Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Polisi Gorfodaeth Amgylcheddol

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a geisiodd gymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu Polisi Gorfodaeth diwygiedig at y diben o gyhoeddi Hysbysiadau Cosb Benodedig ar gyfer Troseddau Amgylcheddol.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol wybod ar 16 Ebrill 2019, cymeradwyodd y Cabinet ymarfer ymgynghori i geisio safbwyntiau’r cyhoedd, mewn perthynas â Pholisi Gorfodaeth diwygiedig. Roedd y ddogfen hon yn cynnwys y gweithdrefnau ar gyfer cyhoeddi Hysbysiadau Cosb Benodedig, lefel y dirwyon a gostyngiad am dalu’n gynnar.

 

Cadarnhaodd fod arolwg ymgynghori â’r cyhoedd seiliedig ar Bolisi Gorfodaeth diwygiedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi’i gynnal dros gyfnod o ddeuddeg wythnos rhwng 17 Mehefin 2019 ac 8 Medi 2019. Roedd yr arolwg ar gael i’w lenwi ar-lein, ar dudalennau ymgynghori gwefan y Cyngor a gallai’r trigolion hefyd ofyn am gopi papur neu fformat arall dros y ffôn neu drwy e-bost. Yn ogystal, gwahoddwyd sylwadau mewn perthynas â’r ymgynghoriad trwy lythyr, e-bost a dros y ffôn.

 

At ei gilydd, roedd angen ymateb gan ymatebwyr i ddeuddeg cwestiwn. Roedd pob cwestiwn yn yr arolwg yn ddewisol a chynigiwyd anhysbysedd i’r ymatebydd. Cafodd set safonol y Cyngor o gwestiynau monitro cydraddoldeb eu cynnwys gyda’r arolwg hefyd, oherwydd argymhellir ei bod hi’n arfer da ar gyfer pob arolwg sy’n wynebu’r cyhoedd ac a gynhelir gan yr Awdurdod.

 

Esboniodd fod cyfanswm o 18 arolwg wedi’u cwblhau, gan gynrychioli 0.01% o boblogaeth Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hyn yn destun gwall safonol uchaf o fwy/llai na 23.10% ar y lefel hyder o 95%. Felly, ceir hyder o 95% fod yr ymatebion hyn yn cynrychioli’r rhai a fyddai’n cael eu rhoi gan y cyfanswm poblogaeth oedolion. 

 

Cafodd manylion llawn yr ymgynghoriad cyhoeddus a’i ganfyddiadau eu cysylltu yn Atodiad A i’r adroddiad er mwyn i’r Cabinet eu hystyried, tra cafodd gopi o’r Polisi Gorfodaeth ei gysylltu yn Atodiad B.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol ei bod hi’n bwysig cydnabod y bydd cyhoeddi pob Hysbysiad Cosb Benodedig yn cael ei ystyried yn ôl ei haeddiant unigol a materion yn ymwneud â chymesuredd, gwrthrychedd, tegwch a rhesymoldeb. Roedd system ar waith i gynnig apêl neu i wrthwynebu’r hysbysiad ac i gadw hygrededd y broses. Ni ddylid dod â phwysau allanol gormodol, naill ai gan aelodau’r Cyngor neu gan Uwch Swyddogion, a allai gael eu camddehongli i ddylanwadu’n ormodol ar y penderfyniadau yn rhinwedd eu sefyllfa nhw yn unig. Roedd hon yn broses debyg a fabwysiadwyd gan Farsialiaid y Meysydd Parcio wrth gyhoeddi dirwyon am droseddau parcio.

 

Clôdd ei gyflwyniad, trwy ehangu ar rai pwyntiau amlwg iawn a amlinellwyd yn yr Adroddiad Ymgynghori oedd ynghlwm â’r adroddiad eglurhaol.

 

Teimlai’r Dirprwy Arweinydd fod dull teg iawn a fyddai’n cael ei gymryd mewn perthynas ag unigolion. Ailadroddodd fod y rhai sy’n torri’r polisi yn cael eu hatgoffa o ddarpariaethau hyn; yn cael rhybudd, ac yna’n cael eu dirwyo pe bydden nhw’n ailadrodd unrhyw drosedd o’r fath.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol at y Tabl Dirwyon ar dudalen 114 yr adroddiad, a gofynnodd sut roedd y Cyngor yn bwriadu cyfathrebu â’r cyhoedd am y gwahanol gategorïau o droseddau, ynghyd â lefel y dirwyon ar gyfer pob un o’r rhain.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol fod swm sylweddol o hysbysiadau i’r cyhoedd mewn perthynas â’r Polisi wedi’u cyfleu trwy nifer o wahanol ddulliau, ond byddai rhagor o waith hyrwyddo’n cael ei wneud i godi lefel ymwybyddiaeth pobl o ddarpariaethau hyn. Byddai hyn yn cynnwys lefel y ddyletswydd a roddwyd ar ddeiliaid cartrefi sy’n rhoi gwastraff yn y gwahanol gynwysyddion a ddarperir at y diben hwn. Byddai dyletswydd arnynt i ddefnyddio’r cynhwysydd cywir ar gyfer y math cywir o wastraff, neu gallen nhw gael dirwy.

 

Clôdd yr Arweinydd y ddadl ar yr adroddiad, gan ychwanegu y byddai’n fanteisiol hefyd pe gellid dangos arwyddion ar hyd ardaloedd o’r Fwrdeistref Sirol i atal y cyhoedd rhag cyflawni unrhyw drosedd Gorfodi ar hyd y llinellau a gwmpaswyd gan y Polisi.  

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cabinet yn cymeradwyo ac yn mabwysiadu’r Polisi Gorfodi diwygiedig i gyhoeddi Hysbysiadau Cosb Benodedig ar gyfer troseddau amgylcheddol.

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z