Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Grant Cartrefi Gwag Tasglu’r Cymoedd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad, a’r diben oedd ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i fynd i gytundeb lefel gwasanaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Grant Cartrefi Gwag Tasglu’r Cymoedd ac i ddirprwyo awdurdod i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CBS RhCT) i gyflwyno a rheoli Grantiau Cartrefi Gwag i berchnogion eiddo yn Nhasglu’r Cymoedd Ardal Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Esboniodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol fod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno cefnogi tasglu’r Cymoedd trwy gyflwyno Grant Cartrefi Gwag i bob awdurdod lleol yn ardaloedd y tasglu, fel peilot ar gyfer y cyfnod o fis Hydref 2019 hyd at ddiwedd mis Mawrth 2020. Mae £10 miliwn wedi’i roi i’r naill ochr ar gyfer eiddo gwag dros y ddwy flynedd nesaf yn yr ardaloedd hynny.

 

Clustnodwyd £4,500,000 ar gyfer y cyfnod peilot i gyflwyno’r rhaglen. Ni ddisgwylir cyfraniad ariannol gan awdurdodau lleol ar gyfer y cam hwn o’r rhaglen Grant Cartrefi Gwag. Ar gyfer Cam 2, bydd disgwyl i Awdurdodau Lleol wneud cyfraniad o 35% tuag at y gronfa. Yn ariannol, cefnogwyd Cam 1 y prosiect yn llawn trwy gyllid grant.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol y bydd y grant hwn yn cefnogi cyflawniad y Cyngor a blaenoriaeth Llywodraeth Cymru o adfer y defnydd o eiddo gwag yng Nghymoedd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, er mwyn helpu adfywio cymunedau, rhoi mwy o ddewis o lety a llety addas i drigolion.

 

Rhoddodd y rhan nesaf o’r adroddiad drosolwg o’r sefyllfa sydd ohoni, ynghyd â’r cymhwyster ac amodau cynllun Grant Cartrefi Gwag Tasglu’r Cymoedd, a dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol, y byddai CBS RhCT yn cyflawni ac yn rheoli’r Cynllun yn ardal Tasglu’r Cymoedd Pen-y-bont ar Ogwr, gyda CBSP wedyn yn mynd i Gytundeb Lefel Gwasanaeth gyda’r Awdurdod hwn i droi at y cyllid dynodedig.

 

Mewn perthynas â Cham 2 y Cynllun, pwysleisiodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol y byddai hyn yn dechrau ym mis Ebrill 2020 gyda chynnig o’r cynllun sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Byddai adroddiad pellach yn cael ei ddarparu i’r Cabinet mewn perthynas â Cham 2 os bydd y Cyngor yn edrych i fynd i mewn i hyn.

 

Mewn perthynas â’r camau nesaf, cadarnhaodd y byddai angen i’r Cabinet ystyried y cynigion y manylir arnynt yn yr adroddiad a chadarnhau p’un ai i symud ymlaen â Cham 1 y Cynllun ac os bydd yn cael ei gytuno, yna byddai’r Awdurdod yn arwyddo’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth i weinyddu’r grant.  

 

Gwnaeth yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol y pwynt ei bod hi’n falch o nodi fod Llywodraeth Cymru (LlC) yn mynd i’r afael â’r broblem o Eiddo Gwag yn aros yn wag. Nododd hefyd fod yr amserau targed ar gyfer Cam Un a Dau (petai’r olaf yn cael cymeradwyaeth y Cabinet) y Cynllun i weld yn uchelgeisiol. Gofynnodd pryd byddai Cam 1 yn cael ei gwblhau a pha feysydd yr oedd y Cynllun yn eu cwmpasu.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol wybod fod disgwyl i Gam 1 gael ei gwblhau erbyn 31 Mawrth 2020, ond cyfaddefodd mai graddfa amser cymharol fer oedd hwn er mwyn manteisio’n llawn ar y grant.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr iddynt gwmpasu cyn belled â Phont-y-p?l i’r dwyrain a Chydweli i’r gorllewin, 3 prif ardal y cymoedd a rhai ardaloedd i gyfeiriad y gogledd o’r M4. Fodd bynnag, ychwanegodd bod angen eglurhad ar union raddau’r ardaloedd gan LlC gan nad oedd y rhain yn glir o’r cynlluniau perthnasol. Nododd nad oedd Y Goetre Hen wedi’i chynnwys, ond ystyriodd fod y pentref hwn ar flaenau’r cymoedd (h.y. Maesteg) a heb ei gynnwys fel rhan o Dasglu’r Cymoedd Ardal Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Gwnaeth yr Arweinydd, fel y cyfeiriodd ato mewn eitem agenda flaenorol, annog y trigolion gydag eiddo gwag yn Ardal Tasglu’r Cymoedd i ddod â’r rhain i lefel y gellid byw ynddynt, gan gofio y byddai cyllid ar gael gan y Cyngor er mwyn cynorthwyo yn hyn o beth, fel y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:                          Bod y Cabinet:

 

                  (1)          Yn cymeradwyo’r cynigion amlinellol ar gyfer Grant Cartrefi Gwasg Tasglu’r Cymoedd, fel y nodwyd yn yr adroddiad;

 

                 (2)       Yn nodi ac yn derbyn y risgiau a’r materion a amlygwyd ym mharagraff 4.5 yr adroddiad.

 

(3)           Yn dirprwyo awdurdod i CBS RhCT er mwyn cyflwyno a rheoli’r cynllun yn Nhasglu’r Cymoedd ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn unol â pharagraff 4.2 yr adroddiad.

 

Yn dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedau, trwy ymgynghori â’r Swyddog Adran 151 a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, er mwyn trafod a chytuno telerau’r cytundeb lefel gwasanaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a dechrau cytundeb lefel gwasanaeth.

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z