Agenda item

Adroddiad diweddaru ar weithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau'r Gymraeg

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb adroddiad a oedd yn rhoi'r newyddion diweddaraf i Bwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet ynghylch gweithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau'r Gymraeg.

 

Esboniodd fod y polisi Cymraeg yn y Gwaith wedi cael ei ddiweddaru ac ar gael i'r staff drwy'r Fewnrwyd. Roedd hyn yn cynnwys gwybodaeth am y strategaeth 5 mlynedd a'r hyn yr oedd hynny'n ei olygu i gwsmeriaid a chyflogeion.

 

Ychwanegodd eu bod wedi cwrdd â Chomisiynydd y Gymraeg ar 30 Hydref ac wedi derbyn gwybodaeth yn gysylltiedig â'u perfformiad. Roedd yr adborth yn gadarnhaol ar y cyfan o ran gohebiaeth, cynnwys y cyfryngau cymdeithasol, polisïau a gwefan CBSPO. O ran galwadau ffôn, roedd opsiynau iaith awtomatig ar gael ym mhob un o'r tair galwad, ond nid oedd modd ateb unrhyw un o'r galwadau hyn yn llawn drwy ddefnyddio'r Gymraeg. Ychwanegodd eu bod yn dal i ddisgwyl am god ymarfer Comisiynydd y Gymraeg i roi cyfarwyddyd ychwanegol ar ddehongli Safonau'r Gymraeg. Gobeithir y bydd y rhain yn cael eu darparu yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Cydraddoldeb.

 

Rhoddodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fanylion yn gysylltiedig â'r g?yn a gafwyd ym mis Gorffennaf 2019 lle honnwyd bod llythyr Saesneg yn unig wedi'i dderbyn yn Ysgol Gynradd Bro Ogwr ynghylch gwersi beicio. Daeth Comisiynydd y Gymraeg â'r g?yn i ben gan nad oedd yn 'gwrs addysg' a'i bod yn fodlon mai gwall dynol oedd wrth wraidd yr achos.

 

Rhoddodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fanylion cwyn a gafwyd ym mis Mawrth 2019. Honnodd yr achwynydd nad oedd wedi derbyn ymateb llawn i ohebiaeth Gymraeg a anfonwyd i gyfeiriad e-bost Talktous. Dywedodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod cwynion eisoes wedi dod i law ynghylch hyn, felly penderfynodd Comisiynydd y Gymraeg beidio mynd ar drywydd y g?yn neilltuol hon gan fod y cwynion blaenorol yn destun ymchwiliad.

 

Rhoddodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fanylion cwyn a gafwyd ym mis Hydref 2019. Roedd yr achwynydd wedi derbyn ymateb awtomatig i e-bost a oedd yn cydnabod bod taliad y Dreth Gyngor wedi'i dderbyn. Yn ôl yr achwynydd roedd y Gymraeg yn yr e-bost yn wallus.

Dywedodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb eu bod wedi darparu tystiolaeth i Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch hyn, gan mai dyma oedd yr ail g?yn a gafwyd o natur debyg.

 

Rhoddodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb y newyddion diweddaraf i'r pwyllgor Cydraddoldeb am y cwynion blaenorol a gafwyd. Roedd y rhain, a'r cynnydd yn gysylltiedig â hwy, wedi'u nodi yn adran 4.1.6 yr adroddiad.

 

Gofynnodd Aelod i ba raddau yr ydym wedi datblygu yn nhermau cydymffurfiaeth gyffredinol wrth weithredu'n Gymraeg.

 

Esboniodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb mai'r unig feysydd lle nad oeddem wedi sicrhau cydymffurfiaeth lawn eto oedd peiriannau hunanwasanaeth, er enghraifft, nid oedd peiriannau talu meysydd parcio yn rhoi'r dewis i weld cyfarwyddiadau yn Gymraeg eto.

 

Mewn perthynas â'r g?yn am yr e-bost a anfonwyd allan, gofynnodd Aelod a oedd y broblem hon wedi'i datrys, neu beth oedd y sefyllfa bresennol yn gysylltiedig â hynny.

 

Esboniodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb na lwyddwyd i gael hyd i'r gwall dan sylw, felly gofynnwyd am eglurhad gan Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch lleoliad y gwall, ac rydym yn dal i ddisgwyl ymateb.

 

Gofynnodd Aelod a oedd yr achwynwyr wedi cysylltu'n uniongyrchol â'r Cyngor i ddechrau.

Dywedodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb nad oedd cwynion yn cael eu hanfon i'r Cyngor gan amlaf, ond yn hytrach yn cael eu hanfon yn syth at Gomisiynydd y Gymraeg.

 

Dywedodd Aelod ei bod hi'n syndod bod y Cyngor wedi llwyddo i gyflawni cymaint a gweithredu cynifer o safonau o fewn cyfnod mor fyr.

 

PENDERFYNWYD: Bod Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet yn nodi cynnwys yr adroddiad.

Dogfennau ategol: