Agenda item

Y Diweddaraf am yr Arolwg Cydlyniant Cymunedol a rôl y Swyddog Cydlyniant Cymunedol o fewn CBSPO.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydgysylltydd Partneriaethau adroddiad a roddai'r newyddion diweddaraf i'r Pwyllgor Cabinet Cydraddoldeb am yr Arolwg Cydlyniant Cymunedol, a rôl y Swyddog Cydlyniant Cymunedol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPO).

 

Esboniodd fod Llywodraeth Cymru, ym mis Rhagfyr 2018, yn anfon ei e-bost 'bwriad i ariannu' at holl Gydgysylltwyr Cymunedol Rhanbarthol Cymru. Nodwyd y byddai £140,000 yn cael ei ddyrannu i bob rhanbarth gan anelu i:

 

           Nodi a lliniaru tensiynau cymunedol (troseddau casineb, eithafiaeth, pryder, ymddygiad gwrthgymdeithasol) sy'n ymwneud â Brexit;

           Gwella cyfathrebu cydlyniant cymunedol;

           Trefnu digwyddiadau / gweithgareddau i hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol; a

           Chyflwyno gweithgareddau nad ydynt yn ymwneud â Brexit fel yr amlinellwyd yn y Cynllun Cydlyniant Cymunedol Cenedlaethol (2019).

 

Dywedodd y Cydgysylltydd Partneriaethau fod Cynllun Cyflawni Cydlyniad Cymunedol Brexit wedi cael ei ddatblygu yn rhan o'r cais cyllido. Roedd manylion y cynllun wedi'u cynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Dywedodd mai un o brif amcanion y cynllun oedd datblygu ymarfer mapio er mwyn cael dealltwriaeth well o effeithiau Brexit ar gymunedau. Ymatebodd cyfanswm o 183 o bobl i'r arolwg, ac mae copi o'r adroddiad i'w gael yn atodiad 2. Rhestrir crynodeb o'r ymatebion yn adran 4.7 yr adroddiad. Ychwanegodd mai anwladolion yr UE oedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr, gyda chyfranogiad o 2% ymhlith gwladolion yr UE. Roedd hynny'n destun siom, oherwydd gobeithiwyd cael mwy o ymatebion gan Wladolion yr UE.  Ychwanegodd fod system monitro tensiwn wedi cael ei chynnal i ddarparu'r ffigurau ar gyfer troseddau casineb.

 

Esboniodd y Cydgysylltydd Partneriaethau fod system monitro tensiynau wedi cael ei chynnal a oedd yn darparu'r ffigurau troseddau casineb ar gyfer mis Ebrill i Fehefin a mis Mehefin i Awst 2019, ac yn eu cymharu â 2018. Rhestrwyd y manylion isod:

 

Dyma'r ffigurau troseddau casineb ar gyfer mis Ebrill i fis Mehefin 2019:-

           CBSPO = 23 o droseddau casineb

           Hiliol - 10

           Anabledd - 4

           Cyfeiriadedd rhywiol - 10

           Trawsryweddol - 0

 

O gymharu â'r un cyfnod y llynedd (Ebrill i Fehefin 2018)

           CBSPO = 18 o droseddau casineb

           Hiliol - 13

           Crefydd - 1

           Anabledd - 2

           Cyfeiriadedd rhywiol - 2

 

Ffigurau troseddau casineb Mehefin i Awst 2019-

           CYFANSWM = 34 o droseddau casineb

           Hiliol - 26

           Crefydd - 2

           Anabledd - 5

           Cyfeiriadedd rhywiol - 3

           Trawsryweddol - 0

 

O gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn gynt (Mehefin i Awst 2019)

           CYFANSWM = 34 o droseddau casineb

           Hiliol - 19

           Crefydd - 2

           Anabledd - 5

           Cyfeiriadedd rhywiol - 7

           Trawsryweddol - 1

 

Dywedodd y Cydgysylltydd Partneriaethau, er na chafwyd ymchwydd mewn ffigurau, y cafwyd cynnydd bach iddynt o gymharu â'r un adeg y flwyddyn gynt.

 

Credai'r Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio fod ei bod hi'n ddigon posibl bod y cynnydd mewn troseddau casineb yn deillio o Brexit a'r tensiynau'n gysylltiedig â hynny, ac y gallai llawer o'r achosion hynny fod wedi'u tanadrodd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol ei phryder ynghylch diffyg canlyniadau'r arolwg, gan nad oedd digon o ddata o ddigon o ardaloedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a bod mwyafrif y canlyniadau'n ymddangos fel pe baent o ardal Pen y Fai.

 

Esboniodd y Cydgysylltydd Partneriaethau fod y data lleol yn brin iawn i ddibenion dadansoddi, a chan na nodwyd unrhyw brif ardaloedd problemus, roedd hi'n anodd cyfeirio'n benodol at unrhyw ardaloedd neilltuol a oedd yn destun pryder. Nododd y bu cynnydd bach mewn Ysgolion, yn enwedig Ysgol Gyfun Maesteg ac Ysgol Gyfun Brynteg.

 

Dywedodd y Cydgysylltydd Partneriaethau fod Swyddog Cydlyniant Cymunedol bellach wedi'i benodi a oedd ar hyn o bryd yn gweithio ar Gynllun Setliad yr UE, ar y cyd â'r Ganolfan Waith.

 

Gofynnodd Aelod a fyddai'r Swyddog Cydlyniant Cymunedol yn cael ei weld yn y gymuned, wyneb yn wyneb. Cadarnhaodd y Cydgysylltydd Partneriaethau y byddai hynny'n digwydd.

 

Dywedodd y byddai'r Swyddog Cydlyniant Cymunedol hefyd yn gweithio gyda theuluoedd i gynyddu eu gwybodaeth am y cyfleusterau sydd ar gael i Wladolion yr UE. Roedd hi'n cwrdd â chynrychiolydd o Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth i'n helpu i adnabod ac ymdrin â throseddau casineb yn yr ardal.

 

Esboniodd yr Aelod Cabinet Cymunedau ei fod wedi bod i gynhadledd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn ddiweddar yn Warwick, lle cyflwynwyd ffigurau yn dangos sut yr ystyriwyd bod Brexit wedi effeithio ar droseddau casineb. Dywedodd fod De Cymru yn is na'r cyfartaledd o gymharu ag ardaloedd eraill, ac y bu cynnydd sydyn yn ystod y refferendwm, ond bod y ffigurau wedi gostwng ers hynny. Beth bynnag fydd yn digwydd yn achos Brexit, ond yn enwedig os bydd y DU yn aros yn yr UE, mae'r Heddlu wedi nodi y ceir cynnydd cyflym mewn troseddau casineb.

 

Esboniodd y Cydgysylltydd Partneriaethau y byddai'r Swyddog Cydlyniant Cymunedol yn gwneud gwaith yn y cymunedau, gan gynnwys mwy o ymglymiad ag ysgolion ac eglwysi ac ati i weld a allant gael mwy o wybodaeth. Esboniodd fod pobl yn aml yn amharod i ateb, o sôn am Brexit, a bod hynny'n rhywbeth i'w ystyried yn y dyfodol.

 

Diolchodd Aelod i'r Cydgysylltydd Partneriaethau am yr adroddiad a dywedodd fod llawer o'r Aelodau wedi gweld enghreifftiau o droseddau casineb yn gysylltiedig â Brexit. Dywedodd ei fod yn pryderu ynghylch y cynnydd mewn ysgolion, a gofynnodd beth oedd y ffurf fwyaf cyffredin ar droseddau casineb.

 

Esboniodd y Cydgysylltydd Partneriaethau fod natur y troseddau casineb yn amrywio, ac nad oeddent wedi'u cyfyngu i un math arbennig o drosedd. Ychwanegodd hefyd y gallai troseddau casineb godi rhwng disgyblion Saesneg a Chymraeg eu hiaith hefyd.

 

Soniodd aelod fod troseddau casineb wedi cynyddu ym Maesteg a Brynteg, ond roedd yn pryderu bod problemau i'w cael mewn ysgolion eraill nad oeddent, o bosib, wedi cael eu riportio. Gofynnodd sut y byddai modd edrych ar hyn.

 

Esboniodd y Cydgysylltydd Partneriaethau fod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid a fyddai'n cael ei ddefnyddio ar gyfer pum ysgol wahanol. Bydd cymysgedd o ysgolion yn cael eu targedu i sicrhau bod cwmpas y gwaith a gyflawnir yn ddigon eang.

 

Soniodd Aelod fod llawer o droseddau casineb yn cael eu riportio ar-lein a gofynnodd beth ellid ei wneud i sicrhau ein bod yn cael data o'r cyfryngau cymdeithasol ac ati. Esboniodd y Cydgysylltydd Partneriaethau fod gan yr heddlu feddalwedd y maen nhw'n ei defnyddio i nodi problemau ar-lein.

 

Dywedodd Aelod fod apiau'r cyfryngau cymdeithasol yn dangos cynnydd mewn troseddau casineb, gan gynnwys troseddau wedi'u targedu'n wleidyddol yn ardal Maesteg. Gofynnodd i'r Cydgysylltydd Partneriaethau a oedd ganddi unrhyw ffigurau ar gyfer y digwyddiadau a riportiwyd. Dywedodd y Cydgysylltydd Partneriaethau nad oedd ganddi'r ffigurau hynny wrth law, ond y gallai ymchwilio i hynny.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol gwestiwn ar ran Aelod, sef am ba mor hir y byddai'r cyllid yn cael ei ddarparu.

 

Esboniodd y Cydgysylltydd Partneriaethau fod y cyllid ar gyfer Swyddog rhan-amser. Mae'r Swyddog Cydlyniant Cymunedol bellach yn amser llawn hyd fis Ebrill 2021, ond bydd y cyllid yn darfod ar ôl y dyddiad hwn, ac nid oes darpariaeth ar hyn o bryd er mwyn i'r cyllid barhau. Mae'r tîm, fodd bynnag, yn ystyried sicrhau mwy o gyllid.

 

Soniodd y Dirprwy Arweinydd ei fod wedi gweld sylwadau annymunol am bobl ar-lein, a gofynnodd sut y byddai Cynghorwyr yn mynd ati i adrodd am yr ymddygiad hwn.

 

Dywedodd y Cydgysylltydd Partneriaethau y gallai ddarparu manylion cyswllt y Swyddog Cydlyniant Cymunedol yn ogystal â'n swyddog rhanbarthol.

 

Awgrymodd y Dirprwy Arweinydd y dylid darparu'r manylion hyn i'r cyhoedd er mwyn iddynt hwythau allu adrodd am ymddygiad negyddol y byddent yn dod ar ei draws.

 

Soniodd yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol y byddai mwy o waith i hyrwyddo tudalen y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar wefan CBSPO yn fuddiol i'r Aelodau ac i'r cyhoedd.

 

PENDERFYNWYD: Bod Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet yn nodi ac yn derbyn cynnwys yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: