Agenda item

Strategaeth Ddigartrefedd 2018 - 2022

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth adroddiad i gael cymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu a chyflwyno Strategaeth a Chynllun Gweithredu Digartrefedd 2018 – 2022 i Lywodraeth Cymru, sydd wedi ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad.

 

Cadarnhaodd cefndir yr adroddiad fod Rhan 2 Deddf Tai (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar y Cyngor i gyflawni Adolygiad Digartrefedd ar gyfer ei ardal a mabwysiadu Strategaeth Ddigartrefedd, ar sail canlyniadau’r adolygiad hwnnw. Dylai’r strategaeth edrych ar:

 

• Atal digartrefedd;

·  Bod llety addas ar gael ac mi fydd llety addas ar gael i bobl sy’n ddigartref neu a allai fynd yn ddigartref;

·  Bod cefnogaeth foddhaol ar gael i bobl sy’n ddigartref neu a allai fynd yn ddigartref.

 

Rhoddodd wybod i Aelodau fod cyd-gynhyrchu’n egwyddor allweddol wrth ddatblygu’r Strategaeth, ac yn ystod hynny, cafodd safbwyntiau’r defnyddwyr gwasanaeth, yn ogystal â’r gweithwyr proffesiynol oedd ynghlwm â darparu gwasanaethau a chefnogaeth i bobl ddigartref eu coladu. Ychwanegodd fod ymgynghorydd annibynnol hefyd wedi’i gomisiynu i ymgymryd â’r Adolygiad Digartrefedd.

 

Llenwyd 76 holiadur gan ddefnyddwyr gwasanaeth, a ddarparodd wybodaeth allweddol a arweiniodd at lywio’r amcanion a’r camau a fabwysiadwyd gan y Strategaeth. Rhoddodd y rhyngweithio â’r defnyddwyr gwasanaeth gyfle i drafod gydag unigolion a’u galluogodd i leisio’u blaenoriaethau allweddol i weithredu arnynt, yn ogystal ag amlygu eu profiadau. Roedd hyn yn cynnwys cyflwyniadau o’r rhesymau am fod yn ddigartref, y canlyniadau a gyflawnwyd ac a ddymunir a demograffeg cefndir. Ymhlith y gweithgareddau eraill y cymerwyd rhan ynddynt i gasglu gwybodaeth oedd:

 

• Cynhaliwyd gweithdy hanner diwrnod gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP) a’r Timau Cefnogi Pobl ac Atebion Tai i archwilio’u safbwyntiau ar ddarpariaeth leol a’u perfformiad yn unol â Deddf Tai (Cymru) 2014;

·  Cynhaliwyd gweithdy hanner diwrnod gyda Gwasanaethau Statudol CBSP; Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a Darparwyr;

·  Ymgynghoriad gyda Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

 

Ymhlith yr ymgyngoreion proffesiynol oedd yn rhan o’r broses oedd:

 

Statudol:

• CBSP – Atebion Tai

• CBSP – Y Tîm Cefnogi Pobl

• CBSP – Y Gwasanaethau Cymdeithasol

• CBSP – Iechyd yr Amgylchedd

• CBSP – Aelod Lleol gyda Phortffolio Lles

• Heddlu De Cymru

• Byrddau Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Phrifysgol Cwm Taf Morgannwg

 

Darparwyr:

• The Wallich

• Pobl Care & Support

• Llamau

• Calan DVS

• Shelter Cymru

 

Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig:

• Hafod Housing

• Linc Cymru

• United Welsh

• Valleys to Coast

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth fod ymgynghoriad cyhoeddus yn amlinellu’r Strategaeth wedi’i gynnal dros gyfnod o chwe wythnos, yn dilyn cyflwyniad o’r Strategaeth i’r Cabinet ar 22 Ionawr 2019.

 

Cyfeiriodd at Atodiad A yr adroddiad, a oedd yn cynnwys crynodeb o’r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd, tra cafodd y Strategaeth ei hun ei dangos yn Atodiad B.

