Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Llywodraethu'r Gronfa Gofal Integredig

Cofnodion:

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ar drosolwg o'r Gronfa Gofal Integredig (ICF) Genedlaethol ac ar y trefniadau llywodraethu a monitro rhanbarthol a oedd yn gysylltiedig â'r gronfa honno.

 

Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Pwyllgor fod swyddogion ac aelodau etholedig bellach yn gweithio gyda phartneriaid newydd ac yn sefydlu trefniadau partneriaeth rhanbarthol newydd, yn sgil newid ffiniau'r bwrdd iechyd - a elwir bellach yn rhanbarth Cwm Taf Morgannwg. Roedd hyn yn cynnwys dyrannu, rheoli a dylanwadu ar y Gronfa Gofal Integredig sydd yn parhau i gael ei chymeradwyo gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.  Tynnodd sylw at y strwythur llywodraethu sy'n goruchwylio proses yr ICF yn rhanbarth Cwm Taf Morgannwg. Mae adolygiad yn cael ei gynnal o'r trefniadau llywodraethu ar hyn o bryd yn sgil newid ffiniau'r Bwrdd Iechyd. Disgwyliwyd y byddai'r adolygiad yn argymell strwythur tair haen tebyg, gyda'r bwriad o'i weithredu o fis Ebrill 2020.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod dyraniad Refeniw ICF Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg wedi codi o £5.608m i £12.7m yn ystod 2019/20, yn sgil cynnwys dyraniad ICF Pen-y-bont ar Ogwr.  Er mwyn cynorthwyo Pen-y-bont ar Ogwr i drosglwyddo i'r Rhanbarth newydd, cytunwyd y byddai Pen-y-bont ar Ogwr yn clustnodi ei dyraniad Refeniw blaenorol o £1.988m o'r ICF. Tynnodd sylw at enghreifftiau lle'r oedd peth o Refeniw'r ICF yn cael ei glustnodi i themâu a nodwyd yn flaenoriaethau penodol gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyflawni strategaethau cenedlaethol.  Mae'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig, y Cynllun Gweithredu Dementia a System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru yn enghreifftiau o'r modd y mae dyraniadau penodol o'r ICF yn cael eu clustnodi ym mhob dyraniad rhanbarthol. Dywedodd fod y ceisiadau a oedd wedi'u cwblhau am ddyraniad Refeniw o'r ICF felly'n amrywio rhwng sefydliad unigol a cheisiadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig, yn ogystal ag ymagwedd cydweithredol rhanbarthol a allai gynnwys yr holl awdurdodau lleol neu un awdurdod lleol a'r Bwrdd Iechyd. Mae rhai o geisiadau'r ICF ar gyfer cynlluniau blaenorol neu gynlluniau sy'n bodoli eisoes sy'n parhau o'r naill flwyddyn i'r nesaf, ac mae'r cynlluniau hynny ar hyn o bryd yn ddibynnol ar yr ICF.  Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y broses ar gyfer ceisiadau, lle byddai cynigion yn cael eu cymeradwyo'n lleol a'u cyflwyno i'r Tîm Comisiynu Rhanbarthol sy'n gwasanaethu Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg.   

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ar ddyraniad cyfalaf yr ICF, sef £5,049,000 ar gyfer y rhanbarth yn 2019/20, gan gynnwys £1,500,000 a drosglwyddwyd o Fae'r Gorllewin i'r rhanbarth newydd.  Amcangyfrifwyd y byddai hyn yn creu cyfanswm o £5,771,000 yn 2020/21.  Dywedodd fod y broses ar gyfer ystyried ceisiadau cyfalaf yr ICF yn debyg i'r broses refeniw. Y gwahaniaeth allweddol rhwng Dyraniad Refeniw'r ICF a Dyraniad Cyfalaf yr ICF yw bod modd rhannu'r dyraniad cyfalaf yn ddwy ran, sef y Brif Raglen Gyfalaf (MCP) ar gyfer cynlluniau dros £100,000 a Chynlluniau Cyfalaf Dewisol (DCP) ar gyfer cynlluniau dan £100,000.  Er nad yw'n ofynnol i ranbarthau gael cynlluniau DCP, mae Llywodraeth Cymru yn gorfodi terfyn ar ddyraniad y DCP, sef uchafswm o hyd at 20% o gyfanswm y cyllid cyfalaf sydd ar gael i'r Rhanbarth yn 2019/20.

 

Cwestiynai'r Pwyllgor a oedd angen prynu tir ac adeiladau yn gysylltiedig â phrosiect MCP 11 er mwyn creu 10 uned llety newydd wedi'u dylunio'n arbennig i rai ag anawsterau iechyd a dysgu cymhleth, oherwydd bydda'n fwy doeth adeiladu ar dir y Cyngor. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wrth y Pwyllgor y byddai'r holl amrywiaeth o opsiynau'n cael eu hystyried ar y cyd â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ac nid oedd cadarnhad eto a fyddai bargen ynghylch tir ar gyfer prosiect hwn.  Dywedodd ei bod hi weithiau'n well gwerthu tir i'w ddatblygu, ac na fyddai tir yn cael ei brynu nes archwilio'r holl opsiynau.  Byddai cost-effeithiolrwydd hynny a sut i sicrhau'r canlyniad gorau i'r gwasanaeth yn cael eu hystyried.

 

Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau ynghylch y cynigion ar gyfer prosiect MCP 13 Ysbyty Maesteg.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wrth y Pwyllgor mai astudiaeth ddichonoldeb oedd y prosiect mwyn datblygu Ysbyty Maesteg yn y dyfodol.

 

Gofynnodd y Pwyllgor a fyddai'r strwythur llywodraethu newydd yn achosi pryder wrth geisio cael cymeradwyaeth ar gyfer ceisiadau i ariannu prosiectau.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wrth y Pwyllgor nad oedd unrhyw bryderon ar hyn o bryd. Atgoffodd y Pwyllgor Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) wedi codi cwestiynau cyn heddiw ynghylch effeithiolrwydd yr ICF ledled Cymru.  Dywedodd Samantha Spruce o SAC wrth y Pwyllgor y byddai'n gwneud ymholiadau ynghylch hyn.

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at oedi yn y broses benderfynu yn Llywodraeth Cymru, a olygai nad oedd cadarnhad o gynigion yn cael dychwelyd i'r rhanbarth tan yn hwyr ym mis Awst, ac a fyddai perygl i brosiectau beidio â chael eu cwblhau. Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y pwyllgor fod hyn yn broblem cynaliadwyedd a'i bod hi'n anodd cynllunio ar gyfer y tymor hir wrth dderbyn cyllid grant, gan nad yw'n gyllid creiddiol, a bod hynny'n creu anawsterau wrth geisio recriwtio staff dros dro.  Dywedodd fod cynlluniau wrth gefn wedi'u sefydlu ar gyfer llithriant. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y byddai'n cyflwyno manylion cynlluniau sydd yn y fantol oherwydd oedi wrth gyllido gerbron y Pwyllgor. Addawodd y byddai'n cyflwyno papurau'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol gerbron y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:   Bod y Pwyllgor wedi nodi'r wybodaeth yn yr adroddiad.        

 

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z