Agenda item

Adolygiad o’r Ddarpariaeth Ôl-16 ar draws Pen-y-bont ar Ogwr (Adroddiad Cam 4)

Cofnodion:

Atgoffodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i’r Teulu yr Aelodau, ym mis Ebrill 2019, rhoddodd y Cabinet gymeradwyaeth i waith gael ei wneud i baratoi cynigion dewisiadau penodol dan Gam 4 yr adolygiad o ddarpariaeth ôl-16 ar draws Pen-y-bont ar Ogwr. 

 

Darparodd yr adroddiad diweddaru hwn fanylder i’r Cabinet o’r cynigion dewis hynny, ac mae’n gofyn am gymeradwyaeth i fynd i ymgynghoriad cyhoeddus ar sail y cynigion yn Atodiad 1 a gwybodaeth gefnogol yn Atodiadau 2 i 4.

 

Cadarnhaodd trwy wybodaeth gefndir, yn 2016, sefydlwyd Bwrdd Adolygu Strategol.

 

Yn ei dro, sefydlodd y Bwrdd Adolygu Strategol Fwrdd Gweithredol Ôl-16 i adolygu’r ddarpariaeth ôl-16 ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Cyflwynodd y Bwrdd hwn ei adroddiad yn ôl i’r Bwrdd Adolygu Strategol ac yna i’r Cabinet ym mis Hydref 2017. Argymhellodd y Bwrdd Adolygu Strategol y chwe chysyniad i’w hystyried ar gyfer dyfodol addysg ôl-16 ac argymhellodd ddau ddewis ffafriol. Cymeradwyodd y Cabinet yr argymhellion hyn a gofynnodd am gael mwy o waith manwl wedi’i wneud. Cwblhawyd hwn ac adroddwyd yn ôl i’r Cabinet ym mis Ebrill 2018 lle rhoddodd y Cabinet gymeradwyaeth am ymgynghoriad cyhoeddus ar y chwe chysyniad a’r dewisiadau dethol ar gyfer darpariaeth ôl-16 ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Yn codi o’r uchod a thrwy ymgynghoriadau pellach a gynhaliwyd yn dilyn hynny, cymeradwyodd y Cabinet ddadansoddiad pellach fis Ebrill diwethaf o’r tri dewis o’r 6 chysyniad gwreiddiol ac amlinellwyd manylion y rhain ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

 

Gwybodaeth gefnogol mewn perthynas â phob un o’r rhain, cafodd Dewisiadau eu cynnwys yn y wybodaeth gefnogol sydd ynghlwm â’r adroddiad, ar ffurf cyfres o Atodiadau.

 

Clôdd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i’r Teulu ei adroddiad trwy roi gwybod bod cymeradwyaeth y Cabinet bellach yn cael ei cheisio i gymryd y cynigion dewis y manylwyd arnynt yn Atodiad 1 yr adroddiad, allan am ymgynghoriad cyhoeddus o 2 Rhagfyr 2019 i 21 Chwefror 2020, gyda’r bwriad o ddod â chanlyniadau’r ymgynghoriad yn ôl i’r Cabinet ym mis Ebrill 2020. Yn ogystal, bydd astudiaethau dichonoldeb yn cael eu paratoi, yn enwedig lle mae goblygiadau cyfalaf, ac yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet ynghyd â chanlyniadau’r ymgynghoriad, os bydd y Cabinet yn rhoi cymeradwyaeth i fynd allan i ymgynghoriad.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio i’r Swyddog Arbenigol – Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 am roi adroddiad mor llawn o wybodaeth at ei gilydd. Ychwanegodd mai Dewis 3 yn yr adroddiad fu’r dewis mwyaf ffafriol i fynd ar ei drywydd yn y gorffennol, ond byddai ymgynghoriad pellach yn dilyn a fyddai’n cael ei ddatgelu os dyma oedd yr achos o hyd, neu a fyddai dewis arall yn cael ei ffafrio.

 

Roedd yn llwyr ddeall barn nifer fawr, sef mai’r dewis poblogaidd fyddai cadw 6ed dosbarth ym mhob Ysgol Gyfun yn y Fwrdeistref Sirol, ond byddai angen cydweithredu ac adnoddau ariannol sylweddol i wneud hyn. Croesawodd y cyfraniad gan Drosolwg a Chraffu Pwnc 1 y Cyngor ar adolygu Ôl-16, lle bu Aelodau’r Pwyllgor hwn yn gefnogol fwy neu lai o’r cynigion wrth symud ymlaen.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol a wnaed unrhyw gyfrif hyd yma o’r costau’n ymwneud  â’r 3 Dewis sy’n cael eu rhoi gerbron, i gynnwys costau cludiant ysgol a’r costau cyfalaf potensial.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i’r Teulu y byddai’r rhain yn cael eu hystyried yn llawn fel rhan o gam nesaf y prosiect.

 

Datganodd yr Arweinydd ei fod yn falch o weld y byddai’r ymgynghoriad nesaf yn broses gynhwysfawr unwaith eto.

 

PENDERFYNWYD:             Bod y Cabinet yn rhoi cymeradwyaeth i fynd i ymgynghoriad ar y dewisiadau y manylwyd arnynt yn Atodiad 1 yr adroddiad, ar gyfer dyfodol Addysg Ôl-16 ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Dogfennau ategol: