Agenda item

Grant Dysgu Cymunedol – Canolfan y Dwyrain

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Cymunedol – Addysg a Chymorth i’r Teulu adroddiad, gyda’r bwriad o ddarparu gwybodaeth i’r Cabinet mewn perthynas â Grant Dysgu Cymunedol Llywodraeth Cymru a phrosiect Canolfan y Dwyrain.

 

Amlinellodd adran gwybodaeth gefndir yr adroddiad, fod llety wedi’i ddiogelu ar gyfer Canolfan y Gogledd yng Ngholeg Cymunedol y Dderwen ac ar gyfer Canolfan y Gorllewin yng Nghanolfan Bywyd y Pîl. Fodd bynnag, nid oedd cyllideb ar gael i alluogi ar gyfer canolfan amlasiantaeth wedi’i theilwra ar gyfer ardal y dwyrain ac fel mesur dros dro, sicrhawyd lle yn y Swyddfeydd Dinesig ar gyfer wyth desg nesaf at Dîm Diogelu’r Dwyrain. Ers hynny, ehangodd y Tîm Help Cynnar o 14 i 23 aelod o staff, a gyflwynodd heriau o ran gweithio/rhannu desg yn effeithiol, gan arwain wedyn at gynnydd mewn gweithio oddi ar y safle a gweithio gartref, sydd wedi, yn ei dro, cael effaith andwyol weithiau ar faterion fel rhannu gwybodaeth a chydweithio.

 

Ym mis Rhagfyr 2018, cadarnhaodd fod Llywodraeth Cymru wedi gwahodd awdurdodau lleol ar draws Cymru i gyflwyno mynegiannau o ddiddordeb yn erbyn cyllideb cyfalaf o £15m, er mwyn creu canolfannau dysgu cymunedol. At hynny, cydnabuwyd y byddai symud Canolfan y Dwyrain o’r Swyddfeydd Dinesig i Ysgol Brynteg yn gwella’n sylweddol weithio integredig a chyllid at y diben hwn, a gymeradwywyd yn dilyn hynny.

 

At hynny, esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i’r Teulu fod cynllun wedi’i ddatblygu trwy ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol, oedd yn cynnwys adeilad un llawr, ar wahân ar safle ysgol Brynteg.

 

Er y bu problem gyda’r broses dendro mewn perthynas â bwrw ymlaen â’r cynllun, ychwanegodd fod hyn bellach wedi’i oresgyn.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod yr adroddiad wedi dangos gweithio trawsgwricwlaidd effeithiol rhwng meysydd Addysg, y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Er y cafwyd problemau cynllunio a mynediad yn safle’r Ganolfan newydd, roedd yn falch o gadarnhau bod y rhain bellach wedi’u goresgyn, a diolchodd i Bennaeth Ysgol Gyfun Brynteg am gynorthwyo yn hyn o beth.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol er gwaetha’r uchod, roedd hi wedi gofyn am dawelwch meddwl fod yr holl broblemau diogelu yn yr ysgol wedi’u datrys, o gofio nad oedd gan yr ardal dan sylw lle’r oedd y Ganolfan yn cael ei symud lai na 7 pwynt mynediad/ffordd allan.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i’r Teulu mai’r prif bryder oedd sicrhau bod y safle’n cael ei wneud yn ddiogel a chyflawnwyd hyn trwy godi ffens o’i gwmpas mewn ambell i fan strategol, yn ogystal â darparu llwybr troed ger mynedfa Heol Ewenni. Yn ogystal, darparwyd lle parcio ar y safle i’r disgyblion 6ed dosbarth a byddai Strategaeth Ddiogelu’n cael ei rhoi ar waith yn yr ysgol, a fyddai’n cynnwys amserau cyfyngedig penodedig i gau gatiau’r ysgol ac ail-leoli ardal y Dderbynfa i ardal fwy canolog yn yr ysgol.

 

Clôdd yr Arweinydd y ddadl, gan ddiolch i Lywodraeth Cymru am y cyllid ychwanegol yr oedd wedi’i ymroi i’r cynllun.

 

PENDERFYNWYD:                  Bod y Cabinet:

 

(1)    Yn nodi cynnwys yr adroddiad.

Yn cymeradwyo datblygiad Canolfan y Dwyrain ar safle Ysgol Brynteg fel y dynodwyd yn yr adroddiad.                                        

Dogfennau ategol: