Agenda item

Derbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Cyhoeddodd yr Arweinydd fod cyfres o ddigwyddiadau Wythnos Genedlaethol Diogelu wedi'u cynnal ledled Cymru, gyda’r bwriad o godi ymwybyddiaeth o’r ffurfiau gwahanol o gam-drin, a sut y gall pobl gael gafael ar gymorth a chefnogaeth.  Er mwyn dangos sut y gallai unrhyw un adnabod arwyddion o gam-drin a helpu i hyrwyddo diogelu, dywedodd fod plant ysgol lleol yn cymryd rhan drwy roi cerrig mân wedi'u paentio'n arbennig mewn parciau a mannau cyhoeddus ar draws y fwrdeistref sirol.  Roedd y Cyngor wedi ymuno ag ystod o wahanol sefydliadau i helpu i nodi'r wythnos, ac i gynnal digwyddiadau gwybodaeth ochr yn ochr â Barnardos, y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, Gwasanaeth Lles Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, a Telecare.

 

Dywedodd wrth y Cyngor y byddai gweithdrefnau diogelu newydd Cymru yn cael eu lansio i roi arweiniad i ymarferwyr, cynhaliwyd sesiynau hyfforddi penodol a oedd yn rhoi sylw i’r defnydd o offer megis y rhaglen 'Bright Sky', a gynlluniwyd i roi cymorth a gwybodaeth i unrhyw un a all fod yn cael eu cam-drin yn ddomestig, yn rhywiol, yn cael eu dilyn, neu’n cael eu haflonyddu, neu'n adnabod rhywun sy'n dioddef.  Diolchodd i bawb a gyfrannodd ac i bawb a helpodd i drefnu hyn oll, yn enwedig Aelodau Canolfan Ddiogelu Aml-asiantaeth Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd fod WEPA UK Ltd wedi cysylltu â'r Cyngor. Maent yn archwilio nifer o opsiynau ar hyn o bryd i wella eu gweithrediadau Ewropeaidd, sy'n cynnwys Melin Bapur Pen-y-bont ar Ogwr yn Llangynwyd.  Byddai'r cynigion ar gyfer y safle yn cynnwys adeiladu a gweithredu ail beiriant hancesi papur, cynyddu capasiti trosi mewn estyniadau newydd i adeiladau, ardaloedd trin a danfon newydd, yn ogystal â mynedfa newydd ar ochr dde-ddwyreiniol y safle.  Os caiff ei gymeradwyo, bydd yr estyniad yn diogelu'r 267 o swyddi presennol ar y safle ac yn creu hyd at 74 o swyddi newydd o ansawdd uchel yn ogystal â dod â buddsoddiad i'r economi leol. Mae WEPA yn amcangyfrif y byddai buddsoddiad mewnol o fwy na £100m yn cael ei gynhyrchu trwy ehangu'r Felin Bapur, a byddai hefyd yn arwain at effaith gadarnhaol ar y gadwyn gyflenwi.  Roedd wedi derbyn cais i gyfarfod â WEPA i glywed am eu cynlluniau.  Mae WEPA wedi cychwyn y cyfnod ymgynghori cyn-gais statudol o 28 diwrnod gan y bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer hyn.  Bydd y cais cynllunio yn cael ei ystyried yn yr un modd ag y bydd unrhyw gais cynllunio yn cael ei ystyried gan yr Awdurdod, gan ddefnyddio ei gynlluniau a’i bolisïau statudol.

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd hefyd ei fod yn edrych ymlaen at weld y math newydd o drenau a fydd yn gwasanaethu llinell reilffordd Maesteg o fis Rhagfyr, rhai a fydd â llawer mwy o gapasiti, mwy o ofod, systemau gwybodaeth i deithwyr, toiledau hygyrch, aerdymheru, Wi-Fi, a socedi p?er.  Bydd Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cyflwyno’r trenau newydd ar reilffyrdd Cheltenham a Glynebwy, gan ddarparu lle i hyd at 6,500 yn fwy o bobl bob wythnos o fis Rhagfyr eleni.  Bydd Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cyflwyno gwasanaeth ar y Sul am y tro cyntaf ar linell Maesteg ac roedd yn edrych ymlaen at glywed mwy am gynlluniau i wneud y gwasanaeth yn fwy aml.