys. Dywedodd wrth y Pwyllgor ei bod hi'n troi'n fwyfwy anodd canfod arbedion, a bod angen arbed £34 miliwn dros y 4 blynedd nesaf.

 

Tynnodd Samantha Spruce o SAC sylw'r Pwyllgor at ddarn o waith y mae SAC yn ei gyflawni ar hyn o bryd ar gynaliadwyedd ariannol awdurdodau lleol ledled Cymru a fyddai'n cael ei gyflwyno gerbron Llywodraeth Cymru. Mynegodd y Pwyllgor bryder bod y Cyngor yn gorfod cwtogi gwasanaethau'n barhaus, ac y dylid rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU ac ar Lywodraeth Cymru i gynyddu gwariant.  Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro wrth y Pwyllgor fod y Cyngor ymhell o'r senario a brofwyd yng Nghyngor Northampton.

 

Dywedodd aelod o'r Pwyllgor nad oedd yr holl Aelodau'n gallu cael yr un mynediad at wybodaeth am y gyllideb er mwyn llunio cynigion amgen ar ei chyfer. Gwnaed cais i roi PYGG ar sail ffurfiol.  Dywedodd Samantha Spruce y byddai'n ymchwilio i drefniadau Cynghorau eraill ar gyfer cynnal cyfarfodydd tebyg i gyfarfodydd PYGG, ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor. Dywedodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro wrth y Pwyllgor fod SAC bob amser wedi ystyried PYGG yn arfer da. Mae ei gyfarfodydd yn anffurfiol, ac mae'n rhaid i'r Aelodau gadw cyfrinachedd, ac roedd ei waith wedi cael ei gymeradwyo. Ei brif bwrpas yw cynorthwyo'r swyddogion Cyllid i baratoi cyllideb gytbwys. Dywedodd fod y darlun yn amrywio'n helaeth ar draws Cymru o ran rhannu gwybodaeth, ac nad oedd gan Aelodau mewn llawer o Gynghorau eraill fynediad at y lefel hon o wybodaeth na'r arfer a ganiateir gan y Cyngor yn PYGG. Dywedodd hefyd ei bod hi wastad ar gael i'r holl Aelodau siarad â hi ynghylch y SATC a'r gyllideb.

 

PENDERFYNWYD:   Bod y Pwyllgor wedi nodi Adroddiad Dilynol SAC ar Gynllunio Arbedion.                

   

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z