Agenda item

Adroddiad Blynyddol 2018-19 y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gweithredol, y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir adroddiad, a’r diben oedd darparu Adroddiad Blynyddol 2018-19 y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir i’r Cabinet ei nodi.

 

Dechreuodd yr adroddiad gyda rhywfaint o wybodaeth gefndir, ac wedi hynny, amlinellodd Rheolwr Gweithredol y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir rai agweddau allweddol ar berfformiad gweithredol ar draws y rhanbarth oedd yn codi o’r Adroddiad Blynyddol, yn enwedig cyn belled ag yr oedd yn gysylltiedig â Phen-y-bont ar Ogwr.

 

Cadarnhaodd mai’r lefelau salwch ar gyfer 2018/19 oedd 7.55 diwrnod fesul unigolyn CALl. Roedd hyn islaw cyfartaledd y Cyngor o 11.90 diwrnod CALl, ond roedd yn gynnydd ar y flwyddyn flaenorol lle cofnodwyd y cofnodion absenoldeb fel 6.89 fesul unigolyn CALl. Fodd bynnag, roedd ffactorau lliniarol ar gyfer hyn, gyda sawl Swyddog yn mynd trwy ymyriadau meddygol cynlluniedig. Nid oedd tueddiadau amlwg naill ai yn y ffigurau absenoldeb tymor byr na hir.

 

Aeth ymlaen trwy ddweud mai sefyllfa’r Gyllideb Refeniw Gros ar gyfer 2018/19 ar gyfer y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir oedd tanwariant o £496,000 yn erbyn y gyllideb refeniw gros o £8.504m. Ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, arweiniodd hyn at danwariant net o £129,000 yn erbyn cyllideb net o £1.328m. Tanwariodd Gwasanaethau Penodol yr Awdurdod ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan £57,000, sef canlyniad rhannol tanwariant o £29,000 yn yr Adran Drwyddedu a thanwariant o £28,000 yn yr Adran Cynelu a Milfeddygon, lle mae’r gweithgarwch islaw’r gyllideb. 

 

Atgyfnerthodd y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir hefyd gyflwyniad gwasanaethau, yn unol â safonau cytûn a chyflawnodd yr arbedion ariannol angenrheidiol. Fodd bynnag, dynododd yr adroddiad fod mwy o ofynion yn cael eu gosod ar y gwasanaeth ar adeg lle’r oedd llai o adnoddau. Cyflawnwyd y targedau a’r camau gweithredu a ddynodwyd yng Nghynllun 2018/19 i raddau helaeth.

 

Roedd Rheolwr Gweithredol y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir yn falch o ddweud wrth y Cabinet y bu’r Gwasanaeth yn weithgar yn y Llysoedd a gosododd Atodiad 2 yr Adroddiad Blynyddol yn gosod yr ymyriadau llwyddiannus a gynhaliwyd yng nghyfnod 2018/19.

 

Yna, amlinellodd paragraff 4.2 yr adroddiad oblygiadau gweithredol allweddol ar gyfer CBSP a rhoddodd Rheolwr Gweithredol y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir drosolwg o’r rhain er lles yr Aelodau.

 

Gan gydnabod bod Cynllun Busnes y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir hefyd yn gyson â Chynllun Corfforaethol y Cyngor, myfyriodd rhan nesaf yr adroddiad ar rai o’r gweithgareddau nodedig ar gyfer y Fwrdeistref yn ystod y cyfnod a grybwyllwyd uchod.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol ei bod hi’n falch o nodi bod safonau hylendid bwyd mewn sefydliadau ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi gwella ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar gyfer 2018/19 a chafwyd rhai erlyniadau llwyddiannus yn erbyn busnesau oedd wedi torri’r gofynion hylendid bwyd ac yn y blaen.

 

Cydnabyddodd y Dirprwy Arweinydd y lefelau gwelliannau sylweddol a wnaed yn y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir er 2014, ond gwnaeth y pwynt fod yna heriau wrth symud ymlaen, yn enwedig mewn perthynas â chyfraddau recriwtio a chadw staff wrth symud ymlaen.

 

Cytunodd Rheolwr Gweithredol, y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir â hyn, gan ddatgan bod adnoddau wedi crebachu dros y blynyddoedd diwethaf a bod problem mewn perthynas â chyfraddau recriwtio a chadw rhai gweithwyr proffesiynol, er enghraifft Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach. Roedd hyn yn cael ei liniaru i ryw raddau, trwy edrych i ddefnyddio rhywfaint o danwariant yn y Gwasanaeth i recriwtio myfyrwyr a phrentisiaid, cyn i’r rhain gael eu recriwtio gan y sector preifat.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd ei fod yn hapus i nodi fod dau fusnes ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’r Barri, wedi’u herlyn mewn perthynas ag alergenau bwyd yn dilyn pryniannau prawf a’r gobaith oedd y byddai rhagor o brofion yn parhau yn y dyfodol er mwyn atgoffa busnesau o’r canlyniadau eithaf a allai ddigwydd petai aelod o’r cyhoedd yn cael adwaith andwyol eithafol o ganlyniad i fwyta cynnyrch yr oedd ganddynt alergedd difrifol iddo.

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cabinet yn nodi Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir ar gyfer 2018/19.         

Dogfennau ategol: