Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Adolygiad o'r Cyfansoddiad a Gwelliannau i'r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Monitro adroddiad ar ganfyddiadau'r Gweithgor Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, gan geisio cymeradwyaeth ar gyfer gwelliannau i'r cyfansoddiad.

 

Eglurodd y Swyddog Monitro fod cais wedi dod i law gan Aelod Etholedig am adolygu'r Cyfansoddiad.  Yn unol ag Erthygl 15 y Cyfansoddiad bydd y Swyddog Monitro yn monitro ac yn adolygu gweithrediad y Cyfansoddiad er mwyn sicrhau bod nodau ac egwyddorion y Cyfansoddiad yn cael yr effaith lawn.  Bydd angen i'r Cyngor gymeradwyo unrhyw newidiadau yn seiliedig ar argymhellion y Swyddog Monitro.

 

Gofynnodd yr adolygiad o'r Cyfansoddiad i'r canlynol gael eu hystyried yn enwedig:

 

1)    Dylai’r cyfnod amser ar gyfer cwestiynau a chynigion gael ei ail-osod ar 5 diwrnod, gan fod adnoddau addas ar gael bellach i ganiatáu cyfieithu amserol i'r Gymraeg;

 

2)    Yn dilyn cyflwyniadau a chyhoeddiadau Aelodau'r Cabinet, yr Arweinydd, a'r Prif Weithredwr, am gyfnod o 15 munud y caiff Aelodau ofyn cwestiynau nad ydynt wedi'u cyflwyno o flaen llaw;

 

3)    Bod y tri gr?p gwrthblaid mwyaf, yn cael 3 munud (wedi'u cymryd o Reol 3 munud y Pwyllgor Rheoli Datblygu) i wneud cyhoeddiadau neu gyflwyniadau i'r Cyngor;

 

4)    Amseriad cyfarfodydd y Cyngor

 

Adroddodd y Swyddog Monitro fod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi sefydlu Gweithgor Cyfansoddiad Trawsbleidiol i adolygu'r cyfansoddiad, a oedd wedi cyfarfod ddwywaith. 

 

Argymhellodd y Gweithgor y dylai'r cyfnod amser ar gyfer cyflwyno cwestiynau a chynigion barhau i fod yn 10 diwrnod gwaith. Ychwanegodd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd y dylid plismona cwestiynau atodol yn gliriach er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol i'r cwestiwn gwreiddiol a'u bod yn fyr ac yn gryno.  Argymhellodd y Gweithgor, o ystyried y cyhoeddiadau a wnaed yn y Cyngor, y dylid diwygio'r cyfansoddiad er mwyn ail-enwi Adroddiad yr Arweinydd i fod yn Gyhoeddiadau'r Arweinydd, ac y dylid byrhau'r cyhoeddiadau a wnaed gan y Cabinet ar hyn o bryd.  Argymhellodd y Gweithgor y dylai pob aelod o'r Cyngor dderbyn atebion i gwestiynau ysgrifenedig 24 awr cyn cyfarfod y Cyngor lle y bo'n ymarferol.  Bydd yr ateb yn cael ei gofnodi yng nghofnodion y cyfarfod hwnnw o'r Cyngor.  Roedd y Gweithgor o'r farn y gallai cyhoeddiadau gan Arweinwyr Grwpiau'r Gwrthbleidiau arwain at wneud datganiadau gwleidyddol ac nad oeddent yn dymuno mynd ar ôl Cyhoeddiadau gan Arweinwyr y 3 Gr?p Gwrthblaid Mwyaf.  O ran amseriad cyfarfodydd y Cyngor, cynhaliwyd pleidlais electronig ar ddiwedd cyfarfod y Cyngor ar 24 Gorffennaf 2019 i weld a ddylid archwilio cyfarfodydd gyda'r nos ai peidio.  O'r 45 o Aelodau a oedd yn bresennol, pleidleisiodd 17 o aelodau o blaid cynnal cyfarfodydd gyda'r nos.  Argymhellodd y Gweithgor, yn sgil y bleidlais, na fyddai cynnal cyfarfodydd gyda'r nos yn cael ei archwilio ymhellach tan y weinyddiaeth nesaf. 

 

Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Cyngor fod yr adolygiad wedi cynnwys edrych ar weithdrefn galw-yn-ôl y Cyngor, er mwyn sicrhau ei bod yn gweithio'n effeithiol o fewn y strwythur Craffu presennol.   Gwnaed gwaith ymchwil gan Dîm y Gwasanaethau Democrataidd yngl?n â’r prosesau galw-yn-ôl sydd ar waith mewn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.  Argymhellodd y Gweithgor y dylid ymestyn y cyfnod o rybudd a geir yn sgil cyhoeddi penderfyniad, a hynny o'r 3 diwrnod gwaith clir presennol i 5 diwrnod gwaith clir, er mwyn bod yn fwy tryloyw ac i Aelodau'r meinciau cefn gael mwy o gyfle i alw penderfyniad yn ôl.  Argymhellodd y Gweithgor y dylai'r cyfnod amser ar gyfer cynnal Pwyllgor Trosolwg a Chraffu aros o fewn 5 diwrnod gwaith clir.  Argymhellodd y Gweithgor y dylai unrhyw Aelod, gan gynnwys Cadeirydd sy'n galw penderfyniad yn ôl, gael ei eithrio o'r penderfyniadau a wneir yn y cyfarfod hwnnw o'r Pwyllgor, ond iddynt gael eu gwahodd i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor i gefnogi'r cais i’w alw yn ôl.    

 

Hysbyswyd y Cyngor gan y Swyddog Monitro fod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi ystyried y canfyddiadau yn eu cyfarfod ar 17 Hydref 2019, ac wedi cymeradwyo rhoi argymhellion y Gweithgor Cyfansoddiad gerbron y Cyngor i’w hystyried.   

 

Dywedodd y Cynghorydd Voisey, a gyflwynodd y cais i'r Swyddog Monitro, wrth y Cyngor ei fod wedi gwneud hynny gan ei fod yn credu nad oedd y cyhoedd yn derbyn atebion i gwestiynau yn gyhoeddus.  Roedd yr Aelod o'r farn bod y cynnydd yn y cyfnod amser ar gyfer cwestiynau a chynigion i 10 diwrnod yn un dros dro ac y dylid ei adfer i 5 diwrnod.  Credai'r Aelod hefyd y gellid ymdrin â chyhoeddiadau'r Weithrediaeth a'r Prif Weithredwr drwy ddatganiadau i'r wasg.  Roedd adroddiad yr Arweinydd yn rhoi cyfle i'r Aelodau ofyn cwestiynau i'r Arweinydd, ni fyddai modd rhoi'r cyfle hwn i Aelodau pe bai Adroddiad yr Arweinydd yn cael ei ailenwi'n Gyhoeddiadau’r Arweinydd.  O ran y cyhoeddiadau gan Grwpiau'r Gwrthbleidiau, dywedodd yr Aelod mai siambr wleidyddol oedd hon, a bod gan yr Aelodau hawl i wneud datganiadau gwleidyddol.  Credai fod y cais i gwestiynu'r Arweinydd a'r Cabinet wedi'i golli o'r adroddiad a gofynnodd am i hyn gael ei adolygu.  Gofynnodd yr Aelod hefyd fod amseriad cyfarfodydd Cyngor yn dechrau ar sail gyfrannol yn ôl dewisiadau'r Aelodau. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Venables, a gadeiriodd y Gweithgor Cyfansoddiad ac sydd hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, fod y Gweithgor wedi cyfarfod ar 2 achlysur a'i fod wedi craffu'n gadarn ar yr elfennau o'r Cyfansoddiad a oedd yn rhan o’r adolygiad.  Dywedodd y Cynghorydd Howells, sy'n aelod o'r Gweithgor Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, fod y Gweithgor wedi edrych ar ymchwil a wnaed gan y Tîm Gwasanaethau Democrataidd ac wedi ystyried yr opsiynau a oedd ar gael. Ailadroddodd fod y Gr?p yn un trawsbleidiol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Giffard bryder o ran yr argymhelliad y dylai unrhyw Aelod, gan gynnwys Cadeirydd sy'n galw penderfyniad yn ôl, gael ei eithrio o'r penderfyniadau a wneir yn y cyfarfod hwnnw o'r Pwyllgor, ond iddynt gael eu gwahodd i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor i gefnogi'r cais i’w alw yn ôl. Mynegodd bryder y byddai'r Pwyllgorau sy'n ystyried galw-yn-ôl yn anghytbwys pe na bai'r Aelodau sy'n llofnodi'r alwad yn cael eu cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau yn y Pwyllgor.  Hysbyswyd y Cyngor gan y Swyddog Monitro fod y Gweithgor Cyfansoddiad wedi ystyried y broses galw-yn-ôl yn ystod yr adolygiad gan fod galwad wedi bod yn ystod y cyfnod a theimlwyd y gellid dysgu gwersi.Ystyriwyd, er mwyn osgoi'r canfyddiad o fod yn ddiduedd a rhag-benderfynu, na ddylai Aelodau sy'n galw penderfyniad eistedd ar y Pwyllgor sy'n ystyried y mater.  Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Cyngor fod angen ystyried y defnydd cynyddol o gyfryngau cymdeithasol ynghyd â chanfyddiad y cyhoedd.

Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Cyngor fod nifer fawr o Aelodau wedi llofnodi'r cais mwyaf diweddar, a allai fod wedi arwain at beidio â rhoi cworwm i'r cyfarfod pe baent i gyd wedi datgan eu bod wedi penderfynu ymlaen llaw.

 

Roedd y Cynghorydd Watts o'r farn y dylai'r Aelodau gael y gallu i ofyn cwestiynau nas cyflwynwyd o flaen llaw.  Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Cyngor fod y Gweithgor Cyfansoddiadol wedi dod i'r casgliad na fyddai gan yr Aelod Cabinet y manylion o bosibl i ymateb yn llawn i gwestiynau a oedd yn cael eu rhoi yn y cyfarfod. Teimlent ei bod yn fwy priodol gofyn cwestiynau a gyflwynwyd er mwyn rhoi cyfle i baratoi ateb cynhwysfawr.   Dywedodd y Cynghorydd Venables wrth y Cyngor fod pob elfen o'r adolygiad wedi'i hystyried yn gadarn gan Weithgor y Cyfansoddiad.  Dywedodd y Cynghorydd Patel ei bod wedi mynychu un o gyfarfodydd y Gweithgor a'i bod wedi esbonio ei bod hi, fel Aelod Cabinet, yn hoff o dderbyn atebion cywir i’w chwestiynau.  Credai na fyddai Aelodau'r Cabinet yn meddu ar y manylder hwnnw yng nghyfarfodydd y Cyngor.  Roedd y Cynghorydd Watts yn credu pe na bai Aelodau'n cael cyfle i ofyn cwestiynau, y byddai’n dirymu unrhyw drafodaeth, ac na allai Aelodau leisio eu barn.  Dywedodd y Maer wrth y Cyngor y gallai'r Aelod sy'n gofyn y cwestiwn ofyn cwestiwn atodol a gall yr Aelodau ofyn dau gwestiwn arall. 

 

Roedd y Cynghorydd T Thomas yn credu y dylai pob Aelod o'r Cyngor fod wedi gallu cyfrannu at yr adolygiad o'r Cyfansoddiad.  Dywedodd y Maer fod yr adolygiad wedi'i ddirprwyo i'r Gweithgor Trawsbleidiol gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. 

 

Roedd y Cynghorydd T Thomas hefyd wedi credu bod y cynnydd yn yr amserlen i gyflwyno cwestiynau a chynigion yn un dros dro o ganlyniad i weithredu Safonau'r Gymraeg. 

 

Mynegodd y Cynghorydd N Clarke bryder hefyd y gellid eithrio Aelodau sy'n llofnodi cais i alw-yn-ôl rhag eistedd ar y Pwyllgor sy’n clywed y cais, ac roedd o'r farn y dylid cynyddu nifer yr Aelodau sy'n eistedd ar Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu er mwyn osgoi bod heb gworwm. 

 

Roedd y Cynghorydd Burnett yn croesawu'r ffaith y gallai Aelodau'r Cabinet wneud cyhoeddiadau a chyflwyno eitemau, ac roedd o'r farn na wnaed datganiadau gwleidyddol yn ystod y cyhoeddiadau. 

 

Teimlai'r Cynghorydd Penhale Thomas y dylid plismona cwestiynau atodol gan groesawu atebion i Gwestiynau a ddanfonir at yr Aelodau 24 awr cyn y cyfarfod.  Croesawodd hefyd gyhoeddiadau byrrach gan Aelodau'r Cabinet, ond credai y dylai cyhoeddiadau gael eu hestyn i bob gr?p gwleidyddol hefyd a dywedodd hefyd mai siambr wleidyddol yw hon. 

 

Dywedodd y Cynghorydd M Clarke mai diben galw-yn-ôl yw caniatáu i Aelodau gael golwg arall ar benderfyniad, ac na ddylai'r weinyddiaeth ofni cael golwg arall ar benderfyniadau a wneir.  Roedd hefyd o'r farn y gallai'r weinyddiaeth gael rhagdueddiadau o ran penderfyniadau y maent am eu gwneud.  Dywedodd fod ceisiadau i alw-yn-ôl yn brin ac y byddai Pwyllgorau'n gweithredu'n gyfrifol. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Voisey y dylid caniatáu cyfnod o 15 munud ar gyfer cwestiynau nas cyflwynwyd a bod aelodau'r Cabinet yn brofiadol ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion.  Mynegodd bryder nad oedd wedi cael gwahoddiad i fynychu cyfarfodydd y Gweithgor Cyfansoddiad ac nad oedd y cofnodion ar gael i'r Aelodau.  Dywedodd y Swyddog Monitro fod y materion a godwyd gan y Cynghorydd Voisey wedi cael eu cyfeirio at y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, a ddirprwyodd y mater i'r Gweithgor Cyfansoddiad a sefydlwyd ganddynt. 

 

Roedd y Cynghorydd Spanswick o'r farn y dylai'r Aelodau ddatgan buddiant os oeddent wedi rhag-benderfynu neu â rhagdueddiad mewn perthynas â phenderfyniad a alwyd-yn-ôl, ac mai’r hyn oedd ei angen oedd adolygiad o'r broses graffu. 

 

Roedd y Cynghorydd Vidal o'r farn y dylid ystyried safbwyntiau'r 17 aelod a bleidleisiodd o blaid cyfarfodydd gyda'r nos.  Dywedodd y Swyddog Monitro mai pleidlais anffurfiol oedd hon gan fod y Gweithgor Cyfansoddiadol am gael barn ddangosol yr Aelodau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Webster ei bod wedi mynychu Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu gyda meddwl agored ac wedi gadael gwleidyddiaeth wrth y drws.  Nododd hefyd fod angen i Aelodau fod yn ymwybodol o'r sylwadau a wnânt ar y cyfryngau cymdeithasol.  Hysbysodd Swyddog Monitro'r Cyngor fod ymholiadau wedi'u derbyn gan aelodau'r cyhoedd ynghylch a oedd Aelodau wedi rhag-benderfynu o ganlyniad i sylwadau a wnaed ar y cyfryngau cymdeithasol. 

 

Dywedodd y Cynghorydd PA Davies fod yr argymhellion a wnaed gan Weithgor y Cyfansoddiad ar gyfer y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn rhai trawsbleidiol.  Dywedodd hefyd fod yn rhaid i gyfieithiadau fod yn gywir ac yn amserol.

 

Dywedodd yr Arweinydd mai gr?p trawsbleidiol oedd y Gweithgor Cyfansoddiad a bod ei Gr?p wedi derbyn adborth ar eu gwaith fel rhan o'r adolygiad.  Dywedodd nad gofyn cwestiynau i'r Aelodau oedd diben y Cyngor, ond gwneud penderfyniadau a gosod polisi.  Dywedodd hefyd fod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi rhoi tasg i’r Gweithgor Cyfansoddiadol i lunio argymhellion, a bod y Gweithgor wedi ceisio diogelu'r Aelodau wrth alw penderfyniad yn ôl. Hysbysodd y Cynghorydd Penhale Thomas y Cyngor nad oes yr un aelod o'i gr?p yn eistedd ar y Gweithgor.  Credai hefyd fod angen i Aelodau allu gofyn cwestiynau strategol yn y Cyngor.                

                                  

Derbyniwyd cynnig gan y Cynghorydd Watts y dylai cynigion ar gyfer y broses o alw penderfyniadau yn ôl gael eu cyfeirio at y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.  Ni chafodd ei secondio a methodd.

 

Derbyniwyd cynnig gan y Cynghorydd Giffard i ddileu paragraff 4.7.4 yr adroddiad. Gofynnodd am sicrwydd bod y Cyngor yn credu mai Pwyllgor cytbwys yn wleidyddol fyddai’n clywed unrhyw gais i alw penderfyniad yn ôl.  Eiliwyd gan y Cynghorydd N Clarke.

 

Hysbyswyd y Cyngor gan y Swyddog Monitro na fyddai paragraff 4.7.4 yn cael ei weithredu ac y byddai ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i'r broses galw-yn-ôl.

 

PENDERFYNWYD:           Fod y Cyngor yn:    

 

(1)           Nodi'r ymchwil a'r gwaith a wnaed gan Weithgor y Cyfansoddiad ar ran y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd;

 

2           Cymeradwyo'r argymhellion a wnaed gan y Gweithgor a diwygio'r Cyfansoddiad yn unol â hynny ac eithrio paragraff 4.7.4

 

3           Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Swyddog Monitro i wneud mân newidiadau i'r Cyfansoddiad i gynnwys diwygio gwallau teipograffyddol a drafftio, diweddaru newidiadau deddfwriaethol, a drafftio gwelliannau er mwyn gwella eglurder a chael gwared ar fân anomaleddau.    

         

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z