 

Yna, casglodd yr adroddiad, gan ddatgan mai nod y Strategaeth oedd cydweithio’n gorfforaethol gyda phartneriaid allanol a defnyddwyr gwasanaeth, mewn ffordd ymatebol, greadigol ac amserol, er mwyn atal a lleddfu digartrefedd ar hyd y Fwrdeistref Sirol. Byddai hyn yn sicrhau y gall pobl droi at lety addas, gyda’r gefnogaeth briodol sy’n ofynnol i fodloni eu hanghenion.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol ei bod hi’n drist nodi o dudalen 75 y Strategaeth mai’r rheswm mwyaf am ddigartrefedd oedd colli llety rhent neu glwm gan nad oedd perthnasau neu ffrindiau mwyach yn fodlon lletya neu eu bod yn methu lletya mwyach. Ychwanegodd fod dibyniaeth sylweddol ar y sector rhent preifat i gynorthwyo wrth gefnogi’r digartref.

 

Cyfeiriodd hefyd at dudalen 83 y Strategaeth ac o edrych ymlaen, sut byddai’n datblygu ymhellach trwy wahanol ddulliau, fel y Tîm Atebion Tai yn penodi Swyddog Datblygu Porth, a fyddai’n gyfrifol am ddatblygu a rheoli Porth i wasanaethau cymorth, a fyddai’n cynnwys llety â chymorth. Ychwanegodd y byddai hefyd yn mynd ar drywydd ffyrdd newydd a mwy arloesol o weithio.

 

Yn ogystal, nododd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol gyda’r newid disgwyliedig mewn demograffeg, roedd hyn yn debygol o arwain at gynnydd mewn pobl dros 55 oed yn canfod eu hunain yn ddigartref.

 

Rhoddodd yr Arweinydd wybod ei fod yn falch o nodi bod y Gwasanaethau Tai wedi lansio gwasanaeth peilot (SCART) gyda’r nod o gefnogi’n well y bobl ddigartref a chanddynt broblemau iechyd meddwl, yn ogystal â rhoi gwell mecanweithiau ar waith i gefnogi’r unigolion hynny sy’n cysgu ar y stryd, h.y. yn ystod y dydd.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth fod y Cyngor wedi bod yn gweithio gyda chyrff fel Pobl Care and Support a The Wallich (prif elusen digartrefedd Cymru), er mwyn cefnogi pobl sy’n cysgu ar y stryd yn ystod y dydd yn Eglwys Nolton, Pen-y-bont ar Ogwr, a hynny bob dydd Mercher a dydd Iau. Ychwanegodd fod darpariaeth debyg yn cael ei darparu yn Nh? Ogwr hefyd.

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar wybod iddo gael ei annog i nodi paragraff 4.2 yr adroddiad, lle’r oedd yr Awdurdod yn canolbwyntio ar ddysgu safbwyntiau defnyddwyr gwasanaeth a gwrando ar weithwyr proffesiynol sy’n darparu gwasanaethau a chymorth i bobl ddigartref trwy ymgynghori. Bu hyn/roedd hyn yn bwysig iawn, gan fod adborth o hyn wedi llywio amcanion a’r camau gweithredu a fabwysiadwyd yn dilyn hynny gan y Strategaeth.

 

At hynny, ychwanegodd yr Arweinydd fod angen darparu mwy o Dai Cymdeithasol a Chartrefi Fforddiadwy yn y Fwrdeistref Sirol, er mwyn darparu nid yn unig ar gyfer y digartref ond hefyd i deuluoedd mewn eiddo gorlawn ac anaddas. Pwysleisiodd hefyd fod mwy o gamau gweithredu’n cael eu cymryd yn erbyn eiddo gwag, er mwyn iddynt gael eu hadfer i ddefnydd preswyl, gan fod llawer gormod o’r rhain yn y Fwrdeistref Sirol ar hyn o bryd.   

 

PENDERFYNWYD:        (1)   Bod y Cabinet yn mabwysiadu’r Strategaeth Ddigartrefedd sydd ynghlwm fel Atodiad B i’r adroddiad i’w chyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

                                        (2)    Bod y Cabinet yn cael adroddiad cynnydd pellach maes o law.

Dogfennau ategol: