Agenda item

Diwygiad i’r Cynllun Dirprwyo Swyddogaethau – Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gweithredol y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir adroddiad er mwyn hysbysu’r Cabinet ynghylch deddfwriaeth newydd sef y ddeddfwriaeth uchod a cheisio diwygio’r Cynllun Dirprwy Swyddogaethau i fod yn unol â hyn.

 

Cadarnhaodd fod Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) (Cymru) 2019 wedi dod i rym ar 5 Mai 2019. Er 1 Medi 2019, caiff asiantau gosod a landlordiaid sy’n rheoli eu heiddo eu hunain eu hatal rhag codi unrhyw ffioedd cyn, yn ystod neu ar ôl tenantiaeth, oni iddynt gael eu heithrio’n benodol dan ddarpariaethau’r Ddeddf. Gelwir y fath daliad yn ‘daliad gwaharddedig’. Ychwanegodd fod Asiantau Gosod a Landlordiaid Hunan-Reoli wedi’u gwahardd hefyd rhag gofyn i denant godi benthyciad neu ddechrau ontract am wasanaethau.

 

Gellir ymgymryd â gorfodaeth gofynion newydd o’r fath dan y Cyngor a Rhentu Doeth Cymru (fel yr Un Awdurdod Trwyddedu). Byddant yn cyfrannu at brofiad tecach a mwy tryloyw i denantiaid sy’n dibynnu ar y sector rhent preifat.

 

Ychwanegodd Rheolwr Gweithredol y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir fod Llywodraeth Cymru’n credu y dylai unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â rhentu yn y sector preifat fod yn rhesymol, yn fforddiadwy ac yn dryloyw.

 

Diffiniodd paragraff 3.5 yr adroddiad y gwahanol ddulliau y gellir gofyn am daliad gan asiantau gosod a landlordiaid hunan-reoli, wrth i ran nesaf yr adroddiad amlygu materion eraill mewn perthynas â thaliadau, gan gynnwys y rhai sydd wedi’u gwahardd.

 

Aeth ymlaen ymhellach, trwy gadarnhau bod troseddau wedi’u cyflawni lle methodd landlordiaid ac/neu asiantau gydymffurfio â’r Ddeddf ac roedd awdurdodau lleol yn gyfrifol am orfodi’r ddeddfwriaeth hon, mewn partneriaeth â Rhentu Doeth Cymru.

 

At hynny, ychwanegodd mai awdurdodau lleol oedd yn bennaf gyfrifol am orfodi gofynion y Ddeddf a bod ganddynt ddyletswydd i hysbysu Rhentu Doeth Cymru petaen nhw’n cymryd camau gorfodi. Bydd gan Rentu Doeth Cymru ddyletswydd hefyd i roi gwybod i Awdurdodau Lleol, os cyflwynant hysbysiad cosb benodedig neu’n erlyn dan y Ddeddf newydd. Roedd dau ddewis gorfodi ffurfiol fel y disgrifir ym Mharagraff 4.3 yr adroddiad, wrth i baragraff 4.4 amlinellu’r ddarpariaeth newydd arfaethedig i’w rhoi i mewn yng Nghynllun B2 y Cynllun Dirprwyo Swyddogaethau.

 

Cwblhaodd ei gyflwyniad trwy gadarnhau y bydd angen i’r Cytundeb Cydweithio ar gyfer y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir gael ei amrywio hefyd, oherwydd bod nifer y dirprwyaethau i’r Gwasanaeth yn cael eu hymestyn.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol wybod mai adroddiad newyddion da oedd hwn - roedd yn atal tenantiaid rhag cael eu cam-fanteisio arnynt yn y dyfodol gan landlordiaid ac yn y blaen.

 

Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at baragraff 3.5 yr adroddiad mewn perthynas â thaliadau a ganiateir. Dywedod pan oedd yn aelod o Fwrdd V2C, roedd problem mewn perthynas â gwahanu ffioedd rhent wrth rai costau eraill oedd yn gysylltiedig â’r tenant, er enghraifft, torri glaswellt neu broblemau fel codi am osod inswleiddiad gwrthsain rhwng eiddo rhent dan unrhyw Gytundeb Rheoli a allai fod ar waith. Gofynnodd sut byddai materion fel hyn yn cael eu hystyried dan y Ddeddf newydd a thaliadau a ganiateir gan fod y rhain yn daliadau ychwanegol uwchlaw’r rhent.

 

Rhoddodd Rheolwr Gweithredol y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir wybod mai prif ddiben y ddeddfwriaeth newydd oedd osgoi landlordiaid yn meddu ar y gallu i godi costau sylweddol annheg ar denantiaid oedd ymhell uwchlaw’r rhent safonol i osod eiddo. Fodd bynnag, ychwanegodd fod hyn yn dibynnu hefyd ar gael cytundebau cyfamodol ar waith rhwng y landlord a’r tenant. Cadarnhaodd y byddai’n edrych i mewn i’r pwynt hwn ac yn dod yn ôl at y Dirprwy arweinydd y tu allan i’r cyfarfod.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol, ei bod hi’n debygol bod ffioedd pellach fel y rhai y cyfeirir atynt uchod, wedi’u dosbarthu fel cyfleustodau a gwasanaethau eraill fel rhan o unrhyw gytundeb tenantiaeth.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at baragraff 4.3 yr adroddiad ac atgyfnerthodd bwysigrwydd y dewisiadau gorfodi oedd ar gael, os nad oedd landlordiaid yn cydymffurfio’n llawn â’r cynllun taliadau a ganiateir, a oedd yn cynnwys cyhoeddi hysbysiad cosb benodedig o £1,000, lle byddai’r taliad yn osgoi achosion o erlyn.

 

Yn ogystal, anogodd hyrwyddo effeithiol o’r cynigion trwy gynifer o lwybrau â phosibl, gan gynnwys ar-lein, yn ogystal ag atgoffa landlordiaid yn uniongyrchol o’u cyfrifoldebau dan y ddeddfwriaeth newydd.

 

PENDERFYNWYD:                         Bod y Cabinet:

 

(1)   Yn cymeradwyo’r diwygiad i’r Cynllun Dirprwyo Swyddogaethau fel y gosodwyd ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.

 

(2)   Yn cymeradwyo bod gan y Swyddog Monitro awdurdod wedi’i ddirprwyo er mwyn awdurdodi swyddogion perthnasol i gyflawni’r grymoedd gorfodi statudol yn ôl yr angen;

 

Awdurdod wedi’i ddirprwyo i’r Swyddog Monitro gymeradwyo a chwblhau a chyflawni telerau’r Weithred Amrywio fel y gosodwyd ym mharagraff 4.5 yr adroddiad.              

Dogfennau ategol: