Agenda item

Ail-gomisiynu Gwasanaethau Byw Gyda Chymorth

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles adroddiad, a’i ddiben oedd gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i weithredu’r cynllun ail-gomisiynu arfaethedig ar gyfer y Gwasanaethau Byw Gyda Chymorth ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (y Cyngor) ymgymryd ag ymarfer caffael i wahodd tendrau i sefydlu Cytundeb Fframwaith o ddarparwyr gwasanaeth a gomisiynwyd.

 

Esboniodd fod y Cyngor wedi cynnal ymarfer caffael yn 2016, a arweiniodd at benodi tri darparwr gwasanaeth annibynnol i gyflwyno gwasanaethau Byw gyda Chymorth i unigolion cymwys gydag anabledd dysgu.

 

Yn ystod 2018-19, cynhaliwyd adolygiad manwl dan arweiniad tîm Trawsnewid ac Adolygu Gofal Cymdeithasol i Oedolion, a ganolbwyntiodd ar effeithiolrwydd cyflwyno gwasanaethau a chanlyniadau i unigolion ar draws y tri darparwr gwasanaeth annibynnol.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn ei flaen trwy gadarnhau bod y contractau cyfredol mewn perthynas â Gwasanaethau Byw gyda Chymorth yn rhai Ledled y Sir, gan olygu bod rhaid i un o’r tri darparwr gwasanaeth dyledus reoli nifer o gynlluniau Byw gyda Chymorth wedi’u gwasgaru ar draws y Fwrdeistref Sirol gyfan, a wnaeth esgor ar rai heriau i ddarparwyr gwasanaeth.

 

Rhoddodd y rhan nesaf o’r adroddiad wybod fod lleoliad cynlluniau cyfredol yn syrthio i ardaloedd naturiol lleol, sy’n cefnogi symudiad tuag at gontractau cymunedol yn yr ardaloedd daearyddol a welir ym mharagraff 4.2 yr adroddiad. Roedd hyn yn fwy hyblyg ac yn seiliedig ar yr hyn yr oedd ar ddefnyddwyr gwasanaeth eu hangen a’u heisiau.

 

Esboniodd Paragraff 4.6 yr adroddiad y byddai’r uchod yn cael ei gynnal ar ddull mewn camau am nifer o resymau, gan gynnwys i sicrhau bod cyn lleied o ymyrraeth â phosibl ar gyfer y rhai sy’n cael eu heffeithio gan y newid.

 

Aeth ymlaen i esbonio na fyddai darparwyr gwasanaeth ar y Cytundeb Fframwaith yn cael sicrwydd o ddyfarniad Gwasanaeth Ardal Lleol, y bydd pob un yn destun ei broses dendro a’i werthusiad ei hun. Er mwyn lliniaru risg effaith methiant busnes i’r dyfodol, ni fydd yr un darparwr yn cael contract Gwasanaeth(au) Ardal Leol wedi’i ddyfarnu iddynt, lle bydd ganddynt gyfran o dros 50% o’r farchnad.

 

Roedd paragraff 4.11 yr adroddiad yn cynnwys tabl a osododd yr amserlenni caffael Cam 1 petai cymeradwyaeth yn cael ei rhoi i weithredu’r Cynllun Ail-gomisiynu.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, fel rhan o Gam 2 y broses gaffael, y bwriedir i bawb sy’n byw mewn cynllun Byw Gyda Chymorth hefyd allu dweud beth sy’n bwysig yn y gwasanaeth a ‘beth sy’n bwysig’ iddynt hwy.

 

Aeth ymlaen gan gadarnhau bod rhai digwyddiadau ymgysylltu wedi’u cynnal a bod prif ganfyddiadau’r rhain wedi’u dangos ym mharagraff 4.14 yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd Paragraff 4.18 yr adroddiad (fel yr amlygwyd ym mharagraff 3.3) fod y Gwasanaeth Byw gyda Chymorth Anabledd Dysgu’n wasanaeth a ariennir ar y cyd, gyda rhyw 75% o’r costau’n cael eu hariannu trwy gyllidebau craidd Gofal Cymdeithasol i Oedolion ar gyfer elfennau gofal y gwasanaeth, ac ariennir oddeutu 25% trwy Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru ar gyfer elfennau cymorth cysylltiedig â thai’r gwasanaeth.

 

Ar hyn o bryd, caiff y llifoedd ariannu hyn eu gwahanu sy’n achosi dryswch i ddarparwyr gwasanaeth ac mae’n broses gymhleth hefyd i gomisiynwyr a thimau cymorth. Wrth symud ymlaen, cynigiwyd cyfuno’r llifoedd ariannu hyn, a fydd wedyn yn galluogi ar gyfer dull sy’n canolbwyntio mwy ar y person ac ar ganlyniadau er mwyn cyflwyno gwasanaethau, yn lle’r dull presennol o gapio a gosod oriau cymorth cysylltiedig â thai.

 

Yna, clôdd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yr adroddiad, trwy gynghori ar ei oblygiadau ariannol.

 

Canmolwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, gan ychwanegu bod y cynigion sydd wedi’u cynnwys ynddo’n dangos bod y gwasanaeth yn gwrando ar yr hyn y mae defnyddwyr eisiau wrth symud ymlaen. O wireddu nodau ac amcanion yr adroddiad, byddai’n galluogi ar gyfer dulliau mwy arloesol a hyblyg er mwyn cefnogi defnyddwyr gwasanaeth yn y dyfodol.

 

Gofynnodd yr Arweinydd a fu gr?p Fforwm Rhieni Pen-y-bont ar Ogwr ynghlwm â’r cynigion ail-gomisiynu, lle’r atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles eu bod wedi bod ynghlwm.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar hefyd fod y cynigion wedi cael cymorth gan grwpiau Eiriolaeth Annibynnol (a oedd yn annibynnol ar yr awdurdod lleol)

 

PENDERFYNWYD:                   Bod y Cabinet:

 

  • Yn cymeradwyo’r cynllun ail-gomisiynu a gynigiwyd ar gyfer y gwasanaethau Byw gyda Chymorth ym Mhen-y-bont ar Ogwr;
  • Yn cymeradwyo’r gwahoddiad o dendrau i sefydlu Cytundeb Fframwaith;

Yn nodi pan fydd cynigion i’r Cytundeb Fframwaith yn cael eu derbyn gan ddarparwyr gwasanaeth, bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn gofyn am gymeradwyaeth i fynd i mewn i’r Cytundeb Fframwaith ac i weithredu caffael Cam 2 tendrau’r Gwasanaeth Ardal Leol.

Dogfennau ategol: