Agenda item

Adroddiad diweddaru blynyddol ar y cynnydd a wnaed o ran cyflawni'r amcanion yn y Strategaeth Pum Mlynedd ar gyfer Safonau'r Gymraeg

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb adroddiad a roddai'r newyddion diweddaraf i Bwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet ynghylch y gwaith a gyflawnwyd i fodloni amcanion Strategaeth Pum Mlynedd Safonau'r Gymraeg (2016-2021) yn ystod y drydedd flwyddyn ers cyflwyno'r Strategaeth honno.

 

Esboniodd fod rhybudd cydymffurfio terfynol y Cyngor oddi wrth Gomisiynydd y Gymraeg yn cynnwys dwy safon (145 a 146) a oedd yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Cyngor gynhyrchu a chyhoeddi Strategaeth Pum Mlynedd erbyn 30 Medi 2016. Roedd y strategaeth wedi'i hatodi yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Esboniodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod y strategaeth wedi'i rhannu'n ddwy adran, y naill i gyflogeion a'r llall i'r cyhoedd. Roedd manylion y rhain a'r cynnydd a wnaed ers 2018 wedi'u rhestru isod.

 

Datblygiadau o ran cyflogeion

 

Nodi'r gallu mewn meysydd gwasanaeth i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg

 

  • Mae offeryn asesu'r Gymraeg a ddatblygwyd i gynorthwyo rheolwyr i ddeall sgiliau ieithyddol eu timau fel bo modd targedu hyfforddiant yn y dyfodol yn well, wedi cael ei roi ar waith yng ngwasanaethau cwsmeriaid Gofal Dydd Pen-y-bont ar Ogwr.
  • Mae camau wedi cael eu cymryd i fonitro'r galw am wasanaethau Cymraeg yn y ganolfan gyswllt ffôn a'r Ganolfan Gyswllt Cwsmeriaid.

 

Darparu datrysiadau dysgu a datblygu priodol ar amryw o lefelau er mwyn bodloni'r angen a nodir o fewn y gyllideb a ddyrennir.

 

  • Mae 18 o gyflogeion wedi cwblhau modiwl e-ddysgu Safonau'r Gymraeg a 32 wedi cwblhau'r cwrs ymwybyddiaeth o'r Gymraeg
  • Mae 10 o gyflogeion wedi cofrestru ar Gwrs Mynediad blwyddyn 1, 7 wedi cofrestru ar flwyddyn 2 ac 8 wedi cofrestru ar y flwyddyn lefel sylfaen.
  • Mae 21 o gyflogeion wedi mynychu hyfforddiant cwrdd a chyfarch Cymraeg

 

Gwneud trefniadau i recriwtio i swyddi lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol

 

  • Mae'r system recriwtio ar-lein ar gael yn ddwyieithog.
  • Mae gennym amrywiaeth o ddulliau recriwtio, gan gynnwys drwy Fenter Bro Ogwr a thrwy ymgysylltu ag ysgolion Cymraeg i hyrwyddo prentisiaethau.

 

Datblygiadau o ran y cyhoedd

 

Codi proffil y Gymraeg, diwylliant Cymru a gweithgareddau a digwyddiadau lleol Cymraeg a drefnir gan y Cyngor a'n partneriaid mewn modd strwythuredig

 

Ceir calendr treigl o weithgareddau a digwyddiadau Cymraeg a rhennir y manylion ar draws sianelau cyfathrebu mewnol ac allanol, fel y wasg, y cyfryngau cymdeithasol a Bridgenders. Dyma rai o'r digwyddiadau a'r gweithgareddau a gafodd eu hyrwyddo dros y cyfnod:

 

  • Diwrnod Shwmae Sumae
  • Darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg newydd yn Ysgol Calon y Cymoedd
  • Gwledd Nadolig Cymru
  • Cynllun chwarae Cymraeg Menter Bro Ogwr

 

 

Cynyddu'r graddau y mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cael ei hyrwyddo, a'r ymwybyddiaeth ohono.

 

 

  • Rydym wedi amlygu cynnydd o ran canlyniad un y Cynllun, lle gwelwyd cynnydd yn nifer y dysgwyr mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg.
  • Yng nghanlyniad dau'r Cynllun, gallwn weld cynnydd yn nifer y disgyblion sy'n dilyn y cwrs llawn Cymraeg ail iaith (TGAU), ers cael gwared â'r cwrs byr Cymraeg iaith.
  • Yng nghanlyniad pedwar y Cynllun gallwn weld bod disgyblion sy'n cwblhau Safon Uwch Cymraeg Iaith gyntaf wedi parhau'n weddol sefydlog.
  • Rydym wedi gwneud cynnydd o ran datblygu llyfryn i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg, a byddwn yn rhoi'r llyfryn hwnnw i rieni ar enedigaeth eu plentyn, ac wrth ymweld â'r cartref pan fo'r plentyn yn 18 mis oed. 

 

Lle bo modd, archwilio a gweithredu unrhyw weithgareddau newydd a fydd yn cefnogi defnydd ehangach o'r Gymraeg o fewn y fwrdeistref sirol

 

  • Ers yr adroddiad diwethaf rydym wedi gweithio mewn partneriaeth a chefnogi gweithgareddau ar draws y fwrdeistref sirol, gan gynnwys gwaith â Menter Bro Ogwr, yn cefnogi 80 o blant mewn cynlluniau chwarae.
  • Mewn partneriaeth â'r Urdd rydym wedi darparu cyfleoedd yn YGG Llangynwydd Maesteg a Bracla.
  • Rydym wedi datblygu rhwydwaith merched ym Mracla, ac wedi cynorthwyo 594 o bobl ifanc i fynychu clybiau wythnosol. Mae 389 o bobl ifanc wedi manteisio ar ddarpariaeth yn ystod y gwyliau a 103 o unigolion wedi manteisio ar weithgareddau i'r teulu, a thros 2500 wedi manteisio ar ddarpariaeth chwaraeon yr Urdd.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb lyfryn i'r Aelodau a oedd yn cynnwys gwybodaeth er mwyn helpu i hyrwyddo'r Gymraeg ac annog y cyhoedd i ddefnyddio'r iaith. Roedd yr Aelodau wrth eu bodd â'r llyfryn ac yn cymeradwyo gwaith y tîm fu'n ei greu.

 

Diolchodd yr Aelodau i'r Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb am y llyfryn. Dywedodd Aelod ei fod yn rhoi portread deniadol o'r Gymraeg ac yn creu argraff gadarnhaol. Ailbwysleisiodd Aelod arall hynny, ac roedd yn falch fod y llyfryn yn cael ei gynnig i rieni newydd ar enedigaeth eu plentyn fel bo modd dysgu'r iaith o oedran ifanc, a hefyd i fyfyrwyr Safon Uwch.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol i'r Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb am yr adroddiad, ac roedd yn hapus i dderbyn yr adroddiad yn flynyddol er mwyn sicrhau bod y pwyllgor yn gallu cadw golwg ar gynnydd yn rheolaidd, heb golli unrhyw ddatblygiadau allweddol.

 

PENDERFYNWYD:   Bod Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet yn nodi'r adroddiad.

Dogfennau ategol: